Eitem Rhaglen

Craffu Partneraethau Strategol- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyflwyno adroddiad gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Mr Paul Andrew – Cyfarwyddwr Gweithrediadau IC (Gorllewin) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r cyfarfod.

 

Rhoddodd Mr Paul Andrew gyflwyniad byr i'r Pwyllgor ar y bartneriaeth gref rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod sy’n rhannu’r yn ffocws, sef gwella iechyd, annibyniaeth a lles i drigolion Ynys Môn.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-

 

·         Cyfeiriwyd at y siom yn lleol bod uned pedwar gwely Hosbis Dewi Sant yn Ysbyty Penrhos Stanley wedi cau yn ddiweddar.  Codwyd cwestiynau ynghylch a fydd yr uned pedwar gwely yn cael ei throsglwyddo er mwyn darparu gwelyau ychwanegol yn yr ysbyty. Mewn ymateb, dywedodd Mr Andrew fod yr uned pedwar gwely yn darparu therapïau ac adnoddau eraill i gleifion sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.  Nododd fod adnodd un gwely ar gael yn yr Hosbis yn Llandudno. 

·         Cyfeiriwyd at wydnwch y ddwy bont ar draws Afon Menai.  Codwyd cwestiynau ynghylch a oes gan y Bwrdd Iechyd gynlluniau gweithredu ar waith i fynd i'r afael â senario lle byddai’r ddwy bont yn cael eu cau a bod angen trosglwyddo cleifion, mewn argyfwng, i Ysbyty Gwynedd.  Codwyd cwestiynau pellach gan ofyn a oes darpariaeth ar gael yn Ysbyty Cefni ac Ysbyty Penrhos Stanley ac a oes angen buddsoddi yn y ddau ysbyty hyn i ddelio â sefyllfa fel hon.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Dyfed Edwards fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i'r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru gan dynnu sylw at y pryderon y gallai'r ddwy bont gau oherwydd gwyntoedd cryfion neu unrhyw argyfwng arall.  Dywedodd fod nifer o staff y Bwrdd Iechyd yn byw ar yr Ynys ac yn gorfod croesi'r pontydd yn ôl a blaen i'r gwaith bob dydd.  Nododd fod y buddsoddiad mewn darpariaethau lleol yn bwysig er mwyn i gleifion dderbyn eu triniaeth a chael eu cefnogi.  Dywedodd Mr Andrew fod cynlluniau parhad busnes (Grŵp Rheoli Tactegol) ar waith pe bai'r senario yn digwydd a bod y ddwy bont ar draws Afon Menai yn cau. 

·         Yn ystod y cyflwyniad adroddwyd bod perthynas waith gadarn rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor hwn. Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r ddarpariaeth gan y Gweithwyr Cymdeithasol o'r Awdurdod Lleol wrth ofalu am gleifion yn Ysbyty Gwynedd.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Andrew fod newid wedi bod yn y model o weithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ers y ddwy flynedd ddiwethaf gyda Gweithwyr Cymdeithasol yn yr ysbyty.  Nododd ei bod yn amlwg nad oedd angen i bob claf gael ei weld gan Weithiwr Cymdeithasol a bod gwelyau’n cael eu blocio wrth i'r claf aros i gael ei weld gan Weithiwr Cymdeithasol.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod darpariaeth AmAdref ar gael gyda Gweithwyr Cymdeithasol yn gofalu am gleifion yn Ysbyty Gwynedd i drefnu’r llwybr gofal sydd ei angen ar unigolyn wrth ddychwelyd adref.  Mae'r Tîm Ailalluogi hefyd yn gofalu am gleifion yn Ysbyty Gwynedd i sicrhau bod cleifion yn derbyn y pecyn gofal cywir.  Dywedodd ei bod yn bwysig bod y cleifion yn ddiogel pan maent yn dychwelyd adref ac nad oes rhaid iddynt ddychwelyd i'r ysbyty.  Ychwanegodd fod Dangosfwrdd Gofal wedi'i greu i hwyluso gofynion anghenion gofal unigol ac i sicrhau nad yw pobl yn aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sydd raid.

·         Codwyd cwestiynau ynglŷn â gwaith y Timau Cymunedol mewn gwahanol ardaloedd o'r Ynys.  Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod Timau Cymunedol yn hwyluso'r llwybr gofal o fewn y cartref i gleifion, gyda'r prif ffocws ar osgoi gorfod derbyn pobl i'r ysbyty os nad yw pobl yn gallu cael eu cefnogi yn eu cartref.  Codwyd cwestiynau pellach ynglŷn â'r rhwymedigaethau o derfynu'r trefniadau gyda'r Groes Goch.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Andrew fod y Bwrdd Iechyd o'r farn ei bod yn amserol i'r bwrdd ystyried gwasanaeth arall. Mae'r trefniadau ariannu’n golygu y gellir darparu oriau estynedig, ac mae darpariaeth fewnol hefyd ar gael.  Nododd fod adborth cadarnhaol ar gyfer y ddarpariaeth newydd.

·         Cyfeiriwyd at ddiffyg darpariaeth ddeintyddol i blant, ac nad yw rhai deintyddion yn cofrestru plant.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Andrew fod proses dendro ar gyfer darpariaeth ddeintyddol yn cael ei chynnal ar hyn o bryd gan y Bwrdd Iechyd, a'r gobaith yw y bydd canlyniad cadarnhaol yn deillio o'r broses hon. 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod y data a gyhoeddwyd ar gyfer amseroedd aros am driniaethau gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ohirio oherwydd nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi darparu gwybodaeth o fewn yr amserlen benodedig.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Dyfed Edwards fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud camgymeriadau wrth gyflwyno data ar gyfer amseroedd aros a bod hyn bellach wedi'i gywiro. Bydd y data yma yn cael ei gyhoeddi ar wefan y llywodraeth maes o law.   

·         Codwyd cwestiynau ynglŷn â pha fesurau fydd yn cael eu cymryd ar gyfer therapi ac asesu plant ag anghenion dysgu ychwanegol ar Ynys Môn a pha ddarpariaeth sydd ar waith i leihau amseroedd aros.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Andrew nad oedd ganddo'r wybodaeth ac y byddai'n rhaid iddo ddod yn ôl gyda'r manylion angenrheidiol. 

·         Codwyd cwestiynau ynglŷn â gwytnwch y Byrddau Iechyd wrth recriwtio yn dilyn Etholiadau'r Senedd ym mis Mai.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Edwards fod ansicrwydd ynglŷn â'r posibilrwydd o newid llywodraeth yn dilyn etholiadau'r Senedd.  Cytunodd y dylid annog pobl ifanc i gael gyrfa o fewn y gwasanaeth iechyd, a’i bod yn bwysig bod cleifion yn gyfforddus gyda'r bobl leol sy'n gofalu amdanynt. Fodd bynnag, heb gefnogaeth gweithwyr o wahanol wledydd, dywedodd na fyddai cleifion wedi derbyn y gofal iechyd gan y GIG a dylid diolch iddynt am eu hymrwymiad a'u gofal i gleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

·         Codwyd cwestiynau ynglŷn â rhannu gwybodaeth gyda'r Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Andrew fod cysylltu gwybodaeth â'r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn hollbwysig i hwyluso llif cleifion o’r ysbyty.  Nododd fod pob un o'r chwech Awdurdod Lleol yn y gogledd-orllewin trwy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cytuno i rannu gwybodaeth i wella'r gwasanaethau yn lleol ar gyfer cleifion sydd angen cymorth o fewn y system gofal cymdeithasol. Mae'r Tîm Gwytnwch Cymunedol yn hollbwysig wrth ofalu am gleifion yn eu cartrefi a darparu cymorth i bobl fregus.

·         Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r strategaeth sydd yn ei lle i ddenu pobl ifanc i'r gwasanaeth iechyd a ph’un ai a oes targedau clir i ddatblygu'r gweithlu o blith pobl o Ynys Môn.  Atebodd Mr Edwards fod diwrnod agored wedi'i drefnu yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar a bod dros 100 o bobl yn bresennol ynddo o ardal y Gogledd-orllewin.  Nododd y bydd Memo Cyd-ddealltwriaeth yn cael ei lofnodi rhwng y Bwrdd Iechyd a Choleg Llandrillo Menai i gynnal hyfforddiant a chynllunio'r gweithlu ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer y 5 i 10 mlynedd nesaf. Dywedodd ymhellach ei bod yn galonogol y bydd yr Ysgol Feddygaeth a sefydlwyd ym Mhrifysgol Bangor yn darparu cenhedlaeth o weithwyr meddygol proffesiynol i'r rhanbarth.

·         Codwyd cwestiynau ynglŷn â sut mae'r Bwrdd Iechyd am fynd i'r afael â'r amseroedd aros yn yr adran achosion brys lle mae pobl yn gorfod aros i gael eu derbyn i Wardiau ac ambiwlansys yn gorfod aros i drosglwyddo cleifion i'r adran. Atebodd Mr Edwards ei fod yn cytuno bod cleifion yn aros yn rhy hir yn yr adran achosion brys a bod angen gwell cyfleusterau ar gyfer y ddarpariaeth iechyd i bobl. Nododd y dylai pobl hefyd gael gwybod am gefnogaeth leol yn eu cymunedau i’w harbed rhag mynd i’r adran achosion brys. 

·         Cyfeiriwyd at adroddiad LAIS a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024 – Getting Urgent and Health Care.  Amlinellodd y Cadeirydd bryderon cleifion mewn perthynas ag amser aros a chyfathrebu gwael â chleifion.  Nododd fod y diffyg urddas hefyd yn peri pryder gyda chleifion sy'n derbyn triniaeth feddygol mewn coridorau ysbytai.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Edwards nad yw'r staff meddygol chwaith yn dymuno gofalu am gleifion mewn coridorau, ond oherwydd nifer y cleifion sy'n dod i mewn i’r adran achosion brys mae'r sefyllfa hon wedi mynd yn waeth. Dywedodd Mr Andrew fod ambiwlansys sy'n aros i ryddhau cleifion i'r adran achosion brys yn annerbyniol, a’r hyn sy’n deillio o hynny yw bod nifer uchel o gleifion yn yr adran sy'n aros i gael eu gweld.

·         Cyfeiriwyd at gau'r Ysbytai Bach ar draws y rhanbarth, a’i bod yn ymddangos ers iddynt gau, fod ôl-groniad enfawr o gleifion sy'n aros am driniaeth.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Edwards fod capasiti yn y gymuned yn bwysig wrth drin cleifion ond gyda chymaint o gleifion yn aros i gael eu rhyddhau o'r ysbyty mae hyn yn creu problemau ac mae llif y cleifion i mewn ac allan o'r ysbyty yn creu'r problemau o fewn adrannau achosion brys ym mhob ysbyty.  Cyfeiriodd at Dîm Gofal Gwell Môn (Tîm MEC) ar Ynys Môn sy'n trin pobl gartref sy'n debyg i'r ddarpariaeth a arferai fod ar gael mewn Ysbytai Bach dros y blynyddoedd. 

·         Cyfeiriwyd at y cynnydd yn y defnydd o cetamin a'r cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â'r gwaith a wnaed gan y Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y defnydd o getaminau.  Mewn ymateb, dywedodd Mr Edwards fod y Tîm Iechyd Meddwl yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill a dywedodd y byddai'n rhoi gwybodaeth am y gwaith a wnaed yn ysgrifenedig i'r Awdurdod.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod cydweithio cadarn rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd i ddiwallu anghenion trigolion Ynys Môn.  Byddai cael Canolfan Iechyd Cymunedol yng Nghaergybi yn bwysig i wella gofal cleifion a gobeithio, ar ôl cael caniatâd cynllunio, gellir mynd ar drywydd grantiau. Dywedodd ymhellach fod angen gwella cytundeb ynghylch Pecynnau Gofal a phroses gyflymach o ran pwy sy'n cyfrannu'n ariannol tuag at y pecynnau hyn. Dywedodd fod diffyg cyllid i'r Awdurdod hwn ddarparu'r gwasanaeth i gleifion ac mae angen bod yn fwy effeithlon. 

 

PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd.

Dogfennau ategol: