Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Newid Hinsawdd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Newid Hinsawdd i'w ystyried gan y pwyllgor, oedd yn ymgorffori'r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net ar gyfer y cyfnod o 2026 i 2031.
Cyflwynodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd, yr adroddiad gan nodi bod y Cynllun yn adeiladu ar y cynnydd a'r gwersi a ddysgwyd o'r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2022-2025 blaenorol fel yr amlinellwyd yn yr Adroddiad Terfynol. Mae'r cynllun newydd yn nodi sut fydd y Cyngor yn parhau â'i daith tuag at ddod yn sefydliad sero net drwy leihau allyriadau carbon, amsugno mwy o garbon a chryfhau gwydnwch y sefydliad tuag at hinsawdd sy'n newid. Mae'r cynllun yn nodi chwe maes blaenoriaeth allweddol sy'n cynnwys allyriadau asedau a thai, allyriadau trafnidiaeth y Cyngor, allyriadau'r gadwyn gyflenwi, defnydd tir, adferiad natur a bioamrywiaeth, datblygu sefydliadol, a phrosiectau strategol a gwydnwch hinsawdd. Bydd cynllun gweithredu blynyddol yn cael ei ddatblygu a'i adolygu bob chwarter gan y Grŵp Llywio Sero Net fydd yn adrodd i'r Tîm Arweinyddiaeth yn ôl yr angen. Bydd adroddiad cynnydd blynyddol hefyd yn cael ei baratoi a bydd camau gweithredu allweddol dan amcan strategol newid hinsawdd Cynllun y Cyngor yn cael eu hadrodd i'r Bwrdd Rhaglen Gwella a Moderneiddio.
Tynnodd y Cynghorydd Ieuan Williams sylw at y ffaith bod y Cynllun Strategol yn cydnabod nad yw targed y Cyngor i ddod yn sefydliad net sero erbyn 2030 yn gyraeddadwy gyda’r adnoddau presennol, yr amser sydd ar gael na maint y gwaith datgarboneiddio sydd ei angen. Felly mae'r Cynllun Strategol yn cynnig dilyn targed carbon sero net Cymru erbyn 2050 a osodwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Wrth graffu ar y Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026 i 2031, cododd y pwyllgor y materion canlynol –
· Gwerth gosod pympiau gwres ffynhonnell aer mewn adeiladau hŷn. Gofynnodd yr aelodau a oes gan y Cyngor dystiolaeth sy'n dangos gwerth am arian.
· Y trefniadau ar gyfer chael gwared ar, neu ailgylchu paneli solar ar ddiwedd eu hoes weithredol. Gofynnodd yr aelodau a ddylai'r Cyngor ddatblygu strategaeth waredu ffurfiol yn hytrach na dibynnu ar ddull ad hoc.
· Y cynnydd yn allyriadau trafnidiaeth a chadwyn gyflenwi'r Cyngor fel y dangosir yn Atodiad 2 i'r cynllun strategol. Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch y rhesymau dros y cynnydd a sut y dylid dehongli'r data o ystyried bod y fethodoleg adrodd wedi newid.
· Y sylwa roddir i addysg yn y cynllun strategol, gyda'r Aelodau'n awgrymu y dylai addysg fod yn rhan bwysicach o'r cynllun.
· Uwchraddio stoc tai’r Cyngor. Er nodi bod 93 o dai cyngor wedi cael eu huwchraddio, gofynnodd yr Aelodau sut mae'r Cyngor yn bwriadu mynd i'r afael â'r dasg sylweddol o uwchraddio gweddill ei stoc tai a sut y gallai effeithio ar denantiaid.
· Trefniadau ailgylchu batris. Nododd yr aelodau fod casglu batris wedi’i dynnu o’r gwasanaeth ailgylchu a mannau ailgylchu batris bach mewn ardaloedd eraill ond rhaid oedd mynegi pryderon ynghylch y diffyg darpariaeth ar gyfer ailgylchu batris mawr a’r risg bosibl o dipio anghyfreithlon.
· Yr angen am fuddsoddiad pellach mewn systemau casglu data allyriadau fel y'i nodwyd yn Adroddiad Pwynt Terfynol Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2022-2025. Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch y goblygiadau cost, y math o ddata i'w gasglu a sut y byddai'n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o adrodd manylion cywir a gwneud penderfyniadau gwybodus.
· Model gweithredu'r Cyngor ar gyfer gosod gorsafoedd gwefru cerbydau trydan cyhoeddus.
Aeth yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd a'r Swyddogion i'r afael â'r materion a godwyd fel a ganlyn –
· Mae pympiau gwres ffynhonnell aer yn ddyfeisiau diweddar, felly nid oes digon o ddata ar hyn o bryd i asesu gwerth am arian. Dylai asesiad mwy dibynadwy fod yn bosibl ymhen blwyddyn.
· Bydd y strategaeth honno ar gyfer cael gwared ar baneli solar diwedd eu hoes yn cael ei harchwilio. Mae hon yn her fyd-eang wrth fabwysiadu technolegau ynni gwyrdd. Nododd Pennaeth y Gwasanaeth Tai fod gan rai eiddo’r Cyngor baneli solar sydd bron yn ugain mlwydd oed. Er bod ychydig o baneli unigol wedi cael eu disodli oherwydd difrod gan y gwynt, nid yw'r data sydd ar gael yn dangos unrhyw ddirywiad mewn perfformiad na chynhyrchu trydan. Mae'r pwynt ugain mlynedd yn fwy o adlewyrchiad o dybiaethau enillion ar fuddsoddiad nag oes weithredol y paneli.
· Mae'r gronfa ddata a ddefnyddir i gyfrifo allyriadau trafnidiaeth wedi'i datblygu a'i mireinio dros y pum mlynedd diwethaf, yn ogystal â phrosesau casglu data. O ganlyniad, y ffigurau diweddaraf yw'r rhai mwyaf cywir. Cyfrifir allyriadau’r Gadwyn Gyflenwi yn seiliedig ar faint mae’r Cyngor yn ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol ac ar y math o nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu caffael. Felly mae gwariant cynyddol yn 2024/25 wedi arwain at allyriadau uwch.
· Mae addysg yn cael sylw dan flaenoriaeth Datblygu Sefydliadol y strategaeth sy'n canolbwyntio ar ddatblygu ymwybyddiaeth, sgiliau a gwybodaeth am newid hinsawdd ar draws y Cyngor trwy fuddsoddi mewn hyfforddiant, arweinyddiaeth a'r gallu i newid ymddygiad. Cytunodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd i adolygu'r geiriad i wneud yr elfen addysgol yn gliriach.
· Mae safonau a disgwyliadau ar gyfer datgarboneiddio stoc tai'r Cyngor ar wahân i Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w bodloni. Bydd rhaid cael cyllideb benodol i ddatgarboneiddio yn llawn, gan gynnwys adolygu lefelau rhent gosodedig Llywodraeth Cymru a chapasiti benthyca'r Cyfrif Refeniw Tai. Yn ogystal, mae gallu ledled y sector i gyflawni'r newidiadau yn hanfodol. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y rhan fwyaf o waith ôl-osod yn allanol, sy'n golygu y dylai tenantiaid allu aros yn eu cartrefi tra bod gwelliannau'n cael eu gwneud.
· Bydd y mater o ailgylchu batris yn cael ei drafod gyda'r Gwasanaeth Rheoli Gwastraff i benderfynu a ddylid ailystyried y polisi neu a ddylai, yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus presennol, ddatgan yn glir nad yw'r Cyngor yn ailgylchu batris ond y gall gyfeirio trigolion at sefydliadau sy'n gwneud hynny.
· Mae nifer o ffynonellau data yn bwydo’r dangosfwrdd sy'n parhau i ddatblygu, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnydd ynni, gwres a thrydan, cadwyni cyflenwi a thrafnidiaeth. Wrth i’r gwaith o gasglu data wella, bydd yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer datgarboneiddio yn well ac yn cefnogi’r broses gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Ystyrir gwelliant parhaus mewn prosesau casglu data yn daith ac yn amcan allweddol.
· Gosodwyd rhai gorsafoedd gwefru cerbydau trydan cyhoeddus sawl blwyddyn yn ôl, gyda'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt ac yn cadw unrhyw elw. Mae'r Cyngor bellach yn tendro i gwmnïau allanol fuddsoddi mewn gorsafoedd gwefru newydd gyda'r nod nid yn unig o gynhyrchu refeniw ond hefyd o annog mwy o ddefnydd o gerbydau trydan. Y disgwyl yw y bydd mwy o gwmnïau preifat yn dod i mewn i'r farchnad wrth i'r defnydd o gerbydau trydan dyfu.
Yn dilyn trafodaeth, ac ar ôl ystyried y materion a godwyd a'r ymatebion a ddarparwyd, penderfynwyd argymell fod y Pwyllgor Gwaith yn ystyried ac yn cymeradwyo’r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026-2031.
Dogfennau ategol: