Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynnig

·     I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran y Grŵp Annibynnol o Gynghorwyr er

mwyn gwneud cais bod Cyngor Sir Ynys Môn yn mabwysiadu cynnig tebyg i’r hyn

    sydd wedi’i dderbyn ac sydd bellach yn ei le yng Nghyngor Dinas Manceinion: - 

 

“Nododd adroddiad diweddar gan Marie Curie “marw mewn tlodi (dying in poverty)” fod 28% o bobl mewn gwaith a 16% o bobl o oed pensiwn mewn tlodi yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd; mae’r cyfraddau hyn yn sylweddol uwch nac ar gyfer pobl nad ydynt ym mlwyddyn olaf eu bywydau.

 

Gweithiodd yr elusen diwedd bywyd, Marie Curie, gyda Chyngor Dinas Manceinion ar Gynlluniau Treth Cyngor ‘arloesol’ gan ddweud mai’r Cyngor oedd y cyntaf yn Lloegr i gynnig eithriad llawn ar gyfer pobl â salwch terfynol.

 

Nododd cynigion Manceinion gynlluniau i’r Cyngor i newid ei Bolisi Disgresiwn Treth Cyngor er mwyn cynnwys ymrwymiad penodol i gefnogi pobl sydd wedi derbyn diagnosis o salwch terfynol. 

 

Bwriad y cynllun ym Manceinion yw lleihau’r baich ar ofalwyr teuluol ac mae’n mynd yn bell er mwyn gallu helpu / cynorthwyo â chostau annisgwyl lle cafwyd diagnosis lliniarol; yn cynnwys sicrhau pŵer ar gyfer offer meddygol yn y cartref a chaniatáu / galluogi gwres ymlaen ar lefel uwch ac am gyfod hirach; er mwyn helpu i reoli symptomau.

 

Mae Marie Curie yn gofyn i fwy o Gynghorau fabwysiadu agwedd debyg i Fanceinion, a hynny ‘ar frys’ er mwyn helpu pobl yn eu misoedd, wythnosau a dyddiau olaf o’u bywydau heb iddynt orfod poeni am filiau Treth Cyngor.

 

Mae nifer o Gynghorau eraill bellach wedi mabwysiadu cynigion tebyg er mwyn cefnogi pobl â salwch terfynol yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau.” 

 

·     I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Jackie Lewis: -

 

Fel aelod etholedig o Ward Talybolion, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch lleoli Adweithyddion Modwlar Bychan yn Wylfa.

 

Mae gan Ynys Môn draddodiad balch o gynhyrchu pŵer yng Ngorsaf Niwclear Wylfa, a bu’n darparu cyflogaeth o ansawdd i drigolion yr Ynys am ddegawdau.

 

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o’r effeithiau posibl ar y cymunedau a’r trigolion sy’n byw yn agos i safle Wylfa felly gofynnaf i'r Cyngor Sir ofalu bod y prosiect yn sicrhau y manteision lleol mwyaf posibl, tra hefyd yn lleihau ac yn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol.

 

Rhaid gwrando ar leisiau, anghenion a phryderon trigolion Ynys Môn wrth i brosiect newydd Wylfa symud ymlaen.

 

Felly gofynnaf i ni fel Cyngor Sir Ynys Môn weithio'n ddiwyd i sicrhau bod y buddion economaidd a’r cyfleon gwaith yn dod yn bennaf i drigolion Ynys Môn trwy:

   Sicrhau swyddi a chyfleoedd cadwyn gyflenwi i bobl a busnesau lleol

 

  Gweithio gyda’r Adran Dysgu a’n partneriaid yng Ngholeg Llandrillo Menai a

   Phrifysgol Bangor i sicrhau’r sgiliau angenrheidiol i’n pobl ifanc

 

  Creu sefyllfa sy’n caniatau i bobl ifanc a'u teuluoedd sydd eisoes wedi gadael yr

   ynys allu dychwelyd

 

  Sicrhau fod ein hiaith a'n diwylliant yn linyn arian trwy gydol y broses

 

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd - Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans

 

“Nododd adroddiad diweddar gan Marie Curie “marw mewn tlodi (dying in poverty)” fod 28% o bobl mewn gwaith a 16% o bobl oed pensiwn mewn tlodi yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd; mae’r cyfraddau hyn yn sylweddol uwch nac ar gyfer pobl nad ydynt ym mlwyddyn olaf eu bywyd.

 

Gweithiodd yr elusen diwedd bywyd, Marie Curie, gyda Chyngor Dinas Manceinion ar Gynlluniau Treth Cyngor ‘arloesol’ gan ddweud mai’r Cyngor oedd y cyntaf yn Lloegr i gynnig eithriad llawn ar gyfer pobl â salwch terfynol.

 

Roedd cynigion Cyngor Manceinion yn cynnwys cynlluniau i newid ei Bolisi Disgresiwn Treth Cyngor er mwyn cynnwys ymrwymiad penodol i gefnogi pobl sydd wedi derbyn diagnosis o salwch terfynol.

 

Bwriad y cynllun ym Manceinion yw lleihau’r baich ar ofalwyr teuluol ac mae’n mynd yn bell er mwyn gallu helpu / cynorthwyo â chostau annisgwyl lle cafwyd diagnosis lliniarol; yn cynnwys sicrhau pŵer ar gyfer offer meddygol yn y cartref a chaniatáu / galluogi i’r gwres fod ymlaen ar lefel uwch ac am gyfod hirach; er mwyn helpu i reoli symptomau.

 

Mae Marie Curie yn gofyn i fwy o Gynghorau fabwysiadu agwedd debyg i Fanceinion, a hynny ‘ar frys’ er mwyn helpu pobl yn eu misoedd, wythnosau a dyddiau olaf fel na does raid iddynt boeni am filiau Treth Cyngor.

 

Mae nifer o Gynghorau eraill bellach wedi mabwysiadu cynigion tebyg er mwyn cefnogi pobl â salwch terfynol yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd.

 

Rwyf yn cyflwyno’r ‘Rhybudd o Gynnig’ hwn ar ran y Grŵp o Gynghorwyr Annibynnol, ac yn gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn fabwysiadu cynigion tebyg i’r rhai sydd wedi eu derbyn ac sydd bellach ar waith yng Nghyngor Dinas Manceinion.”

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Paul Ellis.  

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn cefnogi menter Marie Curie i gefnogi pobl sydd â salwch terfynol ac sydd ym mlwyddyn olaf eu bywyd, a bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses ar gyfer gosod y gyllideb.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod yn cefnogi’r Cynnig ac fe wnaeth atgoffa pobl bod y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar gael i gefnogi pobl sydd mewn tlodi ac sydd yn dioddef o salwch a dywedodd bod cymorth hefyd ar gael drwy’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones bod angen ystyried goblygiadau’r cymorth dewisol sydd wedi’i nodi yn y Cynnig a gofynnodd p’un a yw’r eithriad ar gyfer y Dreth Gyngor yn dod i ben ar farwolaeth yr unigolyn ac am yr effaith y gallai’r cymorth dewisol yn ei gael ar bobl sydd eisoes yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.  Aeth ymlaen i ofyn p’un a yw’r disgownt yn cael ei roi i’r unigolyn neu’r eiddo, ac os oes pobl eraill yn byw yn yr eiddo p’un a ydynt yn gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod digon o amser i ystyried  goblygiadau’r cynnig ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.   Mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, eisoes ar gael ac ni fydd yn faich ar drethdalwyr Ynys Môn.   Nododd mai’r cynnig sydd gerbron y Cyngor yw cynnig i ddangos urddas tuag at bobl â salwch terfynol ac sydd ym mlwyddyn olaf eu bywyd.

 

Dywedodd yr Arweinydd bod y cynllun ar gael i gefnogi pobl, ond bod y Cynnig dan sylw yn ymwneud â chais Marie Curie i drin pobl ag urddas yn ystod eu misoedd olaf.  Nododd y bydd unrhyw gynigion yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses ar gyfer gosod y gyllideb. 

 

CYTUNWYD mewn egwyddor i gefnogi ymgyrch Marie Curie am eithriad llawn rhag talu’r Dreth Gyngor ar gyfer pobl â salwch terfynol yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd. 

 

Ni wnaeth y Cynghorydd Robert Ll Jones bleidleisio o blaid y Cynnig.

 

·         Cyflwynwyd - Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Jackie Lewis:-

 

‘Fel aelod etholedig o Ward Talybolion, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch lleoli Adweithyddion Modiwlar Bach yn Wylfa.

Mae gan Ynys Môn draddodiad balch o gynhyrchu pŵer yng Ngorsaf Niwclear Wylfa, a bu’n darparu cyflogaeth o ansawdd i drigolion yr Ynys am ddegawdau.

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o’r effeithiau posibl ar y cymunedau a’r trigolion sy’n byw ger safle Wylfa felly gofynnaf i'r Cyngor Sir ofalu bod y prosiect yn sicrhau'r manteision lleol mwyaf posibl, tra hefyd yn lleihau ac yn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol.

Rhaid gwrando ar leisiau, anghenion a phryderon trigolion Ynys Môn wrth i brosiect newydd Wylfa symud ymlaen.

Felly gofynnaf i ni, Cyngor Sir Ynys Môn, weithio'n ddiwyd i sicrhau bod y buddion economaidd a’r cyfleon gwaith yn dod yn bennaf i drigolion Ynys Môn trwy:

·  Sicrhau swyddi a chyfleoedd cadwyn gyflenwi i bobl a busnesau lleol;

·  Gweithio gyda’r Adran Dysgu a’n partneriaid yng Ngholeg Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor i sicrhau’r sgiliau angenrheidiol i’n pobl ifanc;

 

·  Creu sefyllfa sy’n caniatáu i bobl ifanc a'u teuluoedd sydd eisoes wedi gadael yr ynys allu dychwelyd;

  • Sicrhau fod ein hiaith a'n diwylliant yn llinyn arian trwy gydol y broses.’

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ychwanegiad i’r cynnig sef cydnabod a gwerthfawrogi gwaith a menter Ms Gwen Parry Jones, cyn Brif Weithredwr Great British Nuclear, a’i hymdrechion i sicrhau bod Adweithyddion Modiwlar Bach yn cael eu lleoli ar Safle Wylfa, a’i gwahodd i gyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol.    Dywedodd bod Ms Gwen Parry Jones wedi gweithio yn y sector niwclear ers nifer o flynyddoedd a bod gan y Cyngor ddyletswydd i gydnabod yr unigolyn o Fôn sydd wedi sicrhau dyfodol i’r diwydiant niwclear ar safle Wylfa.

 

Eiliwyd yr ychwanegiad i’r cynnig gan y Cynghorydd Derek Owen. 

 

Cafodd yr ychwanegiad i’r Cynnig ei dderbyn.  

 

Roedd Arweinydd y Cyngor hefyd yn dymuno cydnabod gwaith Ms Gwen Parry Jones, cyn Brif Weithredwr Great British Nuclear.  Nododd bod gwrando ar sylwadau trigolion yr Ynys wedi bod yn bwysig pan roedd Horizon yn ystyried datblygiad newydd ar safle Wylfa a bod angen gwrando ar y gwersi a ddysgwyd gan yr Adran Economaidd yn ystod y prosiect Ynys Ynni ac ystyried y manteision a allai ddod yn sgil datblygiad o’r fath.   Bydd yr Awdurdod yn gweithio’n agos â Great British Nuclear i adlewyrchu dyheadau’r gymuned leol a’r Ynys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones ei bod hi’n bwysig bod Great British Nuclear yn darparu dyddiadau penodol i’r Cyngor, yn enwedig pan fydd y cwmni’n cyflwyno Gorchymyn Caniatâd Datblygu.   Nododd, er bod angen dysgu gwersi o brosiect Horizon, bod yn rhaid sylweddoli bod prosiect Great British Nuclear yn hollol wahanol gan mai adweithyddion canolig eu maint fydd y rhain.   Bydd 3,000 o gyfleoedd cyflogaeth yn ystod y cyfnod adeiladu a 1,000 o swyddi wedi hynny.   Bydd y Penderfyniad Buddsoddi terfynol yn bwysig yn ogystal pan fydd y cyfnod adeiladu wedi dechrau.    Aeth ymlaen i ddweud bod rhaid cael cydsyniad y gymuned a sicrhau cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc Ynys Môn a chenedlaethau’r dyfodol. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes at y dirprwyaethau o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a oedd yng Ngholeg Menai pan wnaed y cyhoeddiad y byddai’r Adweithyddion yn cael eu hadeiladu ar safle Wylfa a nododd ei bod hi’n siomedig nad oedd neb o’r Awdurdod wedi cael gwahoddiad.   Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gobeithio y bydd y datblygiad ar Safle Wylfa yn cael ei wireddu gan fod angen dybryd am swyddi ar yr Ynys.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Sonia Williams ei bod hi’n gobeithio y bydd rhai o’r myfyrwyr a wnaeth gwrdd â’r dirprwyaethau o’r ddwy lywodraeth yn ystod yr ymweliad yn gallu cymryd mantais o’r cyfleoedd cyflogaeth a ddaw yn sgil y datblygiad yn Wylfa.   Dywedodd y dylai’r Adran Addysg sicrhau bod y plant yn gallu cymryd mantais o’r cyfleoedd cyflogaeth a fydd ar gael iddynt yn sgil y datblygiad ac y dylid sicrhau bod y Gymraeg yn brif flaenoriaeth i unrhyw ddatblygiad ar y safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones ei fod yn gobeithio y bydd cyfleoedd ar gael i bobl ifanc lleol a chyfle i’r rhai sydd wedi gorfod gadael yr ynys ddychwelyd i’w cymunedau lleol.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Owen bod angen hysbysu a chefnogi’r Cynghorau Cymuned, yn enwedig y rheiny yng ngogledd yr Ynys, yn ystod y datblygiad yn Wylfa.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones bod rhaid cofio bod rhai pobl yn amheus iawn o unrhyw ddatblygiadau niwclear ar yr Ynys ac y dylid ystyried eu barn hwy yn ogystal ynghyd â gwytnwch y pontydd pe byddai’n rhaid gadel yr Ynys yn dilyn digwyddiad ar safle Wylfa.  Roedd o’r farn y dylid gwahodd pobl i’r Cyngor i fynegi eu pryder ynglŷn â’r datblygiad ar safle Wylfa.     Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, er mai penderfyniad i’r Cadeirydd fyddai hynny, nid oedd yn meddwl bod y cynnig hwn yn berthnasol i’r Rhybudd o Gynnig, fel y’i diwygiwyd.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor bod angen mynd i’r afael â nifer o faterion pwysig iawn megis beth fydd yn digwydd i’r gwastraff fydd yn cael ei gynhyrchu ar y safle, a fydd yna unrhyw fanteision cymunedol ac i’r Ynys yn sgil y datblygiad newydd ac a fydd trigolion yn gweld gostyngiad yn eu biliau trydan.     Nododd, yn dilyn cau safle Wylfa, bod tref Amlwch ar ei cholled yn ariannol.  

 

Roedd y Cynghorydd Pip O’Neil yn cytuno mai diogelwch yw’r peth pwysicaf yn gysylltiedig â’r datblygiad niwclear ar y safle a bod rhaid bod yn bwyllog a pheidio â phwyso am amserlenni yn gysylltiedig â’r prosiect yn Wylfa.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn parchu bod gan bobl bryderon am y datblygiad yn Wylfa a bod rhaid gwrando a thrafod pryderon o’r fath.   Roedd hefyd yn credu’n gryf bod llawer o gefnogaeth i’r datblygiad ar safle Wylfa a bod pobl yr Ynys wedi cael eu cyflogi mewn swyddi da am flynyddoedd lawer ar yr hen safle; dylid croesawu’r manteision economaidd a’r cyfleoedd cyflogaeth yn sgil y datblygiad newydd er mwyn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc yn cael y cyfle i weithio ar yr Ynys neu ddychwelyd i’r Ynys i weithio yn y dyfodol.   

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynnig gyda’r ychwanegiad a ganlyn sef cydnabod y gwaith a wnaed gan Ms Gwen Parry Jones, cyn Brif Weithredwr Great British Nuclear, a’i hymdrechion i sicrhau bod Adweithyddion Modiwlar Bach yn cael eu lleoli ar Safle Wylfa a gwahodd Ms Gwen Parry Jones i gyfarfod o’r Cyngor Sir yn y dyfodol.