Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith fel y gellir cynnal proses ymgynghori ar y newidiadau posib i’r gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu fel rhan o’r strategaeth i gwrdd â’r targedau statudol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd a nododd bod gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i gyflawni cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2024/25. Gall methu â chyrraedd targedau ailgylchu arwain at ddirwy gan Lywodraeth Cymru. Yn seiliedig ar y gyfradd ailgylchu bresennol o tua 65%, amcangyfrifir y bydd y Cyngor yn wynebu dirwy flynyddol o £361k. Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Glasbrint Casgliadau 2025. Mae'r ddogfen yn amlinellu'r hyn maen nhw'n ei argymell ar gyfer casglu gwastraff ac mae’r Cyngor eisoes yn bodloni'r rhan fwyaf ohonynt. Derbyniwyd cefnogaeth ar sut i gynyddu cyfraddau ailgylchu gan WRAP Cymru. Eu prif argymhelliad oedd lleihau'r capasiti gwastraff gweddilliol wythnosol i 60l, yn unol â'r hyn a argymhellir yn y Glasbrint. Gellid cyflawni hyn drwy gasglu gwastraff gweddilliol yn llai aml a/neu leihau maint y bin. Byddai hyn yn cynyddu cyfradd ailgylchu'r Cyngor 5%, ond byddai cost sylweddol ynghlwm â newid y biniau.
Rhaid ymgynghori cyn cyflwyno unrhyw newid i’r gwasanaeth yn enwedig pan fo’r newid hwnnw’n golygu casglu gwastraff yn llai aml, a chan bod casgliadau gwastraff yn effeithio ar bob preswylydd, rhaid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Mae’r cwestiynau arfaethedig a gafodd eu datblygu gan y tîm cyfreithiol a chyfathrebu ar gael yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Os bydd newid yn cael ei gyflwyno yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd angen buddsoddiad ariannol sylweddol. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid dim ond os gall y Cyngor ddangos fod ganddo gynllun credadwy i gyflawni 70% neu fwy. Heb gynllun o’r fath gall y risg o ddirwy gynyddu a gall hefyd effeithio ar gostau busnes arferol.
Cynghorodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod y dystiolaeth genedlaethol yn awgrymu na ellir cyrraedd y targed ailgylchu o 70% drwy addysg a gorfodaeth yn unig a bod rhaid newid dull yn sylweddol. Byddai’r cynllun hirdymor, os caiff ei gymeradwyo, yn diogelu gweithrediadau busnes fel arfer gan fod angen buddsoddi’n sylweddol yn y ddwy ganolfan ailgylchu er mwyn moderneiddio offer a chynnal y gwasanaeth presennol. Nododd hefyd bod mân addasiadau wedi cael eu gwneud i’r holiadur fel ei fod yn haws i’w gwblhau’n ddigidol a bydd cwestiwn yn cael ei gynnwys ar yr effaith ar y Gymraeg yn ogystal yn unol â’r ddyletswydd statudol.
Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bod y pwyllgor wedi adolygu’r ymgynghoriad arfaethedig yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2025. Pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd ymgynghori â chymaint o drigolion â phosib a defnyddio amrywiaeth o ddulliau. Nododd yr aelodau’r prif heriau yn gysylltiedig â chyfraddau ymateb isel a diffyg dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o’r angen i newid y trefniadau ar gyfer casglu gwastraff ac ailgylchu i gwrdd â thargedau statudol. Fe wnaethant ofyn am sicrwydd y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd ailgylchu ac fe wnaethant awgrymu y dylid ymestyn y cyfnod ymgynghori. Ar ôl adolygu’r dogfennau, roedd y pwyllgor yn argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn bwrw ‘mlaen â’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r cwestiynau yn Atodiad 1 a’r amserlen arfaethedig, a bod yn ystyriol o bryderon y pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor Gwaith nad y Cyngor hwn yw’r unig gyngor sy’n cael trafferth cwrdd â’r targed ailgylchu statudol o 70% ac nad yw ymysg yr isaf o ran perfformiad. Roedd yr Aelodau’n cydnabod bod cyfraddau ailgylchu’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a’i bod yn gallu dirwyo awdurdodau lleol sydd methu â chwrdd â’r targed. Fe wnaethant bwysleisio bod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn hanfodol er mwyn datblygu cynllun credadwy i ddangos ymrwymiad y Cyngor i gwrdd â’r targed statudol, er mwyn osgoi dirwyon a derbyn cyllid i fuddsoddi yng nghyfleusterau ailgylchu’r Cyngor. Fe wnaeth yr aelodau hefyd amlygu’r angen i addysgu trigolion ynglŷn â phwrpas ailgylchu a’r broses a phwysleisio bod ailgylchu’n gyfrifoldeb i bawb. Fe wnaethant gydnabod bod rhaid i’r Cyngor arwain y gwaith o hyrwyddo a hwyluso ailgylchu a bod rhaid cydweithio i gwrdd â’r targed.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo cynnal proses ymgynghori ar sut y gall y gwasanaeth ailgylchu/casglu gwastraff newid yn y dyfodol i helpu gyrraedd targedau ailgylchu statudol o 70%.
· Cymeradwyo’r cwestiynau i’w gofyn fel rhan o’r broses ymgynghori fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
· Cymeradwyo’r amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus i gychwyn ar 7 Ionawr 2026 a phara am chwe wythnos.
Dogfennau ategol: