Eitem Rhaglen

Craffu Partneraethau Strategol- Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Ms Emma Wood – Prif Weithredwr a Ms Estelle Hitchon – Cyfarwyddwr Partneriaeth ac Ymgysylltu Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i'r cyfarfod. 

 

Cafwyd cyflwyniad byr gan gynrychiolydd o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a dynnodd sylw at Fframwaith Cam 2 Ambiwlans Cymru diweddar i fynd i'r afael ag anghenion clinigol y cleifion.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-

 

·                 Codwyd cwestiynau ynghylch a yw trosglwyddo cleifion mewn Ambiwlans o fewn 15 munud i'r adran achosion brys yn dal i fod yn darged.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood mai targed y DU ar gyfer trosglwyddo cleifion yw 15 munud.  Nododd fod gwaith wedi'i wneud gan y Gwasanaethau Ambiwlans gyda'r holl Fyrddau Iechyd i ddod â'r cyfnod trosglwyddo presennol i 45 munud.  Yn Adroddiad Argymhelliad y Grŵp Cynghori Gweinidogol pwysleisiwyd mai 45 munud yw’r targed fel cyfnod trosglwyddo.  Dywedodd Ms Estelle Hitchon y byddai trosglwyddo cleifion o 45 munud yn welliant sylweddol i'r cyfnod trosglwyddo presennol a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf. 

·                 Codwyd cwestiynau ynghylch pa gamau penodol sy'n cael eu cymryd i wella'r cyfnodau ymateb ar gyfer argyfyngau categori 1 a chategori 2 ar Ynys Môn ac a oes digon o griwiau Ambiwlans i wasanaethu ardal wledig o'r fath neu a yw'r gwasanaeth yn dibynnu ar griwiau o Fangor a Gwynedd.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood fod gweithdrefn galw a chapasiti yn cael ei chynnal i sicrhau bod adnoddau ambiwlans priodol yn yr ardal.  Nododd fod y gwasanaeth yn dibynnu ar wirfoddolwyr o fewn ardaloedd gwledig, gydag ymatebwyr cyntaf a cherbydau ymateb cyflym hefyd yn cael eu defnyddio.  Fodd bynnag, po hiraf y mae'r rhain yn sefyll yn llonydd y tu allan i ysbytai, y lleiaf o adnoddau sydd ar gael i ofalu am gleifion.  Nododd fod criwiau o ardaloedd eraill yn cael eu defnyddio pan fo angen,  Gyda’r model ymateb newydd, dywedodd Ms Estelle Hitchon fod mwy o gymorth lles a chymorth clinigol dros y ffôn i gleifion sy'n aros am ambiwlans er mwyn asesu a yw claf yn dirywio/gwella neu a yw'r teulu wedi penderfynu mynd â'r cleifion i'r ysbyty eu hunain.  Mae Ymatebwyr Cymunedol hefyd yn ymateb i gleifion categori is os oes angen er mwyn monitro cyflwr y claf ac i roi gwybod i'r Gwasanaeth Ambiwlans. 

 

  • Codwyd cwestiynau ynglŷn â nifer y galwadau y mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn eu derbyn mewn perthynas ag argyfyngau Iechyd Meddwl a pha hyfforddiant arbenigol sy'n cael ei ddarparu i'r staff.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood y bydd angen rhoi'r wybodaeth am nifer y galwadau a dderbynnir mewn perthynas ag argyfyngau Iechyd Meddwl i'r Pwyllgor maes o law.  Nododd fod hyfforddiant ar gyfer argyfyngau Iechyd Meddwl yn rhan o'r Cwrs i Barafeddygon a ddarperir gan y Brifysgol ac mae'r Gwasanaethau Ambiwlans yn ceisio gwella hyfforddiant ar gyfer criwiau ambiwlans.  Dywedodd ymhellach y gall nyrsys hyfforddedig o fewn Canolfan Alwadau Gwasanaethau Ambiwlans hysbysu a chyfeirio'r ymarferwyr sydd â sgiliau uwch ym maes Iechyd Meddwl at y cleifion.

 

  • Codwyd cwestiynau ynghylch pam y cyfeirir at gleifion strôc fel ymateb categori ambr; y gred oedd bod angen i'r cleifion hyn dderbyn triniaeth o fewn amserlen benodol.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood fod y categori coch a phorffor ar gyfer ymateb i gleifion sy'n profi ataliad ar y galon neu ataliad anadlol a bod cleifion strôc yn cael eu categoreiddio fel rhai sydd angen ymateb amserol a'u trosglwyddo i ganolfan arbenigol sy'n rhan o safonau perfformiad y Gwasanaeth Ambiwlans. Dywedodd Ms Estelle Hitchon fod y galwadau wedi'u categoreiddio, a bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi’i sefydlu i adolygu'r categorïau ambr.

 

  • Cyfeiriwyd at Etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026 a'r newid o ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd.  Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r hyn yr hoffai'r Gwasanaeth Ambiwlans ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth gwell i gleifion heblaw buddsoddiad ychwanegol.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood y byddai mesurau iechyd ataliol a gwella’r drefn o ryddhau cleifion a llwybrau gofal yn fanteisiol.

 

  • Cyfeiriwyd at y ffaith y cynhaliwyd cynllun peilot llwyddiannus ychydig flynyddoedd yn ôl yng ngogledd-ddwyrain Cymru gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn delio â chwympiadau nad oeddent yn rhai difrifol.  Er nad oedd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r gwasanaeth hwn, gofynnwyd a ellid ymchwilio eto i hyn er mwyn lleddfu'r pwysau ar y Gwasanaeth Ambiwlans.   Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi adnoddau ychwanegol i'r Gwasanaeth Ambiwlans ar gyfer 'desg cwympiadau' ar gyfer cymorth clinigol a arweiniodd at system o hysbysu aelodau o'r teulu i helpu'r claf i wella ar ôl cwymp.  Dywedodd Ms Estelle Hitchon y gellir codi'r mater gyda Phrif Swyddog Tân Gogledd Cymru ac o fewn y Grŵp Gwasanaethau Brys ar y Cyd. 

 

  • Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r effaith ar y Gwasanaeth Ambiwlans ar ôl i’r gwasanaeth Ambiwlans Awyr ym Maes Awyr Caernarfon ddod i ben.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood fod gwasanaethau cadarn ar waith waeth ble mae'r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr wedi'i leoli.

 

·                 Codwyd cwestiynau ynghylch a oes gan y Gwasanaeth Ambiwlans gynlluniau wrth gefn pe bai'r ddwy bont ar draws Afon Menai yn cael eu cau oherwydd tywydd gwael neu argyfyngau eraill.  Mewn ymateb, dywedodd Ms Emma Wood fod gan y Gwasanaeth Ambiwlans gynllun gwytnwch brys os bydd y pontydd, y twneli neu'r traffyrdd yn cael eu cau a’u bod yn gweithio ar y cyd â phartneriaid goleuadau glas i roi cynllun ar waith.   

 

PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad gan gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.