Eitem Rhaglen

Ymgynghoriad Casglu Gwastraff ac Ailgylchu

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd fod gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i gyflawni cyfradd ailgylchu o 70%, ac nad yw’n gwneud hynny ar hyn o bryd.  Er mwyn gwella’r cyfraddau ailgylchu a bodloni’r rhwymedigaeth statudol, mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried gwneud newidiadau i drefniadau casglu gwastraff ac ailgylchu.  Mae gofyniad i ymgynghori gyda’r rheiny sy’n debygol o gael eu heffeithio wrth ystyried unrhyw gynnig i wneud newid sylweddol i wasanaeth, yn enwedig os mai cynnig i leihau gwasanaeth ydyw.  Gan y bydd unrhyw newid i’r gwasanaeth casglu yn effeithio ar gartrefi Ynys Môn, bydd angen dilyn proses ymgynghori lawn.  Cyfeiriodd at Atodiad 1 oedd wedi ei atodi i’r adroddiad, a dywedodd fod y Cyngor wedi gosod ymrwymiad clir i warchod yr amgylchedd a lleihau ôl-troed carbon yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028, ac mae ailgylchu yn hollbwysig mewn perthynas â’r gwaith hwnnw.  Drwy leihau swm y gwastraff mae’n rhaid cael gwared ag o, gellir lleihau allyriadau, gwarchod adnoddau gwerthfawr a helpu i greu amgylchedd glanach, mwy gwyrdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Ar hyn o bryd, mae cyfradd ailgylchu’r Awdurdod yn 65% sy’n is na’r targed o 70%, ac yn seiliedig ar y cyfraddau ailgylchu hyn, gall y Cyngor wynebu dirwy o oddeutu £350k bob blwyddyn.  Dywedodd fod WRAP Cymru yn rhestru’r camau posibl y gellid eu cymryd i wella cyfraddau ailgylchu (roedd dolen ar gyfer y ddogfen ar gael yn Atodiad 1).  Mae WRAP Cymru hefyd yn nodi bod modd ailgylchu 52% o’r gwastraff sy’n cael ei roi mewn biniau du ar Ynys Môn ar hyn o bryd, ac maent wedi ymweld â Safle Gwastraff Penhesgyn i wahanu’r gwastraff yn y biniau du.  Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd mai bwriad yr adroddiad yw cadarnhau a yw’r Pwyllgor Sgriwtini o’r farn fod y cwestiynau yn y ddogfen ymgynghori yn briodol a digonol.  Yn dibynnu ar ganlyniad y broses ymgynghori, mae’n bosibl y bydd binau du yn cael eu casglu bob 4 wythnos yn y dyfodol.  Dywedodd ei bod yn bwysig cael ymateb i’r ymgynghoriad, a all fod yn ddadleuol, er mwyn cael safbwyntiau ar ffyrdd i wella ailgylchu ar yr ynys. Dywedodd y byddai’n rhaid cael buddsoddiad ar gyfer unrhyw newid, o oddeutu £3m i £16m, er mwyn cael cerbydau newydd ac i wneud gwelliannau yn y safleoedd gwastraff ac ailgylchu, ac oherwydd hyn ni fydd unrhyw newid i’r gwasanaeth casglu yn digwydd dan 2029.  Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru’n darparu grantiau os ystyrir bod yr Awdurdod wedi ymrwymo i leihau gwastraff a gwella cyfraddau ailgylchu.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y bydd angen gwneud mân newidiadau i’r holiadur i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r gofyniad rhithiol sydd ar wefan y Cyngor a bydd cwestiwn ychwanegol yn cael ei gynnwys yn ymwneud â’r effaith ar yr iaith Gymraeg er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Gydraddoldeb. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cafodd y materion isod eu crybwyll:-

 

·         Nodwyd mai’r targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol yw i gyrraedd cyfradd ailgylchu o 70%.  Gofynnwyd a fydd yr Awdurdod yn wynebu dirwy o £350k bob blwyddyn nes bo’r newidiadau arfaethedig yn dod i rym o fewn y gwasanaeth casglu yn 2029.  Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch a ellir gwneud y newidiadau arfaethedig yn gynt a gwella cyfraddau ailgylchu drwy ddefnyddio darpariaeth ailgylchu ychwanegol h.y. casglu mwy o wastraff cardfwrdd.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd mai gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymdrechu i wella cyfraddau ailgylchu a bod ganddynt gynllun ar waith i gyrraedd cyfradd ailgylchu o 70%.  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y bydd angen gwneud gwaith sylweddol i sicrhau bod yr isadeiledd ar waith cyn cyflwyno unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff.  Roedd o'r farn bod cyflwyno'r newidiadau ym mis Hydref 2029 yn briodol gan y bydd gostyngiad yn nifer uchel y twristiaid sydd ar yr Ynys a bydd hynny cyn cyfnod y Nadolig.  Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod y dirwyon a osodir gan Lywodraeth Cymru yn berthnasol ar hyn o bryd i awdurdodau lleol nad ydynt yn cyrraedd y cyfraddau ailgylchu gofynnol.  Fodd bynnag, mae ymgynghori cyson yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru gan eu bod angen tystiolaeth bod gan yr Awdurdod gynllun credadwy ar waith i gyrraedd y targedau ailgylchu gofynnol sy'n arwain at osgoi'r risg o ddirwyon a osodir, a bydd y broses ymgynghori yn rhan o'r sail dystiolaeth i fynd i'r afael â gofyniad Llywodraeth Cymru.

·         Dywedwyd bod angen i bobl gael gwybodaeth ychwanegol ynghylch y deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn hytrach na'u rhoi yn y bin du.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd y byddai gwaith yn cael ei wneud gyda Thîm Cyfathrebu'r Awdurdod i hyrwyddo ac addysgu trigolion am y gofynion ailgylchu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod staff yn ymweld â chymunedau ac ysgolion i hyrwyddo ailgylchu a bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant i gefnogi darpariaeth o'r fath.  Cyfeiriwyd at y ffaith y dylid gwneud trigolion yn ymwybodol o'r math o ddeunyddiau y mae angen eu hailgylchu ac i bwysleisio bod gwastraff glân y gellir ei ailgylchu yn denu pris uwch.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch a yw’n bosibl y bydd diswyddiadau staff yn digwydd os bydd yr Awdurdod yn penderfynu casglu biniau du bob 4 wythnos.   Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo nad oes disgwyl y bydd diswyddiadau staff gan y byddant yn casglu ac yn prosesu deunyddiau ailgylchu ychwanegol.

·         Codwyd cwestiynau ynghylch a all yr Awdurdod dargedu'r ardaloedd sy’n is na’r ffigurau ailgylchu presennol o 65%.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd fod rhai ardaloedd gyda nifer fawr o fflatiau a thai teras yng Nghaergybi sy'n ei gwneud hi'n anoddach i bobl allu ailgylchu a storio'r bocsys ailgylchu.

·         Gofynnwyd a roddwyd ystyriaeth i’r posibilrwydd y bydd newid llywodraeth yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru yn dilyn Etholiad y Senedd ym mis Mai 2026 a all ddod â’r gofyniad am gyfraddau ailgylchu o 70% i ben.  Dywedodd yr Aelod Portffolio mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw cynyddu cyfraddau ailgylchu, ac mae angen mynd i'r afael â hyn.  Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn ofyniad statudol gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyfraddau ailgylchu o 70%, a bod yr Awdurdod wedi ymrwymo i gyrraedd y targed fel yr amlygir yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023-2028.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr Awdurdod wedi mynd y tu hwnt i’r gyfradd ailgylchu gofynnol o 70% yn flaenorol.  Gofynnwyd beth oedd y rhesymau fod y cyfraddau ailgylchu wedi gostwng dros y blynyddoedd.  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y gostyngiad mewn cyfraddau ailgylchu wedi digwydd yn ystod y cyfnod clo yn ystod y pandemig.  Mae tueddiadau'n newid, ac mae pobl yn prynu mwy o nwyddau ar-lein, ac felly mae cynnydd mewn gwastraff cardbord.  Dywedodd nad yw rhai twristiaid wedi arfer ag ailgylchu, fel sy'n ofynnol yng Nghymru.   Gofynnwyd a allai cynyddu'r gyfradd yn uwch na 5% fod yn opsiwn i'w ystyried.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd y gwerthfawrogir y bydd gwahaniaeth barn ynghylch y newidiadau arfaethedig wrth gasglu gwastraff y gellir ei ailgylchu a sbwriel bin du, ond y cynnig yw darparu bocsys ychwanegol i ailgylchu a mwy o gyfathrebu ac addysg am y gofyniad i ailgylchu.  Dywedodd y Prif Weithredwr mai pwrpas yr adroddiad yw canfod a yw'r broses ymgynghori yn ddigonol i fesur barn trigolion Ynys Môn o ran yr angen i gynyddu'r cyfraddau ailgylchu ar Ynys Môn ac, o bosibl, casglu biniau du bob 4 wythnos.   Nododd fod gwaith sylweddol eisoes wedi'i wneud gyda WRAP Cymru a Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at yr angen i wella'r cyfraddau ailgylchu ac osgoi dirwyon posibl.  Dywedodd fod angen dull penodol mewn rhai ardaloedd, gyda rhai trigolion ddim yn cyfrannu at yr angen i ailgylchu. 

·         Gofynnwyd cwestiynau am y 52% o ddeunyddiau ailgylchadwy oedd yn y bin sbwriel du.   Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd mai gwastraff bwyd yn bennaf sydd wedi'i ganfod yn y bin sbwriel du, a fyddai wedi gallu ei ailgylchu. 

·         Cyfeiriwyd at amseriad yr ymgynghoriad cyhoeddus a ddechreuodd ar 7 Ionawr, 2026 fydd yn para  6wythnos.  Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a fyddai’n fanteisiol cynnal y broses ymgynghori gyhoeddus pan anfonir Biliau’r Dreth Gyngor at drigolion yr Ynys.  Credwyd y byddai hyn yn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i bobl nad oes ganddynt gyfryngau cymdeithasol. Dywedwyd y dylai'r dulliau ymgynghori dargedu'r henoed nad oes ganddynt gyfryngau cymdeithasol, ac y dylid cynnal ymweliadau yn eu cymunedau lleol. Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo nad oedd yn siŵr a fyddai gohirio'r broses ymgynghori yn arwain at fwy o bobl yn ymateb i'r ymgynghoriad, ond y byddai'n trafod y mater gyda'r Swyddogion yn fuan.  Nododd mai'r rheswm dros ddechrau'r ymgynghoriad ddechrau'r flwyddyn oedd i osgoi cyfnod cyn-etholiad Etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026 ac er mwyn gallu gwerthuso'r ymatebion.  Dywedodd Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod dolenni ar gael ar gyfryngau cymdeithasol yr Awdurdod i amlygu lle mae'r deunyddiau ailgylchu'n cael eu prosesu.  Aeth ymlaen i ddweud y byddai gohirio'r ymgynghoriad yn cael effaith negyddol gan fod angen i'r Awdurdod ddangos yr ymrwymiad o ran gwella cyfraddau ailgylchu er mwyn osgoi dirwyon posibl gan Lywodraeth Cymru.

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a oes datrysiadau eraill wedi’u hystyried pe bai ymateb negyddol gan drigolion yr Ynys yn ystod y broses ymgynghori.   Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ei bod yn hollbwysig fod trigolion yr Ynys yn ymateb i’r broses ymgynghori gan ei fod yn effeithio ar bob preswylydd o ran casglu gwastraff ac ailgylchu.

·         Cyfeiriwyd at faint o nwyddau sy'n cael eu pecynnu gan archfarchnadoedd a chwmnïau sy'n dosbarthu nwyddau fel Amazon ac mae angen targedu'r cwmnïau hyn yn hytrach na'r trigolion yn unig.  Cytunodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd y dylai llywodraethau dargedu cwmnïau ac archfarchnadoedd i leihau deunydd pacio.  Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch a oes gostyngiad mewn ailgylchu yn y gweithle gyda mwy o bobl yn gweithio gartref.   Dywedodd y Prif Weithredwr fod ailgylchu yn y gweithle ac yn y cartref yn cael eu rheoli ar wahân a bod dyletswydd i wneud y mwyaf o'r ddau er mwyn cyrraedd y targedau ailgylchu.  Dywedodd fod system ailgylchu newydd wedi'i chyflwyno yn Swyddfeydd y Cyngor i wella ailgylchu yn y gweithle.  

 

PENDERFYNWYD argymell y canlynol i’r Pwyllgor Gwaith:-

 

·         Cymeradwyo cynnal proses ymgynghori ar newid y gwasanaeth ailgylchu/casglu gwastraff i helpu i gwrdd â’r targed ailgylchu statudol o 70%.

·         Derbyn y cwestiynau i’w gofyn fel rhan o’r broses ymgynghori.

·         Derbyn yr amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus, yn dechrau ar 7 Ionawr, 2026 ac yn para am 6 wythnos, ond gyda'r disgwyliad y rhoddir ystyriaeth i bryder y Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol: