Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn rhoi diweddariad hyd at 28 Ebrill 2026 o’r archwiliadau a gwblhawyd ers 21 Ionawr 2026 i’w ystyried gan y pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu llwyth gwaith presennol y tîm Archwilio Mewnol a’i flaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a chanolig wrth symud ymlaen. Darparwyd copïau ar wahân i’r aelodau o’r pum adroddiad sicrwydd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod dan sylw yn gysylltiedig â Systemau Ariannol - Rheoli Trysorlys (Sicrwydd Sylweddol), Systemau Ariannol - y Gyflogres (Sicrwydd Rhesymol), Rheoli Risgiau Strategol - Diogelu (YM10) - Adroddiad Dilynol Cyntaf (Sicrwydd Rhesymol, Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl - Ail Adroddiad Dilynol (Sicrwydd Cyfyngedig), a Rheolaeth Ariannol (Sicrwydd Rhesymol).
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg a roddodd grynodeb o ganlyniadau’r adolygiadau archwilio a gwblhawyd yn ystod y cyfnod. Tynnodd sylw at y raddfa sicrwydd sylweddol a roddwyd i’r adolygiad Rheoli Trysorlys, a nododd bod y lefel sicrwydd yma’n anghyffredin ac mai dim ond un cam gweithredu cymedrol oedd wedi’i nodi.
Adroddodd bod yr ail adolygiad dilynol o’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl wedi derbyn barn Sicrwydd Cyfyngedig. Mae rhywfaint o gynnydd wedi cael ei wneud i wella’r trefniadau ar gyfer gweinyddu’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl; fodd bynnag, mae gwendidau gweinyddol yn bodoli o hyd yn benodol yn gysylltiedig â’r gronfa ddata ganolog sydd yn anghyflawn a heb ei chysoni â data ariannol. Mae hyn wedi achosi gwallau yn yr wybodaeth a ddarparwyd i’r Gwasanaethau Cyfreithiol, gan beri risgiau’n gysylltiedig â phridiannau tir anghywir neu phridiannau tir nad oes modd eu gorfodi. Bwriedir cynnal adolygiad dilynol pellach ym mis Medi 2026.
Rhoddodd y Pennaeth Archwilio a Risg amlinelliad o’r archwiliadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd i gefnogi gwasanaethau i fynd i’r afael â’r materion a risgiau sy’n weddill. Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr ar wahân i’r cyfarfod ynglyn â’r mater hwn. Nododd y blaenoriaethau tymor byr a chanolig yn ogystal, yn cynnwys cwblhau’r Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2025/26, paratoi’r farn archwilio flynyddol erbyn mis Mehefin 2026, ymgynghori ar y strategaeth ar gyfer 2026/27 a bwrw ‘mlaen â’r Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd. Mae’r blaenoriaethau tymor hwy yn cynnwys cwblhau asesiad cydymffurfiaeth llawn er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau Archwilio Mewnol Byd Eang newydd yn 2026/27.
Ystyriodd y pwyllgor y lefel Sicrwydd Cyfyngedig a roddwyd yn sgil yr ail adolygiad dilynol o’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a chwestiynodd y cynnydd hyd yma i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y tîm Archwilio Mewnol. Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd bod cynllun ar waith i sicrhau bod y materion sy’n weddill yn cael eu datrys yn llawn a bod gwelliannau’n cael eu cyflwyno.
Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Tai gydnabod bod y cynnydd yn arafach na’r disgwyl. Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud, yn cynnwys cryfhau’r rheolaethau’n gysylltiedig â thaliadau er mwyn atal taliadau dyblyg: Fodd bynnag, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi cael ei wneud gyda phrosesau gweinyddol, gyda dim ond un swyddog yn gwneud gwaith a oedd yn arfer cael ei gwblhau gan dîm o weithwyr. Cadarnhaodd bod y swyddog bellach yn derbyn mwy o gymorth gweinyddol a goruchwyliaeth. Er nad oedd y cynnydd cystal â’r disgwyl, pwysleisiodd bod y ffocws ar sicrhau bod y gwelliannau gweinyddol yn cael effaith. Dywedodd y byddai’r adolygiad dilynol ym mis Medi yn cadarnhau hyn.
Mewn ymateb i ymholiadau pellach gan y pwyllgor, eglurodd y Pennaeth Archwilio a risg bod y tîm wedi ymgynghori â Phrif Archwilydd Mewnol Cyngor Sir Ddinbych fel rhan o’r adolygiad dilynol o drefniadau Diogelu, gan mai un o’r materion a godwyd oedd diffyg sicrwydd ynglyn â gweithrediad effeithiol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Cyngor Sir Ddinbych yw’r awdurdod lletya ar gyfer y Bwrdd ac mae’r protocol ar gyfer trefniadau rhanbarthol yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r awdurdod lletya archwilio materion rhanbarthol. Mae Prif Archwilydd Mewnol Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau bod disgwyl iddynt ddarparu’r sicrwydd hwn yn y misoedd nesaf. Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg hefyd y bydd yr archwiliad Rheoli Asedau TG, sydd wedi cael ei ohirio ar gais y Prif Swyddog Digidol, yn cychwyn ym mis Mehefin neu Orffennaf 2026. Dywedodd y byddai’r pwyllgor yn cael ei ddiweddaru yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf 2026.
Penderfynwyd nodi canlyniad y gwaith Archwilio Mewnol, y sicrwydd a ddarparwyd a’r blaenoriaethu wrth symud ymlaen.
Dogfennau ategol: