10.1 – VAR/2025/43 - High Tide, Ffordd Ravenspoint, Bae Trearddur
10.2 – VAR/2025/61 – Mount Alaw, Llanddeusant
Cofnodion:
10.1 VAR/2025/43 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (12) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif V2191b (cais manwl ar gyfer codi 5 byngalo) er mwyn diwygio’r dyluniad ar dir ger High Tide, Ravenspoint Road, Bae Trearddur.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo er bod y cynnig yn groes i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mr Elfed Williams, asiant yr ymgeisydd, o blaid y cais. Dywedodd bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ym 1973 i godi 5 byngalo ar y safle. Ym 1978 crëwyd mynedfa a rhan o’r ffordd i mewn i’r safle ac felly mae’r gwaith ar y datblygiad wedi dechrau. Yn 2008 derbyniwyd Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon i brofi bod y gwaith wedi dechrau. Aeth ymlaen i ddweud mai cais yw hwn i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) er mwyn newid dyluniad yr anheddau. Byddant ar yr un ôl troed, bydd dwy fynedfa i’r safle a byddant yn defnyddio’r un ffordd fynediad. Bydd y cynnig hefyd yn diogelu bywyd gwyllt o amgylch y safle. Bydd yr anheddau deulawr yn mesur 158m2 o’i gymharu â 147m2 yn y cais blaenorol. Mae’r Swyddogion Cynllunio yn cydnabod bod y cynlluniau diwygiedig yn cynnig gwelliant o ran maint, gosodiad y fynedfa a gofynion ecolegol. Nid oes gan y Swyddog Ecolegol na’r Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd cynllunio wedi’i roi i godi 5 annedd marchnad agored ar y safle ar 30 Tachwedd, 1973. Cyflwynwyd cais am Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon a phrofwyd bod gwaith hanfodol wedi dechrau ar y safle ac felly mae’r caniatâd ar gyfer 5 annedd wedi cael ei ddiogelu. Nododd bod caniatâd wedi cael ei roi ym 1973 i godi 5 annedd marchnad agored ar y safle ac yn dilyn hyn cyflwynwyd cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon a phrofwyd bod gwaith hanfodol wedi dechrau ar y safle. O ganlyniad, mae caniatâd cynllunio rhif V/2191B wedi cael ei weithredu’n gyfreithlon ac mae’r caniatâd ar gyfer 5 annedd marchnad agored wedi cael ei ddiogelu. Cais yw hwn i newid dyluniad, maint a gosodiad yr unedau preswyl fel eu bod yn cyd-fynd yn well â safonau a gofynion modern. Bydd yr anheddau o ansawdd uchel a byddant yn cydymffurfio â deddfwriaethau a pholisïau cyfredol. Bydd gwelliannau bioamrywiaeth yn cael eu cyflwyno yn ogystal. Ystyrir bod yr effaith ar ecoleg, y Gymraeg, mwynderau eiddo cyfagos, priffyrdd a draenio yn dderbyniol. Roedd y Swyddog yn argymell caniatáu’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Lleol, nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r newidiadau ac roedd o’r farn bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn welliant Dywedodd y dylai’r ymgeisydd ystyried rhoi enw Cymraeg ar y datblygiad yn hytrach na High Tide. Cadarnhaodd yr Asiant bod enw Cymraeg wedi cael ei ystyried ar gyfer y datblygiad. Bydd y datblygwr yn gofyn i Gyngor Cymuned Trearddur gynnig enw Cymraeg ar gyfer yr ystâd.
Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jackie Lewis.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
10.2 VAR/2025/62 - Cais yw hwn o dan Adran 73 ar gyfer amrywio amod (13) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o gais gynllunio 47C152 (trosi tai allan yn annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn addasu’r dyluniad ar dir gyferbyn â Mount Alaw, Llanddeusant.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo er bod y cynnig yn groes i bolisi TAI 17 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mrs Elin Parry-Jones o blaid y cais a dywedodd bod caniatâd wedi cael ei roi yn 2017 i ddatblygu’r safle drwy adnewyddu hen adeilad adfeiliedig a chreu cartref i deulu. Nododd y rhesymau personol dros yr oedi wrth ddechrau ar y datblygiad. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r adeilad wedi dirywio, ac mae wedi dod yn anoddach cael unrhyw weithwyr i weithio ar yr adeilad Aeth ymlaen i ddweud mai Mount Alaw fydd eu cartref ac y bydd yn rhoi cyfle iddynt fyw yn y gymuned leol ac yn agos at eu teulu.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi yn 2017 i droi’r hen adeilad carreg yn annedd preswyl marchnad agored gydag addasiadau ac estyniadau ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau. Cymeradwywyd y cais cynllunio o dan bolisïau blaenorol Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn, a oedd yn caniatáu troi adeiladau allanol yn anheddau preswyl marchnad agored. Yn Ebrill 2023 derbyniwyd Cwyn Gorfodaeth a oedd yn nodi nad oedd y gwaith a oedd wedi dechrau ar y safle yn cydymffurfio â’r caniatâd gwreiddiol a bod rhan o’r adeilad a oedd i fod i gael ei gadw wedi cael ei ddymchwel. Rhoddwyd y gorau i weithio ar y safle a chyflwynodd yr ymgeisydd gais am Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon i brofi bod gwaith wedi dechrau ar y safle. Fodd bynnag, penderfynwyd nad oedd y cais yn Gyfreithlon ar 6 Rhagfyr, 2024. Er bod yr Adran Cynllunio wedi cadarnhau bod gwaith perthnasol wedi dechrau ar y safle, nid rhoddwyd Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol gan fod yr ymgeisydd wedi dymchwel rhan o’r adeilad a oedd i fod i gael ei gadw. Roedd hyn yn golygu bod yr ymgeisydd wedi mynd yn groes i’r caniatâd gwreiddiol ac felly nid oedd yn bosib iddynt barhau â’r gwaith yn unol â’r caniatâd gwreiddiol. O ganlyniad, cyflwynodd yr ymgeisydd gais pellach i ddiwygio’r dyluniad a pharhau â’r gwaith adeiladu a ganiatawyd yn flaenorol. Derbyniwyd arolwg strwythurol oedd wedi cael ei ddiweddaru gyda’r cais cynllunio ac mae’n cadarnhau bod y tai allan mewn cyflwr gwael ac nad oes fawr o waith cynnal a chadw ac atgyweirio wedi’i wneud arnynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r peiriannydd yn datgan bod yr adeilad yn addas i’w drosi, fel y nodir yn yr adroddiad. Mae’r peiriannydd wedi cadarnhau hefyd, trwy’r asiant cynllunio, bod y gwaith ailadeiladu a ddangosir ar y cynlluniau arfaethedig yn gywir a’u bod yn adlewyrchu’r gwaith ailadeiladu sydd angen ei wneud. Mae edrychiad cyffredinol yr adeilad a’r estyniad yn eithaf tebyg i’r cynlluniau gwreiddiol heblaw adnewyddu tua 16 metr sgwâr o’r adeilad a oedd i fod i gael ei gadw. Nid oes bwriad adeiladu mwy o estyniadau fel rhan o’r cais hwn. Ystyrir bod cymeradwyo’r newidiadau’n well na gwrthod y cais a gadael adeilad ar ei hanner ar y safle. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais yn amodol ar yr amodau cynllunio yn adroddiad y Swyddog.
Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, Aelod Lleol bod y teulu wedi gorfod byw mewn carafán ers nifer o flynyddoedd i’w galluogi i ddatblygu cartref ar y safle. Dywedodd ei fod yn cefnogi’r cais a chynigodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Lewis, Aelod Lleol ei bod hithau’n cefnogi’r cais hefyd. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Lewis.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: