Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.
Cofnodion:
Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, y Cynghorydd Gwilym O Jones mai hwn yw chweched adroddiad cynnydd y Panel sy'n cynnwys cyfnod Chwefror – Hydref 2025. Nododd fod y Panel wedi cyfarfod ar dri achlysur ynghyd â gwaith maes gan yr Aelodau oedd yn mynychu ysgolion yn ystod y cyfnod hwn yn dilyn argymhellion yr Adolygiad Sgriwtini ym mis Gorffennaf 2024. Nododd fod y Panel wedi ystyried y materion canlynol:-
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion canlynol :-
· Gofynnwyd a fydd y Panel Sgriwtini Addysg yn ymgymryd â rhaglen dreigl o fynychu gwaith maes ym mhob Ysgol Gynradd ac Uwchradd ar yr Ynys. Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Panel Sgriwtini Addysg yn ymroi i waith maes yn yr ysgolion. Nodwyd mai adnoddau ariannol sydd ar gael i ysgolion yw un o'r prif faterion pan fydd y Panel yn mynychu'r ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod Aelodau'r Panel Sgriwtini Addysg eisoes yn ymweld ag ysgolion cyn argymhellion yr Adolygiad Sgriwtini. Roedd yn rhagweld y byddai'r Aelodau yn mynychu cymaint o ysgolion â phosibl maes o law. Fodd bynnag, ni fydd Aelodau yn ymweld â'r ysgolion y maent yn Llywodraethwyr arnynt fel rhan o'u gwaith. Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth mai rôl y Panel Sgriwtini Addysg yw ystyried y themâu sgriwtini ac nad oes angen mynd i bob ysgol. Bydd y Panel yn adolygu samplau o'r themâu hynny wrth ymweld ag ysgol benodol.
· Cyfeiriwyd at ystadegau presenoldeb yn benodol mewn Ysgolion Uwchradd. Codwyd cwestiynau ynghylch a fyddai'r ystadegau presenoldeb yn gwella pe bai disgyblion â rhesymau h.y. problem iechyd, yn cael eu tynnu o'r ystadegau hynny. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mai ffocws y Panel Sgriwtini Addysg yw adolygu'r gwasanaeth a ddarperir i ysgolion i wella presenoldeb. Mae'r Swyddogion Lles yn gwneud gwaith i fesur y rhesymau dros absenoldebau o'r fath o'r ysgolion. Nododd ei bod yn briodol i Lywodraethwyr ofyn cwestiynau o'r fath yng Nghyfarfodydd Llywodraethwyr Ysgolion. Mae'r Gwasanaeth Dysgu hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Plant a Theuluoedd i gefnogi plentyn nad yw'n gallu mynychu'r ysgol. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod rôl i ysgolion unigol amlygu a mynd i'r afael â phryderon ynghylch presenoldeb yn eu hysgolion.
· Cyfeiriwyd at y gwaith maes a wnaed gan y Panel Sgriwtini Addysg wrth fynychu ysgolion. Ystyrid y dylid rhoi cyfle i Aelodau fynychu'r ysgolion y maent yn Llywodraethwyr arnynt. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y dylai Aelodau, yn eu rôl fel Llywodraethwyr, fynychu eu hysgolion eu hunain a chymryd rhan mewn hunanwerthuso. Mae hyn yn arfer da.
· Cyfeiriwyd at y ffaith fod staff ysgolion yn ymgymryd â gwaith lles oherwydd tlodi yn yr ysgolion. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod mynd i'r afael â thlodi yn fater i bawb a bod angen i Lywodraethwyr Ysgolion ystyried blaenoriaethau eu hysgol i liniaru tlodi. Bydd y Gwasanaeth Dysgu yn cynnal trafodaeth gydag ysgolion i ganfod eu strategaethau i fynd i'r afael â thlodi yn y flwyddyn newydd.
· Tra bod y Panel Sgriwtini Addysg wedi craffu ar waith y Gwasanaeth Dysgu, gofynnwyd pa sicrwydd y gellir eu rhoi bod y gwasanaeth yn ystyried ac yn gweithredu ar argymhellion y Panel ar lefel ymarferol ac a fydd adroddiadau dilynol yn amlinellu'r camau a gymerwyd mewn ymateb i'r materion a godwyd. Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd materion a godwyd gan y Panel Sgriwtini Addysg yn cael eu trafod a'u hadrodd yn ôl i'r Panel a'r Aelod Portffolio.
· Cyfeiriwyd at y ffaith y byddai'n fanteisiol trefnu Sesiwn Briffio i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod diwethaf o ran gwaith y Panel Sgriwtini Addysg.
Dogfennau ategol: