Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn amlinellu'r Canllawiau Gwella Ysgolion : fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd, i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg, gan fod GwE wedi dod i ben, mai’r Gwasanaeth Dysgu oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth cefnogi ysgolion. Mae'r pwyslais ar hunanwerthuso a gweithio â chydweithwyr ac mae gwaith eisoes wedi digwydd o fewn y Gwasanaeth Dysgu gan fod arferion da wedi'u sefydlu.
Rhoddodd yr Arweinydd Strategol (Uwchradd) gyflwyniad byr i'r cyfarfod ar y Canllawiau Gwella Strategol a fydd yn cael eu gweithredu ym mis Mawrth 2026. Nododd fod y ddogfen yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithrediad Tîm Môn ar Ynys Môn. Nodwyd bod nodau ac amcanion y ddogfen yn :-
Nododd fod y Canllawiau Gwella Ysgolion drafft wedi'u cyhoeddi yn 2022, ond ar ôl terfynu'r Consortia Gwella Ysgolion cyhoeddwyd drafft wedi'i ddiweddaru yn amlinellu'r cyfrifoldebau sy'n cael eu trosglwyddo i'r Awdurdod Lleol. Nod y ddogfen a Llywodraeth Cymru yw bod ysgolion yn gweithredu fel Cymunedau Dysgu, a'u bod yn hunan-wella, sy'n arwain at lai o ddibyniaeth ar gefnogaeth ganolog. Mae clystyrau ysgolion eisoes yn gweithio gyda'i gilydd ar Ynys Môn ac mae cynlluniau cydweithredol wedi'u rhoi ar waith gyda Phenaethiaid a staff yn craffu ar ei gilydd ac yn rhoi adborth. Canolbwyntiodd yr Awdurdod Lleol ar gymorth ar gyfer ymddygiad, lles emosiynol ac iechyd meddwl, ADY, presenoldeb, adnoddau dynol, cyllid, adeiladau, datblygu’r Gymraeg a chymorth comisiynu ar gyfer addysgu a dysgu, datblygu arweinyddiaeth a chynllunio'r cwricwlwm. Amlinellwyd y disgwyliadau ar gyfer gweithredu'r adroddiad erbyn mis Mawrth 2026 i'r Pwyllgor a nodwyd bod gwaith sylweddol eisoes wedi'i wneud gan yr Awdurdod Lleol i fynd i'r afael â'r disgwyliadau yn yr adroddiad. Y pwyslais yw bod ysgolion yn hunan-wella ac yn gwneud gwell defnydd o'r adnoddau sydd ar gael. Mae'r Fframwaith yn nodi bod ysgolion yn cael eu dal yn uniongyrchol atebol am ansawdd y ddarpariaeth a chynnydd dysgwyr gan y Cyrff Llywodraethu ac Estyn. Mae adroddiadau Estyn ac amlder arolygiadau yn newid gydag arolygiad craidd bob 6 blynedd ynghyd ag arolygiad interim bob 3 blynedd i archwilio'r cynnydd. Bydd perthnasoedd gwaith agos rhwng ysgolion a'r Awdurdod Lleol yn darparu cefnogaeth yn seiliedig ar Gynlluniau Datblygu Ysgolion ar gyfer blaenoriaethau gwella. Bydd trefn effeithiol o hunanwerthuso er mwyn mesur cynnydd a gwelliannau parhaus ac i sicrhau bod ysgolion yn nodi'r blaenoriaethau cywir; mae gan Lywodraethwyr Ysgolion ran hanfodol i sicrhau bod blaenoriaethau’n cael eu nodi. Pwysleisiwyd atebolrwydd a rôl yr Awdurdod Lleol ynghyd â'r negeseuon allweddol i'r Pwyllgor a gynhwyswyd yn y cyflwyniad.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol :-
· Cyfeiriwyd at y ffaith y bydd mwy o gyfrifoldebau yn cael eu rhoi ar Lywodraethwyr ysgolion oherwydd y Canllawiau Gwella Ysgolion newydd. Gofynnwyd a fydd hyfforddiant ychwanegol ar gael i Lywodraethwyr ac a ydyn nhw'n ymwybodol o'r cyfrifoldeb ychwanegol y bydd ganddynt. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd Strategol (Uwchradd) fod rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar gael i Lywodraethwyr Ysgolion. Nododd y gallai'r Gwasanaeth Dysgu fynychu cyfarfodydd y Llywodraethwr i dynnu sylw at y disgwyliadau o fewn y Canllawiau Gwella Ysgolion.
· Gofynnwyd a oedd llais y disgyblion, y rhieni a'r gymuned wedi'i ystyried o fewn y Canllawiau. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd Strategol (Uwchradd) fod hyrwyddo ysgolion sy'n canolbwyntio ar gymunedau yn rhan allweddol o'r ddogfen i sicrhau bod ysgolion yn meithrin partneriaethau cryf gyda theuluoedd a chymunedau ac yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynhwysiant. Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at yr angen i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a rhieni i greu perthynas. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod disgwyliad clir i'r Penaethiaid ymgysylltu â'r gymuned, rhieni a rhanddeiliaid.
· Gofynnwyd a fydd y ddarpariaeth newydd yn ddigonol i fynd i'r afael ag anghenion ysgolion ar ôl i ddarpariaeth GwE ddod i ben. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd Strategol (Uwchradd) fod rhai staff wedi trosglwyddo o GwE i'r Awdurdod Lleol. Nododd y bydd staff yr Awdurdod Lleol yn parhau i ymweld ag ysgolion ac os oes angen arbenigedd ychwanegol gellir darparu'r adnodd. Mae rhaglen datblygu proffesiynol yn cael ei chynnal ar hyn o bryd.
· Gofynnwyd a fydd y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael ei hystyried pan fydd y cydweithio rhwng Gwynedd ac Ynys Môn yn dod i ben. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd y gwasanaeth newydd o dan yr Awdurdod Lleol yn cael ei sefydlu ac yn weithredol erbyn mis Medi 2026, a bydd manylion ar gael maes o law. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y ddarpariaeth ADY yn her sylweddol i'r Awdurdod Lleol a bydd cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r ddarpariaeth. Cyfeiriwyd ymhellach at y ffaith bod Canolfan Addysg y Bont yn llawn; mae llawer o blant ag ADY ac anghenion dwys o fewn yr ysgolion prif ffrwd. Ystyrid bod angen mynd i'r afael â'r mater ar frys. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod prosesau ar waith i leoli plant ag ADY yng Nghanolfan Addysg y Bont, ar gyfer disgyblion cymwys, fodd bynnag, mae darpariaeth ADY yn her genedlaethol. Dywedodd Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg fod angen adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r pwysau ar Awdurdodau Lleol o ran darpariaeth ADY. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd angen i'r Awdurdod roi darpariaeth ar waith ar gyfer ADY cyn i'r cydweithio â Gwynedd ac Ynys Môn ddod i ben ym mis Awst 2026. Mae trafodaethau wedi’u cynnal gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn codi materion darpariaeth ADY a gofynion cyllido.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod Cynorthwywyr Addysgu yn gorfod darparu cymorth i blentyn sydd â gofynion ADY ynghyd â phlant sydd angen cymorth a rennir mewn ysgolion. Ystyrid bod angen cyflogi Cynorthwywyr Addysgu am fwy na blwyddyn gan fod angen sefydlogrwydd ar blant ag ADY. Codwyd cwestiynau ynglŷn â sut mae'r Awdurdod Lleol yn bwriadu rhoi sylw i’r diffyg adnoddau ariannol i fynd i'r afael â'r angen i gyflogi staff ar sail fwy parhaol. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cyllid yn achos pryder, a bod y mater wedi'i godi yn CLlLC a gyda Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru. Dywedodd fod y Pwyllgor eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y mater. Nododd y dylai pob disgybl gael yr un cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.
· Cyfeiriwyd at y ffaith fod nifer uchel o staff newydd wedi'u cyflogi yn y Gwasanaeth Dysgu yn ddiweddar a bod angen gwybod yn glir pwy sy'n gyfrifol am wahanol ddarpariaethau o fewn y gwasanaeth. Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'n glir pwy sy'n gyfrifol am ddarpariaeth benodol o fewn y Gwasanaeth Dysgu ac a allai diffyg eglurder effeithio ar gyfathrebu a darparu gwasanaeth. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch a fu newidiadau staff o fewn swyddi'r Swyddogion Lles yn y Gwasanaeth Dysgu gan fod angen cysondeb wrth ddelio â disgyblion. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod gwybodaeth yn cael ei rhoi i ysgolion ynglŷn â'r newidiadau o fewn y Gwasanaeth Dysgu. Nododd fod newidiadau wedi bod gyda swyddi Swyddogion Lles wrth i staff adael y gwasanaeth.
PENDERFYNWYD :-
Dogfennau ategol: