Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n gwyro

10.1 – VAR/2025/6 – Bryn Brochan, Talwrn

VAR/2025/6

 

10.2 – VAR/2025/53 – Dyfria, Ty Croes

VAR/2025/53

 

Cofnodion:

10.1       VAR/2025/6 – Cais o dan Adran 73A i amrywio amod (13) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 23C325 (newid defnydd yr adeilad allanol i annedd, addasu ac ehangu ynghyd a chodi modurdy a storfa goed) er mwyn cynyddu maint a diwygio dyluniad yr estyniad i'r cefn yn Bryn Brochan, Talwrn.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo er bod y cynnig yn groes i Bolisi TAI 7 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm bod y caniatâd cynllunio blaenorol, 23C325,  ar gyfer troi adeilad allanol yn annedd, ynghyd ag addasiadau ac estyniadau a chodi garej a storfa goed ym Mryn Brochan, Talwrn ei gymeradwyo ar 9 Medi, 2015.  Cymeradwywyd y cais cynllunio o dan y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol, a oedd yn caniatáu troi adeiladau allanol yn anheddau preswyl. Mae’r caniatâd cynllunio blaenorol wedi cael ei ddiogelu drwy Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon sy’n cadarnhau bod y gwaith ar y safle wedi cychwyn; felly, mae opsiwn wrth gefn ar gyfer y safle ac mae hyn yn ystyriaeth berthnasol.   Mae’r cynnig yn gwyro oddi wrth Bolisi TAI7 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd am ei fod yn darparu uned breswyl marchnad agored.  Fodd bynnag, mae opsiwn wrth gefn gan fod Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol ar gyfer uned breswyl marchnad agored. Mae hyn yn ystyriaeth berthnasol yn nhermau cynllunio ac mae’n eithriadol o bwysig.  Dyma gais i amrywio’r cais a gafodd ei gymeradwyo’n flaenorol er mwyn cynyddu maint a newid dyluniad yr estyniad yn y cefn.  Roedd yr estyniad a gafodd ei gymeradwyo’n wreiddiol yn mesur 4.4m x 3.8m x 3.9m o uchder.  Bydd yr estyniad arfaethedig yn mesur 8.2m x 6.7m gydag uchder o rhwng 3 - 3.7m oherwydd lefel y tir ar y safle.  Bydd yr estyniad newydd yn cynnwys un ystafell wely ychwanegol, cegin newydd ac ardal fwyta ac eistedd.  Bydd yr estyniad yn cynyddu maint yr adeilad allanol gwreiddiol tua 61%.  Derbynnir fod hyn yn ychwanegiad sylweddol mwy na’r hyn a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ailadeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad; fodd bynnag, gan ei fod yn Adeilad Rhestredig Gradd II, mae’r pwysigrwydd i warchod yr adeilad rhestredig adfeiliedig yn drech na’r canllawiau.  Mae dyluniad yr estyniad yn cyd-fynd â chymeriad hanesyddol yr adeilad rhestredig ac yn ei barchu.  Mae’r dyluniad a’r deunyddiau o ansawdd uchel a chredir bod diffiniad clir rhwng yr adeilad allanol gwreiddiol a’r estyniad newydd.   Mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r safonau parcio ac yn darparu gwelliannau ecolegol digonol.  Mae’r Swyddog yn argymell caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Ifan Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

10.2 VAR/2025/53 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (05) o ganiatâd cynllunio rhif 28C397A (Newid defnydd adeilad allanol i annedd) er mwyn newid y dyluniad yn Dyfria, Tŷ Croes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo er bod y cynnig yn groes i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod y cais gwreiddiol i droi’r adeilad allanol yn annedd ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth preifat wedi cael ei gymeradwyo yn 2008.Cafodd y cais gwreiddiol ei gymeradwyo o dan y polisïau yn yr hen gynllun datblygu lleol, a oedd yn caniatáu troi adeiladau allanol yn anheddau parhaol. Mae amod (03) o ganiatâd cynllunio rhif 28C397A yn nodi bod rhaid cwblhau’r  mannau pasio i gerbydau cyn dechrau datblygu’r safle.  Ar ddiwedd 2021 derbyniwyd cais yn gofyn am Dystysgrif Cyfreithlondeb i gadarnhau bod y mannau pasio, yn gysylltiedig â chaniatâd 28C397A, wedi cael eu cwblhau cyn 12/03/09 er mwyn diogelu’r caniatâd. 

Ar ôl asesu’r dystiolaeth a gyflwynwyd cadarnhawyd bod y gwaith wedi dechrau cyn pen 5 mlynedd, ac felly mae’r cais gwreiddiol wedi’i ddiogelu.  Felly, mae opsiwn wrth gefn ar gyfer y safle, ac mae hyn yn ystyriaeth o bwys.  Mae’r polisi hwn yn gwyro oddi wrth Bolisi TAI7 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fodd bynnag, mae opsiwn wrth gefn yn bodoli gan fod Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon ar gyfer uned breswyl marchnad agored.  Mae hyn yn ystyriaeth cynllunio berthnasol ac yn eithriadol o bwysig.  Fel rhan o’r bwriad bydd maint yr estyniad ar yr ochr ogleddol tua 150mm yn fwy o ran hyd a lled, bydd yr estyniad ar yr ochr gorllewinol tua 800mm yn fwy o ran hyd a 150mm o ran lled a bydd crib y to tua 150mm yn is.  Ni fydd y mân newidiadau hyn yn cael effaith negyddol ar yr adeilad ac ni fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i’r adeilad carreg presennol na’i ddyluniad.  Mae’r newidiadau yn cynnwys defnyddio gwahanol ddeunyddiau a chladin pren yn hytrach na rendr.  Bydd rhai o’r ffenestri a’r drysau presennol yn cael eu symud a bydd drws newydd yn cael ei ychwanegu ar yr ochr orllewinol.  Ni fydd y newidiadau hyn yn cael effaith negyddol ar edrychiad neu gymeriad yr adeilad. Bydd y ffenestri to a gymeradwywyd yn flaenorol yn cael eu symud i’r ochr ogleddol a bydd paneli solar yn cael eu gosod ar yr ochr ddeheuol.  Ystyrir bod y paneli solar yn ddewis modern, fodd bynnag mae hawliau datblygu a ganiateir yn caniatáu gosod paneli solar penodol ar adeiladau preswyl heb ganiatâd cynllunio.  Mae’r cynnig yn cynnwys gosod un tiwb ystlumod a dau gwpan nythu ar gyfer gwenoliaid ac mae’n cydymffurfio â Pholisi AMG 5. 

Aeth ymlaen i ddweud er bod y cynnig yn groes i Bolisi TAI 7 yn y Cynllun Datblygu Lleol, mae’r datblygiad wedi cael ei ddiogelu gan fod y mannau pasio i gerbydau wedi cael eu cwblhau ar amser.  Ystyrir bod  y newidiadau i ddyluniad a maint y datblygiad yn dderbyniol. 

Dywedodd y Cynghorydd Douglas M Fowlie, sy’n Aelod Lleol bod adroddiad y Swyddog yn gamarweiniol. Mae’r adroddiad yn nodi bod perthynas iddo yn byw yn yr annedd cyfagos. Fodd bynnag, er bod yr eiddo’n rhannu’r un cod post, mae 200m i ffwrdd ar yr ochr arall i’r cae.   Aeth ymlaen i ddweud nad oedd wedi cwblhau’r gwaith papur angenrheidiol ond mae’n fodlon gwneud hynny unwaith y bydd wedi derbyn copi o’r ffurflen.  

Mewn ymateb, dywedodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y gellid ystyried hyn yn fudd personol ond gan nad yw’r Aelod Lleol yn aelod o’r Pwyllgor, caniateir iddo siarad ar y cais.

Dywedodd y Cynghorydd Fowlie nad oedd yn dymuno gwneud unrhyw sylw ar y cais. 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes ei fod yn cefnogi’r cais a nododd ei fod yn gobeithio y bydd polisi cynllunio TAI 7 yn cael ei adolygu wrth gynhyrchu’r Cynllun Datblygu Lleol newydd er mwyn caniatáu troi adeiladau allanol yn anheddau. 

Cynigiodd y Cynghorydd John I Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

Eiliwyd y cynnig i ganiatáu'r cais gan y Cynghorydd Euryn Morris.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: