Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Yswiriant Blynyddol ar gyfer 2024/25 i’w ystyried gan y pwyllgor. Roedd yr adroddiad blynyddol yn amlinellu yswiriant presennol y Cyngor, gweithgareddau’n gysylltiedig â hawliadau a thueddiadau a heriau allweddol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg a nododd bod y Cyngor yn defnyddio cyfuniad o hunan-yswiriant ac yswiriant allanol i fynd i’r afael â goblygiadau ariannol y risg. Er mwyn cwrdd ag elfen hunain yswiriant unrhyw hawliad, mae gan y Cyngor Gronfa Yswiriant mewn cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi a Chyfrif Darpariaeth Yswiriant. Mae’r gronfa’n cael ei hadolygu’n flynyddol i sicrhau ei bod yn ddigonol i gwrdd â’r rhwymedigaethau heb fod â gormod o adnoddau. Gan weithio â’r broceriaid yswiriant, Marsh, cynhaliwyd ymarfer tendro cynhwysfawr yn 2024 a dyrannwyd y contract 3 blynedd i Zurich Municipal, y darparwr cyfredol. Amlygodd y broses dendro bod elfennau o'r symiau yswiriedig a ddarparwyd wedi dyddio, a arweiniodd at adolygiad cynhwysfawr i ailbrisio symiau adeiladu wedi'u hyswirio yn ystod blwyddyn gyntaf y polisi er mwyn sicrhau eu bod yn ddigonol. Yn dilyn adnewyddu’r polisi ym mis Hydref 2025, cynyddodd premiymau allanol oherwydd y cynnydd mewn cyfraddau yn y sector cyfan a pherfformiad hawliadau, yn enwedig yn gysylltiedig ag eiddo.
Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod hawliadau, at ei gilydd, yn sefydlog a bod cyfraddau gwrthod yn gadarn, er bod pwysau mewn meysydd penodol. Mae hawliadau atebolrwydd cyhoeddus yn gyson ac mae cyfraddau gwrthod yn uchel a setliadau’n gymedrol, er bod 71% o hawliadau 2025/26 heb eu cwblhau. Mae hawliadau modur yn sefydlog, ac roedd 53% o hawliadau yn ystod 2025/26 oherwydd bod gyrwyr y Cyngor ar fai; ac i liniaru’r risg mae gwrthdrawiadau’n cael eu monitro’n barhaus ac mae asesiadau'n cael eu cynnig i yrwyr. Mae nifer yr hawliadau eiddo, a’u costau, wedi bod yn hynod gyfnewidiol a’r maes hwn sy’n cynrychioli amlygiad ariannol mwyaf y Cyngor. Difrod stormydd a thanau mewn tai yw’r ffactorau amlycaf. Er bod nifer yr hawliadau eiddo yn 2025/6 wedi lleihau'n sylweddol o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, roedd y difrod a brofwyd, yn ogystal â chyfanswm costau'r hawliadau, yn sylweddol.
Amlygodd y risgiau a’r heriau cynyddol, yn cynnwys effaith newid hinsawdd, gofynion y SATC 2023 newydd, chwyddiant a hanes hawliadau’r Cyngor, sydd yn debygol o gynyddu’r premiymau yn y dyfodol. Bydd yn hanfodol dangos i’n hyswirwyr ein bod wedi dysgu gwersi yn dilyn hawliadau sylweddol a bod gan y Cyngor reolaethau ar waith i liniaru’r risgiau er mwyn lleihau cynnydd yn y premiwm yn y dyfodol.
Roedd y pwyllgor yn awyddus i gael gwybod sut y caiff symiau cychwynnol hawliadau yswiriant posib eu cyfrifo wrth osod y gyllideb flynyddol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod gan y Cyngor gyllideb ar gyfer premiymau yswiriant a symiau cychwynnol posib sydd yn cael ei gefnogi â darpariaeth ar y fantolen sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd. Mae’r ddarpariaeth yn cynyddu neu ostwng yn unol â gwerth hawliadau dyledus a phan fo rhaid addasu premiymau. Nododd mai’r premiymau yw’r brif gost tra bo’r ddarpariaeth yn amrywio bob blwyddyn yn unol â’r hawliadau.
Hysbyswyd y pwyllgor hefyd, gan mai Ynys Môn yw’r unig awdurdod yn y rhanbarth sy’n cyhoeddi adroddiad yswiriant blynyddol, nad oes data meincnodi cymaradwy ar gael.
Penderfynwyd nodi’r tueddiadau a mesurau lliniaru yn yr Adroddiad Yswiriant Blynyddol ar gyfer 2025/26.
Dogfennau ategol: