Eitem Rhaglen

Diogelu Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd fod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb o fewn gwasanaethau’r Cyngor, ac mae gan staff, contractwyr, gwirfoddolwyr ac Aelodau Etholedig rôl i’w chwarae o ran diogelu plant ac oedolion bregus rhag niwed, boed hynny y tu allan neu y tu mewn i’w cartrefi.   Dywedodd mai un o’r prif weithredoedd yn dilyn cyfarfod y pwyllgor sgriwtini ym mis Ionawr 2025 oedd adolygu Cylch Gorchwyl y Bwrdd Cyflawni Diogelu Corfforaethol a’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol.  Mae’r gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau, ac mae’r Cylch Gorchwyl diwygiedig wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan y Bwrdd Diogelu Corfforaethol.  Mae’r newidiadau hyn yn cryfhau trefniadau llywodraethu, egluro atebolrwydd ac yn sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu’n cael eu gwreiddio’n gyson o fewn y Cyngor.  Mae’r Bwrdd Cyflawni Diogelu Corfforaethol wedi ehangu ei aelodaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hyn wedi gwella ymgysylltiad ar draws adrannau ac wedi creu brwdfrydedd wrth yrru cyfrifoldebau diogelu ymlaen ar draws y Cyngor.  Dywedodd fod diogelu’n parhau i gael ei adnabod fel y trydydd risg mwyaf i’r Cyngor.  Ers cyhoeddi Cyfiawnder trwy ein Dewrder, mae’r Cyngor, a’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn arbennig, wedi bod yn gweithio’n agos â Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru er mwyn dangos sut mae’r Awdurdod wedi ymateb i argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant.  Archwiliwyd y gwaith hwn yn fanwl mewn trafodaethau yng nghyd gyfarfod y Panel Sgriwtini Addysg a’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2025.  Mae’r Bwrdd Cyflawni Diogelu Corfforaethol yn craffu ar y broses gaffael sy’n ymwneud â chludo plant i’r ysgol ac oddi yno, fel y nodir yn yr adroddiad, ac mae’r gwaith hwn yn ffurfio rhan o waith penodol ehangach i gryfhau prosesau comisiynu diogelu ar draws y Cyngor. 

 

Roedd yr Aelod Portffolio yn croesawu nad oedd rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn gyfeirio unrhyw achosion at Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar gyfer Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn ystod y 12 mis diwethaf.   Cyfeiriodd at ddatblygiad y gweithlu a hyfforddiant, fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gyfeirio at feysydd sydd angen eu datblygu.  Mae’r prif flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn y ddod yn cynnwys lansio’r Strategaeth Bwrdd Diogelu Corfforaethol pum mlynedd ym mis Ebrill 2026; cryfhau’r gofynion diogelu ar gontractwyr; parhau i ymgorffori diogelu ar draws yr holl gyfundrefnau; gwella cydweithio ar draws asiantaethau ac ymgysylltiad â’r gymuned; gweithredu newyddlen diogelu chwarterol a datblygu a darparu cynllun cyfathrebu newydd ar ddiogelu.  Dywedodd fod y gwaith sydd wedi mynd rhagddo yn ystod y 12 mis diwethaf yn dangos fod cynnydd cryf wedi’i wneud o ran cryfhau trefniadau diogelu o fewn y Cyngor.  Bydd y Bwrdd Cyflawni Diogelu Corfforaethol yn parhau i yrru gwelliannau, sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol a hyrwyddo diwylliant lle mae diogelu’n cael ei gydnabod fel cyfrifoldeb i bawb.  Bydd y mater o ran cofnodion hyfforddiant ysgolion yn cael ei drosglwyddo i gyfarfod y Bwrdd Diogelu Corfforaethol ym mis Chwefror. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, aeth y Pwyllgor ati i drafod y prif faterion canlynol -

 

·         Gofynnwyd pam bod y ganran ar gyfer staff ysgolion sydd wedi cwblhau hyfforddiant mandadol ar y Gronfa Ddysgu mor isel.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Iechyd, Llesiant a Diogelwch fod heriau wedi codi yn y gorffennol gyda staff ysgolion yn methu a chael mynediad at Gronfa Ddysgu’r Awdurdod, ond eu bod wedi cwblhau’r hyfforddiant drwy EduCare.  Gofynnwyd cwestiynau pellach fod rhai ysgolion wedi defnyddio HWB i gwblhau hyfforddiant, ac mae’n ymddangos fod ysgolion yn defnyddio systemau ar-lein gwahanol i gwblhau hyfforddiant.  Dywedodd yr Uwch Reolwr bod modd codi’r mater gyda’r adran TG ac Adnoddau Dynol o ran defnyddio systemau gwahanol at ddibenion hyfforddiant. 

·         Gofynnwyd pam nad oedd yr holl staff wedi cwblhau’r hyfforddiant mandadol Grŵp A erbyn Wythnos Ddiogelu ym mis Tachwedd.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd fod bwriad yn ystod yr Wythnos Ddiogelu i hyrwyddo hyfforddiant, ac nid oedd angen i’r holl staff gwblhau’r hyfforddiant erbyn Tachwedd 2025 gan nad oes gan rai fynediad at gyfrifiadur.

·         Gofynnwyd a allai’r Awdurdod gyflwyno polisi sy’n gwahardd y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion  fod pryderon ynghylch pobl ifanc yn camddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac mae’n bwysig fod disgyblion yn dysgu sut i ddefnyddio’r cyfryngau hyn yn ddiogel ac yn ddoeth.   Dywedodd fod Ysgol David Hughes wedi gwahardd y defnydd o ffonau symudol yn yr ysgol, ond roedd barn gymysg am gyflwyno’r polisi hwn yn yr ysgol.  Nodwyd mai mater i Gorff Llywodraethu pob ysgol yw a ydynt yn gwahardd y defnydd o ffonau symudol yn eu hysgolion ai peidio. Codwyd materion pellach y dylai’r Awdurdod fod â pholisi ar draws y pum ysgol uwchradd ar yr ynys, yn gwahardd y defnydd o ffonau symudol. Nodwyd y dylid drych ar enghreifftiau o arfer da o ran gwahardd y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion ledled Cymru.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei fod yn barod i drafod y mater gyda Phenaethiaid yn y pum ysgol uwchradd, ac i edrych ar enghreifftiau o arfer da ledled Cymru.

·         Cyfeiriwyd at gyhoeddi adroddiad Cyfiawnder trwy ein Dewrder a gofynnwyd a yw’r Awdurdod yn hyderus fod mesurau grymus ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw sefyllfaoedd heriol sy’n ymwneud â chyfleoedd a fethwyd, fel sydd wedi digwydd mewn Awdurdod arall.   Dywedodd yr Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd fod yr adroddiad Cyfiawnder trwy ein Dewrder wedi’i drafod mewn cyd gyfarfod rhwng y Panel Sgriwtini Addysg a’r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddar.  Dywedodd, fel Aelod Portffolio, ei fod yn hyderus fod y mesurau priodol ar waith yn Ynys Môn i fynd i’r afael â heriau cyffelyb ac ymateb iddynt.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod 23 o argymhellion yn yr adroddiad Cyfiawnder trwy ein Dewrder, a bod trafodaethau manwl wedi digwydd yn y cyd gyfarfod gyda’r ddau Banel sgriwtini.  Nododd fod gan yr Awdurdod hwn fesurau grymus ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw sefyllfa all godi; fodd bynnag, eglurwyd y gallai sefyllfaoedd o’r natur hon godi ond ei fod yn hyderus fod gan y Awdurdod fesurau ar waith i fynd i’r afael â nhw, a bod disgwyliadau ar waith ar gyfer staff y Cyngor a phartneriaid. Mae perthynas waith glos yn bodoli rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Addysg yn yr Awdurdod hwn ac mewn ysgolion.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y dylid hysbysu cyrff llywodraethu ysgolion o unrhyw sefyllfaoedd a all godi yn eu hysgolion. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad Cyfiawnder trwy ein Dewrder oedd yn amlygu nad oedd Corff Llywodraethu mewn ysgol benodol mewn Awdurdod arall yn ymwybodol nad oedd rhestr o enwa’r rheiny ar y Corff Llywodraethu a’u rolau penodol ar gael ar wefan yr ysgol, ac nad oedd gan Lywodraethwyr reolaeth dros faterion llywodraethu.  Gofynnodd y Cadeirydd a yw’r Awdurdod hwn yn hyderus fod Cyrff Llywodraethu ysgolion Ynys Môn yn ymwybodol o bwysigrwydd eu rolau fel llywodraethwyr ysgol.  Dywedodd ei bod yn ymddangos nad oedd enwau a rolau Cyrff Llywodraethu ysgolion Ynys Môn ar gael ar wefannau ysgolion ‘chwaith.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd fod yr holl Aelodau Etholedig yn cael eu cynrychioli ar gyrff llywodraethu ysgolion yn eu wardiau etholiadol.  Pwysleisiodd fod hyfforddiant yn rhan bwysig o rôl unrhyw lywodraethwr a’u bod nhw wedi cwblhau’r hyfforddiant a gynigwyd er mwyn cyflawni eu rolau’n effeithiol. Dywedodd yr Uwch Reolwr Iechyd, Llesiant a Diogelu y dylai pob ysgol fod â phoster diogelu yn nodi’r mesurau sydd ar waith a manylion cyswllt unrhyw unigolyn sydd angen cefnogaeth, ynghyd â lluniau o staff ysgol a’r unigolyn dynodedig ar y corff llywodraethu.  Cyfeiriodd at gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael a dywedodd y dylai diogelu fod yn eitem ym mhob cyfarfod o’r corff llywodraethu.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai’n cymryd cam gweithredu o’r cyfarfod hwn i sicrhau bod ysgolion yn arddangos enwau’r corff llywodraeth a’u rolau dynodedig. Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg fod Llywodraeth Cymru yn adolygu rôl cyrff llywodraethu ar hyn o bryd, a bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr haf, 2026.  Dywedodd fod gan y ddwy ysgol ble mae’n Llywodraethwr ‘llawlyfr’ gyda rhestr o enwau staff ysgol a’r corff llywodraethu. 

·         Cyfeiriwyd at wythnos PREVENT oedd yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelu yn erbyn radicaleiddio; mae staff a sefydliadau partner wedi cael cyfle i gwblhau hyfforddiant. Gofynnwyd a ystyriwyd rhoi hyfforddiant o’r fath i ddisgyblion ysgolion uwchradd, ac a oed athro dynodedig ym mhob un o’r ysgolion uwchradd i fod yn Swyddog PREVENT. Dywedodd y Rheolwr Diogelu a Sicrhau Ansawdd fod trafodaethau rhanbarthol yn digwydd ar hyn o bryd fydd yn galluogi pobl ifanc i fod yn rhan o hyfforddiant sy’n ymwneud â radicaleiddio. Dywedodd fod ‘Shout Out UK’ wedi cynnal gweithdai yn amlygu diogelu yn erbyn radicaleiddio.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Iechyd, Llesiant a Diogelu fod Swyddog Diogelu dynodedig wedi ei penodi, ac mae’n arwain ar PREVENT o fewn ysgolion hefyd.

·         Gofynnwyd a fydd rhaid i bob contractwr sy’n ymgymryd â gwaith gyda’r Awdurdod gwblhau hyfforddiant diogelu. Nodwyd bod llawer o weithwyr yn hunangyflogedig.   Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd diogelu yn cael ei gynnwys ym mhob contract a ddyfernir gan y Cyngor, a bydd brawddeg yn y contract yn amlygu os ydynt yn gweld unrhyw faterion y dylent wybod pwy i gysylltu ag o er mwyn adrodd y digwyddiad.  Bydd yr Awdurdod yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau cwblhau hyfforddiant diogelu.

·         Gofynnwyd pa hyfforddiant a chanllawiau sy’n cael eu rhoi i Gartrefi Preswyl a Gofal o ran diogelu.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod canllawiau yn rymus, a bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn sicrhau bod diogelu’n bwysig o unigolion o fewn y sector gofal. 

·         Gofynnwyd am y gofyniad ar gyfer Trwyddedu Hacni/tacsis mewn perthynas â Diogelu a gwiriadau DBS.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Diogelu a Sicrhau Ansawdd fod y Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn disgwyl i weithredwyr Trwyddedau Hacni gwblhau gwiriadau DBS yn gyntaf, ac yna cwblhau hyfforddiant diogelu cyn bo modd cyflwyno trwyddedau Hacni.

 

Ar ôl archwilio’r wybodaeth a gyflwynwyd ac adolygu’r datblygiadau dros y 12 mis nesaf, PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau Diogelu Corfforaethol yn llawn.

 

Dogfennau ategol: