Cofnodion:
7.1 FPL/2025/275 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw lloches cae yn Aberhoccwn, Hermon
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2026 argymhellodd yr aelodau y dylid cynnal ymweliad safle, a chynhaliwyd ymwelid safle ar 18 Chwefror, 2026.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Ms Nia Hughes, yr ymgeisydd o blaid y cais, a dywedodd ei bod wedi bod yn cadw anifeiliaid ers dros 30 mlynedd a’i bod yn lleol ac yn byw yn Niwbwrch. Dywedodd bod ganddi dorllwyth o ddefaid Ryeland prin, dwy ferlen, alpacaod a chŵn. Bwriad y lloches yw gofalu am yr anifeiliaid. Mae lloches wedi bod ar y safle ers 2010. Cafodd y lloches wreiddiol ei adeiladu ar ôl cael caniatâd cynllunio ond cafodd ei ddinistrio mewn storm yn 2013. Am resymau diogelwch, penderfynwyd dymchwel y lloches a chodi lloches arall yn is i lawr gan fod y lloches wreiddiol yn amharu ar olygfeydd bwthyn bach Aberhoccwn. Dywedodd nad oedd yn ymwybodol bod angen cysylltu â’r Adran Cynllunio a bod angen caniatâd cynllunio i ailadeiladu’r lloches gan fod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi yn y gorffennol. Nododd bod rhaid iddi aros yn y lloches 2 i 3 mis o’r flwyddyn i ofalu am yr anifeiliaid yn ystod y tymor wyna. Aeth ymlaen i ddweud ei bod wedi cael sylwadau positif am y lloches dros y blynyddoedd gan drigolion lleol ac ymwelwyr.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i gadw’r lloches bresennol ar y safle, sy’n cynnwys ystafell ar gyfer cadw anifeiliaid, decin â gorchudd, cawod, toiled a sinc. Mae’r cais hefyd yn cynnwys cadw’r garafán deithio sydd yn sownd yn y lloches. Yn ystod ymweliad safle ar 18 Chwefror, 2026 roedd dafad a dau oen yn y lloches a gwellt ar y llawr. Roedd y drysau Ffrengig wedi cael eu tynnu ac roedd rhai o’r ffenestri wedi cael eu bordio. Yn ystod ymweliad gan Swyddog Gorfodi ym mis Awst 2025, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y lloches erioed wedi cael ei defnyddio i gadw anifeiliaid ac roedd y lloches wedi’i dodrefnu gyda soffa a dodrefn eraill yn ogystal â stôf goed. Pan ymwelodd y Swyddog Achos â’r safle ym mis Rhagfyr 2025, roedd 3 alpaca yn y lloches. Roedd yn glir bod y garafán a'r ystafell gawod wedi cael eu defnyddio am gyfnod hir ac nid oedd yn ymddangos bod y lloches yn cael ei defnyddio fel lle dros dro i lochesu. Mae’r ffaith bod y garafán wedi cael ei chysylltu i’r tanc septig hefyd yn profi bod y lloches yn cael ei defnyddio’n barhaol. Nid yw’r llawr pren yn addas ar gyfer anifeiliaid, gan y bydd yn pydru a bydd baw yn syrthio rhwng yr estyll. Fe ddylai’r llawr fod yn llawr concrid fel y gellir rhoi gwellt glân i’r anifeiliaid. Aeth ymlaen i ddweud nad yw maint a dyluniad yr adeilad presennol yn addas. Ers mis Rhagfyr 2025, mae’r perchennog wedi ceisio troi’r adeilad yn lloches i anifeiliaid ond nid yw rhoi ychydig o anifeiliaid yn yr adeilad, fel y gwelwyd yn ystod yr ymweliad, yn golygu bod y strwythur wedi cael ei ddefnyddio fel lloches i anifeiliaid a’i fod yn addas i’w bwrpas mewn lleoliad sensitif yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Argymhellwyd bod y cais yn cael ei wrthod.
Dywedodd y Cynghorydd Arfon Wyn, Aelod Lleol, bod y lloches wreiddiol wedi cael ei dinistrio mewn storm a bod y lloches newydd mewn lleoliad gwell ac nad yw’n amharu ar fwthyn Aberhoccwn, sy’n adeilad rhestredig Gradd II. Mae’r lloches yn cael ei defnyddio gan y perchennog yn ystod y tymor wyna ac i ofalu am yr anifeiliaid.
Dywedodd y Cynghorydd John Ifan Jones, Aelod Lleol, mai cais am loches i anifeiliaid yw hwn, a nododd bod gan y rhan fwyaf o ffermydd a thyddynnod lochesi pren i ofalu am eu hanifeilaidd a’u bod wedi cael eu hadeiladu â hawliau datblygu a ganiateir. Nododd bod y lloches wedi cael caniatâd cynllunio yn 2010 a 2013. Mae adroddiad y Swyddog yn nodi y dylid gwrthod y cais am resymau ecolegol a thirweddu, ac nad oes angen asesiad effaith. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno unrhyw sylwadau yn gysylltiedig â’r cais, nid yw Cyngor Cymuned Bodorgan wedi cyflwyno unrhyw sylwadau chwaith ac nid oes unrhyw lythyrau o wrthwynebiad wedi dod i law ynglŷn â’r bwriad. Dywedodd bod adroddiad y Swyddog yn nodi nad yw’r lloches yn cael unrhyw effaith andwyol ar y bwthyn gerllaw, sy’n adeilad rhestredig Gradd II. Cyfeiriodd y Cynghorydd John Ifan Jones at y polisïau cynllunio a nododd bod polisi cynllunio PCYFF 3 yn cyfeirio at ansawdd adeiladau a’r hyn sydd o’u hamgylch a deunyddiau cynaliadwy; mae’r lloches wedi’i gwneud o bren ac mae hyn yn cyd-fynd â’r hyn sydd o’i hamgylch ac mae’n strwythur gweddol fach. Mae polisi PCYFF 4 a PS 5 wedi cael eu defnyddio i argymell gwrthod y cais, ond mae’r ymgeisydd wedi defnyddio deunyddiau sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd o amgylch y safle. Mae’r datblygiad yn cydymffurfio â pholisi cynllunio PCYFF 4 a PS 19. Roedd o’r farn bod angen lloches o’r fath ar yr ymgeisydd er mwyn ei galluogi i ofalu am ei hanifeiliaid, yn enwedig ei defaid Ryeland prin. Roedd hefyd o’r farn bod y cais yn cydymffurfio â pholisi cynllunio TAN 6 ac AMG 1.
Cyfeiriodd y Cynghorydd John Ifan Jones at y garafán ar y safle sy’n garafán deithio y gellir ei symud oddi ar y safle. Roedd o’r farn y gellid gosod amodau ar unrhyw ganiatâd er mwyn cuddio’r lloches yn well ar y safle. Roedd o’r farn bod y toiled a’r sinc yn hanfodol er mwyn gofalu am yr anifeilaidd ar y tir ac y dylid cefnogi ffermio tymhorol.
Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i sylwadau’r Aelodau Lleol a dywedodd nad oes gwrthwynebiad i’r lloches gan fod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi yn 2013. Nododd nad oedd yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel lloches i anifeiliaid tan yn ddiweddar ac nad yw’r ffaith bod yr adeilad yn un pren yn ystyriaeth berthnasol gan fod y strwythur wedi cael ei ddylunio fel caban i rywun fyw ynddo. Nid yw’n addas i gael ei ddefnyddio fel lloches i anifeiliaid. Mae’n rhaid i ffermydd a thyddynnod fod yn 5 hectar neu fwy er mwyn bod yn gymwys i godi llochesi anifeiliaid dan hawliau datblygu a ganiateir. Aeth ymlaen i nodi ei bod hi’n amlwg yn ystod yr ymweliad safle bod y garafán yn cael ei defnyddio yn gysylltiedig â’r lloches ac y byddai’n rhaid tynnu’r decin er mwyn ei symud oddi ar y safle. Caniateir lleoli carafán mewn cae yn ystod y tymor wyna ond rhaid ei symud wedi hynny. Felly, mae’r garafán dan sylw’n strwythur parhaol ar y safle. Nododd mai’r defnydd sy’n cael ei wneud o’r lloches yw’r prif bryder.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Lewis ei bod hi’n siomedig gweld bod y lloches yn edrych fel bwthyn bach ym mis Rhagfyr a’i bod wedi cael ei throi’n lloches i anifeiliaid erbyn yr ymweliad safle a bod y drysau Ffrengig wedi cael eu tynnu, a’r ffenestri wedi cael eu bordio. Mynegodd bryder ynglŷn â’r tanc septig ar y safle ac y gallai hynny ganiatáu i rywun fyw ar y safle’n barhaol.
Cynigodd y Cynghorydd Jackie Lewis bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddogion. Eiliwyd y cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.
Gofynnodd y Cynghorydd Euryn Morris a fyddai modd gosod amodau i orfodi’r ymgeisydd i droi’r strwythur yn lloches i anifeiliaid. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod rhaid ystyried y cais fel ac y mae wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor, fodd bynnag pe byddai’r ymgeisydd yn cyflwyno cais pellach am loches i anifeiliaid byddai’n cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun.
Cynigiodd y Cynghorydd John Ifan Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddog. Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans bod angen lloches o’r fath mewn ardaloedd gwledig i ofalu am anifeiliaid. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Neville Evans.
Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes atal ei bleidlais.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Dogfennau ategol: