Eitem Rhaglen

Papur Pwnc Strategaeth Aneddleoedd Drafft

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr adroddiad yn nodi’r gofyniad polisi i sefydlu hierarchaeth aneddleoedd fel rhan o’r broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol sy’n hanfodol er mwyn nodi’r gwahanol aneddleoedd sydd â’r potensial i dderbyn twf yn y dyfodol yn nhermau eu lleoliad, eu rôl a’u swyddogaeth.  Mae hyn yn golygu asesu rôl a swyddogaeth bresennol aneddleoedd, yn ogystal â deall y berthynas rhwng aneddleoedd.  Mae’r papur pwnc yn ceisio asesu rôl aneddleoedd o fewn Ardal y Cynllun ac yna eu grwpio o dan wahanol haenau/fathau yn ôl eu rôl a’u swyddogaeth.  Mae’r haenau a nodir yn yr hierarchaeth aneddleoedd fel a ganlyn:-

 

·          Canolfannau Gwasanaeth Isranbarthol

·          Canolfannau Gwasanaeth Trefol

·          Canolfannau Gwasanaeth Lleol

·          Pentrefi

·          Clystyrau

·          Aneddleoedd Gwledig Anniffiniedig

 

Yn seiliedig ar y sgôr ar gyfer pob anheddiad a aseswyd, cafodd pob anheddiad ei grwpio mewn gwahanol haenau ar sail ei rôl a’i swyddogaeth.  Mae’r rhan fwyaf wedi aros o fewn eu haenau cymharol fel y cawsant eu categoreiddio yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.  Pan fo aneddleoedd wedi’u huwchraddio i haen uwch, mae’n golygu bod y gwasanaethau a’r cyfleusterau (fel y nodwyd yn y fethodoleg asesu) sydd ar gael yn yr aneddleoedd hynny wedi cynyddu mewn nifer/argaeledd ers y sefyllfa yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.   I’r gwrthwyneb, lle mae aneddleoedd wedi’u hisraddio i haen is, mae argaeledd/nifer y cyfleusterau/gwasanaethau hynny wedi lleihau.  Mae’r aneddleoedd canlynol wedi cael eu hailddosbarthu i adlewyrchu canlyniadau’r fethodoleg sgorio a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesiad hwn:-

 

·          Mae Caergybi wedi cael ei ail-gategoreiddio fel Canolfan Isranbarthol;

·          Mae Porthaethwy wedi cael ei uwchraddio o Ganolfan Gwasanaeth Lleol i Ganolfan Gwasanaeth Trefol;  

·          Mae Brynsiencyn a Phenysarn wedi cael eu huwchraddio o Bentrefi Lleol i Bentrefi Gwasanaeth;

·          Mae Niwbwrch wedi cael ei israddio o Bentref Gwasanaeth i Bentref Lleol;

·          Mae Pentre Canol, Pentre Berw a Rhostrehwfa wedi cael eu huwchraddio o Glystyrau o Bentrefi Lleol;

·          Mae Llanrhuddlad, Pencaernisiog, Carreglefn, Llanfaethlu, Llanddona a Llanbedrgoch wedi cael eu hisraddio o Bentrefi i Glystyrau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes bod pob rhan o Ynys Môn yn wledig fwy neu lai a bod Polisi Cynllunio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn gwahaniaethu yn erbyn ardaloedd gwledig.    Cynigodd y Cynghorydd Hughes bod y Pwyllgor yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru’n nodi bod y Polisi Cynllunio Cynaliadwy cyfredol yn gwahaniaethu yn erbyn ardaloedd gwledig a’i fod yn rhwystr wrth geisio sefydlu Cynllun Datblygu Lleol sy’n darparu ar gyfer anghenion Ynys Môn. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod rhaid i ddatblygiadau yng Nghymru fod yn gynaliadwy a bod yn rhaid i’r Cynllun Datblygu Lleol newydd fynd i’r afael â Pholisïau Cynllunio Cenedlaethol.   Mae’n rhaid i’r Cynllun Datblygu Lleol hefyd adlewyrchu’r gwasanaethau sydd ar gael mewn cymunedau.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd bod yn rhaid cofio bod Etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal fis Mai a’i bod hi’n bosib na fydd y cwestiwn hwn yn cael ei ateb.    Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylai’r mater hwn gael ei drafod gyda’r Arweinyddion Grŵp yn gyntaf. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cynnwys Canolfan Addysg y Bont, Llangefni yn y strategaeth sgorio aneddleoedd gan fod yr ysgolion Cynradd ac Uwchradd wedi cael eu cynnwys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones y dylai’r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Ynys Môn ganolbwyntio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y bydd y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn diwallu anghenion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel rhan o’r broses o sefydlu Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Ynys Môn. 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·          cymeradwyo’r Papur Pwnc Strategaeth Aneddleoedd drafft fel sail ar gyfer yr  Hierarchaeth Aneddleoedd a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol newydd Ynys Môn.

·          ychwanegu Canolfan Addysg y Bont i broses sgorio’r strategaeth aneddleoedd.

 

Dogfennau ategol: