Eitem Rhaglen

Papur Ymgynghori Gweledigaeth, Amcanion ac Opsiynau

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr adroddiad y amlinellu ail gam y broses i baratoi proses Ymgynghori’r Cynllun Datblygu Lleol - Datblygu Gweledigaeth, Amcanion ac Opsiynau.  Nid yw ymgynghori ar y cynllun yn ofyniad strategol, ond mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod cymunedau a rhanddeiliaid yn cael cyfle i roi barn ar ddatblygu’r ynys yn y dyfodol.  Mae’r cam hwn yn cynrychioli’r ymgynghoriad sylweddol cyntaf wrth baratoi y Cynllun Datblygu Lleol newydd, a’r bwriad yw adnabod y prif faterion cynllunio, heriau a chyfleoedd sy’n wynebu’r Ynys; sefydlu Gweledigaeth ac Amcanion Strategol drafft; cyflwyno opsiynau ar gyfer twf a dyrannu datblygiadau’n ofodol; ymgysylltu’n gynnar er mwyn llunio’r cam nesaf, y Strategaeth a Ffafrir.  Nododd fod y prif faterion, heriau a chyfleoedd sy’n wynebu Ynys Môn wedi eu hadnabod wrth ystyried deddfwriaeth gynllunio, polisi a chanllawiau cenedlaethol, adolygu blaenoriaethau strategol y Cyngor a chwblhau gweithgarwch ymgysylltu dechreuol gyda rhanddeiliaid.  Cynaliadwyedd tai cymdeithasol, darparu seilwaith ar gyfer twf uchelgeisiol, ymateb i newid hinsawdd, hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant, gwarchod yr amgylchedd hanesyddol naturiol a rheoli adnoddau a hyrwyddo’r llunio lle a llesiant. 

 

Mae Pennod 5 yr adroddiad yn amlygu’r Weledigaeth er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn canolbwyntio ar yr holl bolisïau er mwyn gallu ei ddarparu, a bydd gweledigaeth glir a chryf ar gyfer y dyfodol wrth wraidd y ddogfen gyfan.  Dylai’r Weledigaeth ddarparu safbwynt gofodol sy’n sicrhau bod y Cynllun yn unigryw i Ynys Môn, a dylai fod yn ddisgrifiad uchelgeisiol o’r math o le fydd yr Ynys ar ddiwedd oes y Cynllun. 

 

Mae Pennod 6 yr adroddiad yn amlinellu amcanion drafft y Cyngor.  Bydd yr amcanion drafft yn sicrhau bod y weledigaeth ddrafft, fel y nodir ym Mhennod 5, yn cael ei darparu a bydd yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol. 

 

Mae Pennod 7 yr adroddiad yn cyfeirio at y trywydd polisi arfaethedig, gan roi trosolwg o’r meysydd gwahanol o fewn trywydd y polisi.  Darperir thema a chrynodeb o faes pwnc, ynghyd a throsolwg o’r cyd-destun cenedlaethol a rhanbarthol hollbwysig; newidiadau arfaethedig o bolisi/dull y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol a’r dystiolaeth ofynnol i gefnogi trywydd y polisi arfaethedig. 

 

Mae Pennod 8 yr adroddid yn edrych at sefyllfaoedd i ddatblygu tai a chyflogaeth.  Mae’n ystyried y wybodaeth gyd-destunol a ddarperir ym Mhennod 3 a 4, ac mae’n ystyried faint o gartrefi a swyddi ychwanegol fydd yn ofynnol, o bosibl, er mwyn cynllunio rhwng 2024 a 2039. 

 

Mae Pennod 9 yr adroddiad yn cyfeirio at Opsiynau Gofodol sy’n canolbwyntio at y prif setliadau, gan gydnabod Caergybi, Llangefni, Amlwch a Phorthaethwy fydd yn gweld posibiliadau twf newydd, ac i safleoedd maint bychan a chanolig yn mwyafrif y Canolfannau Gwasanaeth Lleol a Phentrefi yn ardal y Cynllun Datblygu Lleol.  Canolbwyntir ar safleoedd tir llwyd ac adfywio canolfannau trefol.  Ystyrir Datblygiad Gwasgaredig ar draws yr holl aneddiadau ar lefel sy'n gymesur â maint pob anheddiad yn seiliedig ar y boblogaeth o fewn pob anheddiad.  Bydd y Coridor Trafnidiaeth yn ystyried datblygiad ar hyd coridor yr A55 sy'n rhedeg o Borthaethwy i Gaergybi.  Byddai hefyd yn ffafrio safleoedd sydd â mynediad hawdd at ganolfannau trafnidiaeth gyhoeddus. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Cynllunio at y camau nesaf yn y broses, sef cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 5 wythnos o 16 Chwefror tan 20 Mawrth, 2026.  Bydd crynodeb o'r adborth yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor hwn.

 

Cadarnhaodd aelodau'r Pwyllgor y llwyfannau i'w defnyddio yn y broses ymgynghori.  Dywedodd Arweinydd y Tîm Polisi Cynllunio y rhoddir cyfle i’r cyhoedd ymateb i’r ymgynghoriad drwy wefan y Cyngor, a bydd copïau papur o’r ddogfennaeth ar gael mewn Llyfrgelloedd lleol a holl Swyddfeydd y Cyngor ar yr Ynys.  Yr opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan y Cyngor yw trwy blatfform Opus ar wefan y Cyngor.  Dywedodd y Cadeirydd y bydd yn gofyn i Swyddfa’r Wasg y Cyngor hysbysebu’r ymgynghoriad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Awdurdod. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Robert Ll Jones bryder bod Gwarchodfa Natur Penrhos wedi'i hepgor o'r rhestr o aneddiadau a lleoedd allweddol yn 3.2.1 o Bennod 3 yr adroddiad.  Dywedodd Cyfarwyddwr – LUC y byddai cyfeiriad at y safle yn y ddogfennaeth.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·          Cytuno ar unrhyw welliannau angenrheidiol i'r Papur Ymgynghori Gweledigaeth, Amcanion ac Opsiynau drafft;

·          Cefnogi paratoi drafft terfynol o’r Papur Ymgynghori ar y Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau;

·          Cwblhau cyfnod ymgynghori cyhoeddus pum wythnos rhwng 16 Chwefror a 20 Mawrth, 2026;

·          Rhoi awdurdod i’r Prif Swyddog Cynllunio (mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) i wneud unrhyw fân addasiadau er cywirdeb cyn cychwyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus.

 

Dogfennau ategol: