Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn ymgorffori’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025, i’r Pwyllgor ei ystyried a’i adolygu.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo adroddiad yn rhinwedd ei swydd fel pencampwr cydraddoldeb ac amrywiaeth, a nododd fod yr adroddiad yn amlinellu sut y cyflawnodd y Cyngor ei ddyletswyddau statudol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, yn ystod 2024/25. Mae’r adroddiad yn cynnwys trosolwg o gynnydd tuag at gyflawni’r Cynllun Strategol Cydraddoldeb 2024-2028, mae’n amlygu’r prif gyflawniadau ac mae’n cyflwyno data cydraddoldeb mewn perthynas â’r gweithlu ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Mae’n manylu hefyd ar y camau a gymerwyd i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da.

 

Wrth edrych ymlaen, mae’r Cyngor yn bwriadu adeiladu ar y cynnydd yn 2024/25 trwy ganolbwyntio ar bum blaenoriaeth - cryfhau’r defnydd o ddata cydraddoldeb, canolbwyntio mwy ar ganlyniadau mesuradwy, datblygu cydweithio ymhellach â chydweithwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol, cwblhau trefniadau monitro ac adrodd a pharatoi ar gyfer y ddyletswydd statudol newydd i asesu effaith iechyd a ddaw i rym ym mis Ebrill 2027. Mae’r adroddiad yn dangos fod y Cyngor, at ei gilydd, yn parhau i wneud cynnydd cadarnhaol o ran hyrwyddo cydraddoldeb, gwella cynhwysiant a gwreiddio arferion teg o fewn ei wasanaethau. Mae’n ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaeth teg, hygyrch a chynhwysol a meithrin diwylliant cadarnhaol o gydraddoldeb, o fewn y sefydliad ac yn ei ymwneud â’r cyhoedd.

 

Wrth adolygu’r adroddiad, trafododd y Pwyllgor y materion canlynol –

 

·      Pam fod y Cyngor yn cyflogi mwy o ferched na dynion.

 

Hysbyswyd y pwyllgor fod merched, am resymau cymdeithasol a hirsefydlog, yn parhau i gyflawni rolau gofalu di-dâl ar raddfa llawer uwch na dynion, ac mae hynny yn ei dro yn golygu fod swyddi rhan amser, hyblyg neu sefydlog - y mathau o swyddi sy’n nodweddiadol mewn llywodraeth leol - yn fwy deniadol. Mae hyn yn golygu fod y Cyngor yn naturiol yn denu cyfran uwch o geisiadau gan ferched. Mae gweithlu’r Cyngor felly’n adlewyrchu tueddiadau ehangach o fewn y sector yng Nghymru. Er bod swyddogion yn cydnabod bod y patrwm hwn yn ganlyniad i ffactorau cymdeithasol hirsefydlog, bu iddynt nodi bod y Cyngor yn cydnabod pa mor bwysig yw ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd.

 

·      Gofynnodd aelodau a yw mynd i’r afael â’r duedd hon yn rhan o’r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud ar y cyd â phartneriaid.

 

Hysbyswyd aelodau fod y berthynas â Choleg Llandrillo Menai yn arbennig o bwysig o ran hyrwyddo’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael o fewn y Cyngor, yn ogystal â’r strwythurau sydd ar waith i gefnogi pobl ifanc i ymuno â’r sefydliad a datblygu eu gyrfa. Rhannwyd esiamplau â’r pwyllgor o waith partneriaeth ehangach y Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, gan gynnwys cydweithio â’r tîm cydlyniant cymunedol rhanbarthol. Mae’r bartneriaeth wedi caniatáu i’r Cyngor adnabod grwpiau a sefydliadu newydd i ymgysylltu â nhw, gan fanteisio ar wybodaeth a dealltwriaeth y tîm o gymunedau lleol. Roedd hyn yn gryfder nodedig yn ystod y cyfnod y cyfeiria’r adroddiad ato ac mae’n faes y bwriada’r Cyngor barhau ei ddatblygu. Gan weithio ochr yn ochr â’r tîm cydlyniant cymunedol, cynhaliodd y Cyngor nifer o ddigwyddiadau i staff gyda phartneriaid trydydd sector ac elusennau. Gan fod y tîm yn dîm rhanbarthol ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, roedd yn bosib i’r Cyngor fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi ychwanegol a chyflwyno partneriaid newydd, gan gynnwys grwpiau sy’n cynrychioli diddordebau merched.

 

·      Nododd aelodau y bwlch cyflog rhwng dynion a merched a gyflogir gan y Cyngor (sydd yn 8.6% ac yn is na’r ffigwr cyfartalog ar gyfer y DU) a gofynnodd am eglurhad ynglŷn â beth sy’n achosi’r bwlch a’r camau a gymerir i fynd i’r afael ag o.

 

Sicrhawyd y Pwyllgor fod y Cyngor yn talu’r un cyfraddau cyflog am yr un math o waith beth bynnag yw rhyw y gweithiwr. Esboniodd yr Aelod Portffolio fod y Cyngor wedi cymryd camau i wneud y broses recriwtio yn fwy hygyrch, gan gynnwys darparu llwybrau ymgeisio digidol ac ymgysylltu mwy ag ymgeiswyr posib cyn hysbysebu swyddi. Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi cyfleoedd i staff ddatblygu eu gyrfa trwy hwyluso llwybrau dyrchafu, annog ceisiadau am ddyrchafiad a darparu rhaglenni datblygu, mentora ac arweinyddiaeth. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hyn wedi cynnwys penodi dynes yn Brif Weithredwr.

 

·      Gofynnodd y pwyllgor i ba raddau mae’r Cyngor yn cyflogi pobl ag anableddau ac a oes mwy y gellir ei wneud i annog ceisiadau a hyrwyddo cynhwysiant.

 

Hysbyswyd y pwyllgor fod cynhwysiant a chydraddoldeb, boed yn gysylltiedig â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau neu anabledd, yn ddibynnol ar greu’r amgylchedd gwaith cywir ar gyfer pob gweithiwr. Mae’r Cyngor yn gyflogwr croesawus sydd wedi ennill achrediad Lefel 2 fel Cyflogwr sy’n Hyderus o ran Anabledd. Mae’n ystyried y camau angenrheidiol er mwyn symud ymlaen i Lefel 3, sy’n ymwneud â hyrwyddo ac arwain ar gynhwysiant anabledd o fewn ardal ehangach. Er bod achrediad yn bwysig ac y byddai’n ddymunol cyflawni Lefel 3, mae’r un mor bwysig fod y Cyngor yn gallu dangos fod ei weithlu’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir ganddo a’i fod yn hygyrch i bob rhan o’r gymdeithas. 

 

Awgrymodd un o’r aelodau y dylai pob hysbyseb swydd ddatgan fod ceisiadau gan bobl ag anableddau’n cael eu croesawu. Hysbyswyd y pwyllgor y byddai’r Cyngor yn parhau i feithrin diwylliant sy’n annog pobl ag anableddau i ymgeisio am swyddi ac y byddai’n archwilio pob cyfle i ddenu a chefnogi gweithwyr ag anableddau o fewn y gweithlu.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn cyflogi pobl ag anableddau a’i fod wedi addasu adeiladau a phrosesau er mwyn caniatáu iddynt gyflawni eu rolau’n effeithiol a chyfrannu’n llawn yn y gweithle. Mae nifer o weithwyr ag anableddau’n cael eu cefnogi trwy berthynas gref â’u rheolwyr a chefnogaeth ehangach y Cyngor fel cyflogwr. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn adolygu ei gytundeb cydweithio â Choleg Llandrillo Menai, ac mae hwn yn faes lle mae’n gobeithio cryfhau cydweithio er mwyn creu llwybr mwy clir i waith i bobl ifanc yn gyffredinol, ac i bobl ifanc ag anableddau’n arbennig, a’u helpu i gael mynediad at gyfleoedd o fewn y Cyngor.

 

·      Gofynnodd aelodau a yw’n bosib rhannu swydd, ac os yw’r opsiwn hwnnw ar gael, awgrymwyd y dylid datgan hynny’n glir mewn hysbysebion swyddi.

 

Sicrhawyd y pwyllgor fod y Cyngor yn croesawu ceisiadau i weithio’n hyblyg, gan gynnwys trefniadau rhannu swydd. Bydd rheolwyr yn ystyried y ffordd orau o drefnu gwaith o fewn eu timau ac mae rhannu swydd yn un o’r dulliau sydd ar gael i helpu i greu amgylchedd gwaith sy’n cefnogi bywydau pobl tu allan i’r gweithle. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn ceisio defnyddio pob dull addas i alluogi pobl i ddatblygu gyrfa o fewn y sefydliad, yn ogystal â chynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd tu allan i’r gwaith.

 

·      Roedd aelodau’n dymuno gwybod beth arall fyddai’n bosib ei wneud i helpu staff deimlo’n gyfforddus a hyderus i rannu data cydraddoldeb.

 

Sicrhawyd y pwyllgor fod ymgyrch fwriadol, aml-haenog yn mynd rhagddo i annog staff i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys arddangos gwybodaeth mewn lleoedd amlwg, defnyddio posteri a negeseuon e-bost ac atgyfnerthu’r neges trwy strwythurau llywodraethu’r cyngor e.e. y Porth Polisi, Adnoddau Dynol a sgyrsiau datblygiad proffesiynol blynyddol gyda rheolwyr. Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw rhannu negeseuon eglur a chyson. Nodwyd fod y sianel cyfathrebu mewnol yn cael ei ddefnyddio i esbonio pam fod casglu data cydraddoldeb yn bwysig - er mwyn gwella polisïau, monitro tegwch mewn prosesau a sicrhau fod gweithlu’r cyngor yn adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal trafodaethau rheolaidd â phartneriaid rhanbarthol ac yn rhannu syniadau ar sut i fynd i’r afael â’r her hon. Mae adeiladu ymddiriedaeth yn hanfodol, yn arbennig mewn perthynas â pham fod y Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon, sut mae’n cael ei defnyddio, sut mae’n cael ei chadw’n ddiogel a phwy sydd â mynediad at y data.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhaodd y Pennaeth Democratiaeth fod disgwyl i’r Polisi Cydraddoldeb gael ei rannu â staff trwy’r Porth Polisi ddechrau mis Ebrill. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr hefyd y byddai data ynglŷn â nifer y merched sy’n ymgeisio am swyddi ar y lefel uchaf o fewn y Cyngor yn cael ei adolygu a’i rannu gydag aelodau tu allan i’r pwyllgor.

 

Ar ôl adolygu’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025 a derbyn sicrwydd ynglŷn â’r materion a godwyd, penderfynodd y pwyllgor nodi’r adroddiad a’i argymell i’r Aelod Portffolio er mwyn ei gyhoeddi.

 

Dogfennau ategol: