Eitem Rhaglen

Porthladd Rhydd Ynys Môn - diweddariad ar gynnydd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd mai gweledigaeth Porthladd Rhydd Ynys Môn yw bod yn hwb fyd-eang ar gyfer arloesi, ynni carbon isel a masnach ryngwladol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, aeth y Pwyllgor ati i drafod y prif faterion canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at y grant o £1m o arian refeniw a £25m o arian sbarduno cyfalaf a nodir yn yr adroddiad. Gofynnwyd a fyddai’r arian hwn yn cael ei rannu ymysg pob safle ar yr Ynys neu a yw wedi'i fwriadu’n benodol ar gyfer hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi. Gofynnwyd hefyd a yw’r arian yn ddigon ar gyfer yr holl safleoedd ac a fydd arian ychwanegol ar gael. Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod y cyllid y cyfeiria’r adroddiad ato ar gyfer yr holl safleoedd a nodwyd ar Ynys Môn. Ar ôl llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, dywedodd y byddai cyfran gyntaf y cyllid yn cael ei ryddhau a bydd cyllid ar gael ar gyfer Safle Peboc yn Llangefni a’r adeilad newydd yn MSParc, Gaerwen. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y statws Porthladd Rhydd yn sicrhau dynodiad safleoedd treth, gan olygu fod y safleoedd yn cael eu cydnabod o dan y gyfraith fel ardaloedd daearyddol lle gall busnesau elwa o ryddhad treth. Bydd yn gyfle hefyd i glustnodi arian tuag at brosiectau fydd yn cynnal a datblygu’r economi. 

·         Nodwyd fod y statws Porthladd Rhydd yn cynnwys tri amcan, fel y noda’r adroddiad, ac un o’r amcanion hynny yw cynyddu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl leol. Gofynnwyd a yw pobl ifanc yn yr ysgolion uwchradd yn cael gwybod pa sgiliau fydd eu hangen ar fusnesau allai sefydlu ar yr Ynys, gan y bydd angen amser cyn y gellir addysgu pynciau nad ydynt yn rhan o’r cwricwlwm.  Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd y bydd arian yn cael ei ryddhau ar ôl llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Ychwanegodd fod angen bod yn ofalus cyn codi disgwyliadau o ran y math o gyfleoedd cyflogaeth allai fod ar gael, gan fod hynny’n llwyr ddibynnol ar ba fusnesau sy’n bwriadu lleoli o fewn y Porthladd Rhydd. Ni ellir rhoi arweiniad ynghylch y cyfleoedd cyflogaeth fydd ar gael cyn hynny. Dywedodd fod yr amser y mae’n ei gymryd i gadarnhau’r statws Porthladd Rhydd wedi creu rhwystredigaeth, gan fod y broses ymgeisio am y statws wedi cychwyn ers mis Medi 2022. Dywedodd y Prif Weithredwr fod Cynllun Sgiliau wedi’i baratoi a’i gyflwyno gyda’r Achos Busnes ond bydd angen ei ddiweddaru. Nododd y bydd angen profiad Coleg Menai er mwyn ymweld ag ysgolion i rannu gwybodaeth â phobl ifanc am y cyfleoedd cyflogaeth posib.  Mewn perthynas â’r Cynllun Sgiliau, dywedodd fod yr Achos Busnes yn amlygu cyflogaeth o fewn pum sector, sef ynni, adeiladu, uwch weithgynhyrchu, digidol, cyllid a sgiliau proffesiynol. Ychwanegodd fod buddsoddiad preifat i’w weld yn barod gyda’r gwaith clirio sy’n mynd rhagddo ar safle 2Sisters yn Llangefni a safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi. Awgrymodd y Prif Weithredwr y gellid gwahodd cynrychiolwyr o Goleg Menai a phrifathrawon mewn rhyw chwe mis, ar ôl datblygu’r ail Gynllun Sgiliau.

·         Gofynnwyd a fyddai’r ffaith fod Land & Lakes yn gydberchnogion tir ym Mharc Cybi yn achosi problemau. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod Land & Lakes wedi prynu dau ddarn o dir gan Rio Tinto PLC, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Penrhos sydd bellach mewn perchnogaeth breifat. Mae’r darn o dir ar safle Parc Cybi yn rhan o’r dynodiad Porthladd Rhydd. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gyda’r sector preifat ynglŷn â’r posibilrwydd o ddatblygu tir Parc Cybi. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynglŷn â safle Octel, sydd yn safle 61 acer. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod yr hen safle Octel yn eiddo i Carbon3.ai a bod trafodaethau cychwynnol yn mynd rhagddynt ar gyfer datblygu Canolfan Ddata ar y safle.

·         Gofynnwyd a yw’n bosib i safleoedd sydd wedi’u cynnwys yn y Porthladd Rhydd gael eu gwerthu’n breifat. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n bosib gwerthu’r safleoedd ar y farchnad agored gan eu bod mewn perchnogaeth breifat. Nid yw dynodiad Porthladd Rhydd yn cyfyngu ar yr hyn y gall tirfeddiannwr ei wneud â’r tir. Mae’r dynodiad yn cynyddu gwerth y tir ac mae’n fwy tebygol o ddenu mewnfuddsoddiad. Ychwanegodd fod Ynys Môn yn un o ddim ond 12 ardal fuddsoddi yn y DU o ganlyniad i waith a wnaethpwyd ar y cyd â’r sector preifat. Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd nad yw’r Awdurdod wedi cysylltu’n uniongyrchol â busnesau gan fod y safleoedd mewn perchnogaeth breifat. Nododd mai darn bychan o dir yn unig y mae’r Awdurdod yn berchen arno, ar safle Tregarnedd a Bryn Cefni. Bydd y tir yn cael ei roi ar y farchnad agored i fusnesau ei feddiannu ar ôl cytuno’r statws Porthladd Rhydd. 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch p’un a oes cyfyngiad ar y 3 safle treth a ddynodwyd ar yr Ynys fel rhan o’r Porthladd Rhydd. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd bod unrhyw Borthladd Rhydd yn gallu cael un safle tollau a hyd at 3 safle trethi. Nododd fod y safle tollau yng Nghaergybi yn safle treth a bod ganddo ddynodiad dwbl. Gellir cynnwys 600 hectar yn y safleoedd treth. 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r prif risgiau sy’n gysylltiedig â’r Porthladd Rhydd. Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r rhan fwyaf o’r risgiau a nodir yn yr adroddiad yn derbyn sylw pan lofnodir y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.  Cyfeiriwyd at reoli disgwyliadau ynglŷn â faint o gyfleoedd swyddi fydd yn cael eu creu a’r buddion i Ynys Môn. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod o’r farn mai’r prif risg yw na fydd busnesau’n lleoli ar yr Ynys a’r risg arall yw bod buddsoddiad sylweddol yn digwydd, ond nad yw’n cyd-fynd ag egwyddorion craidd y statws Porthladd Rhydd. Ychwanegodd y gallai risgiau’n gysylltiedig â’r rhyfel yn y Dwyrain Canol hefyd effeithio ar fuddsoddiadau posib gan gwmnïau sy’n bwriadu buddsoddi yn y Porthladd Rhydd ar Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         Cydnabod rôl y Cyngor mewn perthynas â datblygu Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan gynnwys cyflwyno’r Achos Busnes;

·         Cydnabod cadernid y trefniadau llywodraethu a throsglwyddo o’r Bwrdd Cysgodol i’r Bwrdd Llawn;

·         Nodi’r camau nesaf o ran sefydlu a chadarnhau’r Porthladd Rhydd

Dogfennau ategol: