Eitem Rhaglen

Rhenti a Thaliadau Gwasanaethau Tai 2026/27

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn nodi’r rhenti a thaliadau gwasanaethau tai arfaethedig ar gyfer 2026/27 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol a ddywedodd mai blwyddyn rhent 2026/27 fydd y flwyddyn gyntaf fel rhan o fframwaith Rhenti a Thâl Gwasanaeth newydd Llywodraeth Cymru a fydd yn weithredol rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2036. Ar 24 Hydref, 2025, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cytuno ar y polisi ar gyfer rhenti tai cymdeithasol ar gyfer 2026/27, a’i bod yn cynghori pob awdurdod lleol i ddefnyddio’r fformiwla Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 0.5%, (roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn 3.8% ym mis Medi 2025), a fydd yn golygu cynnydd o ddim mwy na 4.3% ar draws yr holl stoc.

 

Mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio’r cynnydd uchaf posib er mwyn -

 

·      Cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 erbyn 2033 a fydd yn golygu buddsoddiad sylweddol a fydd yn cael ei ariannu drwy’r CRT.

·      Sicrhau lwfans o £2.7m ar gyfer gwaith atgyweirio mawr sydd heb gynyddu i gwrdd â’r safonau newydd.

·      Cefnogi’r gwaith o ddarparu cartrefi cymdeithasol fforddiadwy a chyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i greu 20,000 o gartrefi newydd.

 

Er mwyn asesu'r fforddiadwyedd rhent cyfartalog presennol ar gyfer tenantiaid y Cyngor, defnyddiwyd methodoleg Rhentu Byw Sefydliad Joseph Rowntree (JRF) sy’n cadarnhau y bydd y rhent a'r tâl gwasanaeth cyfartalog ar gyfer pob math a maint o eiddo yn dal i fod yn fforddiadwy i denantiaid ar Ynys Môn ar ôl cymhwyso’r  cynnydd o 4.3%. Hefyd, ni fydd 77% o denantiaid y Cyngor yn wynebu caledi ychwanegol gan eu bod yn derbyn Budd-dal Tai llawn neu ran ohono neu’n derbyn Credyd Cynhwysol. Mae’r Tîm Cynhwysiant Ariannol hefyd ar gael i ddarparu cyngor a chymorth i unrhyw denantiaid sy’n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i’r cynnydd. 

 

Bydd taliadau am wasanaethau yn ystod 2026/27 yn seiliedig ar gostau gwirioneddol a gafwyd yn ystod 2024/25, a byddant yn cael eu rhannu’n gyfartal ymhlith tenantiaid a lesddeiliaid sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Mae mwyafrif y costau hyn yn gymwys am Fudd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol. Bydd yr incwm ychwanegol a gynhyrchir yn sgil cynyddu’r rhent ar gyfer garejis yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y garejis.

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith bod gallu’r Cyngor i fuddsoddi yn ei stoc dai i gwrdd â SATC yn ddibynnol ar gyllideb y CRT, a gefnogir gan yr incwm rhenti.  Nododd yr aelodau bod rhenti’n dal i fod yn fforddiadwy o dan fethodoleg y JRF, ond roeddent yn annog tenantiaid i droi at Dîm Cynhwysiant Ariannol y Gwasanaethau Tai, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Canolfan J. E. O’Toole, i gael cyngor ar fudd-daliadau os ydynt yn wynebu caled ariannol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

 

·      Cynnydd o 4.3% ar draws yr holl unedau rhent cyffredinol sy’n unol â pholisi rhent Llywodraeth Cymru wrth gasglu dros 51 wythnos.

·      Cynnydd o £1.10 yr wythnos ar gyfer rhenti pob garej.

·      Bod y taliadau gwasanaeth a nodir yn adran 6.3 yr adroddiad yn cael eu codi ar bob tenant sy’n derbyn y gwasanaethau perthnasol.

·      Gweinyddu’r Cynllun Cymorth Rhent sy’n gynllun lleol i gefnogi tenantiaid sy’n hunan dalu rhent ac mewn anhawster ariannol.

 

Dogfennau ategol: