Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi cyllideb refeniw dros dro y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2026/27 i'w ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi bod y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft gychwynnol wedi'u trafod yn llawn yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr wythnos diwethaf. Y cynnydd mewn cyllid ar gyfer Ynys Môn ar gyfer 2026/27 yw 4.2%. Fodd bynnag, oherwydd y setiau data y mae'r fformiwla dyrannu wedi'i seilio arnynt, mae hwn yn cynrychioli un o'r setliadau isaf o blith y cynghorau yng Nghymru. Mae'n is na'r cynnydd cyfartalog o 4.5% gyda'r uchaf - Cyngor Casnewydd, yn derbyn 6.1%.
Mae'r Cyngor yn parhau i wynebu galw cynyddol, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol i Oedolion a Phlant yn ogystal â phwysau cyflogau sy'n gysylltiedig â'r Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Gwirioneddol, y ddau ohonynt yn cynyddu ar gyfradd uwch na chwyddiant CPI. Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnig cyfanswm cyllideb gychwynnol o £207.023 miliwn, cynnydd o 4.8% yn y Dreth Gyngor ynghyd â 0.3% ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân, gan arwain at gynnydd o 5.1%, gan fynd â thâl Band D i £1,792.98. Mae hefyd yn cynnig cadw'r premiwm ail gartrefi a chartrefi gwag ar 100% a rhyddhau £1.685m o falansau cyffredinol y Cyngor a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27. Ni ddisgwylir unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffigurau hyn cyn i'r gyllideb derfynol gael ei chyflwyno i'r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y setliad terfynol a dderbyniwyd yr wythnos diwethaf £5,962 yn uwch na'r ffigur a ddyfynnwyd yn yr adroddiad a bydd y gyllideb derfynol a gynigir yn cael ei haddasu yn unol â hynny. Nid yw'r cynnydd yn y dreth gyngor yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru na Chyngor Tref a Chymuned, a fydd yn cael eu hychwanegu ar wahân.
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 21 Ionawr 2026 lle bu aelodau'n ystyried yr adroddiad a'r cynigion ar gyfer y gyllideb refeniw ddrafft. Cynhaliodd y pwyllgor drafodaeth lawn a gonest ar gyllid y Cyngor a sut i gydbwyso'r gyllideb a gwahoddwyd cyfraniadau gan aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor. Rhoddwyd sylw arbennig i gronfeydd wrth gefn y Cyngor, y premiwm ar gartrefi gwag ac ail gartrefi, a'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor. Ar ôl ceisio sicrwydd ynghylch nifer o gwestiynau ac ystyried yr ymatebion a ddarparwyd gan yr Aelod Portffolio a'r swyddogion, penderfynodd y pwyllgor gefnogi'r cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27 fel y'u cyflwynwyd a'u hargymell i'r Pwyllgor Gwaith.
Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am y drafodaeth fanwl yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf. Cydnabu aelodau’r pwyllgor gwaith y gwaith sylweddol sy'n gysylltiedig â pharatoi’r gyllideb, gan nodi ei bod yn broses hir sy'n cynnwys nifer o gyfarfodydd a heriau, gan ddechrau bron yn syth ar ôl i gyllideb y flwyddyn flaenorol gael ei chymeradwyo. Roedd yr Aelodau yn cydnabod y pwysau sy'n wynebu rhai meysydd gwasanaeth ac yn croesawu'r cyllid ychwanegol a neilltuwyd i ddiwallu'r anghenion hynny. Nodwyd hefyd fod y gyllideb yn ceisio gwneud buddsoddiadau lle bo'n bosibl heb roi baich gormodol ar drigolion Ynys Môn, wrth gynnal gwasanaethau craidd. Cafwyd cydnabyddiaeth bellach o'r cyllid parhaus ar gyfer gwasanaethau anstatudol sy'n cael eu gwerthfawrogi gan lawer o drigolion, fel Môn Actif.
Cododd aelod o’r pwyllgor gwaith gwestiwn ynglŷn â'r cais arfaethedig o £364,200 ar gyfer seiberddiogelwch a ystyriwyd yn uchel i’r pwrpas a roddwyd a gofynnodd am weld y cynllun busnes manwl sy'n cefnogi'r cais. Awgrymwyd hefyd fod y buddsoddiad o £81,900 a gynigiwyd ar gyfer rheoli a dadansoddi data yn ymddangos yn isel o ystyried uchelgais y Cyngor i ddod yn sefydliad sy'n cael ei yrru gan ddata.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod papur yn cael ei baratoi i'w gylchredeg i aelodau'r Pwyllgor Gwaith cyn cymryd camau pellach. Er nad yw'n gynllun busnes llawn, bydd yn nodi gwybodaeth ar gyfer y cais cyllido seiberddiogelwch, ac yn ei gyfiawnhau. Gofynnwyd am ragor o fanylion ynghylch sut y bydd y buddsoddiad yn cefnogi cydymffurfiaeth â'r Fframwaith Asesu Seiber ac yn cryfhau diogelwch a pharhad busnes. Er bod y Cyngor wedi ymrwymo i gael ei yrru gan ddata, cadarnhaodd unwaith eto bod yn rhaid i benderfyniadau fod yn gymesur a chytbwys. Cyfeiriodd hefyd at y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio newydd a fydd yn adolygu'r maes hwn a fydd yn cynghori ynghylch unrhyw gamau neu adnoddau eraill sydd eu hangen, neu gyfleoedd i ddefnyddio'r adnoddau presennol yn wahanol.
Penderfynwyd -
· Y gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gyfer 2026/27 o £207.023m.
· Cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 4.8%, ynghyd â 0.3% ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân, sy’n gyfanswm o 5.1%, gan olygu fod y gost i eiddo Band D yn £1,792.98.
· Cynnig yn ffurfiol i gadw'r premiwm ar gartrefi gwag ac ail gartrefi yn 100%.
· Bod £1.685m yn cael ei ryddhau o falansau cyffredinol y Cyngor a’r arian wrth gefn a glustnodwyd er mwyn cyd-bwyso cyllideb refeniw 2026/27.
Dogfennau ategol: