Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2026- 2056, i’r pwyllgor ei ystyried.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol, a nododd fod Cynllun Busnes y CRT yn amlinellu strategaeth tymor hir y Cyngor ar gyfer cynnal, gwella ac ehangu ei stoc o dai cyngor, yn ogystal â sicrhau fod y cyfrif Refeniw Tai yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol. Mae angen y cynllun er mwyn sicrhau Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru sydd werth tua £2.7m yn 2026/27. Trwy’r CRT, mae’r Cyngor yn rheoli ac yn berchen 4,095 eiddo a 581 garej ledled yr Ynys. Yn ystod cyfnod y Cynllun Busnes, bydd twf o dros 25% yn y stoc dai, i dros 5,000 eiddo, er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol am dai cymdeithasol, gyda dros 950 o bobl ar y rhestr aros ar hyn o bryd. Mae’r Cynllun Busnes yn cynnwys rhaglen gyfalaf gwerth £16m ar gyfer 2026/27 sydd yn cynnwys gwaith SATC, cynnal a chadw, addasiadau a mesurau effeithlonrwydd ynni, ynghyd â £15.5m ar gyfer datblygiadau newydd, gan gynnwys Tai Gofal Ychwanegol ym Mhorthaethwy.
Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y pwysau sy’n gysylltiedig â chyflawni SATC 2023, datgarboneiddio tai presennol y Cyngor a chwrdd â’r galw lleol, yn ogystal â chadw rhenti ar lefel fforddiadwy. Er bod Cynllun Busnes y CRT yn parhau i fod yn hyfyw, nododd fod rheolaeth ofalus yn hanfodol o ystyried y bwriad i fenthyca £57m dros gyfnod y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd hyd at 2030/31.
Wrth graffu ar Gynllun Busnes y CRT, cododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol -
· Ceisiodd y pwyllgor sicrwydd na fyddai partneriaeth y Cyngor â chymdeithasau tai wrth ddatblygu tai cymdeithasol newydd yn arwain at or-ddatblygu a allai danseilio cymeriad a chydbwysedd cymunedau a phentrefi.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cyngor yn rheoli ei stoc dai ei hun a bod partneriaid yn y sector cymdeithasau tai yn gosod tai gan ddefnyddio rhestr dai y Cyngor. Mae’r Cyngor wedi cynnal asesiad o’r angen am dai lleol ac mae’n darparu llinell sylfaen ar gyfer nodi’r mathau o dai sydd eu hangen, ac ymhle. Pan fydd cyfle i ddatblygu tai yn codi, bydd y Cyngor yn ystyried p’un a yw’n diwallu angen a nodwyd. Mae’n ystyried gwybodaeth leol hefyd, gan gynnwys data o’r rhestr dai sy’n dangos faint o unigolion sydd angen tŷ, y math o lety sydd ei angen arnynt a’r lleoliadau sydd orau ganddynt.
· Gofynnodd y pwyllgor a yw’r Gwasanaethau Tai yn parhau i wynebu her o ran cael mynediad at eiddo er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol a/neu waith gwella er mwyn cyflawni targedau.
Hysbysodd y pwyllgor fod hawl gan denantiaid i ddewis ac mae’r Cyngor, fel landlord, yn parchu dymuniadau tenantiaid sy’n gwrthod gwelliannau oherwydd eu bod yn fodlon â’u cartrefi fel ag y maent. O dan yr amgylchiadau hynny, ni all y gwasanaeth ond wneud y gwelliannau y mae’n dymuno eu gwneud pan fydd yr eiddo’n dod yn wag ac yn cael ei ailosod. Fodd bynnag, mae’n ofynnol i’r Cyngor gynnal gwiriadau blynyddol mandadol, megis gwasanaethu boeleri. Os yw tenant yn gwrthod mynediad, gall y Cyngor ddefnyddio pwerau cyfreithiol i fynd i mewn i’r eiddo er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau statudol.
· Holodd aelodau ynglŷn â fforddiadwyedd rhenti a’r cymorth sydd ar gael i denantiaid sy’n wynebu trafferthion ariannol.
Hysbyswyd yr aelodau fod Tîm Cynhwysiant Ariannol y Gwasanaethau Tai yn helpu tenantiaid sy’n wynebu caledi ariannol a’u bod yn gallu eu cyfeirio i dderbyn cymorth ychwanegol. Mae Canolfan J. E. O’Toole hefyd yn cynnig cyngor arbenigol ac mae ar gael i holl drigolion Ynys Môn. Mae trefniadau tebyg ar waith o fewn y cymdeithasau tai. Mae’r Cyngor yn defnyddio methodoleg Rhent Byw Sefydliad Joseph Rowntree i asesu pa mor fforddiadwy yw rhenti ar gyfer ei denantiaid ac mae hyn yn cadarnhau fod rhenti presennol yn fforddiadwy. Mae tua 74% o renti’n cael eu casglu drwy’r system fudd-daliadau, naill ai’n llawn neu’n rhannol. Mae incwm rhent yn hanfodol i’r CRT gan ei fod yn darparu’r arian craidd sydd ei angen i gynnal, rheoli a buddsoddi yn stoc dai’r Cyngor.
· Holodd y pwyllgor am wella tai hŷn o fewn y stoc dai, yn enwedig trosi eiddo sy’n cael ei wresogi ag olew i fod yn gartrefi mwy ynni effeithlon.
Hysbyswyd aelodau fod arolwg o gyflwr y stoc dai wedi’i gwblhau dwy i dair blynedd yn ôl ac mae ei ganfyddiadau yn cael eu defnyddio’n awr fel sylfaen i adnabod gwaith cynnal a chadw a gwelliannau sydd eu hangen, gan gynnwys uwchraddio ceginau, ystafelloedd ymolchi a ffenestri, yn unol ag oes y cydrannau hynny. Mae’r Cyngor hefyd wedi datblygu llwybrau ynni a dargedwyd sy’n nodi beth sydd ei angen ar bob eiddo er mwyn cyflawni SAP 75 - sef y weithdrefn asesu safonol a ddefnyddir i fesur perfformiad ynni y cartref - a nodi faint o dai sy’n annhebygol o gyrraedd y lefel hon. Er bod y Cynllun Busnes yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i gynnal a gwella ei stoc dai, nid yw’n cynnwys costau llawn ar gyfer datgarboneiddio eto, gan fod ansicrwydd yn parhau mewn perthynas â’r costau hyn. Er hynny, mae’r Cyngor ar y blaen i nifer o landlordiaid eraill yn y maes hwn. Mae gan y Cyngor dros 4,000 o gartrefi ac mae 209 yn parhau i ddibynnu ar foeleri olew, gan olygu y bydd angen sylw penodol arnynt i’w trosi i systemau mwy ynni effeithlon.
· Holodd aelodau ynglŷn â boddhad tenantiaid a’r dulliau a ddefnyddir i ymgysylltu â thenantiaid.
Fe’u hysbyswyd fod rhaid i’r Cyngor gynnal arolwg STAR (arolwg boddhad tenantiaid) bob dwy flynedd er mwyn asesu barn tenantiaid am eu cartrefi a’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor fel landlord. Mae’r canlyniadau’n cael eu casglu ar lefel genedlaethol a’u meincnodi yn erbyn landlordiaid cymdeithasol eraill. Mae perfformiad y Cyngor yn gyson yn y chwartel uchaf. Ymatebodd dros 1,000 o denantiaid i’r arolwg diweddaraf, gyda 84% yn datgan eu bod yn fodlon â’r gwasanaeth cyffredinol, roedd 83% yn fodlon â’u cartrefi, roedd 81% yn teimlo bod eu rhent yn cynnig gwerth am arian ac roedd 88% yn fodlon â diogelwch eu cartrefi. Mae’r Cyngor hefyd yn ymgysylltu â thenantiaid trwy ei dîm cyfranogiad tenantiaid, fforwm tenantiaid, a defnyddir bws allgymorth er mwyn ymweld â chymunedau a chasglu adborth.
Ar ôl adolygu’r dogfennau a derbyn sicrwydd ynglŷn â’r materion a godwyd, penderfynodd y pwyllgor argymell Cynllun Busnes y Cyfrif Busnes Tai ar gyfer 2026-2056 i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn ei gymeradwyo.
Dogfennau ategol: