Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn ymateb i gais mewn cynllun busnes gan Gyngor Tref Biwmares (sydd wedi’i gynnwys fel Atodiad 1 i'r adroddiad) i gymryd perchnogaeth o Faes Parcio'r Castell, Biwmares, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard wrth y cyfarfod ei fod wedi derbyn cais gan Gyngor Tref Biwmares i ohirio'r penderfyniad heddiw. Fel Arweinydd a rhywun sy’n byw ym Miwmares, roedd o'r farn bod y Cyngor Tref eisoes wedi cael cyfle teg i gyflwyno achos busnes, gan nodi bod y brydles ar y maes parcio wedi dod i ben ym mis Gorffennaf 2025. Nid oedd yn credu bod unrhyw sail bellach dros ohirio a chadarnhaodd y byddai'r mater felly yn cael ei benderfynu yn y cyfarfod heddiw.
Cyflwynodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd yr adroddiad, gan nodi bod y Cyngor wedi trosglwyddo Carchar a Llys Biwmares i'r Cyngor Tref ym mis Gorffennaf 2020, yn dilyn asesiad yn seiliedig ar farn ymgynghorydd bod angen tua £600k o fuddsoddiad ar yr adeiladau. Er mwyn cefnogi'r Cyngor Tref i dalu'r costau hyn, rhoddwyd prydles 5 mlynedd ar Faes Parcio'r Castell rhwng 15 Gorffennaf 2020 a 15 Gorffennaf 2025 gyda'r bwriad bod yr incwm (tua £100k y flwyddyn) yn cyfrannu at y costau uwchraddio. Ers hynny, cafwyd cais gan y Cyngor Tref i Faes Parcio'r Castell gael ei drosglwyddo i'w berchnogaeth am byth heb unrhyw gost. Mae'r cais wedi'i ystyried a'r argymhelliad yw ei wrthod. Yn hytrach, cynigir ymestyn y brydles tan 31 Mawrth 2026 ar yr un telerau ag o'r blaen i gydnabod yr incwm a gollwyd yn ystod pandemig Covid 19. Mae'r Pwyllgor Gwaith yn argymell gwrthod am y rhesymau canlynol –
· Mae adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gwahardd cynghorau rhag gwaredu eiddo (ac eithrio drwy denantiaeth fer) am lai na’r gwerth gorau y gellir ei sicrhau yn rhesymol (heb ganiatâd y Gweinidog). Mae'r maes parcio yn werth rhwng £900k a £1.2m, yn seiliedig ar yr elw gros cyfartalog a nodir yng nghynllun busnes Cyngor Tref Biwmares.
· Byddai trosglwyddo ased o'r fath i'r gymuned am ddim neu am lai na’r pris gorau sy’n bosibl yn rhesymol yn gosod cynsail newydd trwy wyro o bolisi'r Cyngor ar gyfer gwaredu eiddo. Byddai hefyd yn tanseilio polisi'r Cyngor ar waredu asedau, yn debygol o annog ceisiadau tebyg gan gymunedau eraill ar sail y cynsail newydd, a gallai o bosibl leihau derbyniadau cyfalaf yn y dyfodol o safleoedd tebyg.
· Mae cynllun busnes y Cyngor Tref yn awgrymu mai prif bwrpas y cais yw cynnal y praesept ar lefel isel. Nid yw'n nodi bod incwm o'r maes parcio yn cael ei fuddsoddi yn y Carchar a'r Llys, sef y bwriad gwreiddiol y tu ôl i roi'r brydles. Praesept presennol Cyngor Tref Biwmares yw £39k sy'n sylweddol is na phraesept pob un o'r pedwar cyngor tref arall.
Pwysleisiodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y byddai'r maes parcio yn parhau i fod ar gael i'r dref a defnyddwyr eraill at ddibenion parcio a bod y mater dan sylw yn ymwneud â dyfodol yr incwm yn unig. Yn ei farn ef, byddai dychwelyd yr ased dan reolaeth y Cyngor Sir yn cefnogi gwell trefn o orfodaeth barcio yn y dref.
Mewn ymateb i gwestiynau aelodau'r Pwyllgor Gwaith ynglŷn â sut roedd y Cyngor Tref wedi defnyddio'r incwm o’r maes parcio, p’un ai a oedd wedi ymgysylltu â'r Cyngor Sir cyn i'r brydles ddod i ben a pha drefniadau codi tâl fyddai'n berthnasol pe bai'r maes parcio yn dychwelyd i reolaeth y Cyngor, eglurodd Swyddogion –
· Yn ôl y cynllun busnes, cynhyrchodd Maes Parcio'r Castell £113k mewn refeniw yn 2024/25 gyda threuliau uniongyrchol o £48k ac elw gros o £64,572. O'r rhain, ail-fuddsoddwyd £25,670 yn y maes parcio er na ddarperir dadansoddiad, a dyrannwyd £13,181 i'r Carchar a'r Llys gan adael £25,721 i gefnogi'r praesept. Mae cyfrifon y Cyngor Tref yn dangos bod ei falansau wedi cynyddu o £419k yn 2020 i £798k yn 2025.
· Bod y Cyngor Tref wedi parhau i gasglu incwm o'r maes parcio ers i'r brydles ddod i ben ym mis Gorffennaf 2025. Argymhellir caniatáu i'r Cyngor Tref gadw'r incwm hwn fel ffordd i’w ddigolledu am y naw mis o incwm a gollwyd yn ystod Covid-19.
· Tua diwedd cyfnod y brydles, cysylltodd y Cyngor Sir â'r Cyngor Tref i'w hysbysu am y dyddiad y byddai’r les yn dod i ben a bwriad y Cyngor i gymryd rheolaeth o Faes Parcio'r Castell yn ôl. Nid oedd dyddiad dod i ben Gorffennaf 2025 yn ddelfrydol ar gyfer trosglwyddo rheolaeth a newid trefniadau casglu incwm, gan fod risg o golli incwm. Yn ystod trafodaethau ar y pryd, dywed y Cyngor Tref ei fod yn awyddus i gymryd perchnogaeth o'r maes parcio a gofynnodd y Cyngor am gais ffurfiol a chynllun busnes. Y disgwyl oedd y byddai'r cynllun yn nodi gwariant rhagamcanedig a gwirioneddol ar y Carchar a'r Llys dros y cyfnod o bum mlynedd, ochr yn ochr â'r incwm rhagamcanedig a gwirioneddol o'r maes parcio.
· Os bydd y maes parcio yn dychwelyd o dan reolaeth y Cyngor Sir, y bwriad yw cyflwyno ffioedd am arhosiad awr, dwy awr, pedair awr a thrwy gydol y dydd, gyda thariff ar wahân ar gyfer bysiau.
Roedd y Pwyllgor Gwaith o'r farn bod bylchau yn y Cynllun Busnes a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Biwmares, yn fwyaf arbennig y diffyg tystiolaeth i ddangos sut roedd incwm o'r maes parcio wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y Carchar a'r Llys dros gyfnod pum mlynedd y brydles. Nododd yr aelodau fod y cynllun yn canolbwyntio'n bennaf ar gynnal praesept isel gyda rheolaeth barhaus o'r maes parcio yn cyfrannu at y nod hwnnw. Nid yw'r cynllun ychwaith yn nodi strategaeth ail-fuddsoddi glir yn y dyfodol ar gyfer y Carchar a'r Llys. Am y rhesymau a nodwyd, daeth aelodau i'r casgliad nad oeddent yn gallu cymeradwyo'r cais.
Penderfynwyd gwrthod y cais a gyflwynwyd mewn cynllun busnes gan Gyngor Tref Biwmares i drosglwyddo Maes Parcio’r Castell, Biwmares i’r Cyngor Tref, a chynnig prydles newydd iddynt hyd at 31 Mawrth 2026 yn seiliedig ar yr un amodau â’r brydles wreiddiol.
Dogfennau ategol: