Eitem Rhaglen

Diweddariad ar Gronfeydd Datblygu Economaidd Llywodraeth Prydain

 

  Diweddariad ar gyflawni y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – 2022/2026

 

    Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

 Cyllid Llywodraeth y DU – Caergybi : Trawsnewid yn seiliedig ar Ddiwylliant    a Threftadaeth

 

    Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cytunwyd i ystyried yr eitemau isod fel un eitem.

 

 

·         Diweddariad ar wireddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar Ynys Môn 2022/2026

·         Cyllid Llywodraeth y DU - Caergybi: Trawsnewid yn Seiliedig ar Ddiwylliant a Threftadaeth

 

Cyflwynwyd adroddiadau’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Gwynedd fel yr Awdurdod Arweiniol Rhanbarthol a bod y Partneriaid Cyflawni yn monitro cynnydd, gwariant a chydymffurfiaeth yn rheolaidd. Nododd fod arian grant wedi cefnogi prosiectau ledled yr Ynys a’u bod yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd hefyd at Gyllid Llywodraeth y DU : Caergybi, a nododd fod y Cyngor wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU o dan y Rhaglen Ffyniant Bro, rhaglen a ddaw i ben ym mis Mai 2026. Nododd fod tref Caergybi wedi gweld gwelliannau sylweddol yn dilyn cefnogi’r prosiectau a amlygir yn yr adroddiad. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, aeth y Pwyllgor ati i drafod y prif faterion canlynol:-

 

·     Mynegwyd pryderon am newidiadau yn y grant Cronfa Ffyniant Bro yng Nghymru o fis Mai 2026, gyda 70% o’r dyraniad yn arian cyfalaf a 30% yn arian refeniw. Mewn ymateb, dywedodd yr Arweinydd fod nifer o gyfarfodydd wedi’u cynnal i drafod pryderon am ddyfodol arian grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nododd bod Llywodraeth y DU yn disgwyl i awdurdodau lleol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon allu gweinyddu prosiectau tra bod y fformiwla cyllid yn newid. Codwyd y mater gyda’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ac yn y Senedd, gan fynegi rhwystredigaeth fod y cyllid yn wahanol i’r cyllid fydd ar gael yn Lloegr. Ychwanegodd fod y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi rhoi pwysau ar y ddwy lywodraeth, gan nodi nad yw’n ymarferol cyflawni amcanion y grant Cronfa Ffyniant Gyffredin ar sail yr un amcanion â’r cyllid blaenorol. Mae’n anochel y bydd newidiadau yn y fformiwla ariannu yn golygu fod swyddi sydd yn gysylltiedig ar arian grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael eu colli. Roedd Aelodau o’r farn y dylid anfon llythyr at Lywodraeth y DU er mwyn mynegi pryderon difrifol am y fformiwla ariannu ar gyfer Cymru. Gofynnwyd a oes unrhyw eglurder ynglŷn â phryd fydd yr arian grant ar gael a ph’un a fydd angen i’r Awdurdod geisio cymorth gan gyrff eraill, yn hytrach na’r sefydliadau partner presennol, h.y. Menter Môn a Môn CF. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd y bydd £3.1m o arian refeniw a £1.1m o arian cyfalaf ar gael ar gyfer 2026/2027. Nododd fod y sefydliadau partner sy’n gweinyddu’r prosiectau’n cael eu monitro’n gyson a derbynnir adborth ynglŷn â natur a nifer y cyfleoedd cyflogaeth a grëwyd yn sgil yr arian grant, gyda’r wybodaeth honno’n cael ei hadrodd i Lywodraeth y DU. Gofynnwyd hefyd a fydd rhaid dychwelyd yr arian grant os yw’r busnesau’n peidio â bod.  Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd fod y cais gwreiddiol am arian Cronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnwys amcangyfrif o nifer y swyddi fyddai’r prosiectau’n eu creu. Dywedodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y dylai’r arian grant gael ei ddosbarthu ar lefel ranbarthol drwy’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Nododd y byddai Cymru’n derbyn £86m yn llai o arian grant gan fod yr arian wedi’i glustnodi ar gyfer Grantiau Blaengaredd Cymunedol, ond nid yw’r Awdurdod hwn yn gymwys i’w dderbyn. Dywedodd y Prif Weithredwr fod pwysau wedi’i roi ar y ddwy Lywodraeth er mwyn amlygu fod y fformiwla ariannu yng Nghymru yn annheg. Nododd y byddai diffyg arian yn siŵr o roi pwysau ar wasanaethau statudol.    

·     Gofynnwyd pa sicrwydd sydd y bydd prosiectau sy’n cael eu hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael eu cwblhau. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd y byddai cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dod i ben yn 2026. Bydd rhai prosiectau a dderbyniodd fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru’n cael eu cwblhau h.y. safle HSBC a phrosiect hen Fwyty’r Crown. Nododd y byddai gwaith yn cychwyn i ddenu arian cyfalaf ond bydd yn ddibynnol ar gyllid allanol. Dywedodd yr Arweinydd y byddai prosiectau’r Gronfa Ffyniant Bro yn cael eu cwblhau a’r gobaith yw y bydd y gwelliannau a wnaethpwyd i adeiladau yn nhref Caergybi yn creu cyfleoedd cyflogaeth yn y busnesau fydd wedi eu lleoli yn y dref.   

·     Pan fydd y rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin wedi dod i ben ym mis Medi 2026, nodwydd fod Tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin yr Awdurdod yn bwriadu cynnal arfarniad lefel uchel er mwyn casglu gwybodaeth am effaith yr arian Cronfa Ffyniant Gyffredin ar Ynys Môn a darparu darlun cywir o’r gwahaniaeth cadarnhaol a welwyd mewn cymunedau ar yr Ynys yn sgil y buddsoddiad. Gofynnwyd a yw’r Tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin yn gallu rhannu gwybodaeth am y gwahaniaeth mae’r buddsoddiad wedi’i wneud ym mhob Ward ar Ynys Môn. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd y byddai’n bosib rhannu manylion am wardiau penodol gydag aelodau etholedig.

 

Roedd yr argymhellion ar gyfer y ddwy eitem fel a ganlyn:-

 

·       Diweddariad ar wireddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar Ynys Môn 2022/2026

 

PENDERFYNWYD:-

 

·     nodi fod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn wedi cael ei gwireddu’n llwyddiannus a nodi’r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd rhwng 2022 a 2026;

·     nodi bod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ynys Môn wedi’i gweithredu’n unol â chanllawiau Llywodraeth y DU;

·     cydnabod rôl barhaus y Cyngor o ran rheoli’r cyllid ar yr Ynys, yn ogystal â chefnogi partneriaid cyflawni lleol;

·     Bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth y DU ar ran y Cyngor yn amlinellu ei bryderon, a gofyn iddynt ailystyried y newidiadau diweddar i Gyllid Twf Lleol mewn perthynas â’r fformiwla i ddyrannu arian grant cyfalaf a refeniw yng Nghymru fydd yn cael effaith ar swyddi a gwasanaethu a ariennir gydag refeniw ar Ynys Môn.

·     Bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor yn amlygu pryderon mewn perthynas ag eglurder a goblygiadau rôl y Cyd-bwyllgorau Corfforedig mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ynghylch Cyllid Twf Lleol yn y dyfodol.

 

·       Cyllid Llywodraeth y DU - Caergybi: Trawsnewid yn Seiliedig ar Ddiwylliant a Threftadaeth

 

PENDERFYNWYD:-

 

·     nodi cynnydd o ran gwireddu’r Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Caergybi;

·     nodi rôl y Cyngor o ran cefnogi Partneriaid Cyflawni’r Rhaglen a llwyddiannau hyd yma;

·     nodi’r canlyniadau a’r allbynnau y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth y DU;

·     nodi’r prosiectau a gwblhawyd hyd yma a’r dyddiadau cwblhau ar gyfer y prosiectau sy’n weddill.

 

Dogfennau ategol: