Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Strategaeth Gyfalaf 2026-2031 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad, gan nodi bod Cod Darbodus CIPFA diwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol baratoi strategaeth gyfalaf. Mae'r strategaeth yn nodi gofynion buddsoddi hirdymor y Cyngor sy'n deillio o Gynllun y Cyngor a strategaethau cysylltiedig eraill ynghyd â'r buddsoddiad cyfalaf sy'n ofynnol i gyflawni'r amcanion hynny.
Mae'r gofyniad gwariant cyfalaf dros y pum mlynedd nesaf yn cael ei gyflwyno trwy dri senario -
· Achos sylfaenol sy'n defnyddio’r cyllid sydd wedi’i sicrhau
· Achos uchelgeisiol sy'n defnyddio lefel o fenthyca heb gymorth a allai fod yn fforddiadwy os bydd sefyllfa cyllideb refeniw y Cyngor yn gwella
· Achos delfrydol sef y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni holl amcanion y Cyngor a dod â'r holl asedau presennol i gyflwr derbyniol
Cydnabu'r Cynghorydd Robin Williams fod llawer o adeiladau'r Cyngor yn heneiddio a bod angen buddsoddiad sylweddol ar rai. Er y byddai buddsoddiad o'r fath yn ddymunol, mae'n dibynnu ar lefel cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Bydd yr elw o werthu asedau yn parhau i gael ei ail-fuddsoddi yn yr ystâd.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai prif bwrpas y strategaeth yw rheoli lefelau gwariant a benthyca. Mae goblygiadau benthyca a refeniw pob senario wedi'u nodi yn y strategaeth - mae'r achos sylfaen yn cadw costau’n sefydlog, tra bod yr achos delfrydol yn arwain at gostau sylweddol uwch ac anfforddiadwy. Mae'r achos uchelgeisiol yn cynrychioli'r sefyllfa a ffefrir ond mae'n dibynnu ar sicrhau grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyca heb gymorth yn parhau i fod yn opsiwn, ond byddai'r costau cysylltiedig yn disgyn ar drethdalwyr Ynys Môn. Felly, mae angen i'r Cyngor anelu at lefel o wariant rhwng yr achos sylfaenol a'r achos uchelgeisiol, gan nad yw gwariant achos sylfaen yn unig yn ddigon i gynnal asedau presennol.
Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y gall rheoli asedau fod yn gymhleth a nododd, er y gellir ymestyn oes asedau, mewn rhai achosion, rhaid cynnal adeiladau er mwyn osgoi costau uwch yn y tymor hir. Gyda chyllid cyfalaf a grantiau yn lleihau, mae benthyca yn fwyfwy angenrheidiol. Croesawodd Aelodau’r pwyllgor gwaith lefel y manylder yn y strategaeth, yn enwedig y tri model senario achos, sy'n dangos yn glir yr heriau sy'n wynebu'r Cyngor o safbwynt gwariant cyfalaf.
Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y rhyngberthynas rhwng y strategaeth gyfalaf, Cynllun y Cyngor a chynlluniau strategol eraill. Eglurodd fod gwaith ar y gweill i nodi'r cyllid blynyddol sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau sy'n gysylltiedig â'r cynlluniau hynny. Mae bwlch yn parhau rhwng yr adnoddau sydd ar gael a'r hyn sydd ei angen. Er bod y Cyngor wedi llwyddo i sicrhau grantiau, bydd angen ystyried adolygu ystâd y Cyngor i leihau nifer yr adeiladau a'r lleoliadau. Mae'r rhain yn benderfyniadau hirdymor, wedi'u cymhlethu gan amodau sy'n gysylltiedig â llawer o adeiladau, ac ni ellir eu gwneud yn gyflym.
Penderfynwyd argymell y Strategaeth Gyfalaf 2026 - 2031 i’r Cyngor Llawn.
Dogfennau ategol: