Eitem Rhaglen

Cyllideb Gyfalaf 2026/27

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y gyllideb gyfalaf a'r rhaglen arfaethedig ar gyfer 2026/27 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan nodi bod y sgôp ar gyfer gwariant o fewn y gyllideb gyfalaf yn gyfyngedig ac er bod benthyca yn bosibl, mae ganddo oblygiadau o ran cost i'r gyllideb refeniw.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gyllideb gyfalaf yn amlinellu strategaeth y Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i adnewyddu asedau presennol a phrynu asedau newydd y Cyngor (£6.937 miliwn). Mae prif ffynonellau cyllido'r Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf yn cynnwys grant cyfalaf cyffredinol Llywodraeth Cymru, benthyca â chymorth, derbyniadau cyfalaf, a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. Mae benthyca heb gymorth yn parhau i fod yn opsiwn, fodd bynnag, mewn achosion o'r fath byddai'r holl ad-daliadau am fenthyciadau a chostau llog yn dod yn gyfan gwbl o gyllideb refeniw y Cyngor ac mae cyfyngiadau ar fenthyca yn berthnasol i sicrhau nad yw'r Cyngor yn gorymestyn ei hun. Disgwylir y bydd y Cyngor yn derbyn grantiau ychwanegol yn ystod y flwyddyn fel yn y blynyddoedd blaenorol, a bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y gyllideb. Mae Atodiad 2 i'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad manwl o'r gyllideb gyfalaf arfaethedig derfynol ar gyfer 2026/27, gan ddangos pob cynllun, ei gostau a sut y bydd yn cael ei ariannu. Mae rhai cynlluniau gwerth cyfanswm o £8.934m hefyd yn cael eu dwyn ymlaen o 2025/26 ond gall y ffigur hwn gynyddu wrth i gyfrifon y Cyngor gael eu cwblhau ym mis Mehefin a Gorffennaf 2026.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 hefyd at feysydd buddsoddi eraill o fewn y gyllideb gyfalaf gan gynnwys gwelliannau i isadeiledd gwastraff y Cyngor (£3.806m), a ariennir yn bennaf drwy incwm eEPR. Mae prosiectau mawr eraill yn cynnwys gwelliannau i Bier a Phontynau Porthaethwy (£225k), gwaith adnewyddu Canolfan Hamdden Plas Arthur – cam 2 (£1.65m) a Phrosiectau Cronfa Balchder Bro (£1.5m) sy'n anelu at sicrhau gwelliannau gweladwy tymor byr i lefydd a mannau gwerthfawr cymunedol erbyn mis Mawrth 2027 ac sy'n cael eu harwain gan y gymuned. Mae cyllideb gyfalaf y CRT wedi'i neilltuo ar gyfer tai ac mae'n canolbwyntio ar fuddsoddiad parhaus yn y stoc bresennol i sicrhau y cydymffurfir â SATC (£15.71m), cyfleuster gofal a phreswyl ychwanegol newydd ym Mhorthaethwy (£14.001m) a datblygiad tai newydd (£1.498m).

 

Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Chwefror 2026, lle ystyriodd aelodau'r adroddiad a'r cynigion terfynol ar y gyllideb gyfalaf ddrafft. Adolygodd y pwyllgor y ddogfen a gyflwynwyd ac ymatebion Aelodau a Swyddogion Portffolio i'r materion a godwyd. Fe wnaethant hefyd ystyried sylwadau Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adnoddau. Trafododd yr aelodau raglen gyfalaf y CRT a'i chyllid, gan nodi'r pwysau ar y CRT a'r angen i sicrhau bod cydbwysedd rhwng gwneud y mwyaf o incwm rhent a chadw rhenti’n fforddiadwy. Ar ôl craffu ar y cynigion ar gyfer cyllideb gyfalaf ddrafft derfynol 2026/27, penderfynodd y pwyllgor gefnogi'r cynigion a'u hargymell i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Nododd aelodau Pwyllgor Gwaith fod y rhaglen gyfalaf a'r gyllideb yn gyfyngedig a bod y cyfyngiadau hyn yn dylanwadu ar yr hyn y mae'r Cyngor yn gallu ei gyflawni o ran buddsoddiad cyfalaf. Oherwydd bod cyllid wedi'i gyfyngu, mae'r Cyngor yn parhau i flaenoriaethu gwaith hanfodol fel cynnal asedau presennol sy’n golygu bod y sgôp ar gyfer mentrau newydd yn gyfyngedig.

 

Pwysleisiodd yr aelodau, fodd bynnag, fod y Cyngor yn ceisio buddsoddi mewn prosiectau newydd lle bo hynny'n bosibl, gan gynnwys gwella amgylchedd gweledol yr ynys. Cyflawnir hyn i raddau helaeth trwy sicrhau cyllid grant a gweithio mewn partneriaeth ag eraill. Mae'r rhestr o gynlluniau yn atodiad 2 yn adlewyrchu'r dull hwn ac yn cynnwys prosiectau ailddatblygu a thrawsnewid yng Nghaergybi.

 

Croesawodd yr Aelodau hefyd y cyllid Balchder Bro y bydd y Cyngor yn ei ddyrannu i'r cynghorau tref a chymuned fel y gall cymunedau a chymdogaethau unigol elwa o fuddsoddiad cyfalaf sy'n cael ei arwain yn lleol ac a ddewisir yn lleol.

 

Penderfynwyd argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2026/27 i'r Cyngor Llawn –

                                                                            £'000     

 

Cynlluniau 2025/26 a Ddygwyd Ymlaen

(Y Gronfa Gyffredinol)                                     8,394   

Adnewyddu Asedau /Prynu Asedau

Newydd                                                             6,937

Isadeiledd Gwastraff                                         3,806

Pier a Phontynau Porthaethwy                        225    

Gwaith Adnewyddu Plas Arthur Cam 2       1,650

Balchder Bro                                                       1,500

Cyfrif Refeniw Tai                                           31,572    

 

Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf a

Argymhellir 2026/27                                        54,084    

 

Cyllidir gan:

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                                2,761

Benthyca â Chymorth Cyffredinol                5,047    

Cymunedau Dysgu

Benthyca heb gymorth                                     0,000

Cronfa wrth Gefn Derbyniadau Cyfalaf          271

Cronfeydd wrth Gefn Clustnodedig               452                 

Grantiau Llywodraeth Cymru a'r DU         10,044     

Benthyca Digymorth

(Cronfa Gyffredinol)                                            937     

Gwarged Cyfrif Refeniw’r CRT                   5,418

Grantiau Allanol y CRT                               17,291      

Benthyca heb gymorth y CRT                    8,863

  

Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2026                   54,084

 

 

Dogfennau ategol: