Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1  FPL/2025/9 – Marian, Llanddeusant 

FPL/2025/9 

 

Cofnodion:

11.1 - FPL/2025/9 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a'r strwythurau cyfagos, codi annedd newydd ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth newydd ym Marian, Llanddeusant.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog Perthnasol, yn unol â’r diffiniad yn y cyfansoddiad.  Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais llawn yw hwn i ddymchwel yr annedd bresennol a'r strwythurau cyfagos, codi annedd newydd ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth newydd.  Gan fod y cynnig yn ymwneud ag ailadeiladu annedd, y polisi perthnasol yw TAI 13. Dylid hefyd ystyried yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Canllawiau Cynllunio Atodol - Ailadeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad (Medi 2019).   Mae’r adeilad y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu ac mae yn y cefn gwlad agored.  Mae gan yr eiddo presennol ddefnydd preswyl cyfreithiol, nid yw’n Adeilad Rhestredig ac nid oes ganddo unrhyw werth pensaernïol, hanesyddol  neu weledol fyddai’n golygu y dylid ei warchod, o ganlyniad ystyrir  bod y cynnig yn cydymffurfio â meini prawf 1 i 3 ym mholisi TAI 13.   Mae’r pedwerydd maen prawf yn cadarnhau y caniateir cynigion y tu allan i ffiniau datblygu os nad oes posib cadw'r adeilad presennol trwy ei adnewyddu neu ei ymestyn a/neu os gellir dangos nad yw atgyweirio'r adeilad presennol yn ymarferol yn economaidd; ymhelaethir ar hyn yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Ailadeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad’ sy’n nodi y dylid cyflwyno adroddiad strwythurol gyda phob cais, sy’n nodi addasrwydd yr adeilad ar gyfer ei ailddefnyddio (h.y. fel y gellir asesu’r cynnig yn erbyn maen prawf 4).   Dylai unrhyw Adroddiad Strwythurol gael ei gefnogi gan Adroddiad Cymhariaeth Costau sydd yn manylu ar y gost o gynnal gwaith adfer neu addasu’r adeilad o’i gymharu â’r costau fyddai’n gysylltiedig â dymchwel ac ailadeiladu.  Nid yw tŷ sydd angen ei foderneiddio yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer dymchwel ac ailadeiladu.  Dylai unrhyw gymhariaeth costau gynnwys y costau sy’n gysylltiedig ag atgyweirio'r broblem a ganfuwyd ac ni ddylai costau atgyweirio’r adeilad gynnwys gwaith sydd yn rhan o ddyhead yr ymgeisydd

 

Derbyniwyd Adroddiad Arolwg Strwythurol gyda’r cais cynllunio sydd wedi cael ei baratoi gan Beiriannydd Strwythurol Siartredig ynghyd ag Adroddiad Cymhariaeth Costau.   Mae Ymgynghorydd Siartredig Allanol a benodwyd gan y Cyngor wedi craffu ar yr wybodaeth ac mae’n fodlon â’r wybodaeth a gyflwynwyd.  Mae’r gost o adnewyddu’r adeilad presennol yn llawer uwch na’r gost o godi adeilad newydd ac felly ystyrir ei bod hi’n fwy economaidd hyfyw dymchwel yr adeilad a chodi adeilad newydd yn ei le.  Felly, mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r pedwerydd maen prawf.

Nid yw’r pumed maen prawf yn berthnasol yn yr achos hwn.  Mae’r chweched maen prawf yn nodi y dylid lleoli tŷ sydd i’w ailadeiladu oddi mewn i’r un ôl troed â’r adeilad presennol oni bai y gellir dangos bod ei ail leoli o fewn y cwrtil yn lleihau ei effaith gweledol a’i effaith ar fwynderau yn lleol.  Nid yw’r annedd newydd ar yr un ôl troed â’r adeilad presennol; fodd bynnag, mae tua 5m oddi wrth ôl troed yr adeilad presennol ac ar ran o ôl troed y cwt fferm carreg a fydd hefyd yn cael ei ddymchwel.  Ystyrir na fydd symud yr annedd tua 5m i gyfeiriad y Gogledd Orllewin yn cael dim mwy o effaith weledol neu ar amwynder na lleoliad yr adeilad presennol ac o ganlyniad mae’r cais yn cydymffurfio â maen prawf 6.    

Mae maen prawf saith yn nodi y dylai gosodiad a dyluniad y datblygiad newydd fod o faint a graddfa debyg ac ni ddylai greu effaith weledol sy’n sylweddol fwy na’r adeilad presennol, fel y gall ymdoddi neu integreiddio’n ddigonol i mewn i’r dirwedd.  Mae’r polisi hefyd yn nodi y gellid cefnogi annedd mwy o ddyluniad da os nad yw’n arwain at effaith weledol sylweddol fwy na’r adeilad presennol.  Fel y nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol, pan fo cyfiawnhad wedi ei dderbyn a fyddai’n golygu fod yr arwynebedd llawr angen bod yn fwy na’r adeilad gwreiddiol, ystyrir na ddylai’r ychwanegiad hwn fod yn fwy na 20% o arwynebedd llawr yr uned wreiddiol.  Mae’r annedd presennol yn fwthyn deulawr gyda nenfydau isel ar y llawr cyntaf.  Mae’r safle’n cynnwys yr annedd presennol a rhes o gytiau fferm un llawr.   Mae’r annedd presennol yn mesur 190 metr sgwâr.  Mae hyn yn cynnwys rhan o’r cwt a oedd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r tŷ gwreiddiol.   Mae gan yr annedd arfaethedig arwynebedd llawr o tua 251 metr sgwâr. Mae hyn yn gynnydd o tua 60 metr sgwâr.  Mae’r deunyddiau yn cynnwys to llechi a chymysgedd o gerrig lleol a chladin, drysau a ffenestri alwminiwm yn ogystal â balconi wedi ei adeiladu allan o bren.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cynnig yn gynnydd cymedrol o oddeutu 30% o'i gymharu â'r annedd bresennol, fodd bynnag bydd yr adeilad newydd yn integreiddio i'r dirwedd oherwydd ei ddyluniad a’i ansawdd uchel.  Ni fydd graddfa a dyluniad yr eiddo yn cael dim mwy o effaith weledol na’r annedd bresennol; ac mae’n cydymffurfio â maen prawf saith ym Mholisi TAI 13.   Nid yw’r meini prawf eraill yn berthnasol.  Nid yw’r Awdurdod Priffyrdd nac unrhyw un o’r ymgyngoreion statudol wedi codi unrhyw bryderon. Yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes, Aelod Lleol ei fod yn cefnogi’r cais a chynigodd y dylid ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: