Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg fod y Cynllun Strategol Addysg Ddigidol yn cyfrannu at ddatblygu system addysg fodern. Daeth y cynllun presennol i ben yn 2024 ac felly mae angen sefydlu cynllun newydd ar gyfer y cyfnod nesaf. Mae'r gofyniad am offer TG mewn ysgolion wedi cynyddu dros y blynyddoedd ac mae'n bwysig eu bod yn bodloni’r gofynion cyfredol.
Wrth ystyried yr adroddiad, cafodd y materion isod eu crybwyll:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiadau’n nodi bod y Cyngor wedi clustnodi swm i ariannu’r Cynllun Strategol, ond mae’n annhebygol y bydd y cronfeydd a glustnodwyd ar hyn o bryd yn ddigonol. Codwyd cwestiynau ynghylch y goblygiadau i'r Cynllun, hynny ydi, nad oes digon o gyllid a beth yw'r diffyg y mae'r Cyngor yn ei wynebu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer rhan o'r Cynllun Strategol, fodd bynnag, mae diffyg cyllid i gyflawni'r Cynllun ar hyn o bryd. Bydd yn rhaid cynnal trafodaethau i sicrhau y gellir dod o hyd i gyllid ychwanegol a bydd angen defnyddio data i sicrhau y bydd unrhyw gyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anghenion yr ysgolion. Bydd angen buddsoddi mewn offer a seilwaith. Nododd fod y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a bydd angen ymchwilio i'r bylchau yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod gwaith wedi'i wneud i fesur y diffyg posibl a'r gofynion seilwaith ynghyd â goblygiadau cost i uwchraddio offer yn barhaus. Bydd angen ymgysylltu ag ysgolion i fesur eu hanghenion er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei fodloni.
· Gofynnwyd cwestiynau a fyddai gwybodaeth yn cael ei chasglu ynghylch sgiliau TG staff yr ysgol cyn gweithredu'r Cynllun Strategol. Dywedodd yr Arweinydd Strategol (Cynradd) fod sgiliau staff yn cael eu monitro, a bod Cydlynwyr Digidol yn casglu'r data mewn perthynas ag anghenion datblygu sgiliau o fewn y dalgylchoedd cynradd a oedd yn rhan o'r Cynllun blaenorol.
· Gofynnwyd sut fydd perfformiad y Cynllun Strategol yn cael ei fonitro yn ystod y cyfnod 2026-2031. Dywedodd yr Arweinydd Strategol (Cynradd) y bydd angen datblygu cefnogaeth yn y sector cynradd mewn perthynas â phynciau STEM gyda rhwydweithiau uwchradd sy'n cefnogi uwchsgilio ac yn rhannu arfer da gyda phob ysgol uwchradd. Mae hyn yn rhan o ddatblygu system hunan-ddatblygiadol.
· Gofynnwyd a oedd darpariaeth ddigonol wedi'i rhoi ar waith ar ôl i Gwmni Cynnal ddod i ben yn 2022. Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod trosglwyddo’r darpariaeth i'r Awdurdod ar ôl i Gwmni Cynnal ddod i ben yn 2022 wedi bod yn newid sylweddol i ysgolion a staff y Cyngor oedd wedi arfer derbyn y gwasanaeth gan Gwmni Cynnal ers blynyddoedd lawer. Nododd fod ymgynghoriad wedi'i gynnal ag ysgolion i asesu eu gofynion ac i wneud yn siŵr bod darpariaeth TG yr ysgol yn ddigonol.
· Gofynnwyd a allai'r platfform digidol gefnogi plant ag anawsterau darllen a rhifedd. Dywedodd yr Arweinydd Strategol (Cynradd) fod angen edrych ar yr elfen ddigidol sy'n cefnogi'r cwricwlwm ac yn cyfoethogi'r ddarpariaeth i ddysgwyr.
· Gofynnwyd cwestiynau am nifer y Chromebooks ac iPads sydd mewn ysgolion ar hyn o bryd a faint yn fwy sydd heb eu cyfrif. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod rheoli dyfeisiau yn ddarpariaeth ar y cyd rhwng yr Adrannau Dysgu a TG a'r ysgolion. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr mai cyfrifoldeb y Penaethiaid a'r Cyrff Llywodraethol yw sicrhau bod dyfeisiau TG yn yr ysgolion yn cael eu cyfrif. Gwnaed sylwadau pellach ei bod hi’n bwysig bod disgyblion yn defnyddio’r Chromebooks a ddarperir a bod Athrawon yn defnyddio’r dechnoleg i ddarparu gwersi addysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod Grŵp Llywio wedi'i sefydlu, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Weithredwr, fydd yn sicrhau trefniadau llywodraethu a monitro clir; rhoddir adborth gan y Grŵp Llywio i'r Aelod Portffolio dros Addysg a'r Iaith Gymraeg.
· Cyfeiriwyd at rannu arferion da sy'n digwydd o fewn ysgolion, gyda dwy ysgol yn buddsoddi mewn ffôn symudol i dderbyn negeseuon testun gan rieni. Defnyddiwyd platfform Google hefyd ar gyfer trosglwyddo disgyblion o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 fel bo disgyblion yn rhannu eu pryderon a'u profiadau o'r cyfnod pontio i'r ysgolion uwchradd.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhai ysgolion yn defnyddio systemau digidol gwahanol a bod data rhai disgyblion ar goll. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai System Gwybodaeth Reoli newydd yn cael ei chyflwyno o fewn y 18 mis nesaf fydd yn arwain at fwy o gysondeb o ran defnydd yr ysgol o'r systemau. Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Addysg a'r Iaith Gymraeg ei bod yn destun pryder bod sylwadau wedi'u gwneud bod data disgyblion ar goll. Dywedodd fod gan bob ysgol bolisi GDPR a’u bod wedi derbyn hyfforddiant ar ddiogelu data.
· Gofynnwyd sut fydd y Cynllun Strategol yn cael ei fonitro o ran cau'r bwlch ar gyfer dysgwyr dan anfantais. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod angen sicrhau bod pob disgybl yn gallu cael mynediad at ddyfeisiau digidol. Bydd y Grŵp Llywio yn monitro'r ddarpariaeth. Bydd y Cynllun Strategol Digidol yn seiliedig ar ddata, a chyflwynir adroddiadau rheolaidd i'r Tîm Arweinyddiaeth ynghylch sut mae'r bylchau'n cael eu lleihau o fewn gwasanaethau digidol mewn ysgolion.
· Holwyd am y prif risg o ran seiberddiogelwch mewn ysgolion. Dywedodd y Prif Swyddog Digidol fod risg seiberddiogelwch yn cynyddu gyda'r cynnydd mewn dyfeisiau mewn ysgolion. Nododd fod asesiad wedi'i gynnal o'r risg seiberddiogelwch o fewn yr Awdurdod ac ysgolion sy'n cynnwys meddalwedd wystlo, gyda ffeiliau'n cael eu cloi a'r Cyngor yn wynebu risgiau pridwerth. Mae cynlluniau ar waith i liniaru'r risgiau ac i sicrhau bod diweddariadau a waliau tân wedi'u gosod ar ddyfeisiau.
· Cyfeiriwyd at y cyhoeddiad y bydd adweithyddion modiwlar bach newydd yn cael eu hadeiladu ar Safle Wylfa a bod Ynys Môn wedi'i nodi fel parth twf DA. Gofynnwyd a oedd partneriaethau posibl wedi'u nodi o ran y parth twf DA ac a fyddai buddsoddiad gan y ddwy lywodraeth yn cael ei ganiatáu i wella sgiliau digidol ar yr Ynys. Dywedodd y Prif Weithredwr fod angen gwybod beth yw potensial y parth twf DA a nodwyd yn y lle cyntaf; gobeithir y bydd y buddsoddiad DA yn rhan o statws y Porthladd Rhydd. Dywedodd, unwaith y bydd statws y Porthladd Rhydd wedi'i sefydlu, y bydd ymgysylltu'n digwydd gyda phartneriaid allweddol fel Coleg Menai a Phrifysgol Bangor i sicrhau bod y cyrsiau addysgol yn cyd-fynd â disgwyliadau cyflogwyr posibl ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
· Gofynnwyd a oes potensial i ddisgyblion gael eu haddysgu ar sut i ddefnyddio ffonau symudol yn ddiogel a defnyddio llwyfannau digidol a argymhellir o fewn amgylchedd yr ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod defnyddio ffonau symudol o fewn amgylchedd yr ysgol yn fater i Gyrff Llywodraethu'r ysgolion.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod y dechnoleg ddigidol yn parhau i ddatblygu gyda thechnoleg yn cael ei huwchraddio'n rheolaidd. Codwyd cwestiynau ynghylch y risg sy'n gysylltiedig â'r diffyg cyllid sydd ar gael i barhau i uwchraddio systemau er mwyn sicrhau y gall disgyblion fanteisio ar bob cyfle i allu cystadlu am gyfleoedd gwaith yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog Digidol ei bod yn her gallu uwchraddio systemau yn barhaus. Nododd fod yr Awdurdod yn ffodus i fod yn rhan o Dîm Hwb Llywodraeth Cymru sydd â chynrychiolwyr o bob awdurdod lleol yng Nghymru sy'n trafod technolegau newydd, tueddiadau a phrosesau newydd wrth fynd i'r afael â thechnoleg DA a darpariaeth ariannu bosibl.
· Nodwyd nad oes gan rai disgyblion fynediad i'r rhyngrwyd gartref. Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd y disgyblion hyn yn cael eu cefnogi os bydd mwy o ddarpariaeth yn cael ei chynnal ar-lein. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei bod hi'n bwysig bod ysgolion yn nodi'r gefnogaeth i bob disgybl pan fydd gwaith yn cael ei osod ar-lein.
PENDERFYNWYD derbyn cynnwys y Cynllun Strategol Addysg Ddigidol ar gyfer y cyfnod 2026-2031.
Dogfennau ategol: