12.1 – FPL/2025/246 - Stad Ddiwydianol Amlwch
12.2 – FPL/2026/15 - Stad Ddiwydianol Amlwch
12.3 – FPL/2025/223 – Fferm Ty Coch, Rhostrehwfa
12.4 – FPL/2025/294 - Gors Felen, Ffordd Bron Y Felin, Llangefni.
12.5 – FPL/2026/6 – Tir ger Plas Tudur, Llangefni
Cofnodion:
12.1 FPL/2025/246 - Cais llawn i greu basn cadw dŵr wyneb yn Stad Ddiwydiannol Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i leoli ar dir y meddiant yr Awdurdod Lleol a chan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y safle wedi’i leoli ar dir Canolfan Hamdden Amlwch ac Ysgol Uwchradd Ysgol Syr Thomas Jones. Nid oes modd cael mynediad i’r safle o’r briffordd a’r unig ffordd o’i gyrraedd yw drwy’r caeau. Mae’r safle gerllaw Afon Goch, sy’n llifo heibio’r safle o gyfeiriad y de. Mae’r cynnig ar gyfer creu basn cadw dŵr wyneb; bydd y basn yn gysylltiedig â’r datblygiad ar dir i’r gorllewin o’r safle ar gyfer 10 o unedau diwydiannol a gymeradwywyd o dan gais rhif FPL/2023/275. Mae’r basn dŵr wedi cael ei ddylunio ar gyfer achosion o law eithafol 1 mewn 100, yn ogystal â chapasiti ychwanegol i ddelio â mwy o law yn sgil newid hinsawdd. Fodd bynnag bydd y basn hefyd yn llenwi’n naturiol â dŵr glaw a bydd yn llecyn isel naturiol fel rhan o’r dirwedd. Bydd y basn yn cael ei adeiladu i ddal uchafswm o 1m o ddŵr ac isafswm o 100mm a bydd dŵr hefyd yn cael ei golli drwy ddulliau naturiol. Er mwyn annog pob math o blanhigion dŵr bwriedir plannu gorchudd cychwynnol. Bydd y rhan sych a’r llethrau’n cael eu hadu i greu dôl blodau gwyllt. Bydd ffens yn cael ei chodi o amgylch y safle at ddibenion iechyd a diogelwch. Rhaid cyflwyno gwybodaeth fanwl am y ffens i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a derbyn cadarnhad ysgrifenedig ganddo, cyn dechrau gweithio ar y safle.
Aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymlaen i ddweud bod newidiadau wedi cael eu gwneud i’r cynnig ers cyhoeddi rhaglen y cyfarfod yn dilyn sylwadau’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Mae’r basn dŵr wedi cael ei symud ychydig i’r gorllewin, a’i leihau o 685m² i 563m² ac nid oes angen ei gysylltu ag Afon Goch erbyn hyn. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid cael caniatâd unrhyw drydydd parti. Mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r holl bolisïau perthnasol yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd y cynnig yn sicrhau mwy o welliannau bioamrywiaeth na’r hyn sydd ar y safle ar hyn o bryd a bydd yn sicrhau bod dŵr o’r unedau diwydiannol, sydd eisoes wedi cael eu cymeradwyo, yn cael ei ddraenio’n ddigonol. Mae’r holl ymgyngoreion yn cefnogi’r cais yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Gan nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun blaenorol, argymhellir awdurdodi’r Swyddogion i benderfynu ar y cais ar ôl ymgynghori â chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ar y newidiadau. Gan fod y basn yn llai a chan nad oes angen ei gysylltu ag Afon Goch, rhagwelir na fydd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol ei fod yn cefnogi’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylai’r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo'r cais gan y Cynghorydd Euryn Morris.
PENDERFYNWYD awdurdodi’r Swyddogion i gymeradwyo’r cais ar ôl ymgynghori â chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ar y newidiadau i’r cais.
12. 1 FPL/2026/15 - Cais llawn ar gyfer addasu strwythur y ffin ar berimedr deheuol y safle, addasu lefelau’r tir ynghyd â chodi rhwyd 7 metr o uchder yn Stad Ddiwydiannol Amlwch.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i leoli ar dir y meddiant yr Awdurdod Lleol a chan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y safle wedi’i leoli ar dir Canolfan Hamdden Amlwch ac Ysgol Uwchradd Ysgol Syr Thomas Jones. Mae’r cynnig yn cynnwys diwygio’r caniatâd blaenorol drwy addasu’r lefelau tir a chodi rhwyd atal peli rygbi, o leiaf 7m o uchder, ar ochr ddeheuol y ffens berimedr ar gyfer safle’r unedau masnach. Bydd y rhwyd yn ymestyn ar hyd lled y cae rygbi a bydd rhaid symud y cae rygbi presennol o leiaf 9 metr yn ôl i gyfeiriad y de-orllewin. Mae gwelliannau bioamrywiaeth yn cael eu cynnig fel rhan o’r cais blaenorol.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol ei fod yn cefnogi’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis y dylai’r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.3 FPL/2025/223 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd yn ei lle ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol, gosod cyfleuster trin carthion a gwaith cysylltiedig yn Fferm Tŷ Coch, Rhostrehwfa.
Fe wnaeth y Cynghorydd John Ifan Jones ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus gan ei fod yn ffrindiau gyda’r ymgeisydd a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol a chan fod y Cyngor yn gyfrifol am y lôn fynediad sy’n arwain o’r B4422 i’r safle.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mrs Non Gibson, yr ymgeisydd, o blaid y cais, a dywedodd mai cais am gartref yw hwn, i fodloni gofynion teulu lleol i’w basio o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid tŷ gwyliau, tŷ rhent na thŷ i’w werthu. Cartref pedair llofft ar gyfer ei theulu. Cyfeiriodd at y materion a godwyd gyda’r cais blaenorol ym mis Mehefin 2025, a’r hyn yr oedd wedi’i wneud i gyfaddawdu a lliniaru unrhyw bryderon. Mae’r cynlluniau diweddaraf ar gyfer yr annedd arfaethedig wedi’u lleihau’n sylweddol unwaith eto. Nid yw’r siediau sy’n cael eu dymchwel wedi cael eu cynnwys wrth gymharu’r maint a chostau. Mae’r annedd bresennol yn dŷ tair llofft, ond mae’r ystafelloedd yn fychan, yn andros o dywyll a’u gosodiad yn anymarferol. Byddai ei addasu yn gostus eithriadol ac mewn gwirionedd ni fyddai tŷ wedi ei addasu fyth cystal â thŷ wedi ei gynllunio’n broffesiynol ac yn bwrpasol ar gyfer bywyd modern. Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi’n bosib ei bod hi wedi camarwain y Pwyllgor y tro diwethaf wrth gyfeirio at dai cyfagos - Bryn Gwenith a Tŷ Llwyd yn benodol - a bod y cynlluniau sydd gerbron y pwyllgor o leiaf draean yn llai na’r tai yma, ond yn wahanol i Tŷ Llwyd a Bryn Gwenith, mae Tŷ Coch wedi’i nythu allan o olwg y cyhoedd. Mae adroddiad ariannol wedi cael ei baratoi gan Syrfëwr Meintiau profiadol, a’i gymeradwyo gan SP Projects cyn ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio. Mae sawl cyfarfod a thrafodaeth wedi bod gyda Swyddogion cyn yr argymhelliad i ganiatáu’r cais yn y cyfarfod hwn. Pwysleisiodd unwaith eto bod Tŷ Coch o olwg y cyhoedd, bod y ffordd agosaf gilomedr i ffwrdd a bod cloddiau a gwrychoedd yn cuddio’r safle. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus. Cafodd y tŷ presennol ei adeiladu ar gyfer oes wahanol. Dros y blynyddoedd mae tai wedi cynyddu mewn maint er mwyn cynnwys cyfleusterau modern. Bydd y tŷ newydd yn darparu llety addas i deulu o bump, bydd yn effeithlon o ran defnydd ynni, a bydd yn cynnwys paneli solar, system wresogi ynni tir a deunyddiau modern. Ar ôl dymchwel yr adeiladau bydd y deunyddiau’n cael eu hailddefnyddio er mwyn parchu amgylchedd a hanes y safle. Mae’r tŷ newydd wedi cael ei gynllunio’n broffesiynol gan gwmni lleol Russell Hughes a bydd crefftwyr a chyflenwyr lleol yn cael eu defnyddio i gwblhau’r gwaith er mwyn cefnogi economi Môn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai dyma’r pedwerydd cais i ailadeiladu annedd ar y safle. Cafodd cais rhif FPL/2023/47 ei dynnu’n ôl ym mis Mai 2023, cafodd cais rhif FPL/2023/227 ei wrthod gan y pwyllgor ym mis Chwefror 2024 a chafodd cais rhif FPL/2024/360 hefyd ei wrthod gan y pwyllgor ym mis Mehefin 2025. Cafodd y ceisiadau hyn eu gwrthod am nad oedd gosodiad, maint, dyluniad ac edrychiad yr annedd newydd yn gwella cymeriad ac edrychiad y safle a’r ardal gerllaw a chan nad oeddent yn dangos bod modd cadw’r annedd bresennol drwy ei hadnewyddu a chodi estyniadau, ac nad oedd yn hyfyw adnewyddu’r adeilad yn economaidd. Mae pensaer yr ymgeisydd wedi gweithio’n agos iawn gyda’r Adran Gynllunio ers y cais blaenorol ac rydym bellach yn gytûn. Mae hyn oherwydd gostyngiad ym maint yr eiddo, a thystiolaeth bellach sy’n profi nad yw adnewyddu ac ymestyn yr annedd bresennol yn economaidd hyfyw na’n ymarferol. Gan fod y cynnig yn ymwneud ag ailadeiladu annedd, y polisi perthnasol yw TAI 13. Nododd y dylid hefyd ystyried yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Canllawiau Cynllunio Atodol - Ailadeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad (Medi 2019). Nododd bod yr adeilad y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu neu glwstwr dynodedig a bod y safle yn y categori cefn gwlad agored yn ôl y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Nododd hefyd bod gan yr eiddo presennol ddefnydd preswyl cyfreithiol, nad yw’n Adeilad Rhestredig ac nad yw o unrhyw werth pensaernïol, hanesyddol neu weledol fyddai’n golygu y dylid ei warchod ac o ganlyniad, mae’r cynnig yn cydymffurfio â meini prawf 1 i 3 ym mholisi TAI 13. Mae’r pedwerydd maen prawf ym mholisi cynllunio TAI 13 yn cadarnhau y caniateir cynigion y tu allan i ffiniau datblygu os nad oes posib cadw'r adeilad presennol trwy ei adnewyddu neu ei ymestyn a/neu os gellir dangos nad yw atgyweirio'r adeilad presennol yn ymarferol yn economaidd; ymhelaethir ar hyn yn y Canllawiau Cynllunio Atodol sy’n nodi y dylid cyflwyno adroddiad strwythurol a chymhariaeth costau gyda phob cais sy’n nodi’r gost o adnewyddu neu addasu’r adeilad o’i gymharu â’r gost o’i ddymchwel a’i ailadeiladu. Nid yw tŷ sydd angen ei foderneiddio yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer ei ddymchwel a’i ailadeiladu, a dylai unrhyw gymhariaeth costau gynnwys y costau sy’n gysylltiedig ag atgyweirio'r problemau sydd wedi’u nodi yn yr Adroddiad Strwythurol yn unig. Ni ddylai costau atgyweirio’r adeilad gynnwys gwaith sydd yn rhan o ddyhead yr ymgeisydd Cyflwynwyd Arolwg Strwythurol sy’n asesu cyflwr yr adeilad presennol a’i addasrwydd ar gyfer ei adnewyddu a’i ddiwygio ynghyd â chymhariaeth costau manwl sy’n amlygu’r costau’n gysylltiedig ag adfer ac adnewyddu’r adeilad a chodi estyniad syml a’r costau’n gysylltiedig â dymchwel ac ailadeiladu. Mae’r arolwg strwythurol yn nodi bod yr adeilad wedi cael ei adeiladu’n wael a bod ganddo ddiffygion sylweddol. Oherwydd ei oed a’i leoliad agored mae pryderon ynglyn â chyflwr y deunyddiau adeiladu presennol yn yr hirdymor. Daw’r adroddiad i’r casgliad mai’r opsiwn gorau a mwyaf diogel yw dymchwel yr adeilad a chodi adeilad newydd yn ei le. Mae’r peryglon strwythurol a’r risg o ddod o hyd i ddiffygion pellach yn ystod y gwaith yn is gyda’r opsiwn hwn. Mae’r adroddiad yn cymharu’r gost o adeiladu adeilad newydd gyda’r gost o adnewyddu’r adeilad presennol a chodi estyniad bach. Er bod yr annedd newydd yn fwy na’r annedd bresennol gydag estyniad, mae’r costau adeiladu’n debyg. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn y byddai dymchwel yr adeilad a chodi adeilad newydd cynaliadwy ac o ansawdd uchel yn ei le yn fwy hyfyw yn economaidd, ac felly mae’r cynnig yn cydymffurfio â maen prawf 4 ym Mholisi TAI 13. Nid yw’r pumed maen prawf ym mholisi cynllunio TAI 13 yn berthnasol gan nad yw’r adeilad arfaethedig yn disodli carafán neu siale gwyliau sydd â defnydd preswyl cyfreithiol. Mae’r chweched maen prawf yn nodi y dylid lleoli tŷ sydd i’w ailadeiladu oddi mewn i’r un ôl troed â’r adeilad presennol oni bai y gellir dangos bod ail leoli o fewn y cwrtil yn lleihau ei effaith gweledol a’i effaith ar fwynderau yn lleol. Yn ystod yr ymweliad safle, gwelwyd bod y tŷ presennol yn agos at y ffordd fynediad ac nad oedd llawer o le i barcio. Bydd y rhan fwyaf o’r ardal lle mae’r tŷ presennol wedi’i leoli yn cael ei defnyddio fel lle parcio, er mwyn gwneud defnydd mwy ymarferol o’r safle. Wrth gymharu lleoliad y tŷ presennol â lleoliad yr adeilad arfaethedig ni fydd yn cael dim mwy o effaith ar y dirwedd, yn enwedig gan y bydd yr adeilad newydd yn disodli’r adeilad allanol presennol ac ni fydd yn gorgyffwrdd â thir glas. O ganlyniad, nid oes gan yr Adran Gynllunio unrhyw wrthwynebiad i adleoli’r adeilad.
Mae maen prawf saith ym mholisi cynllunio TAN 13 yn nodi y tu allan i ffiniau datblygu dylai gosodiad a dyluniad y datblygiad newydd fod o faint a graddfa debyg ac ni ddylai greu effaith weledol sy’n sylweddol fwy na’r adeilad presennol, fel y gall ymdoddi neu integreiddio’n ddigonol i mewn i’r dirwedd. Mewn amgylchiadau eithriadol gellid cefnogi annedd mwy o ddyluniad da os nad yw’n arwain at effaith weledol sylweddol fwy na’r adeilad presennol. Mae gan yr annedd bresennol arwynebedd llawr o tua 153m², a bwriedir ei gynyddu i tua 412m² fel rhan o’r datblygiad hwn, sydd gyfystyr â chynnydd o 168% yn arwynebedd y llawr. Er bod yr annedd arfaethedig yn fwy na’r annedd bresennol, mae gan yr adeilad ddyluniad o ansawdd uchel ac oherwydd ei edrychiad, y deunyddiau a fydd yn cael eu defnyddio, a’i leoliad mewn perthynas â datblygiadau eraill a thopograffi’r ardal leol, ni fydd yn cael dim mwy o effaith weledol a bydd yn integreiddio’n ddigonol i’r dirwedd. Mae’r egwyddor o ailadeiladu anheddau mwy yn y cefn gwlad agored wedi cael ei amlygu mewn sawl apêl ers i’r Cynllun Datblygu Lleol gael ei fabwysiadu. Roedd yr apeliadau hyn yn ymwneud â cheisiadau tebyg i’r cais hwn a barnwyd gan yr Arolygydd eu bod yn cydymffurfio â maen prawf 7, gan nad yw anheddau sydd wedi’u dylunio’n dda yn achosi dim mwy o effaith weledol. Argymhellir bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol bod y cais ar gyfer teulu ifanc sy’n dymuno troi hen adeilad yn gartref drwy ailddefnyddio safle sydd eisoes wedi cael ei ddatblygu. Dywedodd y bydd y datblygiad yn gwella’r ardal a gwarchod yr amgylchedd. Cyfeiriodd at y trafodaethau helaeth yn gysylltiedig â’r cais a dywedodd ei bod yn falch bod yr adroddiad yn argymell cymeradwyo’r cais o’r diwedd.
Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis y dylai’r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Neville Evans.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ei fod wedi holi ynglyn â’r gost o adnewyddu’r adeilad presennol o’i gymharu ag adeiladu adeilad newydd yn y cyfarfod ym mis Mehefin 2025. Nododd bod Adroddiad Cymhariaeth Costau wedi cael ei gyflwyno erbyn hyn, ond bod y symiau wedi cael eu hepgor. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr wybodaeth yn yr Adroddiad Cymhariaeth Costau yn fasnachol sensitif, a bod syrfëwr allanol yn cael ei gomisiynu i ystyried adroddiadau’n annibynnol mewn perthynas â chymharu costau adnewyddu ac adeiladu.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.4 - FPL/2025/294 - Cais llawn ar gyfer codi estyniad ochr un llawr, dymchwel garej, ac ehangu'r maes parcio yn Gors Felen, Ffordd Bron y Felin, Llangefni.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y safle wedi’i leoli ar dir y meddiant yr Awdurdod Lleol a chan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hen i godi estyniad ochr un llawr, dymchwel garej a chynyddu maint y maes parcio presennol. Mae’r estyniad arfaethedig wedi’i leoli ar y drychiad gogleddol, mae’n mesur 8.8m o hyd ac mae’r lled yn amrywio rhwng 6.7m a 8m, 2.4m at y bondo a 5.7m at grib y to. Mae’n cynnwys ystafell gweithgarwch newydd, gweithdy ac ystafell newid. Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys estyniad bach ar y drychiad dwyreiniol, fydd yn cynnwys storfa allanol. Bydd y garejis to fflat yng ngogledd y safle yn cael eu dymchwel er mwyn hwyluso’r maes parcio newydd. Mae 12 lle parcio newydd a 2 lle parcio i bobl ag anableddau’n cael eu cynnig. Mae ffens diogelwch vmex 2m o uchder wedi ei gynnig ar gyfer y ffin orllewinol yn lle’r gwrychoedd sydd yno ar hyn o bryd.
Aeth ymlaen i ddweud na fydd y cynnig yn cael effaith ar yr eiddo cyfagos. Mae’r estyniad arfaethedig yn un llawr ac ni fydd yn cael ei leoli yn nes at ffin y safle na’r adeilad presennol. Bydd y ffenestri arfaethedig yn cael eu gosod ar ddrychiadau ble mae’r agoriadau presennol, ac felly ni fydd y datblygiad yn achosi goredrych nac yn arwain at effeithiau annerbyniol ar breifatrwydd eiddo cyfagos. Bydd y gwaith i drin y ffiniau, sy’n cynnwys ffens 2m o uchder, gwrychoedd aeddfed presennol a gwaith tirlunio ychwanegol, yn darparu sgrinio priodol ar hyd ffin y safle. Bernir y byddai’r effaith ar eiddo cyfagos yn ddibwys, ac o ganlyniad mae’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio PCYFF2. Ymgynghorwyd â'r Awdurdod Priffyrdd ac nid oes ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig. Mae Dŵr Cymru wedi tynnu ei wrthwynebiad dros dro yn ei ôl ar ôl derbyn manylion diwygiedig am y system draenio, yn amodol ar amodau mewn perthynas â gwarchod asedau a draenio dŵr wyneb.
Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo'r cais gan y Cynghorydd Euryn Morris.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.5 FPL/2026/6 - Cais llawn ar gyfer codi Man Chwarae Amlddefnydd (MUGA) newydd ynghyd â chodi ffens ar dir ger Plas Tudur, Llangefni.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir sy’n berchen ar y tir.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i godi Man Chwarae Amlddefnydd (MUGA) newydd ynghyd â chodi ffens. Mae’r rhan hwn o dir drws nesaf i ardal chwarae bresennol, yn ystâd dai Bro Tudur, Llangefni. Bydd yr ardal chwarae newydd yn mesur 92m² a bydd ffens 2m o uchder o’i amgylch. Bydd y ffens yn 3m o uchder y tu ôl i’r rhwyd ar y naill ochr. Mae’r cynnig y dderbyniol ac yn cydymffurfio â’r holl bolisïau cynllunio perthnasol. Nid ystyrir y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith negyddol ar fwynderau'r eiddo preswyl gerllaw.
Cynigiodd y Cynghorydd Jackie Lewis y dylai’r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo'r cais gan y Cynghorydd Euryn Morris.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: