Eitem Rhaglen

Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026/27

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn cynnwys y Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2026/27 i’w ystyried gan y pwyllgor. Mae’r Datganiad yn amlinellu sut fydd y Cyngor yn rheoli benthyca, buddsoddiadau a llif arian yn y flwyddyn i ddod ac mae’n cefnogi Cynllun y Cyngor, y Strategaeth Gyfalaf a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Rhaid ei gyhoeddi dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chodau Darbodus a Rheoli Trysorlys CIPFA.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adra 151 drosolwg o’r adroddiad, gan amlinellu’r cyd-destun economaidd, sefyllfa bresennol y Cyngor o ran benthyca a’r strategaethau benthyca a buddsoddi arfaethedig. Cadarnhaodd y bydd benthyca allanol ond yn cael ei wneud pan fo angen, ac y bydd yn osgoi benthyca cyn bod angen gwneud hynny. Bydd aildrefnu dyled ond yn cael ei ystyried os bydd yn cynnig budd ariannol. Bydd benthyca mewnol yn cael ei ddefnyddio os bydd balansau ariannol yn caniatáu hynny, gan fod hyn yn gostwng costau llog. Fodd bynnag, disgwylir y bydd benthyca allanol yn cynyddu wrth i arian wrth gefn ostwng.

 

Dywedodd fod y Strategaeth Gyfalaf yn amlinellu tair sefyllfa - sylfaenol, uchelgeisiol a delfrydol, gyda phob un yn cynyddu angen y Cyngor i fenthyca. Mae tablau 7a a 7b yn dangos y goblygiadau refeniw ar gyfer y Gronfa Gyffredinol a’r Cyfrif Refeniw Tai dan bob sefyllfa. Mae modd rheoli’r effaith refeniw dan y sefyllfa Sylfaenol, ond mae’n cynyddu dan y sefyllfaoedd Uchelgeisiol a Delfrydol.

 

O ran buddsoddiadau, mae blaenoriaethau’r Cyngor yn parhau i ymwneud â diogelwch, hylifedd ac arenillion. Bydd y Cyngor ond yn buddsoddi gyda sefydliadau risg isel, achrededig, gyda chyfraddau credyd yn cael eu monitro’n ddyddiol. Mae archwaeth y Cyngor am risg yn parhau’n isel.

 

Mae’r dangosyddion Darbodus a Thrysorlys yn Atodiad 11 yr adroddiad yn sicrhau bod gweithgareddau rheoli trysorlys a chynlluniau buddsoddi cyfalaf y Cyngor dal yn fforddiadwy a gofalus.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 fel a ganlyn  mewn ymateb i gwestiynau gan y pwyllgor -

 

·      Gall ad-dalu rhai benthyciadau presennol yn fuan arwain at ffioedd llog uwch a gostyngiad mewn costau refeniw. Fodd bynnag, mae sawl benthyciad PWLB yn cynnwys dirwyon ad-dalu cynnar a all fynd y tu hwnt i arbedion posibl wrth ail-gyllido i gyfradd llog is. Mae’r sefyllfa yn cael ei monitro a’i hadolygu.

·      Mae’r adroddiadau rheoli trysorlys chwarterol a’r adolygiad canol blwyddyn yn monitro perfformiad y Cyngor yn erbyn y dangosyddion darbodus a thrysorlys, sy’n gosod cyfyngiadau ar lefel benthyca a dyled y Cyngor.

·      Mae’r contract gydag ymgynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026 a bydd hyn yn cael ei adolygu, yn cynnwys y manyleb ar gyfer hyfforddiant aelodau ar reoli trysorlys neu, a ellir darparu’r hyfforddiant yn fewnol.

·      Mae’r gyllideb isafswm darpariaeth refeniw ar gyfer 2026/27 yn seiliedig ar raglen gyfalaf y flwyddyn flaenorol ac yn adlewyrchu gwariant cyfalaf 2025/26 a’r lefel benthyca a gadwyd ar yr adeg honno. Codir isafswm darpariaeth refeniw pan mae prosiect yn cael ei gwblhau. Mae’r gyllideb hefyd yn ystyried y newid disgwyliedig o fenthyca mewnol i fenthyca allanol, sy’n effeithio ar gostau llog. Mae’r gostyngiad mewn balansau arian parod sydd ar gael ar gyfer buddsoddi hefyd yn cael ei adlewyrchu oherwydd bydd yn incwm buddsoddi is.

·      Mae’r gwariant cyfalaf sylfaenol ar gyfer 2026/27 yn cynnwys ymrwymiadau ar gyfer datblygiadau tai newydd drwy’r Cyfrif Refeniw Tai, cyfleuster gofal ychwanegol newydd drwy’r Cyfrif Refeniw Tai, prosiectau cronfa’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac unedau busnes a ariennir drwy grant. Unwaith fydd yr ymrwymiadau hynny wedi dod i ben, mae gwariant cyfalaf y sefyllfa sylfaenol yn gostwng i ymrwymiadau parhaus. Mae’r strategaeth yn gweithredu ar sail pum mlynedd, ac yn cael ei ddiweddaru wrth i brosiectau newydd gael eu cymeradwyo a phan fydd cyllid ar gael.

·      Fel arfer, mae benthyciadau PWLB yn rhatach na benthyca masnachol, yn haws i gynghorau gael mynediad atynt ac yn darparu ffynhonnell ariannu ddiogel. Mae cyfradd disgownt ar gael ar gyfer benthyca y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Penderfynwyd nodi'r Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2026/27 ac anfon yr adroddiad ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylwadau pellach.

 

Dogfennau ategol: