Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2026 i 2056 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol yr adroddiad gan nodi bod Cynllun Busnes y CRT yn nodi strategaeth 30 mlynedd y Cyngor ar gyfer rheoli, cynnal a buddsoddi yn ei stoc dai gan sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor. Mae'r cynllun yn ofyniad statudol i sicrhau Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru o oddeutu £2.7m ar gyfer 2026/27. Mae'n amlinellu sut y bydd y Cyngor yn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023, yn bwrw ymlaen â datgarboneiddio ac yn darparu cartrefi fforddiadwy newydd i fodloni’r galw lleol cynyddol am dai, gyda dros 950 o bobl ar y rhestr dai ar hyn o bryd. Mae'r cynllun yn cynnwys rhaglen gyfalaf gwerth £16m ar gyfer 2026/27 sy'n cynnwys gwaith SATC, diogelwch tân, addasiadau, uwchraddio cynlluniau effeithlonrwydd ynni, a £4m ar gyfer gosod paneli solar a batris. Mae hefyd yn darparu £15.5m ar gyfer datblygiadau newydd gan gynnwys cyfleuster Gofal Ychwanegol ym Mhorthaethwy, tai cyngor newydd a phrynu tai cyngor yn ôl.
Tynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones sylw at y ffaith bod y cynllun yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau, gan gynnwys cynnydd o 4.3% mewn rhent, chwyddiant o 2%, a chyfradd ddatblygu o 45 o gartrefi newydd y flwyddyn yn ystod cyfnod y cynllun, gyda chefnogaeth grantiau a benthyca. Yn gyffredinol, mae'r cynllun yn cadarnhau bod y CRT yn parhau i fod yn hyfyw, gan alluogi'r Cyngor i ymateb yn effeithiol i newid mewn poblogaeth, heriau hinsawdd a'r galw cynyddol am gartrefi addas. Mae'n ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ledled yr ynys ac i gefnogi cymunedau gwydn a ffyniannus dros y 30 mlynedd nesaf.
Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Mawrth 2026, lle ystyriwyd Cynllun Busnes y CRT 2026-2056. Wrth adolygu'r cynllun, ceisiodd yr aelodau sicrwydd ynghylch fforddiadwyedd rhenti, cymorth ac ymgysylltu â thenantiaid, y math o unedau tai sy'n cael eu datblygu a'r rhestr aros am dai. Nododd yr Aelodau hefyd fod y cynllun yn uchelgeisiol, gyda £16m o wariant cyfalaf wedi'i gynllunio yn 2026/27, ac y bydd bodloni gofynion y cynllun a safonau Llywodraeth Cymru wrth gadw rhenti yn fforddiadwy yn heriol. Yn dilyn trafodaeth, ac ar ôl ystyried yr ymatebion a roddwyd gan swyddogion a'r Aelod Portffolio i'r materion a godwyd, penderfynodd y pwyllgor gefnogi Cynllun Busnes y CRT 2026-56 a'i argymell i'w gymeradwyo'r Pwyllgor Gwaith.
Nododd y Prif Weithredwr, er bod y Cynllun Busnes yn gynhwysfawr ac yn adlewyrchu llawer iawn o waith, nid yw'r incwm sy'n dod i'r system yn ddigon. Bydd parhau â rhaglen y Cyngor o ddatblygu tai newydd, cynnal eiddo presennol a datgarboneiddio'r stoc gyfan felly yn heriol. Bydd cynnal y tair blaenoriaeth allweddol yma ar yr un lefel ag yn y blynyddoedd blaenorol yn gofyn am newidiadau ar lefel genedlaethol, a bydd hyn yn fater strategol pwysig dros y blynyddoedd i ddod.
Cadarnhaodd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith eu cefnogaeth i stoc dai y Cyngor a’u bodlonrwydd fod y stoc wedi'i gadw. Nododd yr Aelodau hefyd eu gobaith am amodau mwy cyfartal yn y dyfodol rhwng cynghorau sydd â'u stoc dai eu hunain a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Diolchwyd i'r Gwasanaeth Tai a'i dimau am eu gwaith.
Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2026-2056 i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ategol: