Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2026/27:Cynigion Drafft Terfynol ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses ar gyfer gosod y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2026/27 ynghyd â’r prif faterion a chwestiynau Sgriwtini ar gyfer gwerthuso cynigion drafft terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb gyfalaf.  Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, sy’n crynhoi’r cynigion terfynol ar gyfer gwariant cyfalaf yn 2026/27, ynghlwm yn Atodiad 1.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd a nododd bod y gyllideb gyfalaf yn parhau i fod yn dynn a bod hynny’n cyfyngu ar allu’r Cyngor i wneud cynnydd gyda phrosiectau newydd.  Mae benthyca yn opsiwn, ond mae risg ariannol yn gysylltiedig â hynny a chostau refeniw parhaus.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y gyllideb gyfalaf yn cael ei llywio gan Strategaeth Gyfalaf 2026-2031, sy’n blaenoriaethu gwarchod a chynnal asedau, manteisio i’r eithaf ar gyllid allanol, cwrdd â chyfrifoldebau statudol a pharhau i gefnogi’r Rhaglen Cymunedau Dysgu.  Er bod y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27 £155k (3.15%) yn uwch na’r dyraniad ar gyfer 2025/26, nid yw’n gwneud iawn am y gostyngiad yng ngwerth gwirioneddol y cyllid oherwydd effaith chwyddiant. Mae modd i’r Cyngor fenthyca i ariannu gwariant cyfalaf ond mae hynny’n creu costau refeniw gan fod rhaid ad-dalu benthyciadau. Mae’r rheolau Rheoli Trysorlys yn cyfyngu faint o arian y gall cynghorau ei fenthyca’n gyfrifol.

 

Er bod y Grant Cyfalaf gan Lywodraeth Cymru’n cael ei ddefnyddion bennaf i gynnal asedau, mae’r rhaglen a’r gyllideb gyfalaf hefyd yn cynnwys prosiectau allweddol eraill - gwelliannau i Bier a Phontynau Porthaethwy (£225k); Cam 2 o’r gwaith adnewyddu yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur (£1.65m), a’r gwaith diweddaru yng nghanolfannau ailgylchu Penhesgyn a Gwalchmai (£3.806m) sy’n cael ei ariannu’n bennaf drwy’r cynllun eEPR.  Hefyd, mae’r Cyngor wedi derbyn £1.5m o Gronfa Balchder Bro Llywodraeth y DU i ddarparu gwelliannau sy’n cael eu harwain gan gymunedau.

 

Mae Rhaglen Gyfalaf arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2026/27 (CRT) werth cyfanswm o £31.572m ac mae’n canolbwyntio ar fuddsoddi yn y stoc bresennol er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â SATC (£15.71m); cyfleuster gofal ychwanegol a phreswyl ym Mhorthaethwy (£14.001m); datblygiadau tai newydd (£1.498m ond gydag ychwanegiadau posib yn ystod y flwyddyn); a phrynu cerbydau newydd ar gyfer yr Uned Cynnal a Chadw Tai (£363k).  Mae cyllid y CTR wedi cael ei glustnodi sy’n golygu bod rhaid defnyddio adnoddau refeniw a chyfalaf at ddibenion tai yn unig.  Pan gaiff ei gyfuno â chyllideb gyfalaf y Gronfa gyffredinol, rhy hyn gyllideb gyfalaf arfaethedig o £54.084m ar gyfer 2026/27.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Geraint Bebb, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, gyfeirio at gasgliadau’r Panel yn dilyn ei gyfarfod ar 12 Chwefror 2026, lle cafodd y cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb gyfalaf 2026/27 eu hystyried. Wrth adolygu’r rhaglen gyfalaf a chyllideb arfaethedig nododd y panel bod gwariant cyfalaf o’r Gronfa Gyffredinol yn rhoi blaenoriaeth i asedau presennol yn cynnwys adeiladau’r Cyngor, ysgolion, cerbydau, seilwaith TG, priffyrdd a Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.  Ar ôl ystyried yr holl ddogfennau a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, penderfynodd y Panel gefnogi’r cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb gyfalaf 2026/27 fel y’i cyflwynwyd a’u hargymell i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. 

 

Mewn ymateb i gais am eglurhad ynglyn â’r CRT, eglurodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd sut y caiff incwm rhent ei ddefnyddio a’r modd y caiff rhenti eu sybsideiddio, ac eglurodd er nad yw’r ffigurau manwl ar gael, bod modd eu darparu.  Amlygodd mai un o’r prif heriau sy’n wynebu’r CRT yw’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cap ar faint o rent y gellir ei godi fel bod lefelau’n is na chwyddiant sy’n golygu nad yw incwm rhent, sef prif ffynhonnell ariannu’r CRT, wedi codi ar yr un cyflymder â chostau.   O ganlyniad, mae llai o gapasiti i fuddsoddi yn y stoc bresennol, datblygu tai newydd a pharhau i gwrdd â SATC.  Mae’r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod rhenti’n parhau i fod yn fforddiadwy ac yn seiliedig ar fethodoleg Rhenti Byw Joseph Rowntree, mae rhenti’r Cyngor yn parhau i fod yn unol â’r trothwyon fforddiadwyedd.

 

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 amlinellu pwrpas y CRT, y modd y caiff ei gyllido a’r math o wariant y mae’n ei gefnogi ac fe wnaeth hefyd egluro’r berthynas gyda chymdeithasau tai fel partneriaid allweddol ar gyfer darparu tai cymdeithasol newydd. 

 

Nododd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol bod y Cyngor wedi cyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol yn ystod tymor y Senedd bresennol drwy gydweithio â chymdeithasau tai.  Er bod y Cyngor wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu tai cymdeithasol newydd yn unol â Chynllun Busnes y CRT, bydd y Cynllun yn wynebu pwysau cynyddol oni bai bod y cap ar renti’n cael ei godi, bod ychwaneg o gyllid ar gael neu gyfalaf a bod cynlluniau datgarboneiddio’n cael eu gohirio.  Pwysleisiodd bod rhaid i fenthyca o fewn y CRT barhau i fod yn fforddiadwy.

 

Ar ôl craffu ar y cynigion drafft terfynol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2026/27, ac ystyried y materion a godwyd yn ystod y drafodaeth a’r ymatebion a ddarparwyd gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio, penderfynwyd cefnogi’r cynigion drafft terfynol ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2026/27 fel y’u cyflwynwyd a’u hargymell  i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dogfennau ategol: