Eitem Rhaglen

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2026/27

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.    

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys cynigion manwl cyllideb refeniw 2026/27 i'w adolygu yn derfynol gan y Pwyllgor Gwaith. Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2026/27, lefel y Dreth Gyngor, y defnydd o gronfeydd wrth gefn a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) wedi'i ddiweddaru cyn ei gymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan nodi bod cynigion y gyllideb wedi’u trafod yn helaeth a’u herio, a bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu arno mewn dau gyfarfod ar wahân ym mis Ionawr a Chwefror 2026. Mae'r cynigion yn cynnwys cyllideb refeniw net o £207.029 miliwn, cynnydd o 5.1% yn y Dreth Gyngor gan olygu fod y tâl ar gyfer eiddo Band D yn codi i £1,792.98, defnyddio £1.685 miliwn o gronfeydd wrth gefn i helpu i gydbwyso'r gyllideb a pharhau i godi premiwm y Dreth Gyngor o 100% ar ail gartrefi a chartrefi gwag. Mae'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor yn debyg i gynnydd cenedlaethol ac yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, Ynys Môn fydd â'r cyfraddau Treth Gyngor isaf yng Ngogledd Cymru o hyd a bydd ei gynnydd ymhlith yr isaf yn rhanbarthol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cynigion y gyllideb derfynol yn aros yr un fath â'r rhai a gyflwynwyd yn wreiddiol. Mae'r risgiau i'r gyllideb wedi'u hamlinellu yn adran 5 o'r adroddiad. Y prif risg yw ansicrwydd ynghylch dyfarniadau cyflog yn y dyfodol. Fel Swyddog Adran 151 cadarnhaodd, ar ôl ystyried yr holl risgiau a nodwyd a'r camau lliniaru, ei fod yn credu bod y gyllideb yn gadarn a bod modd ei chyflawni. Nododd hefyd fod lefel iach balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd gan y Cyngor yn ddigonol i liniaru’r risgiau a nodwyd.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn diweddaru'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Yn seiliedig ar y rhagdybiaethau yn y CATC a allai newid wrth i 2027/28 agosáu, bydd angen arbedion pellach yn 2027/28 ac yn 2028/29. Mae'r defnydd o gronfeydd wrth gefn eto i gydbwyso'r gyllideb ar gyfer 2026/27 yn creu bwlch cyllido uniongyrchol yn 2027/28. Efallai y bydd / na fydd y Cyngor yn gallu mynd i'r afael â'r bwlch hwn trwy gronfeydd wrth gefn unwaith eto; fel arall bydd angen gostyngiadau yn y gyllideb a/neu gynnydd yn y Dreth Gyngor oni bai bod cyllid yn gwella. Ar hyn o bryd mae'r CATC yn tybio cynnydd yn y Dreth Gyngor o 5% yn 2027/28 a 3% yn 2028/29. Bydd CATC wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2026. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod y rhagolygon ariannol tymor canolig yn parhau i fod yn heriol ac efallai y bydd y Cyngor yn wynebu'r angen i leihau costau, gan gynnwys trwy ostyngiad posibl mewn gwasanaethau.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Chwefror 2026 lle ystyriodd aelodau'r adroddiad a'r cynigion terfynol ar y gyllideb refeniw ddrafft. Trafododd yr Aelodau y dyraniadau ychwanegol o fewn y gyllideb a nododd y risgiau ariannol a nodir yn y ddogfen. Fe wnaethant hefyd ystyried sylwadau Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adnoddau. Nododd yr Aelodau fod y cynigion cyllideb cyffredinol yn dal yr un fath â'r rhai a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2026. Ar ôl ceisio sicrwydd ynghylch nifer o gwestiynau, penderfynodd y pwyllgor gefnogi'r cynigion ar gyfer y gyllideb refeniw drafft derfynol a'u hargymell i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Diolchodd y Cynghorydd Gary Pritchard i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am ei fewnbwn dros y ddau gyfarfod a diolchodd hefyd i'r Gwasanaeth Cyllid am ei waith drwy gydol y broses o osod y gyllideb.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod nad oes unrhyw un eisiau codi'r Dreth Gyngor yn uwch nag sydd ei angen. Er bod setliad Llywodraeth Cymru wedi cynyddu mwy na'r disgwyl, nid yw’n ddigon o hyd o’i gymharu â chwyddiant, pwysau cyflog a'r galw cynyddol am wasanaethau – yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol plant ac oedolion, digartrefedd ac anghenion dysgu ychwanegol. Wrth osod y gyllideb arfaethedig, pwysleisiwyd bod y Pwyllgor Gwaith wedi ceisio diogelu gwasanaethau rheng flaen y mae'r rhai mwyaf agored i niwed yn dibynnu arnynt, ac i gynyddu cyllidebau i fynd i'r afael â'r galw cynyddol ym maes gwasanaethau Oedolion a Phlant tra eu bod yn ariannu pwysau chwyddiant mewn ysgolion yn llawn. Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys buddsoddiad mewn gwasanaethau llai sy'n cael trafferth bodloni dyletswyddau statudol.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at yr ystod eang o wasanaethau y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt a'r heriau sy'n gysylltiedig â chydbwyso costau cynyddol gyda chyllid cyfyngedig. Mae'r gyllideb arfaethedig yn ceisio cydbwyso pwysau gwasanaeth gyda chyfuniad o gynilion, cronfeydd wrth gefn a chynnydd yn y dreth gyngor mewn ffordd y gellir ei chyflawni ac sydd mor deg â phosibl. Mae dull darbodus o gyllidebu a gwariant yn y blynyddoedd blaenorol yn golygu bod y Cyngor yn gallu defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso'r gyllideb, er nad oes sicrwydd y gellir dibynnu ar gronfeydd wrth gefn yn y dyfodol. Serch hynny, mae'r Pwyllgor Gwaith yn derbyn y bydd rhai pobl yn cael eu heffeithio ac i'r rhai sy'n cael trafferth ariannol, mae cymorth ar gael drwy'r Cyngor neu Gyngor ar Bopeth.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 152 hefyd sut mae ardoll y Gwasanaeth Tân yn cael ei chyfrifo a sut mae ei effaith ar gyllideb y Cyngor yn wahanol i effaith praesept yr heddlu a phraeseptau cyngor tref a chymuned.

 

Penderfynwyd -

 

·      Argymell bod y Cyngor Llawn yn derbyn y gyllideb refeniw ddrafft arfaethedig, a chynnydd o 5.1% yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D, gan olygu fod y gost yn 2026/27 yn £1,792.98, gan nodi y cyflwynir cynnig ffurfiol, fydd yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Tref / Cymuned, i’r Cyngor ar 5 Mawrth 2026.

·      Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor gadw o leiaf £10.4m o falansau cyffredinol.

·      Nodi sylwadau’r Swyddog Adran 151 ynglŷn â chadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir yn Adran 5 o Atodiad 1 yr adroddiad.

·      Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor.

·      Cytuno y gellir defnyddio cyllid o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau seiliedig ar alw yn ystod y flwyddyn ariannol.

·      Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb wrth gefn gyffredinol yn cael ei hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn.

·      Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 yr hawl i ryddhau cyllid o hyd at £50k o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni ddylid caniatáu unrhyw eitem gwerth dros £50k oni bai bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ei ganiatâd ymlaen llaw.

·      Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi a thai gwag yn aros ar 100%.

 

Dogfennau ategol: