· Adroddiad Blynyddol 2024/2025
· Trefniadau llywodraethiant/craffu cynnydd ar wireddu’r Cynllun Llesiant
Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol 2024/2025, oedd yn ymgorffori trefniadau llywodraethu/craffu er mwyn darparu’r Cynllun Llesiant, i’w Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyrraedd y drydedd flwyddyn o’r Cynllun Llesiant 5 mlynedd, ac mae mwyafrif yr amcanion un ai wedi’u cwblhau, neu mae cynllun gweithredu ar waith gydag amserlen arfaethedig ar gyfer eu cwblhau.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn fod y Bwrdd wedi datblygu dros y blynyddoedd, ac mae cyfarfodydd yn canolbwyntio mwy ar wneud penderfyniadau a blaenoriaethu gwaith yn hytrach na bod yn fforwm rhannu gwybodaeth, ac mae gan y Bwrdd safbwynt gweithredol gyda sawl enghraifft o bartneriaid yn cydweithio, yn rhannu arfer da, yn dysgu gweri ac yn symud ymlaen gyda’i gilydd. Sefydlwyd Is-grwpiau gyda Swyddogion yn cydweithio, ac mae hynny wedi ei adnabod fel arfer da ledled Cymru. Cynhaliwyd gweithdy Gwybodus o Drawma ar gyfer holl aelodau’r Bwrdd, a gafodd ei ddarparu gan arbenigwyr yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Mae’r Is-grŵp Iaith wedi cwblhau’r Prosiect Arferion Recriwtio Da, ac mae’n gweithio gyda phartneriaid ar y ‘Prosiect Chwalu Mythau am Weithio’n Gymraeg’ fydd yn cael ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn fis Mai. Mae Comisiynydd Plant Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, wedi cynnig peilota sesiynau penodol ar gyfer partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am Siarter Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig. Dyma gyfle unigryw i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn arwain y ffordd yn ngogledd Cymru, ar y cyd â Chomisiynydd Plant Cymru, er mwyn cynnig y gweithdy hwn.
Wrth ystyried yr adroddiad, aeth y Pwyllgor ati i drafod y prif faterion canlynol -
· Cyfeiriwyd at ymgysylltiad y Byrddau gyda ‘Llais y Dysgwr’ a chafwyd trafodaethau gyda Choleg Llandrillo Menai a Choleg Meirion Dwyfor mewn perthynas â materion cludiant i fyfyrwyr allu mynychu’r colegau hyn. Gofynnwyd sut mae’r Bwrdd yn delio gyda’r mater hwn, ac a fydd yn berthnasol i ysgolion cynradd ac uwchradd. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn fod y mater wedi ei godi yn ystod cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fis Medi 2025, ac roedd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw. Nododd fod y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi herio’r Bwrdd er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, a sut fydd eu lleisiau yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith fydd y Bwrdd yn ei gwblhau. Bu i Goleg Llandrillo Menai wahodd cynrychiolwyr o’r Bwrdd i siarad gyda myfyrwyr yn y Coleg. Aeth ymlaen i ddweud y bydd Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar faterion cludiant, a bydd yn adrodd yn ôl i Bwrdd yn fuan. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer ei fod yn bwysig fod aelodau’r Bwrdd yn cael gwybodaeth am yr herio mae myfyrwyr Coleg Llandrillo Menai yn eu hwynebu gyda llwybrau bws a chysylltiadau cludiant. Dywedodd fod y ddolen at rybuddion o dywydd garw wedi ei rhannu gyda’r coleg er mwyn eu galluogi i gynllunio ar gyfer cludo myfyrwyr yn ddiogel. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod yr un problemau’n berthnasol i ddisgwylion ysgolion uwchradd, gyda rhai yn gorfod croesi’r ddwy bont i gyrraedd a gadael yr ysgol.
· Cyfeiriwyd at Brosiect Niwbwrch, sy’n enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â materion trafnidiaeth yn yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn fod hwn yn brosiect peilot ac mai’r bwriad yw datblygu model o arfer da y gellir ei ddefnyddio wrth weithio mewn partneriaeth, er mwyn ymateb i faterion traffig.
· Mynegwyd pryderon hefyd bod yr amcan lliniaru tlodi wedi llithro i haf 2026. Gofynnwyd beth oedd y rhesymau am y llithriad gyda’r amcan lliniaru prosiect gan y fod yr argyfwng costau byw dal yn bodoli, a beth yw bwriad y Bwrdd ar gyfer haf 2026. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod Aelodau’r Bwrdd wedi dweud, ers y cychwyn, eu bod eisiau archwilio’r rhesymau dros dlodi mewn cymunedau lleol ac nid i dderbyn data yn unig, fel sy’n digwydd gydag amcanion eraill mae’r Bwrdd yn eu gosod. Dywedodd fod sesiwn brawf wedi ei chynnal gyda Sefydliad Bevan, ond roedd yn amlwg mai ymarferiad yn canolbwyntio ar ddata ydoedd. Mae’r sefydliadau partner o fewn y Bwrdd yn cydnabod eu rôl i liniaru tlodi ac mae gwaith wedi digwydd gyda Swyddogion yn y ddau awdurdod lleol sy’n gweithio ar dlodi, ac maent wedi adnabod codau post lle mae diffyg yn nifer y bobl sy’n manteisio ar y cynllun talebau dechrau’n deg. Dywedodd fod cyfeirio pobl i dderbyn cefnogaeth yn bwysig, ac mae Medrwn Môn, Mantell Gwynedd, Cyngor ar Bopeth, ADRA a Barnardos wedi cynnig cymorth i weithio ar liniaru tlodi. Mae Prifysgol Bangor hefyd wedi gwneud gwaith i adnabod meysydd o dlodi yng Ngwynedd a Môn.
· Cyfeiriwyd at y Prosiect Arferion Recriwtio Da a gweithio mewn partneriaeth ar y ‘Prosiect Chwalu Mythau am Weithio’n Gymraeg’ fydd yn cael ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn fis Mai. Gofynnwyd cwestiynau am ddisgwyliadau’r prosiect ar ôl ei lansion yn yr Eisteddfod yr Urdd fis Mai, a phwy fydd yn elwa o’r prosiect ar ôl hynny. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen fod trafodaethau’n digwydd gyda sefydliadau partner o fewn y Bwrdd mewn perthynas â materion recriwtio. Y pryderon mwyaf oedd nad oedd pobl yn gallu dilyn gyrfa yn y sector cyhoeddus yng Ngwynedd ac Môn os nad oeddynt yn siarad Cymraeg, neu os oeddynt o’r farn nad oedd sgiliau siarad Cymraeg yn cyrraedd y safon ofynnol. Mae’r Bwrdd wedi comisiynu sefydliadau TYLWYTH i helpu i liniaru problemau a materion mae dysgwyr Cymraeg yn eu hwynebu. Dywedodd y Pennaeth Democrataidd fod casgliadau’r prosiect wedi’u cynnwys yn y canllawiau i Reolwyr yn ystod y broses recriwtio.
PENDERFYNWYD nodi trefniadau llywodraethiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-2028 a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023.
Dogfennau ategol: