Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2025/26

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Perfformiad, Digidol a Moderneiddio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio, oedd yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2025/26, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae adroddiad y cerdyn sgorio yn manylu ar berfformiad y dangosyddion allweddol mewn perthynas â chyflawni gweithredoedd dydd i ddydd y Cyngor i gefnogi amcanion ehangach Cynllun y Cyngor.

 

Cyflwynwyd adroddiad y cerdyn sgorio gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, a nododd fod y mwyafrif o ddangosyddion (86%) y gosodwyd targedau ar eu cyfer wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter, a bod eu statws yn Wyrdd neu Felyn. Mae adran 2.3 yn yr adroddiad yn manylu ar enghreifftiau nodedig o berfformiad da. Mae wyth dangosydd yn Goch neu Ambr yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd - mae adran 2.2 yn yr adroddiad yn manylu arnynt, ynghyd â’r mesurau lliniaru cysylltiedig, ac maent yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol a Llesiant (achosion sy’n cael eu hailgyfeirio yn y Gwasanaethau Plant), Gwasanaethau Tai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (cyfanswm nifer y cwsmeriaid sydd â chontractau angori a chanran y busnesau risg uchel sy’n cael eu harchwilio’n rheolaidd a archwiliwyd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff yn benodol) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb yn brydlon i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth). Cadarnhaodd fod y Tîm Arweinyddiaeth yn monitro’r holl feysydd hyn.

 

Wrth adolygu’r cerdyn sgorio corfforaethol ar gyfer y trydydd chwarter, cododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol –

 

·      Roedd y pwyllgor am gael gwybod beth arall fyddai’n bosib ei wneud i gynyddu canran yr ymweliadau â rhyngwyneb cyfrwng Cymraeg prif wefan y Cyngor.

 

Hysbyswyd aelodau fod Fforwm y Gymraeg wedi bod yn trafod ffyrdd o sicrhau fod ffurflenni, dogfennau ac ymgynghoriadau yn haws eu deall ac yn fwy hygyrch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Grŵp Llywio’r Gymraeg hefyd yn monitro’r dangosydd perfformiad hwn. Er y gwelwyd ychydig o welliant, bydd camau ychwanegol yn cael eu hystyried pan adolygir y Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn. Byddai’r Cyngor yn dymuno gweld cyfran uwch o ddefnyddwyr yn defnyddio’r rhyngwyneb cyfrwng Cymraeg, yn enwedig gan fod dwysedd y siaradwyr Cymraeg ar Ynys Môn ymysg yr uchaf yng Nghymru. Un o’r heriau yw annog preswylwyr i deimlo’n hyderus bod safon eu Cymraeg yn ddigon da i ddefnyddio fersiwn Gymraeg y wefan.

 

·      Mewn perthynas â Newid Hinsawdd, nododd aelodau fod perfformiad DP 02 - canran y gwastraff domestig sy’n cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yn ystod Ch3 wedi dirywio o gymharu â pherfformiad Ch3 yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd aelodau’n cydnabod fod y tywydd sych yn gynharach yn y flwyddyn yn golygu fod llai o wastraff gwyrdd wedi’i gasglu a gofynnwyd oni ddylai’r targed ar gyfer Ch3 gael ei addasu i adlewyrchu hynny. Gofynnodd aelodau hefyd a oedd y Cyngor wedi cysylltu ag awdurdodau eraill sydd wedi llwyddo i gyflawni’r targed o ailgylchu 70% o wastraff a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Hysbyswyd y pwyllgor fod y Cyngor yn trafod â chynghorau eraill trwy gyfrwng gwahanol fforymau a sefydliadau, gan gynnwys CLlLC a’r Bwrdd Partneriaeth Lleol. Mae’r Cyngor wedi nodi fod y gyfradd ailgylchu gwastraff bwyd, sef 52kg fesul aelwyd, yn sylweddol is na chyfraddau cynghorau sy’n cyflawni’r targed o 70% ac sy’n ailgylchu oddeutu 126kg fesul aelwyd. Mae hyn yn parhau i fod yn her allweddol. Bydd y Cyngor yn dadansoddi adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn nodi gwersi, yn enwedig mewn perthynas â chynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff bwyd. Mae’r tîm cyfathrebu’n parhau i hyrwyddo negeseuon ynglŷn ag ailgylchu ac mae’r Cyngor yn cymryd rhan mewn ymgyrch ailgylchu genedlaethol - Bydd Wych, Ailgylcha. Awgrymwyd efallai bod angen ymgysylltu mwy uniongyrchol, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth ac addysgu preswylwyr. Efallai y dylid cyfleu’r neges bod rhaid cynyddu lefelau ailgylchu, yn cynnwys gwastraff bwyd, os yw preswylwyr yn dymuno osgoi symud i gasgliadau gwastraff bob pedair wythnos.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gostyngiad mewn cyfraddau ailgylchu yn adeiladau’r Cyngor - a’i bod yn bwysig i’r Cyngor osod esiampl dda os yw’n disgwyl i breswylwyr wella eu lefelau ailgylchu - cadarnhawyd fod cynllun gweithredu wedi’i ddatblygu i wella perfformiad. Mae mesurau’n cynnwys gwella cyfathrebu, pencampwyr ailgylchu mewn adrannau, meincnodi gweithgareddau a monitro cynnydd yn rheolaidd.

 

·      Gofynnodd aelodau a yw’r cyngor yn debygol o gyflawni’r targed o 51 diwrnod ar gyfer ailosod eiddo gwag o dan y dangosydd Tai, DP 03.

 

Hysbyswyd yr aelodau fod y duedd yn gwella ac, ar gyfer yr unedau a broseswyd ers mis Ebrill 2026, mae eiddo yn wag am 57.8 diwrnod ar gyfartaledd. Mae tua 270 uned yn cael eu rheoli bob blwyddyn, ac mae hynny’n llwyth gwaith sylweddol. Nodwyd hefyd fod oedi weithiau cyn y gellir mynd i mewn i eiddo, pan fydd y tenant wedi marw er enghraifft. Mae capasiti’r gwasanaeth wedi cynyddu, ac mae’r Aelod Portffolio Tai yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â’r Tîm Eiddo gwag er mwyn monitro cynnydd.

Wrth ymateb i bryderon bod Plas Alltran yn parhau i fod yn wag a’i fod yn dangos arwyddion o ddirywio chwe mis ar ôl ei ailddatblygu er mwyn darparu tai cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal, cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai ddiweddariad byr ar y sefyllfa. Nododd fod y cyfnod atebolrwydd am ddiffygion yn parhau i fod yn weithredol o dan y contract adnewyddu, ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt â’r contractwr er mwyn unioni’r materion sydd angen sylw. Gan ei fod yn adeilad rhestredig, mae angen caniatâd gan CADW cyn y gellir cwblhau gwaith ychwanegol. Dywedodd ei fod yn disgwyl i’r gwaith ailgychwyn yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

·      Mewn perthynas â’r dangosydd Economi, DP 07 - canran y busnesau risg uchel sy’n cael eu harchwilio’n rheolaidd a archwiliwyd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd, nododd aelodau fod cyllideb 2026/27 yn cynnwys dyraniad ychwanegol ar gyfer cynnal archwiliadau diogelwch bwyd. Gofynnodd aelodau sut fyddai’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio.

 

Hysbyswyd yr aelodau y byddai’r buddsoddiad yn cryfhau capasiti a gwytnwch, gan alluogi’r gwasanaeth roi sylw i gwblhau archwiliadau hwyr, yn ogystal â chynnal y lefelau archwilio cyfredol, er mwyn sicrhau nad oes rhestr aros newydd yn datblygu. Rhoddir blaenoriaeth i fusnesau risg uchel, yn enwedig busnesau sy’n trin cynhyrchion bwyd risg uchel. Mae rheoliadau trwyddedu newydd wedi’u cyflwyno ar gyfer triniaethau arbennig ac mae’r gwasanaeth wedi bod yn rheoli hynny hefyd, gan olygu y bu’n rhaid ailgyfeirio staff i wneud y gwaith hwnnw. Yn ystod y cyfnod, rhoddwyd 34 trwydded ymarferydd ac mae’r tîm wedi ymateb i ddau ddigwyddiad iechyd a diogelwch. Y nod yw clirio’r archwiliadau hwyr erbyn diwedd chwarter 4.

 

·      Gofynnodd aelodau a fyddai cynyddu capasiti yn golygu fod perfformiad y dangosyddion Tai, DP 04 a 05, sy’n gysylltiedig â gwireddu grantiau cyfleusterau i’r anabl hyd at £10k a dros £10k, yn gwella.

 

Hysbyswyd aelodau na fyddai’r targedau’n cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gan fod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn wedi’i dyrannu’n llawn, gan olygu bod oedi o ran cymeradwyo grantiau newydd.

 

·      Mewn perthynas â’r dangosydd Llesiant, DP 08 - canran yr atgyfeiriadau plant sy’n cael eu hailgyfeirio o fewn 12 mis, oedd yn Goch ar gyfer y chwarter, esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod achosion oedd wedi cael eu cau yn dilyn ymyrraeth yn gallu cael eu hail-gyfeirio am nifer o resymau. Mae’r gwasanaeth yn bwriadu cynnal archwiliad manwl o’r achosion hyn a gweithio’n uniongyrchol â’r teuluoedd dan sylw er mwyn deall pa agweddau o’r ymyrraeth wreiddiol fyddai’n bosib eu gwella. Mae’r sefyllfa’n cael ei fonitro ac mae’r data ar gyfer chwarter 4 hyd yma’n dangos nad yw’r duedd yn parhau. 

 

·      Mewn perthynas â chwestiynau am yr economi - yn enwedig unedau busnes a osodwyd a chynlluniau i helpu pobl i gael gwaith - hysbyswyd y cyngor fod diweddariad ar y Porthladd Rhydd wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio y diwrnod cynt. Bu’r Cyngor yn llwyddiannus iawn wrth osod unedau busnes, gan berfformio’n well na’r targed, ac mae o wedi sicrhau arian Bargen Dwf BUEGC ar gyfer unedau busnes yng ngogledd yr ynys. Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector, megis Môn CF, i gefnogi pobl i fynd yn ôl i weithio neu eu cynorthwyo i gychwyn busnesau newydd.

 

Croesawodd y pwyllgor berfformiad cyffredinol gwasanaethau’r Cyngor a mynegodd ei werthfawrogiad o waith y Gwasanaethau Tai yn arbennig, gan gydnabod eu hymdrechion parhaus i wella canlyniadau. Canmolodd aelodau’r Tîm Archwilio Bwyd hefyd, am eu cefnogaeth, cyngor ac ymatebolrwydd er gwaetha’r llwyth gwaith heriol.

 

Ar ôl adolygu’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2025/26, ac ystyried yr ymatebion i’r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol –

 

·      Nodi adroddiad y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2025/26, yn cynnwys y meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol a Llesiant (achosion plant sy’n cael eu hail-gyfeirio o fewn cyfnod o 12 mis); Tai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (nifer y contractau angori blynyddol ac archwilio busnesau risg uchel i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff domestig) ac Iechyd y Cyngor Cyfan (ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â’r amserlen).

 

·      Argymell adroddiad y cerdyn sgorio a’r mesurau lliniaru sydd wedi’u cynnwys ynddo i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dogfennau ategol: