Eitem Rhaglen

Monitro Cyllideb Refeniw 2025/26, Ch3

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3, 31 Rhagfyr 2025 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, adroddiad monitro cyllideb refeniw Chwarter 3 gan nodi bod y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn yn dangos tanwariant o £1.865m (0.95%). Er bod y sefyllfa ar ddiwedd y trydydd chwarter yn darparu mwy o sicrwydd ac yn seiliedig ar naw mis o incwm a gwariant gwirioneddol, gallai sawl ffactor ddylanwadu ar yr alldro terfynol o hyd. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau yn y galw am wasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol; gwariant untro annisgwyl, heriau recriwtio a chadw staff sy'n arwain at swyddi gwag uwch na'r disgwyl, amodau tywydd annisgwyl a derbyn cyllid grant ychwanegol posibl yn y chwarter olaf.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod sefyllfa gyfunol gyffredinol gwasanaethau'r Cyngor yn dangos y rhagwelir gorwariant o £0.463m (fel y nodir yn Nhabl 4). Tynnodd sylw at yr amrywiadau yn y gyllideb, gan nodi bod Gwasanaethau Plant yn parhau i fod yn faes pryder gyda gorwariant o £1.625m o ganlyniad i’r nifer cynyddol o blant mewn gofal a chostau uchel lleoliadau.  Mae meysydd eraill sy'n gorwario’n cynnwys Cynllunio a Busnes y Cyngor. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau sy'n weddill naill ai o fewn y gyllideb neu’n tanwario a hyny’n bennaf oherwydd swyddi gwag staff, cyllid grant ychwanegol ac incwm ffioedd uwch. Mae'r tanwariant ym maes Gwasanaethau Oedolion yn deillio o nifer o ddigwyddiadau untro sy’n dod i gyfanswm o £2.4m sydd naill ai wedi cynyddu incwm neu wedi lleihau costau. Heb y rhain, byddai'r sefyllfa sylfaenol yn orwariant o £1.2m.

 

Mae cyllidebau corfforaethol yn gyffredinol yn dangos tanwariant o £1.267m (fel y nodir yn Nhabl 6). Rhagwelir y bydd incwm craidd y Dreth Gyngor £483k yn uwch na'r gyllideb. Disgwylir i bremiwm y Dreth Gyngor gynhyrchu gwarged o £578k erbyn diwedd y flwyddyn, yn rhannol yn sgil eiddo’n trosglwyddo'n ôl i'r Dreth Gyngor o ardrethi busnes yn dilyn newid yn y rheolau cymhwysedd ar gyfer ardrethi busnes i lety hunanarlwyo. Mae perygl o hyd y gallai apeliadau sy'n ymwneud ag eiddo hunanarlwyo leihau incwm, ac mae £900k wedi'i neilltuo mewn cronfa wrth gefn i liniaru'r risg hon.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith pa mor agos yw'r gyllideb gyffredinol at y gyllideb a osodwyd ar ddechrau'r flwyddyn, gyda dim ond 0.95% o danwariant yn cael ei ragweld, a diolchodd i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith.

 

Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, fod amseriad cyllid grant, yn enwedig pan gaiff ei dderbyn yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, yn parhau i’w rhwystro rhag cynllunio’n strategol, a bod hynny’n bryder a godwyd ers amser maith gyda Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd y byddai setliadau aml-flwyddyn a chynnwys cyllid grant yn y prif setliad yn rhoi mwy o sicrwydd i gynghorau, yn hytrach na derbyn dyraniadau grant ad-hoc ar hyd y flwyddyn.

 

Penderfynwyd -

 

·      Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.

·      Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2025/26, y manylir arnynt yn Atodiad CH.

·      Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2025/26 yn Atodiadau D a DD.

 

Dogfennau ategol: