Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Digidol Addysg 2026-2031

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Digidol Addysg i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, a ddywedodd bod y strategaeth yn gam pwysig ymlaen i sicrhau bod gan ysgolion yr ynys yr offer digidol angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.

 

Adroddodd yr Arweinydd Strategol Addysg (Sector Cynradd) bod y Cynllun Strategol Digidol Addysg yn cefnogi datblygu system addysg fodern a’i fod yn canolbwyntio ar bum maes allweddol - cynaliadwyedd, cysylltedd, cydweithio, dysgu proffesiynol, a diogelu data a gwydnwch digidol.  Mae’r Cynllun yn adlewyrchu gwerthoedd y Cyngor ac mae’n gyson â Chynllun y Cyngor a Chynllun Strategol Digidol y Cyngor.  Mae hefyd yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Cwricwlwm i Gymru.  Mae’r Cynllun yn pwysleisio sicrhau bod pob disgybl, waeth beth fo’i gefndir neu leoliad, yn cael mynediad at yr un adnoddau digidol.  Y nod yw lleihau’r bwlch digidol rhwng dysgwyr a chefnogi pob dysgwr i gael mynediad at adnoddau addysgol ar-lein, drwy roi’r un cyfle i bob dysgwr lwyddo yn yr ysgol.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bod y pwyllgor wedi adolygu’r Cynllun Strategol Digidol Addysg yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2025.  Roedd y pwyllgor wedi nodi pwysigrwydd y cynllun o ran datblygu system addysg fodern sy’n cwrdd ag anghenion dysgwyr nawr ac yn y dyfodol.  Mynegwyd pryder ynglŷn â’r risgiau posib yn gysylltiedig â diogelwch seiber a rheoli data yn ogystal â’r heriau’n gysylltiedig â’r gyllideb ar gyfer gweithredu’r cynllun.  Gofynnodd y pwyllgor am sicrwydd ynglŷn â’r materion hyn ac ar ddarparu cymorth a hyfforddiant digonol i staff ar ôl cyflwyno’r cynllun.  Ar ôl adolygu’r cynllun, fe wnaeth y pwyllgor argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn ei dderbyn.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Gwaith wedi ymrwymo i glustnodi cronfa flynyddol ar gyfer offer digidol mewn ysgolion, er mwyn sicrhau na fydd y Cyngor yn wynebu baich ariannol sylweddol pan fydd angen adnewyddu dyfeisiadau.

 

Amlygodd y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd yr elfennau yr hoffai eu gweld yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Strategol Digidol Addysg, megis y gymhareb dyfeisiadau a dysgwyr i adlewyrchu dyheadau’r Cyngor, a’r disgwyliadau o ran cyfran y staff sydd â chymwysterau Microsoft a Google. Cynigodd hefyd y dylid cael cynllun gweithredu manwl i gyd-fynd â’r strategaeth lefel uchel sy’n amlinellu sut y bydd yr amcanion yn cael eu cyflawni, ar gyfer y flwyddyn gyntaf o leiaf.  Hefyd, awgrymodd y dylid darparu gwybodaeth, yn ystod y chwe mis nesaf, ar y dyraniad ar gyfer pob ysgol - boed yn ariannol neu o ran dyfeisiadau - ynghyd â chytundeb lefel gwasanaeth sy’n nodi’r gwasanaeth y gall ysgolion ddisgwyl ei dderbyn.  Gan nodi bod yr ystâd caledwedd digidol addysg yn fwy na’r ystâd gorfforaethol, argymhellodd y Cynghorydd Ieuan Williams y dylid creu swydd ddynodedig i sicrhau bod y cynllun strategol yn cael ei gyflawni’n effeithiol a gofynnodd i’r Tîm Arweinyddiaeth ystyried creu rôl o’r fath. 

 

Eglurodd y swyddogion bod y Cynllun Strategol Digidol Addysg yn ddogfen lefel uchel ac y bydd cynlluniau gweithredol i gefnogi’r cynllun a fydd yn amlinellu’r camau cyflawni.  Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r gwasanaeth TG a bydd yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio a fydd yn creu adroddiad cynnydd blynyddol ac adroddiad adolygu.   Nododd y swyddogion bod angen ystyried y cynllun ymhellach ac ymgysylltu ag ysgolion er mwyn adolygu’r ddarpariaeth bresennol, asesu ei effeithlonrwydd, yn cynnwys y gymhareb dyfeisiadau a dysgwyr, a chadarnhau’r buddsoddiad sydd ei angen yn y dyfodol a’r blaenoriaethau.  Bydd unrhyw newidiadau o ran defnydd neu ddull yn cael eu cynnwys yn y rhagolygon ariannol. Fe wnaeth y swyddogion hefyd amlygu’r cymorth sydd ar gael i ysgolion ar hyn o bryd yn gysylltiedig â dysgu proffesiynol, cyngor arbenigol a’r rhwydwaith ehangach o hwyluswyr a thechnegwyr.  Pwysleisiwyd bod gan y gwasanaeth sylfaen gref o ran sgiliau a chyfarwyddyd clir ar gyfer datblygu. 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc bod cytundeb lefel gwasanaeth drafft wedi cael ei rannu â’r ysgolion a bod cyfeiriad ato yn y cynllun strategol.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bod y Cyngor wedi ymrwymo i’r cynllun strategol digidol addysg, er gwaetha’r pwysau ariannol parhaus, a dywedodd ei fod wedi profi hyn drwy fuddsoddi er mwyn dal i fyny â’r newidiadau cyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn cydnabod bod y sefyllfa ariannol yn heriol o hyd a bod rhaid trafod a deall y gofynion digidol yn llawn a datblygu cynlluniau ar gyfer y ddwy neu dair blynedd nesaf.  Eglurodd bod y dull cynllunio strategol yn fwriadol, a’i fod yn cyfuno strategaeth a chynllun cyflawni, i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol, arweiniad clir drwy swyddog arweiniol ac adroddiadau cynnydd blynyddol.  Mae’r gwasanaeth a’r aelod portffolio yn ystyried a thrafod yr heriau’n fanwl ac mae canlyniadau’r broses hon yn llywio penderfyniadau strategol ac ariannol.

 

Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith gydnabod y pwyntiau a godwyd. Nodwyd y bydd yr ystyriaethau ariannol a phryderon yn cael eu cyfarch wrth bennu’r gyllideb.  Roedd yr Aelodau hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cael systemau TG cadarn a chapasiti digonol mewn ysgolion wrth i ddulliau asesu digidol gael eu cyflwyno’n fwy eang.

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Digidol Addysg newydd (2025-2031).

 

Dogfennau ategol: