Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2026/27: Cynigion Drafft Terfynol ar gyfer y Gyllideb Refeniw

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses ar gyfer gosod y Gyllideb ar gyfer 2026/27 ac yn amlygu’r prif faterion a chwestiynau Sgriwtini er mwyn llunio ymateb ffurfiol i gynigion drafft terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb refeniw. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151, a oedd yn crynhoi cynigion drafft terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb ynghyd â’r rhagolygon tymor canolig, ynghlwm yn Atodiad 1. 

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd yr adroddiad a nododd bod gofyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adolygu’r cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2026/27 a darparu ymateb ffurfiol i’r Pwyllgor Gwaith cyn i’r gyllideb fynd i’r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026.   Cafodd y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer y gyllideb eu trafod mewn manylder yn ystod y cyfarfod ar 21 Ionawr yn cynnwys y pwysau ariannol a’r heriau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu.  Nid yw’r cynigion terfynol wedi newid h.y. cyllideb o £207.029m, cynnydd arfaethedig o 5.1% yn y Dreth Gyngor a defnyddio £1.685m o arian wrth gefn i gydbwyso’r gyllideb.  Wrth osod y gyllideb arfaethedig mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cydnabod bod angen gwarchod gwasanaethau rheng flaen a chynyddu cyllidebau’r gwasanaethau oedolion a phlant er mwyn darparu ar gyfer cynnydd yn y galw yn ogystal â sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cyllid sydd ei angen arnynt i gwrdd â chynnydd mewn costau oherwydd chwyddiant.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oes unrhyw faterion wedi dod i’r amlwg ers cyhoeddi cynnig y gyllideb gychwynnol sy’n golygu bod rhaid addasu’r gyllideb wariant net, sy’n parhau ar £207.029m. Cynghorodd y Pwyllgor ynglŷn â’i ddyletswydd statudol i adrodd ar gadernid yr amcangyfrifon a digonolrwydd cronfeydd wrth gefn y Cyngor.  Eglurodd bod cyllideb 2026/27 yn seiliedig ar asesiad o’r costau ac incwm a ragwelir yn ystod y flwyddyn ariannol sydd i ddod a bod rhagdybiaethau’n cael eu defnyddio a risgiau’n cael eu nodi. Mae’r prif risgiau wedi’u nodi yn adran 5 yn yr adroddiad ac ar ôl ystyried yr holl risiau, a’r camau lliniaru, barn y Swyddog Adran 151 yw bod y cyllidebau’n gadarn ac yn gyraeddadwy, ac mae lefel iach balansau cyffredinol a chronfeydd a glustnodwyd presennol y Cyngor yn ddigon i liniaru’r risgiau a nodwyd. O ran y rhagolygon tymor canolig nododd, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf, y bydd rhaid gwneud arbedion sylweddol yn 2027/28 a 2028/29 yn ogystal er bod cryn ansicrwydd o hyd ynglŷn â chwyddiant, dyfarniadau  cyflog a’r galw am wasanaethau.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, gyfeirio at gasgliadau’r Panel yn dilyn ei gyfarfod ar 12 Chwefror 2026, lle cafodd y cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2026/27 eu hystyried. Ar ôl ystyried yr holl ddogfennau a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ac ar ôl nodi nad yw’r cynigion drafft terfynol ar gyfer y gyllideb yn wahanol i’r cynigion cychwynnol, penderfynodd y Panel gefnogi’r cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2026/27 fel y’i cyflwynwyd a’u hargymell i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. 

 

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r pwyllgor ynglyn â’r cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2026/27, rhoddodd y Swyddogion ac Aelodau Portffolio ragor o eglurhad.  Eglurwyd: 

 

·           Bod y £146,100 a ddyrannwyd ar gyfer archwiliadau diogelwch bwyd yn 2026/27 a’r £64,000 o 2028/29 ymlaen er mwyn cynyddu capasiti fel y gellir mynd i’r afael â’r ôl-groniad gan fod tua 700 o fusnesau nad ydynt yn fusnesau risg uchel yn dal i aros am archwiliad.  Mae’r ôl-groniad o ganlyniad i’r cyfyngiadau a gyflwynwyd yn ystod y pandemig a’r gofynion rheoleiddio newydd a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu ac archwilio safleoedd megis salonau tatŵ a harddwch, sydd wedi cael blaenoriaeth.  Mae’r tanberfformiad yn y maes hwn hefyd wedi cael eu nodi yn ystod y broses o fonitro’r cerdyn sgorio. Nod y buddsoddiad yw cynyddu capasiti  er mwyn cael gwared ar yr ôl groniad, ac yna gwella capasiti er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu cwblhau’r nifer ofynnol o archwiliadau bob blwyddyn.

·           Mae’r £364,000 a ddyrannwyd ar gyfer seiberddiogelwch  yn adlewyrchu’r risg cynyddol o ymosodiad seiberddiogelwch sydd wedi’i nodi fel risg ar y gofrestr risgiau strategol.  Bwriedir defnyddio’r arian i gefnogi’r paratoadau, amddiffyniad a threfniadau parhad busnes pe byddai ymosodiad, a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r Fframwaith Asesu Seiber. Bydd y swm yma’n cael ei gadw mewn cronfa wrth gefn nes bo’r Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio newydd wedi cael cyfle i adolygu’r sefyllfa a chadarnhau faint o gyllid sydd ei angen, naill ai’r swm cyfan neu rywfaint ohono, a bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei ddychwelyd i’r Gronfa Gyffredinol. 

·           Mae’r gwaith o ddrafftio, ymgynghori a chwblhau’r Cynllun Datblygu Lleol yn mynd i gostio oddeutu £800k.  Mae £500k wedi cael ei glustnodi ond mae’r £300k yn ychwanegol heb ei ariannu. Drwy gynnwys £100k yn y gyllideb refeniw hyd at 2028/29, pan mae disgwyl i’r Cynllun gael ei gyhoeddi, gellir cwblhau’r cynllun ac ariannu’r holl gostau.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 eglurhad pellach o’r costau’n gysylltiedig â’r Cynllun Datblygu Lleol.

·           Er bod y setliad ariannol terfynol yn well na’r disgwyl, nid yw’n ddigon i gwrdd â’r cynnydd mewn costau a wynebir gan y Cyngor. Ond, heb yr arian ychwanegol byddai’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn uwch.  Fel pob awdurdod gwledig arall, mae Ynys Môn dan anfantais gan fod y fformiwla ariannu yn seiliedig ar boblogaeth sy’n golygu bod cynghorau â llai o boblogaeth yn derbyn llai o gyllid er bod y gost o ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn aml iawn yn uwch o lawer.  Mae’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn debyg i’r hyn y mae’r cynghorau eraill yn y rhanbarth yn ei gynnig sydd hefyd yn wynebu’r un pwysau.

·           Mae lles trigolion Ynys Môn bod amser yn elfen ganolog o drafodaethau’r Pwyllgor Gwaith, yn enwedig yn gysylltiedig â’r gyllideb, a’r nod yw gwarchod y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt, yn enwedig y bobl fwyaf bregus.  Fodd bynnag, gyda chynnydd prin yn yr arian a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru, costau cynyddol a chynnydd yn y galw am wasanaethau, er mwyn gosod cyllideb gytbwys yr unig opsiwn sydd ar gael i’r Cyngor yw lleihau gwasanaethau, cynyddu’r Dreth Gyngor neu ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.  I gefnogi trigolion sy’n wynebu trafferthion ariannol, mae’r Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn cefnogaeth a chyngor gan y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth a Chanolfan J.E. O’Toole.  Hefyd, mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gael i unigolion sy’n cael trafferth talu’r dreth gyngor.

·           O ran y cynnydd yn y galw am ofal cymdeithasol i blant a chost lleoliadau, er bod bwriad da y tu ôl i bolisi Llywodraeth Cymru i symud tuag at fodel nid er elw ar gyfer gofal plant yng Nghymru, mae llai o leoliadau ar gael o ganlyniad ac mae hyn wedi cynyddu’r gost yn ystod y cyfnod pontio.  Mae’r Cyngor wedi buddsoddi mewn pob math o wasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar ac mae’n parhau i ehangu ei fodel Cartrefi Clyd.  Nod y dull hwn yw darparu amgylchedd cefnogol, sy’n debycach i gartref teuluol drwy ddarparu cartrefi preswyl bach o fewn y gymuned.  Yn ogystal â chynnig profiad mwy personol a mwy o sefydlogrwydd ar gyfer y plentyn, mae’r model yn gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar leoliadau allsirol costus.  Fodd bynnag, mae angen darpariaeth arbenigol ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, ac felly mae’n bosib y bydd lleoliadau allsirol yn dal i fod yn angenrheidiol.

 

Rhoddodd yr Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol amlinelliad o’r gost a disgrifiodd y strwythur a threfniadau gweithredol ar gyfer y model Cartrefi Clyd.

 

·           Mae’r risgiau ariannol wedi’u nodi yn adran 5 yn yr adroddiad.  Mae’r rhain yn cynnwys ansicrwydd yn gysylltiedig â chwyddiant tâl gan nad yw’r cynnig tâl ar gyfer staff NJC wedi cael ei gytuno eto ar gyfer 2026/27 a chan nad oes penderfyniad ynglyn â’r dyfarniad cyflog i athrawon, chwyddiant prisiau a newidiadau i gyfraddau llog.   Mae argaeledd grantiau yn parhau i fod yn risg gan fod grantiau’n darparu £30m o incwm.  Mae risgiau pellach yn gysylltiedig â chynhyrchu incwm e.e. ym maes hamdden, cynllunio a pharcio lle gall y cynnydd parhaus mewn costau byw effeithio ar y galw, a’r galw am wasanaethau yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol a digartrefedd.  Mae’r risgiau eraill yn cynnwys amrywiadau yn y premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag a chyfraddau casglu’r Dreth Gyngor yn sgil yr heriau costau byw ehangach.   Wrth osod y gyllideb, mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau cydbwysedd rhwng y risg o fod yn rhy optimistaidd pan fo’r rhagolygon yn rhy bositif a chostau wedi eu hamcangyfrif yn rhy isel a’r risg o fod yn rhy ofalus pan fo’r rhagolygon yn rhy geidwadol ac o ganlyniad cynyddu’r Dreth Gyngor yn uwch na’r hyn sydd ei angen. 

 

Ar ôl craffu ar y cynigion drafft terfynol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2026/27 ac ar ôl ystyried y materion a godwyd yn ystod y drafodaeth a’r ymatebion a ddarparwyd gan y Swyddogion ac Aelodau Portffolio penderfynwyd cefnogi’r cynigion drafft terfynol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2026/27 fel y’i cyflwynwyd a’u hargymell i’r Pwyllgor Gwaith yn cynnwys y cynnydd arfaethedig o 5.1% yn y Dreth Gyngor sy’n golygu y bydd eiddo Band D yn talu £1,792.98, defnyddio £1.685m o gronfeydd wrth gefn i gydbwyso’r gyllideb a chadw’r premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag ar 100%. 

 

(Fe wnaeth y Cynghorwyr Jeff Evans, Aled M. Jones ac R. Llewelyn Jones atal eu pleidlais)

 

Dogfennau ategol: