Eitem Rhaglen

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2026/2027

·                 Cyllideb Refeniw 2026/27

 

             Cyflwyno adroddad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog

     Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.

 

·                 Cyllideb Gyfalaf 2026/27

 

            Cyflwyno adroddad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog

    Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.

 

·        Newid i Polisi Dewisol Treth Cyngor

 

Cyflwyno adroddad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog

    Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror 2026.

 

·                 Gosod y Dreth Gyngor 2026/27

 

              Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swydogaeth (Adnoddau)/Swyddog

          Adran 151.

 

 Cynnig Cyllideb Amgen yr Wrthblaid

 

 I gyflwyno ar gyfer ystyriaeth y Cyngor,  gwelliant yr wrthblaid i gynigion cyllideb terfynol y Pwyllgor Gwaith yn unol ag adran 4.3.2.2.11 y cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Chwefror, 2026 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Yn absenoldeb y Dirprwy Arweinydd a Deiliad Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y gyllideb arfaethedig wedi bod yn destun trafodaethau helaeth a oedd yn cynnwys craffu gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol mewn dau gyfarfod ar wahân ynghyd â Sesiwn Briffio Aelodau ym mis Hydref 2025 a mis Ionawr, 2026 a'r Panel Sgriwtini Adnoddau. Nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei setliad dros dro ym mis Tachwedd 2025, ac y byddai Ynys Môn yn derbyn cynnydd o 2.3%.  Ychwanegwyd £112.8m arall at gyllid llywodraeth leol ym mis Rhagfyr 2025, gan Lywodraeth Cymru a derbyniwyd setliad terfynol o 4.16% gan y Cyngor hwn.  Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd yn y ganran o fewn y setliad gan Lywodraeth Cymru, mae'n dal i fod yn sefyllfa ariannol heriol wrth ddarparu ar gyfer y galw cynyddol am y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.   Dywedodd yr Arweinydd ymhellach y bydd yr aflonyddwch yn y Dwyrain Canol yn sicr yn dylanwadu ar yr economi a chwyddiant ynghyd â phwysau ychwanegol ar y setliad gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.  Dywedodd fod y cynigion yn cynnwys cyllideb refeniw net o £207.029 miliwn, cynnydd o 5.1% yn y Dreth Gyngor a fydd yn codi tâl Band D i £1,792.98, defnyddio £1.685 miliwn o gronfeydd wrth gefn i helpu i gydbwyso'r gyllideb a pharhau gyda phremiwm y Dreth Gyngor o 100% ar ail gartrefi a chartrefi gwag. Mae'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor yn debyg i’r cynnydd cenedlaethol ac yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, Ynys Môn fydd â'r cyfraddau isaf o ran y Dreth Gyngor yng Ngogledd Cymru o hyd.  Serch hynny, derbynnir y bydd y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn effeithio ar rai pobl a dywedodd fod cymorth ar gael drwy'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ogystal â chyngor hefyd drwy Ganolfan J E O'Toole neu Gyngor ar Bopeth.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ymhellach mai'r Cyngor hwn yw'r Awdurdod cyntaf yng Nghymru i sicrhau Rhyddhad Dewisol y Dreth Gyngor i aelwydydd sydd â phreswylydd sydd â salwch terfynol. Nododd fod y Cynghorydd Jeff Evans wedi codi'r mater yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr 2025 a oedd yn fenter gan Elusen Marie Curie. 

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor yr argymhellion i'r Cyngor llawn fel y gwelir yn (a), (b) ac (c) o'r adroddiadau.

 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau wneud sylwadau a gofyn cwestiynau. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor i gwestiynau a materion a godwyd gan y Cyngor fel a ganlyn:-

 

·         Dywedodd Aelod nad yw'r cynnydd parhaus sy'n wynebu trigolion Ynys Môn yn gynaliadwy.  Mae'r Dreth Gyngor wedi cynyddu ers 2022, gyda chynnydd o 9.5% yn 2024, 8.5% yn 2025 ac mae'r cynnig ar gyfer 2026/27 yn gynnydd pellach o 5.1%. Mae hyn yn cyfateb i dros 20% o gynnydd dros y blynyddoedd.  Mae'r cynnydd sy'n wynebu trigolion yn digwydd mewn cyfnod pan fo argyfwng o ran costau byw gyda theuluoedd yn wynebu prisiau bwyd uwch a biliau ynni uwch a chyfleoedd cyflogaeth cyfyngedig.  Nodwyd bod llawer o drigolion yn teimlo eu bod yn derbyn llai o wasanaeth yn gyfnewid am dâl uwch o ran y Dreth Gyngor.  Mynegwyd pryderon bod yr un fformiwla yn cael ei defnyddio i gynyddu trethi, defnyddio cronfeydd wrth gefn ac yna, mae'n gwthio'r broblem strwythurol i'r flwyddyn ganlynol.  Mae'r gyllideb hon unwaith eto yn dibynnu ar gronfeydd wrth gefn o £1.68 miliwn; dylid defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer amgylchiadau annisgwyl a allai godi. 

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cyngor mewn sefyllfa gref oherwydd y penderfyniad a wnaed gan y grŵp sy'n rheoli.  Nid yw'r setliad gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol i alluogi Cynghorau i fforddio'r galw am wasanaethau gan lywodraeth leol ac mae'r defnydd o gronfeydd wrth gefn yn anochel.  Roedd o'r farn nad y Dreth Gyngor yw'r dreth decaf i gasglu adnoddau, ond dyma'r unig ffordd i lywodraeth leol allu fforddio gwasanaethau; defnyddio cronfeydd wrth gefn, cynyddu'r Dreth Gyngor neu doriadau mewn gwasanaethau yw'r unig opsiynau sydd ar gael i awdurdodau lleol.  Eleni mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn gwasanaethau lle mae'r galw yn cynyddu i sicrhau gwytnwch y gwasanaethau hynny.   

 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod gorwariant ym maes Gwasanaethau Plant er bod llai o blant hyd at 17 oed ar yr Ynys.  Mae'r Gwasanaethau Oedolion wedi gallu cadw o fewn eu cyllideb er bod mwy o bobl oedrannus yn byw ar yr Ynys.  Y gost i drigolion Ynys Môn ar gyfer lleoli plant y tu allan i'r sir mewn gofal yr Awdurdod hwn yw £4m.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod costau lleoli plant mewn gofal y tu allan i'r sir yn cynyddu ond mae'r Awdurdod hwn wedi buddsoddi mewn darparu Cartrefi Clyd ar yr ynys. Mae cynlluniau hefyd i gynyddu'r ddarpariaeth hon er mwyn lleihau’r costau.  Yn ôl y ddemograffeg, mae Awdurdodau sydd â llai o blant ysgol yn derbyn llai o adnoddau gan Lywodraeth Cymru.  Nododd fod poblogaeth sy'n heneiddio ar yr Ynys, a bod cyllid ychwanegol wedi'i roi i'r Gwasanaeth Oedolion oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau.

 

Dywedodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd fod 12 o blant ar hyn o bryd mewn lleoliad y tu allan i'r sir, sy'n cyfateb i £79k yr wythnos i fynd i'r afael ag anghenion y plant.  Awgrymodd y byddai'n fuddiol i Aelodau gyfarfod staff Teulu Môn i ddeall yr heriau sy'n cael eu hwynebu i ymateb i'r gofynion statudol i fforddio gofal i'r plant hyn. Amlinellodd Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y costau dan sylw a disgrifiodd strwythur a threfniadau gweithredol model Cartrefi Clyd.

 

·         Dywedodd Aelod fod angen adolygu nifer yr ysgolion uwchradd ar yr Ynys a nifer y Canolfannau Hamdden.  Cyfeiriwyd hefyd at yr angen i adolygu'r tâl am y Bin Gwyrdd, ardollau Treth Gyngor ail gartrefi, mân-ddaliadau ac ardrethi busnes.

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor, er ei fod yn derbyn y sylwadau, y dylai'r materion hyn fod wedi cael eu codi yn ystod y broses graffu a gynhaliwyd sawl mis yn ôl cyn y gyllideb derfynol arfaethedig.  

 

Cynnig Gwahanol i’r Gyllideb gan Grŵp yr Wrthblaid

 

Cyflwynwyd – diwygiad gan Grŵp yr Wrthblaid i gyllideb derfynol arfaethedig y Pwyllgor Gwaith yn unol ag adran 4.3.2.2.11 o'r Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid fod y gyllideb a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys creu 65 o swyddi gyda 53 o swyddi wedi'u trosglwyddo yn sgil trosglwyddo staff o'r gwasanaeth ADY a 12 swydd newydd.  Cyfeiriodd at gynnig y Grŵp i osod y Dreth Gyngor ar 1.3% a nododd fod cynnydd o 1% yn cyfateb i £500k o'i gymharu â £291k pan gymerodd y grŵp rheoli reolaeth o'r Cyngor.  Nododd nad oes sôn am y cynnydd yn y premiwm ar gartrefi gwag a fydd yn cynyddu'r flwyddyn nesaf ynghyd ag ardoll twristiaeth a gyflwynir ar ôl etholiad y Senedd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £5.6m tuag at y cynllun; roedd o'r farn y dylid gwneud pobl yn ymwybodol o'r cynllun.  Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi'i orfodi ar lywodraeth leol yng Nghymru gan y Llywodraeth Geidwadol ac nad yw'r swm a ganiateir ar gyfer yr Asesiad Gwariant Safonol wedi cynyddu'n sylweddol ers y newid polisi hwn. 

 

Amlinellodd y Cynghorydd Jones ymhellach welliant Grŵp yr Wrthblaid i'r gyllideb derfynol arfaethedig a chyfeiriodd at y ffaith bod y Grŵp yn cytuno â'r angen am gynnydd mewn seiberddiogelwch.  Cyfeiriodd at y tanwariant o £1.7m yn 2023/2024, £3.8m yn 2024/2025 a £1.8m yn 2025/2026.  Cyfeiriodd ymhellach at y cronfeydd wrth gefn penodol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a nododd y bydd difidend i dorri'r Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf.   Roedd gwelliant Grŵp yr Wrthblaid i'r gyllideb yn awgrymu cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor ynghyd â 0.3% i dalu'r cynnydd yn ardoll y Gwasanaeth Tân ac Achub. 

 

Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynigion gwahanol i’r gyllideb.

 

Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau wneud sylwadau a gofyn cwestiynau mewn ymateb i'r Diwygiad i'r Gyllideb ac i'r cynigion buddsoddi mewn gwasanaethau a amlinellwyd gan Grŵp yr Wrthblaid:-

 

Lleihau cyllideb ADY £20k

Lleihau Cyllideb Cyfleusterau Cyhoeddus £25k

Lleihau Cyllideb Arolygu Diogelwch Bwyd i £100k

Lleihau'r Gyllideb Seiberddiogelwch i £200k a dileu'r Cais Dadansoddi Data

Dileu'r Cais Caffael

 

Dywedodd y Cynghorydd Pip O'Neill na allai gefnogi'r gostyngiad a awgrymwyd gan Grŵp yr Wrthblaid i'r ddarpariaeth ADY gan fod pwysau ychwanegol eisoes ar y ddarpariaeth hon o fewn ysgolion.  Roedd hefyd yn anghytuno â'r awgrym i leihau'r cyllid ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus a oedd yn wasanaeth hanfodol. 

 

Roedd y Cynghorydd Gwilym O Jones yn teimlo’n gryf fod angen diogelu'r ddarpariaeth ADY gan fod mwy o bwysau ar y gwasanaeth hwn.  Cyfeiriodd at astudiaeth a gynhaliwyd gan Dr Dave McKenna ynglŷn â'r trefniadau craffu ar Ynys Môn ac awgrymodd y dylai'r Aelodau ymweld ag ysgolion i asesu gofynion ysgolion.  Mae'r Panel Sgriwtini Addysg bellach yn ymweld ag ysgolion, fel rhan o'u rôl graffu, i drafod materion gyda Phenaethiaid, Athrawon ac i wrando ar lais y plant.  Nododd fod y ddarpariaeth ADY yn bryder parhaus mewn ysgolion a bod dirfawr angen cynyddu'r ddarpariaeth hon.  Mynegodd ei fod yn falch bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi £200k ychwanegol tuag at y ddarpariaeth.  Roedd hefyd yn anghytuno â'r awgrym i leihau'r cyllid ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus gan fod pryder parhaus ymysg y cyhoedd am yr angen am fwy o doiledau ar yr Ynys.

 

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod £400k wedi'i gynnwys yng nghyllideb yr ysgol tuag at y ddarpariaeth ADY ac mae'r Pwyllgor Gwaith wedi ychwanegu £200k arall tuag at y galw cynyddol yn y ddarpariaeth. Mae trosglwyddo staff o'r ADY a'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn sgil dod â'r trefniant ar y cyd â Chyngor Gwynedd i ben eisoes yn rhan o'r trefniant ar y cyd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Euryn Morris at gynnig gan Grŵp yr Wrthblaid i leihau'r gyllideb seiberddiogelwch i £200k.  Nododd mai pwrpas seiberddiogelwch a dadansoddi data yw diogelu data personol pobl ac y byddai unrhyw ymosodiad seiber yn arwain at ganlyniadau sylweddol ynghyd â chostau ariannol i'r Awdurdod.  Byddai'r toriadau a awgrymwyd gan Grŵp yr Wrthblaid i seiberddiogelwch a dadansoddi data yn cynyddu'r risg o gostau sy'n gysylltiedig â seiber-ymosodiad.  

 

Mynegodd y Cynghorydd Jackie Lewis bryderon am y cynnig gan Grŵp yr Wrthblaid i leihau'r gyllideb Arolygu Diogelwch Bwyd i £100k.  Nododd fod yr Arolygiadau Diogelwch Bwyd eisoes dan bwysau wrth gynnal arolygiad diogelwch bwyd.  Cwestiynodd oblygiadau'r gostyngiad arfaethedig a gynigiwyd gan Grŵp yr Wrthblaid i'r gwasanaeth.  Mewn ymateb, dywedodd Deiliad Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod diffyg capasiti o fewn yr Adran a bod Arolygiadau Diogelwch Bwyd yn hollbwysig wrth ddiogelu hylendid bwyd.  Dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu buddsoddi yn y gwasanaeth i gyflogi Swyddog ychwanegol o fewn y gwasanaeth.  Pwrpas y buddsoddiad yw darparu capasiti ychwanegol sydd ei angen i glirio'r gwaith sy’n cronni, ac ar ôl hynny disgwylir i'r capasiti uwch sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu cyflawni’r nifer gofynnol o arolygiadau bob blwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb ei fod yn gwrthwynebu'r cynnig gan Grŵp yr Wrthblaid i ddileu'r Cais Caffael.  Gyda’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol dywedodd ei bod yn bwysig cael proses gaffael gadarn ar waith i sicrhau gwerth am arian.

Cafodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid, gyfle i ymateb i’r sylwadau a wnaed yn erbyn y cynigion gwahanol i’r gyllideb.  Nododd fod yr Aelodau wedi portreadu rhai o'r cynigion cyllideb fel toriadau i'r gyllideb.  Er bod seiberddiogelwch yn elfen bwysig; cyd  y cynnydd yn y gyllideb seiberddiogelwch, fel yr amlinellir yn y gyllideb, yn golygu y bydd angen pedwar aelod ychwanegol o staff.  Roedd o'r farn y dylai'r gwasanaethau ddefnyddio eu darpariaeth yn fwy effeithiol heb wario £800k ychwanegol. 

Dywedodd ymhellach fod Grŵp yr Wrthblaid wedi cytuno i'r gofyniad i gynyddu’r gyllideb ar gyfer yr Arolygiad Diogelwch Bwyd ond ar lefel o £100k; dylid monitro lefel y buddsoddiad i fesur faint o safleoedd bwyd y mae'r Adran yn gallu eu cwblhau yn y lle cyntaf.

Yn dilyn pleidlais o 6 o blaid, 24 yn erbyn, a neb yn ymatal, ni chafodd Cynnig y Grŵp Gwrthblaid ar gyfer Cyllideb wahanol ei dderbyn. 

 

Yn dilyn pleidlais o 22 o blaid, 8 yn erbyn, a neb yn ymatal cymeradwywyd cynnig cyllideb y Pwyllgor Gwaith. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·             Cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2026/2027.

·             Derbyn y Penderfyniad drafft ar y Dreth Gyngor fel y nodir yn (ch) yn yr Rhaglen :-

 

1.       PENDERFYNWYD

 

Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu Adran 13 o'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac Adran 9 o adroddiad Cyllideb 2026/27 fel y Strategaeth Gyllideb o fewn yr ystyr a roddir gan y Cyfansoddiad, ac i gadarnhau ei bod yn dod yn rhan o'r fframwaith cyllidebol ac eithrio’r ffigurau a ddisgrifir fel y rhai cyfredol.

 

(a)          Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu cyllideb refeniw ar gyfer 2026/27 fel y dangosir yn Adroddiad Cyllideb 2026/27 ac Atodiad 1 ac Atodiad 2.

 

(b)     Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, mabwysiadu cyllideb gyfalaf fel y’i nodir yn adroddiad Adroddiad Cyllideb Gyfalaf 2026/27.

 

(c)      Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y pŵer i wneud addasiadau rhwng penawdau yng Nghyllideb Derfynol Arfaethedig 2026/27 yn Atodiad 2 er mwyn cyflawni penderfyniadau’r Cyngor. Yn ogystal â hyn, dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y pŵer i drosglwyddo hyd at £50k yr eitem o'r gronfa wrth gefn gyffredinol. Bydd unrhyw eitem sy’n fwy na £50k angen cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith cyn y gwneir unrhyw drosglwyddiad o’r gronfa wrth gefn gyffredinol.

 

(ch)   Dirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith, ym mlwyddyn ariannol 2026/27, y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng penawdau fel a ganlyn:-

 

(i)            pwerau diderfyn i wario pob pennawd cyllideb yn Atodiad 2 Cyllideb Derfynol Arfaethedig 2026/27 yn erbyn enw pob gwasanaeth, ar y gwasanaeth y mae'n ymwneud ag ef;

(ii)     pwerau i gymeradwyo'r defnydd o wasanaethau a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gyllido cynigion gwariant untro sy’n cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cyngor a gwella gwasanaethau;

 

(iii)    pwerau i drosglwyddo o’r ffynonellau incwm newydd neu uwch.

 

(d)     Dirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith, mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2026/27 ac ar gyngor y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) – Swyddog Adran 151, y pŵer i ryddhau hyd at £250k o falansau cyffredinol i ddelio â blaenoriaethau sy'n codi yn ystod y flwyddyn.

 

(dd)   Dirprwyo'r pwerau canlynol i'r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â'r cyfnod hyd at 31 Mawrth 2027:-

 

(i)      pwerau i wneud ymrwymiadau newydd o gyllidebau refeniw y dyfodol hyd at y

         symiau a nodir ar gyfer blaenoriaethau newydd yn y Cynllun Ariannol Tymor

         Canol;

 

(ii)     y pwerau a’r ddyletswydd i baratoi cynlluniau i wneud arbedion cyllidebol

         refeniw fel yr awgrymir yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol;

 

(iii)    pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng prosiectau cyfalaf yn Adroddiad y Gyllideb Gyfalaf 2026/27 ac ymrwymo adnoddau yn y blynyddoedd dilynol gan gydymffurfio gyda’r fframwaith cyllidebol.

 

(d)     Pennu a chymeradwyo’r dangosyddion darbodus a rhai’r trysorlys sy'n amcangyfrifon a therfynau ar gyfer 2026/27 ac ymlaen fel sy'n ymddangos yn yr adroddiad Datganiad ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2026/27.

 

(dd) Cymeradwyo’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2026/27 a Strategaeth Gyfalaf 2026/27.          

 

(ff)    Cadarnhau y bydd eitemau 1(b) i (ff) yn dod yn rhan o'r fframwaith cyllidebol.

 

2.       PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau at ddibenion blwyddyn ariannol 2026/27 benderfyniad y Cyngor Sir, a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y disgownt sy'n gymwys i Ddosbarth penodedig A a Dosbarth penodedig B o anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Penodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998, fel a ganlyn:-

  

   Dosbarth Penodedig A Dim Disgownt

    Dosbarth Penodedig B Dim Disgownt

 

3.       PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau at ddibenion blwyddyn ariannol 2026/27 benderfyniad y Cyngor Sir ar 6 Mawrth 2007 i bennu lefel disgownt sy'n gymwys i Ddosbarth penodedig C o anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004, fel a ganlyn:-

 

         Dosbarth Penodedig C     Dim Disgownt

 

4.    PENDERFYNWYD datgymhwyso unrhyw ddisgownt(au) a ganiatawyd i anheddau gwag tymor hir ac anheddau a ddefnyddir yn achlysurol (y cyfeirir atynt fel arfer fel ail gartrefi) ac i amrywio penderfyniad y Cyngor llawn a wnaed ar 28 Chwefror 2018 a gosod am y flwyddyn ariannol 2025/26 swm uwch o'r Dreth Gyngor (sef premiwm y Dreth Cyngor) o 100% o gyfradd safonol y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau gwag hirdymor neu ar gyfer anheddau a ddefnyddir o bryd i'w gilydd (y cyfeirir atynt fel arfer fel ail gartrefi) i osod swm uwch o Dreth Gyngor (sef premiwm y Dreth Gyngor) o 100% o dan Adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel y'i mewnosodwyd gan Adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru).

 

5.      Nodi bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 1996, wedi penderfynu na fydd yn ymdrin ag unrhyw gostau sy’n wynebu’r Cyngor mewn rhan o'i ardal na thalu unrhyw ardoll neu ardoll arbennig fel costau arbennig a bod y penderfyniadau i barhau mewn grym hyd oni fyddant yn cael eu diddymu'n benodol.

 

6.      Nodir bod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 25 Tachwedd 2025 wedi cymeradwyo’r symiau a gyfrifwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel sail y Dreth Gyngor ar gyfer 2026/27 ac i nodi ymhellach fod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 11 Rhagfyr 2018 wedi cymeradwyo y bydd y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor lleol yn parhau heb newid am y blynyddoedd dilynol oni bai y caiff ei ddiwygio'n sylweddol.  Nodir hefyd bod y Cyngor llawn ar 28 Chwefror 2018 wedi mabwysiadu a chymeradwyo Polisi Dewisol y Dreth Gyngor lleol o dan Adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, gan ddirprwyo i'r Pwyllgor Gwaith y pŵer i ddirymu, ailddeddfu a/neu ddiwygio'r Polisi. Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith ddiwygio'r Polisi ddiwethaf ar 03 Mawrth 2022. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi argymell i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2026, i ddiwygio'r polisi i ganiatáu eithriad i drethdalwyr y cyngor sy'n dioddef o salwch terfynol. Mae'r penderfyniad hwn yn derbyn mabwysiadu Polisi Dewisol y Dreth Gyngor diwygiedig os yw'r Cyngor yn cadarnhau'r newid arfaethedig. Os na chaiff y cynnig ei gadarnhau, yna bydd y Polisi fel y'i diwygiwyd ar 3 Mawrth 2022 yn parhau i fod yn berthnasol a bydd yn cael ei dderbyn o dan y penderfyniad hwn."

 

7.      Yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd 2025, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith, yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor)(Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y’i diwygiwyd gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau)(Cymru)(Diwygiad) 2004, a’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor)(Cymru)(Diwygiad) 2016, gymeradwyo’r symiau a gyfrifwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel sail y dreth ac ar gyfer rhannau o’r ardal, am y flwyddyn 2026/27, fel a ganlyn:-

 

a)       33,887 yw'r swm a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith fel sail treth gyngor Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn.

 

b)      Mae’r rhannau o ardal y Cyngor, sef y symiau a gyfrifwyd gan y Pwyllgor Gwaith fel y sail ar gyfer treth gyngor Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal lle mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol, fel a ganlyn:-

 

Ardaloedd Cynghorau Cymuned/Tref

Sail y Dreth

2026/27

Amlwch

                1,596.26

Biwmares

                1,177.85

Caergybi

                4,134.77

Llangefni

                2,164.10

Porthaethwy

                1,512.10

Llanddaniel-fab

                   386.37

Llanddona

                   435.66

Cwm Cadnant

                1,235.84

Llanfair Pwllgwyngyll

                1,333.25

Llanfihangel Ysgeifiog

                   714.12

Bodorgan

                   494.92

Llangoed

                   698.55

Llangristiolus a Cherrigceinwen

                   655.90

Llanidan

                   432.82

Rhosyr

                1,096.44

Penmynydd

                   249.00

Pentraeth

                   627.60

Moelfre

                   715.20

Llanbadrig

                   736.08

Llanddyfnan

                   536.58

Llaneilian

                   652.60

Llannerch-y-medd

                   554.69

Llaneugrad

                   209.68

Llanfair Mathafarn Eithaf

                2,082.80

Cylch y Garn

                   446.48

Cartref

                   601.70

Rhos-y-bol

                   484.65

Aberffraw

                   327.15

Bodedern

                   456.21

Bodffordd

                   417.58

Trearddur

                1,584.29

Tref Alaw

                   276.93

Llanfachraeth

                   240.24

Llanfaelog

                1,476.95

Llanfaethlu

                   306.81

Llanfair-yn-Neubwll

                   596.82

Fali

                  1,077.66  

Bryngwran

                   369.54

Rhoscolyn

                   410.32

Trewalchmai

                   380.93

Cyfanswm Sail y Dreth

              33,887.44

 

8.       Bod y symiau a ganlyn bellach yn cael eu pennu gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2026/27, yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

a)      £279,761,942        sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn amcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) o'r Ddeddf.

 

b)      £72,062,360          sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) ac (c) o'r Ddeddf.

 

c)      £207,699,582        sef y swm y mae'r cyfanswm yn 8(a) uchod yn fwy na'r cyfanswm yn 8(b) uchod, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o'r Ddeddf, fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn.

 

ch)    £144,584,962        sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn amcangyfrif a fydd yn daladwy am y flwyddyn i gronfa’r cyngor mewn perthynas â chyfraddau annomestig wedi'u hailddosbarthu, grant cynnal refeniw a grant penodol, llai unrhyw swm a gyfrifir yn unol ag Adran 33(3) o'r Ddeddf.

 

d)      £1,862.48             sef y swm yn 8(c) uchod llai y swm yn 8(ch) uchod, i gyd wedi'i rannu â'r swm yn 7(a) uchod, a gyfrifir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 33(1) o'r Ddeddf, fel sail ei threth gyngor am y flwyddyn.

 

dd)    £ 2,355,140          sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o'r Ddeddf.

 

e)      £ 1,792.98             sef y swm yn 8(d) uchod llai y canlyniad a roddir drwy rannu'r swm yn 8(dd) uchod â'r swm yn 7(a) uchod, a gyfrifir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 34(2) o'r Ddeddf, fel sail ei threth gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i hardal nad oes unrhyw eitem arbennig yn ymwneud â nhw.

 

f)

 

Ardaloedd Cymuned/Cyngor Tref

 

Band D cyfatebol fesul ardal gan gynnwys Cyngor Ynys Môn ac elfennau Cyngor Cymuned / Tref

Amlwch

£

                                           1,875.24

Biwmares

£

                                           1,826.37

Caergybi

£

                                           1,982.79

Llangefni

£

                                           1,959.84

Porthaethwy

£

                                           1,892.16

Llanddaniel-fab

£

                                           1,837.26

Llanddona

£

                                           1,814.76

Cwm Cadnant

£

                                           1,821.42

Llanfair Pwllgwyngyll

£

                                           1,891.98

Llanfihangel Ysgeifiog

£

                                           1,829.70

Bodorgan

£

                                           1,817.19

Llangoed

£

                                           1,835.91

Llangristiolus a Cherrigceinwen

£

                                           1,805.13

Llanidan

£

                                           1,843.83

Rhosyr

£

                                           1,825.11

Penmynydd

£

                                           1,836.36

Pentraeth

£

                                           1,847.61

Moelfre

£

                                           1,814.22

Llanbadrig

£

                                           1,839.24

Llanddyfnan

£

                                           1,824.66

Llaneilian

£

                                           1,833.48

Llannerch-y-medd

£

                                           1,840.14

Llaneugrad

£

                                           1,816.83

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

                                           1,829.34

Cylch y Garn

£

                                           1,810.89

Cartref

£

                                           1,811.61

Rhos-y-bol

£

                                           1,810.35

Aberffraw

£

                                           1,838.79

Bodedern

£

                                           1,829.16

Bodffordd

£

                                           1,828.89

Trearddur

£

                                           1,816.83

Tref Alaw

£

                                           1,817.37

Llanfachraeth

£

                                           1,855.44

Llanfaelog

£

                                           1,822.77

Llanfaethlu

£

                                           1,819.08

Llanfair-yn-Neubwll

£

                                           1,829.79

Fali

£

                                           1,856.16

Bryngwran

£

                                           1,841.67

Rhoscolyn

£

                                           1,807.56

Trewalchmai

£

                                           1,837.62

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu at y swm a geir yn 8(e) uchod, symiau'r eitem neu'r eitemau arbennig sy'n berthnasol i anheddau yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 8(b) uchod, a gyfrifir gan y Pwyllgor Gwaith yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, sef symiau sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.

 

Bandiau Prisio

 

sef y symiau a geir trwy luosi'r symiau yn 8(e) a 8(f) uchod a'r rhif sydd, yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf, yn berthnasol i anheddau a restrir mewn band prisiau arbennig wedi'i rannu â'r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny'n berthnasol i dai a restrir ym mand prisiau D, a gyfrifir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, yn symiau sydd i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y categorïau o anheddau a restrir yn y gwahanol fandiau prisiau.

 

 

 

Treth y Cyngor fesul Band, fesul Ardal, sy'n cynnwys elfennau/praeseptau Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Cymuned/Tref

 

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

Amlwch

£

1,250.16

1,458.52

1,666.88

1,875.24

2,291.96

2,708.68

3,125.40

3,750.48

4,375.56

 

Biwmares

£

1,217.58

1,420.51

1,623.44

1,826.37

2,232.23

2,638.09

3,043.95

3,652.74

4,261.53

 

Caergybi

£

1,321.86

1,542.17

1,762.48

1,982.79

2,423.41

2,864.03

3,304.65

3,965.58

4,626.51

 

Llangefni

£

1,306.56

1,524.32

1,742.08

1,959.84

2,395.36

2,830.88

3,266.40

3,919.68

4,572.96

 

Porthaethwy

£

1,261.44

1,471.68

1,681.92

1,892.16

2,312.64

2,733.12

3,153.60

3,784.32

4,415.04

 

Llanddaniel-fab

£

1,224.84

1,428.98

1,633.12

1,837.26

2,245.54

2,653.82

3,062.10

3,674.52

4,286.94

 

Llanddona

£

1,209.84

1,411.48

1,613.12

1,814.76

2,218.04

2,621.32

3,024.60

3,629.52

4,234.44

 

Cwm Cadnant

£

1,214.28

1,416.66

1,619.04

1,821.42

2,226.18

2,630.94

3,035.70

3,642.84

4,249.98

 

Llanfair Pwllgwyngyll

£

1,261.32

1,471.54

1,681.76

1,891.98

2,312.42

2,732.86

3,153.30

3,783.96

4,414.62

 

Llanfihangel Ysgeifiog

£

1,219.80

1,423.10

1,626.40

1,829.70

2,236.30

2,642.90

3,049.50

3,659.40

4,269.30

 

Bodorgan

£

1,211.46

1,413.37

1,615.28

1,817.19

2,221.01

2,624.83

3,028.65

3,634.38

4,240.11

 

Llangoed

£

1,223.94

1,427.93

1,631.92

1,835.91

2,243.89

2,651.87

3,059.85

3,671.82

4,283.79

 

Llangristiolus a Cherrig Ceinwen

£

1,203.42

1,403.99

1,604.56

1,805.13

2,206.27

2,607.41

3,008.55

3,610.26

4,211.97

 

Llanidan

£

1,229.22

1,434.09

1,638.96

1,843.83

2,253.57

2,663.31

3,073.05

3,687.66

4,302.27

 

Rhosyr

£

1,216.74

1,419.53

1,622.32

1,825.11

2,230.69

2,636.27

3,041.85

3,650.22

4,258.59

 

Penmynydd

£

1,224.24

1,428.28

1,632.32

1,836.36

2,244.44

2,652.52

3,060.60

3,672.72

4,284.84

 

Pentraeth

£

1,231.74

1,437.03

1,642.32

1,847.61

2,258.19

2,668.77

3,079.35

3,695.22

4,311.09

 

Moelfre

£

1,209.48

1,411.06

1,612.64

1,814.22

2,217.38

2,620.54

3,023.70

3,628.44

4,233.18

 

Llanbadrig

£

1,226.16

1,430.52

1,634.88

1,839.24

2,247.96

2,656.68

3,065.40

3,678.48

4,291.56

 

Llanddyfnan

£

1,216.44

1,419.18

1,621.92

1,824.66

2,230.14

2,635.62

3,041.10

3,649.32

4,257.54

 

Llaneilian

£

1,222.32

1,426.04

1,629.76

1,833.48

2,240.92

2,648.36

3,055.80

3,666.96

4,278.12

 

Llannerch-y-medd

£

1,226.76

1,431.22

1,635.68

1,840.14

2,249.06

2,657.98

3,066.90

3,680.28

4,293.66

 

Llaneugrad

£

1,211.22

1,413.09

1,614.96

1,816.83

2,220.57

2,624.31

3,028.05

3,633.66

4,239.27

 

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

1,219.56

1,422.82

1,626.08

1,829.34

2,235.86

2,642.38

3,048.90

3,658.68

4,268.46

 

Cylch y Garn

£

1,207.26

1,408.47

1,609.68

1,810.89

2,213.31

2,615.73

3,018.15

3,621.78

4,225.41

 

Cartref

£

1,207.74

1,409.03

1,610.32

1,811.61

2,214.19

2,616.77

3,019.35

3,623.22

4,227.09

 

Rhos-y-bol

£

1,206.90

1,408.05

1,609.20

1,810.35

2,212.65

2,614.95

3,017.25

3,620.70

4,224.15

 

Aberffraw

£

1,225.86

1,430.17

1,634.48

1,838.79

2,247.41

2,656.03

3,064.65

3,677.58

4,290.51

 

Bodedern

£

1,219.44

1,422.68

1,625.92

1,829.16

2,235.64

2,642.12

3,048.60

3,658.32

4,268.04

 

Bodffordd

£

1,219.26

1,422.47

1,625.68

1,828.89

2,235.31

2,641.73

3,048.15

3,657.78

4,267.41

 

Trearddur

£

1,211.22

1,413.09

1,614.96

1,816.83

2,220.57

2,624.31

3,028.05

3,633.66

4,239.27

 

Tref Alaw

£

1,211.58

1,413.51

1,615.44

1,817.37

2,221.23

2,625.09

3,028.95

3,634.74

4,240.53

 

Llanfachraeth

£

1,236.96

1,443.12

1,649.28

1,855.44

2,267.76

2,680.08

3,092.40

3,710.88

4,329.36

 

Llanfaelog

£

1,215.18

1,417.71

1,620.24

1,822.77

2,227.83

2,632.89

3,037.95

3,645.54

4,253.13

 

Llanfaethlu

£

1,212.72

1,414.84

1,616.96

1,819.08

2,223.32

2,627.56

3,031.80

3,638.16

4,244.52

 

Llanfair-yn-Neubwll

£

1,219.86

1,423.17

1,626.48

1,829.79

2,236.41

2,643.03

3,049.65

3,659.58

4,269.51

 

Fali

£

1,237.44

1,443.68

1,649.92

1,856.16

2,268.64

2,681.12

3,093.60

3,712.32

4,331.04

 

Bryngwran

£

1,227.78

1,432.41

1,637.04

1,841.67

2,250.93

2,660.19

3,069.45

3,683.34

4,297.23

 

Rhoscolyn

£

1,205.04

1,405.88

1,606.72

1,807.56

2,209.24

2,610.92

3,012.60

3,615.12

4,217.64

 

Trewalchmai

£

1,225.08

1,429.26

1,633.44

1,837.62

2,245.98

2,654.34

3,062.70

3,675.24

4,287.78

 

 

 

9.       Dylid nodi, ar gyfer y flwyddyn 2026/27, bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru wedi datgan y symiau canlynol mewn praesept a roddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:-

 

 

             

            Awdurdod Praeseptio                                                            Bandiau Prisio

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru

£

265.50

309.75

354.00

398.25

486.75

575.25

663.75

796.50

929.25

 

 

 

 

10.     Wedi pennu'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn 8(ff) a 9 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, drwy hyn yn pennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn 2026/27 ar gyfer pob categori o anheddau a ddangosir isod:-

 

 

 

Y Dreth Gyngor fesul Band, ym mhob ardal, sy’n cynnwys elfen Cyngor Sir Ynys-Môn, Praeseptau Cyngor Cymunedol / Tref a Phraesept Heddlu Gogledd Cymru

 

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

Amlwch

£

1,515.66

1,768.27

2,020.88

2,273.49

2,778.71

3,283.93

3,789.15

4,546.98

5,304.81

Biwmares

£

1,483.08

1,730.26

1,977.44

2,224.62

2,718.98

3,213.34

3,707.70

4,449.24

5,190.78

Caergybi

£

1,587.36

1,851.92

2,116.48

2,381.04

2,910.16

3,439.28

3,968.40

4,762.08

5,555.76

Llangefni

£

1,572.06

1,834.07

2,096.08

2,358.09

2,882.11

3,406.13

3,930.15

4,716.18

5,502.21

Porthaethwy

£

1,526.94

1,781.43

2,035.92

2,290.41

2,799.39

3,308.37

3,817.35

4,580.82

5,344.29

Llanddaniel-fab

£

1,490.34

1,738.73

1,987.12

2,235.51

2,732.29

3,229.07

3,725.85

4,471.02

5,216.19

Llanddona

£

1,475.34

1,721.23

1,967.12

2,213.01

2,704.79

3,196.57

3,688.35

4,426.02

5,163.69

Cwm Cadnant

£

1,479.78

1,726.41

1,973.04

2,219.67

2,712.93

3,206.19

3,699.45

4,439.34

5,179.23

Llanfair Pwllgwyngyll

£

1,526.82

1,781.29

2,035.76

2,290.23

2,799.17

3,308.11

3,817.05

4,580.46

5,343.87

Llanfihangel Ysgeifiog

£

1,485.30

1,732.85

1,980.40

2,227.95

2,723.05

3,218.15

3,713.25

4,455.90

5,198.55

Bodorgan

£

1,476.96

1,723.12

1,969.28

2,215.44

2,707.76

3,200.08

3,692.40

4,430.88

5,169.36

Llangoed

£

1,489.44

1,737.68

1,985.92

2,234.16

2,730.64

3,227.12

3,723.60

4,468.32

5,213.04

Llangristiolus a Cherrig Ceinwen

£

1,468.92

1,713.74

1,958.56

2,203.38

2,693.02

3,182.66

3,672.30

4,406.76

5,141.22

Llanidan

£

1,494.72

1,743.84

1,992.96

2,242.08

2,740.32

3,238.56

3,736.80

4,484.16

5,231.52

Rhosyr

£

1,482.24

1,729.28

1,976.32

2,223.36

2,717.44

3,211.52

3,705.60

4,446.72

5,187.84

Penmynydd

£

1,489.74

1,738.03

1,986.32

2,234.61

2,731.19

3,227.77

3,724.35

4,469.22

5,214.09

Pentraeth

£

1,497.24

1,746.78

1,996.32

2,245.86

2,744.94

3,244.02

3,743.10

4,491.72

5,240.34

Moelfre

£

1,474.98

1,720.81

1,966.64

2,212.47

2,704.13

3,195.79

3,687.45

4,424.94

5,162.43

Llanbadrig

£

1,491.66

1,740.27

1,988.88

2,237.49

2,734.71

3,231.93

3,729.15

4,474.98

5,220.81

Llanddyfnan

£

1,481.94

1,728.93

1,975.92

2,222.91

2,716.89

3,210.87

3,704.85

4,445.82

5,186.79

Llaneilian

£

1,487.82

1,735.79

1,983.76

2,231.73

2,727.67

3,223.61

3,719.55

4,463.46

5,207.37

Llannerch-y-medd

£

1,492.26

1,740.97

1,989.68

2,238.39

2,735.81

3,233.23

3,730.65

4,476.78

5,222.91

Llaneugrad

£

1,476.72

1,722.84

1,968.96

2,215.08

2,707.32

3,199.56

3,691.80

4,430.16

5,168.52

Llanfair Mathafarn Eithaf

£

1,485.06

1,732.57

1,980.08

2,227.59

2,722.61

3,217.63

3,712.65

4,455.18

5,197.71

Cylch y Garn

£

1,472.76

1,718.22

1,963.68

2,209.14

2,700.06

3,190.98

3,681.90

4,418.28

5,154.66

Cartref

£

1,473.24

1,718.78

1,964.32

2,209.86

2,700.94

3,192.02

3,683.10

4,419.72

5,156.34

Rhos-y-bol

£

1,472.40

1,717.80

1,963.20

2,208.60

2,699.40

3,190.20

3,681.00

4,417.20

5,153.40

Aberffraw

£

1,491.36

1,739.92

1,988.48

2,237.04

2,734.16

3,231.28

3,728.40

4,474.08

5,219.76

Bodedern

£

1,484.94

1,732.43

1,979.92

2,227.41

2,722.39

3,217.37

3,712.35

4,454.82

5,197.29

Bodffordd

£

1,484.76

1,732.22

1,979.68

2,227.14

2,722.06

3,216.98

3,711.90

4,454.28

5,196.66

Trearddur

£

1,476.72

1,722.84

1,968.96

2,215.08

2,707.32

3,199.56

3,691.80

4,430.16

5,168.52

Tref Alaw

£

1,477.08

1,723.26

1,969.44

2,215.62

2,707.98

3,200.34

3,692.70

4,431.24

5,169.78

Llanfachraeth

£

1,502.46

1,752.87

2,003.28

2,253.69

2,754.51

3,255.33

3,756.15

4,507.38

5,258.61

Llanfaelog

£

1,480.68

1,727.46

1,974.24

2,221.02

2,714.58

3,208.14

3,701.70

4,442.04

5,182.38

Llanfaethlu

£

1,478.22

1,724.59

1,970.96

2,217.33

2,710.07

3,202.81

3,695.55

4,434.66

5,173.77

Llanfair-yn-Neubwll

£

1,485.36

1,732.92

1,980.48

2,228.04

2,723.16

3,218.28

3,713.40

4,456.08

5,198.76

Fali

£

1,502.94

1,753.43

2,003.92

2,254.41

2,755.39

3,256.37

3,757.35

4,508.82

5,260.29

Bryngwran

£

1,493.28

1,742.16

1,991.04

2,239.92

2,737.68

3,235.44

3,733.20

4,479.84

5,226.48

Rhoscolyn

£

1,470.54

1,715.63

1,960.72

2,205.81

2,695.99

3,186.17

3,676.35

4,411.62

5,146.89

Trewalchmai

£

1,490.58

1,739.01

1,987.44

2,235.87

2,732.73

3,229.59

3,726.45

4,471.74

5,217.03

 

 

Dogfennau ategol: