Eitem Rhaglen

Polisi Gostyngiadau Dewisol y Dreth Gyngor

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaethau (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnig newid i Bolisi Gostyngiadau Dewisol y Dreth Gyngor Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Byddai'r gwelliant arfaethedig yn cyflwyno gostyngiad o 100% yn y Dreth Gyngor ar gyfer aelwydydd lle mae rhywun sydd â salwch terfynol. 

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, yr adroddiad gan ddiolch i'r Cynghorydd Jeff Evans am ddod â'r mater i'w sylw ar ôl gweld adroddiadau yn y wasg am Gyngor Dinas Manceinion yn cyflwyno cynllun tebyg yn unol â'r dull a argymhellir gan elusen Marie Curie. Roedd yn falch bod y Pwyllgor Gwaith wedi gallu cynnig y newid hwn a diolchodd i'r Gwasanaeth Cyllid am gynnal yr ymchwil angenrheidiol. Y cynnig yw diwygio polisi gostyngiadau dewisol presennol y Dreth Gyngor fel bod aelwydydd lle mae rhywun sydd â salwch terfynol yn derbyn gostyngiad o 100% o'r Dreth Gyngor. Byddai'r polisi, os caiff ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn, yn dod i rym o 1 Ebrill 2026 ac yn cael ei adolygu ar ôl deuddeg mis.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod staff wedi archwilio sut roedd cynghorau eraill wedi gweithredu cynlluniau tebyg, gan gynnwys y rhai sy'n seiliedig ar dystysgrif SR1 sy'n hwyluso mynediad at fudd-daliadau a chymorth i bobl sydd â salwch terfynol. Fodd bynnag, teimlwyd y gallai dibynnu ar y dystysgrif SR1 yn unig gyfyngu ar gymhwysedd i unigolion a allai fod eisoes yn derbyn cymorth drwy'r cynllun Gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Felly, cynigir ymestyn cymhwysedd i unigolion nad oes ganddynt dystysgrif SR1 ond sy'n gallu darparu llythyr gan eu meddyg teulu yn cadarnhau bod ganddynt salwch terfynol ac efallai bod ganddynt lai na deuddeg mis i fyw.

 

Bydd y gostyngiad yn berthnasol am hyd at ddeuddeg mis neu ddau fis ar ôl y farwolaeth, pa un bynnag sy'n dod gyntaf. Mae'r effaith ariannol yn anodd ei mesur gan ei fod yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr, y band eiddo, a yw'r ymgeisydd eisoes yn derbyn gostyngiadau eraill neu ostyngiad yn y Dreth Gyngor ac a yw'r eithriad yn para am y deuddeg mis llawn. Er mwyn rheoli'r risg hon, bydd y polisi yn cael ei adolygu ar ôl deuddeg mis a chyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Roedd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn gwbl gefnogol i'r gwelliant arfaethedig, gan gydnabod bod salwch terfynol yn rhoi pwysau sylweddol ar unigolion a'u teuluoedd, ac y gall straen ariannol waethygu caledi ar ddiwedd oes. Byddai'r gostyngiad yn helpu i leihau'r baich hwnnw.

 

Penderfynwyd gwneud yr argymhellion canlynol i’r Cyngor Llawn –

 

·      Cymeradwyo’r newid i Bolisi Gostyngiadau Dewisol at y Dreth Gyngor, er mwyn cyflwyno gostyngiad o 100% ar gyfer aelwydydd lle mae unigolyn sydd â salwch terfynol yn byw, yn unol ag Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·      Gweithredu’r polisi o 1 Ebrill 2026, gan sicrhau bod proses ymgeisio a dogfennau ategol (gan gynnwys ardystiad SR1) ar waith.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau weinyddu’r cynllun a gwneud unrhyw fân addasiadau gweithredol fydd angen eu gwneud.

·      Monitro ac adolygu effaith y polisi ar ôl 12 mis a chyflwyno’r canfyddiadau i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Gohiriwyd y cyfarfod a chafwyd egwyl fer ar y pwynt hwn ac ailddechreuodd am 11:40 a.m.

 

Dogfennau ategol: