Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn nodi cynigion ar gyfer Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant ar Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg yr adroddiad, gan nodi, yn dilyn hysbysiad o fwriad Cyngor Gwynedd i ddiddymu Partneriaeth ADY a Chynhwysiant Gwynedd a Môn ym mis Mehefin 2025, bod y Cyngor wedi cymryd cyfres o gamau – a amlinellir yn yr adroddiad – i sefydlu gwasanaeth ar wahân, effeithiol, effeithlon ac addas i'r diben ar gyfer Ynys Môn. Y nod yw diwallu anghenion plant a phobl ifanc Ynys Môn a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei sefydlu'n brydlon fel y gall y Cyngor gyflawni ei ddyletswyddau statudol yn unol â Deddf ADY 2021. Bu cynnydd o ran cymhlethdod a phatrwm anghenion gydag adroddiadau yn dangos bod proffil dysgwyr sy'n derbyn cymorth ADY ar Ynys Môn wedi mynd yn fwy cymhleth dros y pum mlynedd diwethaf.
Comisiynwyd arbenigwr allanol i gynnal adolygiad o'r gwasanaeth ar y cyd presennol ac i ddatblygu model ar gyfer gwasanaeth penodol Ynys Môn, gan nodi'r camau allweddol sydd eu hangen i greu darpariaeth gynaliadwy. Mae'r adroddiad adolygu allanol wedi'i gynnwys yn Atodiad 1. Ystyriwyd chwe opsiwn gwahanol fel y nodir yn yr arfarniad opsiynau yn Atodiad 3. Trwy'r broses hon, argymhellir Opsiwn 4 fel y dull a ffefrir am sawl rheswm - mwy o bwyslais ar ymyrraeth gynnar ac ymarfer sy'n ystyriol o drawma; ymagwedd gwaith integredig, yn cryfhau elfennau presennol o gynhwysiant; yn gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau; disgwylir iddo arwain at ganlyniadau gwell; yn darparu rheolaeth lawn o'r gwasanaeth gyda hyblygrwydd i gydweithio ac yn cynnig cyfle i fewnoli gwaith data tymor hir. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu'r rhagamcanion cost sy'n gysylltiedig ag Opsiwn 4 ac yn esbonio sut y bydd y costau hyn yn cael eu bodloni.
Rhoddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 17 Mawrth, 2026 lle ystyriwyd y cynigion. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod hwn yn gyfle i greu gwasanaeth newydd a gwahanol, a bod y fframwaith arfaethedig yn cynrychioli man cychwyn a fydd yn datblygu, addasu ac yn cael ei fireinio dros amser. Trafododd yr Aelodau y risgiau sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu'r gwasanaeth a chydnabu ymrwymiad y Pwyllgor Gwaith i ddarparu buddsoddiad ychwanegol i fodloni'r gofynion. Pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd rhoi gwybod i rieni a cheisiodd sicrwydd y byddai neges gyfathrebu fer yn cael ei rhannu gyda nhw cyn i'r cyfnod cyn-etholiad ddechrau. Yn dilyn trafodaeth, penderfynodd y pwyllgor argymell y cynigion ar gyfer mewnoli'r gwasanaeth ar Ynys Môn.
Cydnabu’r Pwyllgor Gwaith bwysigrwydd datblygu gwasanaeth wedi'i deilwra i anghenion Ynys Môn gyda phwyslais ar empathi, integreiddio ac ymarfer sy'n ystyriol o drawma. Roedd yr Aelodau yn cydnabod bod y strwythur arfaethedig yn darparu sylfaen i adeiladu arno, ac awgrymwyd y dylid darparu adroddiadau cynnydd rheolaidd. Cytunwyd fel argymhelliad ychwanegol y dylid cyflwyno diweddariad i'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ymhen chwe mis.
Dywedodd y Prif Weithredwr, gan y bydd y cyfnod cyn-etholiad yn dechrau ar 25 Mawrth ac o ystyried bod y cynigion hyn yn cynrychioli ystyriaethau cychwynnol a fframwaith cynnar gydag ymgynghoriad pellach eto i ddod, y byddai'n gynamserol ymgysylltu ymhellach â rhieni ar hyn o bryd. Bydd yn fwy priodol ymgysylltu unwaith y byddir yn gwybod yn glir ai dyma'r strwythur a fydd yn cael ei ddatblygu.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r strwythur arfaethedig (Opsiwn 4 yn y Gwerthusiad Opsiynau – Atodiad 3) ym Môn er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol (mae’r cyfrifoldebau hyn yn cael eu nodi yn y Ddeddf ALNET 2018, y Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol 2021 a Rheoliadau ADY 2021) a sefydlu gwasanaeth canolog newydd
· Rhoi pwerau dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio Addysg, Deilydd Portffolio Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd a’r Deilydd Portffolio Cyllid os bydd effaith ariannol, er mwyn gwneud newidiadau yn y strwythur mewn dull amserol yn dilyn yr ymgynghoriad (gall hyn gynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda chorff/cyrff allanol er mwyn cyrraedd y ddarpariaeth angenrheidiol os bydd angen).
· Bod diweddariad ar gynnydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ymhen chwe mis.