Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  FPL/2024/228 - Tir ger GlanynysTyddyn Mostyn, Porthaethwy 

FPL/2024/228 

 

Cofnodion:

7.1  FPL/2024/228 - Cais llawn i godi cyfleuster gofal ychwanegol a chartref gofal preswyl gyda chyfleusterau cymunedol, creu mynedfa newydd i gerbydau, gwaith i wella’r briffordd, dymchwel yr annedd bresennol ar y safle ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir ger Glanynys, Tyddyn Mostyn, Porthaethwy.

 

(Fe wnaeth y Cynghorwyr Neville Evans, Dafydd Roberts a Robin Williams ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn gysylltiedig â’r cais gan eu bod yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith sydd eisoes wedi trafod y datblygiad. Fe wnaeth yr Aelodau adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol)

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi cael ei gyflwyno gan y Cyngor.   Yn y cyfarfod ar 4 Mawrth, 2026 argymhellwyd bod ymweliad safle’n cael ei gynnal. Cynhaliwyd yr ymwelid safle ar 18 Mawrth, 2026.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Jamie Bradshaw, yr asiant, o blaid y cais. Dywedodd bod y cais ar safle sydd wedi’i ddynodi ar gyfer 40 o anheddau yn y Cynllun Datblygu Lleol, ac y byddai’n ateb y galw lleol am y math yma o lety gan ddarparu 45 fflat gofal ychwanegol a chartref gofal 26 gwely ynghyd â chyfleusterau cymorth a chaffi a bwyty a swyddfa.  Mae’r cais yn dilyn prosiectau llwyddiannus yn Llangefni a Chaergybi ac mae’n dangos ymrwymiad yr Awdurdod i ddiwallu anghenion ei holl drigolion.   Ceir mynediad i’r safle drwy Ystâd Tyddyn Mostyn a bwriedir creu mynedfa ac allanfa ar wahân.   Mae Asesiad Trafnidiaeth wedi cael ei gwblhau ac mae’n cadarnhau y gall y rhwydwaith priffyrdd lleol ymdopi â’r cynnig heb gael effaith niweidiol ar ei diogelwch a’i gweithrediad. Hefyd, ni fydd yn cael effaith o bwys ar y fynedfa i Ysgol y Bont.  Bydd y ddarpariaeth parcio’n ddigonol ar gyfer y datblygiad a bydd hefyd yn rhoi ystyriaeth i hygyrchedd y safle a’r bobl a fydd yn ei ddefnyddio.  O ganlyniad, mae’r Swyddogion Priffyrdd yn fodlon yn amodol ar osod rheolaethau ac amodau addas, a darparu Cynllun Trafnidiaeth a Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu. Mae’r datblygiad wedi cael ei gynllunio’n ofalus i barchu mwynderau a phreifatrwydd y cymdogion.  Mae’r adeilad wedi cael ei leoli’n ddigon pell oddi wrth yr adeiladau cyfagos a’i ddylunio’n ofalus.  Yn gyffredinol bydd gan yr adeilad dri llawr ac mae wedi cael ei ddylunio i gyd-fynd â lefelau’r tir. Wrth edrych ar y datblygiad o Dyddyn Mostyn dim ond dau lawr fydd yn weladwy gan y bydd y llawr isaf ar ran isaf y tir.  Bydd y coed a gwrychoedd trwchus ar y tir i'r de o'r safle yn gweithredu fel rhwystr rhwng y safle a’r tai ar hyd Lôn Las a Thyddyn Tô.  Bydd y planhigion ar hyd y terfyn yn cael eu cadw lle bo modd a bydd ychwaneg o blanhigion yn cael eu plannu  er mwyn cuddio’r datblygiad yn well.  Mae’r dyluniad o ansawdd uchel a bydd yr adeilad yn ddeniadol a modern ac yn cyd-fynd â’r safle a’i osodiad. Bydd y deunyddiau’n cael eu dewis yn ofalus a bydd y gwaith tirweddu’n sicrhau bod y datblygiad yn ymdoddi i’r hyn sydd o’i gwmpas, fel y gwelir yn yr Asesiad Tirweddu a Gweledol.  Bydd rhywfaint o effaith yn ystod y cyfnod adeiladu fel yn achos unrhyw ddatblygiad mewn lleoliad trefol.  Bydd y Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu yn ystyried hyn a bydd yr oriau adeiladu’n cael eu nodi gydag unrhyw ganiatâd, er mwyn gwarchod buddiannau trigolion. Er y bydd rhywfaint o effaith ar goed, ecoleg a bioamrywiaeth bydd yr effaith yn cael ei liniaru cymaint â phosib lle bo modd.  Bydd planhigion a choed yn cael eu plannu ar y safle ynghyd â mesurau rheoli.

 

O ganlyniad bydd y datblygid yn cynnig gwelliannau net i ecoleg a bioamrywiaeth a bydd mwy o goed yn cael eu plannu na’r coed fydd yn cael eu torri.  Mae cefnogaeth eich Swyddogion Arbenigol a barn Cyfoeth Naturiol Cymru yn dyst i hyn.   Bydd dŵr budr y draenio i’r garthffos bresennol ar Ffordd Penclip ac mae Dŵr Cymru’n fodlon â’r datrysiad hwn. Bydd dŵr wyneb yn draenio i ddraen newydd a fydd yn rhedeg o’r safle i lawr i gwrs dŵr ger y Clwb Rygbi.  Mae’r cynllun draenio wedi cael ei ddylunio’n ofalus i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y safle; ac mae’r swyddogion Draenio a Chyfoeth Naturiol Cymru’n fodlon â’r dull hwn. Mae Cynllun Rheoli Adeiladu wedi cael ei ddarparu sy’n dangos bod modd rheoli’r gwaith hwn a bydd rheolaethau pellach fel rhan o’r broses caniatâd priffyrdd.

 

At ei gilydd, mae’r datblygiad hwn yn addas ac ar safle hygyrch iawn sydd eisoes wedi cael ei ddynodi ar gyfer tai. Bydd yn galluogi’r awdurdod i ddarparu Cartref Gofal a Llety Gofal Ychwanegol i helpu i gwrdd ag anghenion trigolion yn y rhan yma o’r ynys. Mae’r dyluniad arfaethedig yn addas ar gyfer y safle a’i gyd-destun, mae’r datblygiad yn cynnwys gwaith tirweddu o ansawdd uchel a bydd y datblygiad yn edrych yn ddeniadol yn y pen draw.  Mae’r fynedfa, ecoleg a bioamrywiaeth, ynghyd â mwynderau a phreifatrwydd cymdogion, wedi cael eu hystyried yn ofalus ac mae’r dyluniad a mesurau rheoli yn mynd i’r afael ag unrhyw effaith yn llwyddiannus. Felly, wrth bwyso a mesur y cynnig, mae’r manteision sylweddol yn drech nag unrhyw effaith a achosir gan y datblygiad,   ac mae’n cydymffurfio â’r Cynllun Datblygu a pholisïau a gofynion perthnasol.

 

Roedd y Cynghorydd Robert Ll Jones yn dymuno cael gwybod sut y dewiswyd y safle a p’un a oedd unrhyw safleoedd tir llwyd wedi cael eu hystyried.   Mewn ymateb dywedodd yr Asiant bod y safle wedi cael ei ddewis gan fod angen datblygiad o’r fath yn yr ardal ac oherwydd ei fod yn agos at y prif wasanaethau ym Mhorthaethwy.   Nododd nad oedd yn ymwybodol bod unrhyw safleoedd tir llwyd wedi cael eu hystyried oherwydd maint y datblygiad, ac oherwydd bod safleoedd tir llwyd yn brin yn yr ardal.  Aeth ymlaen i ddweud bod y safle wedi cael ei neilltuo ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i godi cyfleuster gofal ychwanegol a chartref gofal preswyl gyda chyfleusterau cymunedol.  Mae’r cynnig yn cynnwys dymchwel yr annedd bresennol ar y safle a chodi Cyfleuster Gofal Ychwanegol a fydd yn cynnwys 45 o unedau hunangynhwysol, 31 uned un ystafell wely a 14 uned dwy ystafell wely, a Chartref Gofal preswyl 28 ystafell wely.   Bydd y cyfleusterau cymunedol yn cynnwys bwyty/caffi, derbynfa, a gofod ar gyfer darparu gwasanaethau cymunedol.   Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys creu ardal amwynder o amgylch y safle ynghyd â ffordd fynediad, maes parcio ac ardaloedd troi oddi ar y ffordd, ynghyd â gwelliannau i’r briffordd.   Bydd ffordd fynediad ar gyfer cerbydau tân/brys yn cael ei chreu oddi ar Ffordd Penclip.   Bydd system draenio dŵr budr a System Draenio Cynaliadwy yn cael eu gosod a bydd gwaith yn cael ei gwblhau i wella’r dirwedd a bioamrywiaeth.    Mae safle’r cais yn mesur tua 1.8 hectar ac mae wedi'i leoli rhwng Ystâd Tyddyn Mostyn i gyfeiriad y gorllewin a Ffordd Penclip i gyfeiriad y dwyrain.   Mae'r safle mewn ardal breswyl o fewn ffin ddatblygu Porthaethwy.   Mae'r safle hefyd wedi'i adnabod fel dynodiad tai yn y Cynllun Datblygu Lleol.  Ceir mynediad i’r safle drwy Ystâd Tyddyn Mostyn a bydd mynedfa newydd yn cael ei chreu er mwyn creu system unffordd.   Bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i’r briffordd yn cynnwys pibell ddraenio newydd o’r safle ar hyd y briffordd i lawr i’r clwb rygbi.   Dywedodd bod hwn yn ddatblygiad mawr a bod y cais wedi cael ei hysbysebu mewn papurau newydd lleol a thrwy anfon llythyrau at berchnogion eiddo cyfagos. Derbyniwyd 10 sylw dros y we a 11 llythyr a oedd yn gwrthwynebu’r cais.  Mae’r ymatebion i’r sylwadau a dderbyniwyd wedi cael eu crynhoi yn adroddiad y Swyddog.  

 

Nododd bod tref Porthaethwy wedi’i dynodi’n Ganolfan Gwasanaeth Lleol ym mholisi cynllunio TAI 2 yn y Cynllun Datblygu Lleol.  Mae’r polisi hwn yn cefnogi tai o fewn ffiniau datblygu, cyn belled eu bod yn cwrdd â’r meini prawf yn y Polisi.  Mae'r safle o fewn ffin ddatblygu Porthaethwy, ac mae wedi’i ddynodi i ddarparu tua 40 o unedau preswyl.  Felly, y prif bolisïau perthnasol ar gyfer y safle yw polisïau cynllunio TAI 2 a TAI 11.   Mae’r cynnig hwn wedi cael ei asesu o dan bolisi TAI 11 sef Cartrefi Gofal Preswyl, Tai Gofal Ychwanegol neu Lety Gofal Arbenigol ar gyfer yr Henoed.  Mae’r polisi’n nodi y bydd ceisiadau ar gyfer y math yma o eiddo’n cael eu caniatáu cyn belled eu bod yn cydymffurfio â'r meini prawf.  Mae’r safle mewn lleoliad hynod gynaliadwy ac mae’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadarnhau bod angen datblygiad o’r fath. Er bod nifer yr unedau’n uwch na’r twf dangosol ar gyfer Porthaethwy, mae galw clir am unedau fforddiadwy a llety arbenigol fel hyn ar Ynys Môn ac felly mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r holl feini prawf ym mholisi TAI 11.   Mae Polisi TAI 8 yn y CDLl ar y Cyd yn nodi bod rhaid sicrhau bod pob datblygiad preswyl newydd yn cyfrannu at wella cydbwysedd tai a diwallu’r anghenion a nodir ar gyfer y gymuned gyfan.  Mae Asesiad Marchnad Dai wedi cael ei gyflwyno gyda’r cais sy'n cadarnhau y byddai’r cynnig yn mynd i’r afael â’r angen am ddarpariaeth arbenigol.  Mae cynnydd sylweddol yn y galw am ddatblygiadau o’r math hwn.  Rhagwelir cynnydd o 70% yn nifer y bobl dros 85 oed ar yr ynys dros y 10 mlynedd nesaf ac mae’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi nodi bod galw sylweddol am y math yma o unedau. Bydd y cyfleuster gofal ychwanegol yn gyfleuster Dosbarth Defnydd C2 gan fod cyfleusterau cymunedol yn cael eu cynnig fel rhan o’r cynllun.  Bydd yr unedau’n cael cynnig fel llety rhent a bydd rhenti’n cael eu gosod ar lefel fforddiadwy. Bydd y cynnig yn eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn a bydd yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ynys Môn. Bydd hyn yn sicrhau bod y cyfleuster gofal ychwanegol yn darparu unedau fforddiadwy 100% ar hyd oes y datblygiad. Bydd y cyfleuster gofal ychwanegol yn darparu 32 o fflatiau hunangynhwysol un ystafell wely a 13 o fflatiau hunangynhwysol dwy ystafell wely.  Bydd yr elfen cartref gofal preswyl yn darparu 28 ystafell wely gydag “en suite” a fydd yn cael eu gosod yn unol â’r polisi gosod lleol, a bydd panel yn asesu darpar breswylwyr yn seiliedig ar eu hanghenion i sicrhau cyfuniad cytbwys o anghenion.  Mae’n bwysig nodi bod y safle wedi'i ddyrannu at ddibenion tai yn y Cynllun Datblygu Lleol, fodd bynnag, bernir na fydd yr adnodd cymunedol hwn yn cael effaith niweidiol ar y dyraniad tai gan fod llety fforddiadwy ac arbenigol yn rhan integredig o'r datblygiad.

 

Aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymlaen i ddweud bod safle’r datblygiad arfaethedig oddeutu 1.8ha. Bydd ôl troed yr adeilad oddeutu 2,450 metr sgwâr a bydd man agored o oddeutu 7,980 metr sgwâr.  Bydd yr adeilad yn gymysgedd o 2 a 3 llawr o ran uchder gan ddefnyddio topograffeg y tir.  Mae'r adeilad ar ben uchaf y safle ger Tyddyn Mostyn yn cael ei gadw ar raddfa is tra bo’r adeilad mwy wedi'i osod ar lefelau isaf y safle er mwyn lleihau'r effaith ar y dirwedd.  Bydd y rhannau â thri llawr wedi'u lleoli ar dir is ac ni fyddant yn fwy nag uchder yr adeilad ar ran uchaf y safle.  Mae'r defnydd o gerbydau wedi'i gyfyngu i'r lefel uwch ger Tyddyn Mostyn er mwyn sicrhau bod pen isaf y safle yn cael ei gadw'n rhydd o geir.   Mae'r coed aeddfed o amgylch ymyl y safle yn creu terfyn ac yn gwahanu’r datblygiad oddi wrth yr eiddo preswyl.  Mae ardal fwy o goetir i'r gogledd-ddwyrain yn darparu cefndir coediog trwchus.  Mae'r cynnig yn ystyried y lefelau tir amrywiol i sicrhau bod y dyluniad yn gweddu i’r ardal.  Mae'r trefniadau parcio wedi'u gwneud yn ofalus ar dir uwch yn agos at y fynedfa.  Mae lleoliad gofalus yr adeilad yn sicrhau bod pellter derbyniol rhwng yr adeilad arfaethedig ac eiddo preswyl presennol yn unol â’r canllawiau. Mae’r datblygiad yn bwriadu defnyddio deunydd o ansawdd uchel ac mae’r cynlluniau arfaethedig yn nodi y bydd cymysgedd o frics, gwaith cerrig, teils wal sinc, ffenestri a drysau UPVC a tho llechi naturiol; fodd bynnag, mae amod wedi'i osod ar y caniatâd i sicrhau bod manylion llawn y deunyddiau allanol yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i'w hystyried a’u cymeradwyo i sicrhau ansawdd a dyluniad o safon uchel.  Mae'r cynnig yn cynnwys dymchwel eiddo preswyl presennol a ddefnyddir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Cafwyd cadarnhad y bydd preswylwyr yr annedd yn cael eu hadleoli i leoliad arall.  Bydd angen dymchwel yr eiddo preswyl er mwyn sicrhau y gellir creu mynediad digonol i'r safle arfaethedig.  Mae'r safle yn cynnwys brigiad creigiog, ac mae amod wedi'i osod ar y caniatâd i sicrhau bod manylion llawn am waith cloddio creigiau yn cael eu darparu i'r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn dechrau'r gwaith ar y safle.  Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys codi is-orsaf drydanol.  Oherwydd y potensial i sŵn amledd isel gael ei allyrru mae angen cynnal asesiad effaith sŵn ar gyfer y datblygiad cyfan yn unol â safonau BS4142.  Bydd amod yn cael ei osod ar y caniatâd i ddarparu Asesiad Effaith Sŵn cyn dechrau'r gwaith ar y safle. Mae hyn yn caniatáu i Adran Iechyd yr Amgylchedd graffu ar lefelau sŵn cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle. 

Aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymlaen i ddweud bod dyluniad, graddfa, mas a chynllun y cynnig yn addas ar gyfer y safle.  Mae'r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad mawr; fodd bynnag, ystyrir y bydd yn ategu ac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle.  Mae'r cais yn cynnig dyluniad da ac mae cynllun y safle wedi'i ystyried yn ofalus i wneud defnydd o'r lefelau tir amrywiol ar y safle.  Mae'r deunyddiau o ansawdd uchel a byddant yn helpu i liniaru effaith yr adeilad.  Mae Arfarniad Tirwedd a Gweledol wedi'i gyflwyno gyda'r cais cynllunio i asesu'r cynnig a'i effeithiau.  Mae'r Arfarniad Tirwedd a Gweledol yn nodi y bydd y cynnig yn cael effaith niwtral ar y dirwedd ehangach yn ystod ac ar ôl y cyfnod adeiladu. Mae adroddiad y swyddog yn nodi y byddai'r cynnig yn tacluso safle sydd wedi cael ei adael a darparu cynefin, nodweddion bioamrywiaeth a nodweddion amwynder newydd.  Cyflwynwyd Asesiad Effaith Coedwigaeth (AIA) gyda'r cais cynllunio sy’n cadarnhau y bydd 141 o goed yn cael eu torri, a dwy ger y Fenai, ond dim ond 5 o'r rhain sy’n goed Categori A. Mae nifer fawr o’r rhain yn goed onnen sydd wedi’u heintio.    Yn unol â gofynion Polisi Cynllunio Cymru, dylid plannu 429 o goed i wneud iawn am y 143 o goed a fydd yn cael eu colli (h.y. 3 am bob 1). Mae 400 o goed eisoes wedi cael eu plannu ar safle Penhesgyn a bydd coed newydd yn cael eu plannu ar y safle a fydd yn darparu gwelliannau bioamrywiaeth yn ogystal â gwelliannau amwynder.    Mae nifer o welliannau bioamrywiaeth yn cael eu cynnig fel rhan o’r cais yn  cynnwys gosod Brics Gwenyn, Tiwbiau Ystlumod a Blychau Nythu ar gyfer Gwenoliaid Duon ac Adar y To, plannu Gwrychoedd, Dolydd Blodau Gwyllt a Choed Newydd, ynghyd â chael gwared ar Rywogaethau Estron Goresgynnol. Bydd y gwelliannau tirwedd ac ecolegol yn gwella’r safle presennol, sydd wedi gordyfu a heb lawer o fioamrywiaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd dwy fynedfa i gerbydau o ystâd Tyddyn Mostyn.  Bydd y ddwy fynedfa yn gweithredu fel llwybr unffordd drwy'r safle.  Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys mynediad i gerddwyr o'r safle i'r droedffordd bresennol.  Bydd mynediad pwrpasol i gerddwyr rhwng y man danfon/tacsis a'r brif fynedfa yn ogystal â digon o le i gadw beiciau/bygis ac ati.  Bydd 50 o lefydd parcio ar y safle yn cynnwys 4 bae parcio i bobl ag anableddau, 5 bae gwefru ar gyfer cerbydau trydan, 2 fae dosbarthu yn ogystal â 4 bae i barcio beiciau modur.  Bwriedir creu mynedfa hefyd ar lefel isaf y safle i'r gorllewin o Ffordd Penclip.   Bydd y fynedfa ar gau pan na fydd yn cael ei defnyddio a bydd yn cael ei defnyddio gan gerbydau argyfwng yn unig.  Mae Arfarniad Tirwedd a Gweledol wedi cael ei gyflwyno gyda'r cais cynllunio i asesu effaith y cynnig ar y briffordd a’r fynedfa.  Daw’r Datganiad Trafnidiaeth i’r casgliad bod yr isadeiledd presennol yn addas, ac nad oes unrhyw dystiolaeth bod problemau gyda diogelwch y briffordd yn yr ardal hon.  Mae'r datganiad yn cydnabod bod yr ardal mewn lleoliad cynaliadwy iawn sydd wedi’i wasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus, ac sydd o fewn pellter cerdded i ganol y dref.  Mae'r datganiad yn cadarnhau bod y ddwy fynedfa, cynllun y ffyrdd mewnol, y lle parcio a’r traffig yn dderbyniol ac yn addas ar gyfer y cynnig.  Mae Arolwg Traffig wedi cael ei gyflwyno gyda’r cais yn ogystal. Daw’r arolwg i’r casgliad na fyddai’r cynnig yn achosi anawsterau gweithredol nac anawsterau i’r rhwydwaith lleol neu gyffyrdd.  Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys gwaith gwella priffyrdd sy'n cynnwys cylchfan fach cyn mynd i mewn i Ystâd Tyddyn Mostyn.  Mae'r gwaith arall yn cynnwys adnewyddu'r trefniadau parcio presennol yn Nhyddyn Mostyn.   Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau bod y cynnig yn darparu digon o lefydd parcio ar y safle.   Mae amod wedi'i osod ar y caniatâd i sicrhau bod Cynllun Teithio yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn defnyddio'r datblygiad i helpu i leihau'r defnydd o geir.   Dywedodd hefyd y bydd y coed a gwrychoedd presennol yn gwahanu'r rhan fwyaf o'r tai oddi wrth safle'r cais.  Nid ystyrir y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith negyddol ar fwynderau'r eiddo preswyl gerllaw ac felly mae'r cynnig yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio PCYFF2.  Argymhellir bod y cais yn cael ei gymeradwyo  yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Sonia Williams, Aelod Lleol, ei bod yn croesawu cyfleuster o’r fath ym Mhorthaethwy. Fodd bynnag, mynegodd bryder ynglŷn â’r bibell ddraenio newydd o’r safle ar hyd y briffordd i lawr tuag at y clwb rygbi ynghyd â’r effaith ar drigolion yn sgil cau ffyrdd a sŵn o’r safle yn ystod y gwaith adeiladu. Mae rheolaeth traffig yn hanfodol bwysig gan fod cymaint yn defnyddio’r ffordd i fynd i’r ysgol.   Dywedodd bod rhaid cyfathrebu â thrigolion yn rheolaidd.     

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd yr holl faterion a godwyd yn cael eu hystyried gan fod y datblygiad yn ddatblygiad o bwys.  Bydd rhaid cyflwyno Cynllun Rheoli Adeiladu a Chynllun Rheoli Traffig i’r Awdurdod Cynllunio cyn dechrau ar y gwaith a fydd yn amlinellu’r effeithiau amgylcheddol a mynd i’r afael â phryderon trigolion.   Mae trafodaethau eisoes ar y gweill gyda’r Asiant ynglyn â dosbarthu nwyddau adeiladu i’r safle yn ystod y cyfnod adeiladu a bydd rhaid sicrhau bod nwyddau’n cael eu danfon y tu allan i oriau ysgol i liniaru unrhyw effaith ar yr ysgol sydd gerllaw.   Aeth ymlaen i ddweud bod y bibell ddraenio o’r safle tuag at y cae rygbi yn angenrheidiol gan fod y safle mor greigiog.   Bydd amod yn cael ei gosod i gyfyngu oriau gwaith yn cynnwys gwaith cloddio cerrig. Caniateir gweithio rhwng 8.00am a 6.00pm   Ddydd Llun i Ddydd Gwener a rhwng 8.00am a 1.0pm Ddydd Sadwrn. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud ar y Sul nac ar Wyliau Banc. 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes bod angen cyfleuster Gofal Ychwanegol o’r fath ar yr Ynys, fodd bynnag rhaid mynd drwy ystâd breswyl i gyrraedd y datblygiad hwn a bydd y datblygiad yn cael effaith negyddol ar breswylwyr tra bydd y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo.   Awgrymodd y dylai’r Cyngor drafod y posibilrwydd o leihau bil Treth Gyngor y preswylwyr hyn yn ystod y cyfnod adeiladu.   Mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod lleihau bil treth gyngor preswylwyr y tu hwnt i gylch waith yr Awdurdod Cynllunio.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jeff Evans. 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Douglas Fowlie at adroddiad y Swyddog a pholisi cynllunio ISA 1 - Darpariaeth Isadeiledd, sy’n nodi y dylid ceisio cefnogaeth ariannol i sicrhau gwelliannau i isadeiledd, cyfleusterau a gwasanaethau.   Nid yw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o’r farn bod cyfraniad ariannol tuag at y ddarpariaeth gofal iechyd yn angenrheidiol.    Roedd y Cynghorydd Fowlie yn awyddus i glywed barn yr Awdurdod Cynllunio ynglyn â cheisio sicrhau cyfraniad ariannol gan y Bwrdd Iechyd tuag at y ddarpariaeth gofal iechyd.   Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymgynghorai statudol, a bod gan y Bwrdd arbenigwyr sy’n penderfynu a ddylid cyfrannu tuag at ddatblygiadau ai peidio. 

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Lewis ei bod yn cefnogi’r datblygiad ond y gallai gymryd hyd at 2 flynedd i’w gwblhau. Mae’n hanfodol bwysig felly bod trigolion yn cael eu diweddaru’n barhaus.   Aeth ymlaen i ddweud bod y safle ar dir creigiog ac roedd yn dymuno cael gwybod a fyddai’r gwaith cloddio ar y safle yn peri risg i dai cyfagos.   Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio nad yw’r safle mor agos â hynny at yr eiddo preswyl, ac mai bach iawn yw’r risg.    Aeth ymlaen i ddweud mai’r Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am y prosiect hwn ac y bydd Rheolwr Prosiect yn gyfrifol am y safle a fydd ar gael i ddiweddaru trigolion ynglyn â hynt y datblygiad. 

Roedd y Cynghorydd Robert Ll Jones o’r farn y dylai safleoedd eraill fod wedi cael eu hystyried ar gyfer y datblygiad gan fod y safle hwn yn safle tir glas.    Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y safle o fewn ffin ddatblygu Porthaethwy a’i fod wedi cael ei ddynodi ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Aeth ymlaen i ddweud bod maen prawf penodol i fynd i’r afael ag anghenion y bobl fydd yn defnyddio datblygiad o’r fath.  Mae’n rhaid i’r safle fod yn agos at fwynderau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus.  

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jeff Evans. 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd R. Llewelyn Jones atal ei bleidlais.

 

Dogfennau ategol: