Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sy'n nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 4 2025/26 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi bod y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2025/26, gan gynnwys cyllid corfforaethol a chronfa'r Dreth Gyngor yn danwariant o £2.631m (1.36% o'r gyllideb net ar gyfer 2025/26). Mae'r sefyllfa alldro ddrafft yn well na rhagolygon Chwarter 3 ac mae'r tanwariant a ragwelir, a'i effaith ar balansau cyffredinol y Cyngor, yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor gan ganiatáu mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu cyllideb refeniw 2027/28.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, mewn perthynas â gwasanaethau a chyllidebau corfforaethol yn benodol, bod y sefyllfa alldro yn dangos tanwariant o £1.3m yn erbyn cyllideb o £192.5m, sy'n cyfateb i lai nag 1% o gyfanswm y gyllideb (gweler Tabl 2). Mae'r tanwariant sy'n weddill yn ymwneud â'r Dreth Gyngor, gydag incwm craidd y Dreth Gyngor yn £119k yn uwch na'r gyllideb a'r premiwm treth gyngor £1.212m yn uwch na'r targed. Mae'r cynnydd mewn incwm yn bennaf oherwydd eiddo sy'n symud o ardrethi busnes i'r Dreth Gyngor yn dilyn newidiadau yn y rheolau cymhwysedd ar gyfer llety hunanarlwyo.
Pwysleisiodd fod y gyllideb gyffredinol yn cuddio pwysau parhaus mewn rhai meysydd ac yn cael ei briodoli i raddau helaeth i ffactorau nad ydynt yn rhai cylchol fel grantiau untro, cronfeydd wrth gefn, swyddi gwag staff a mwy o incwm, gan gynnwys grant dod â GwE i ben. Mae Atodiad C yn darparu dadansoddiad manwl o amrywiadau cyllidebol ac yn tynnu sylw at bwysau sylfaenol parhaus yn y galw ar Wasanaethau Oedolion (£1.097m) a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (£1.923m), yr olaf wedi'i yrru'n bennaf gan gostau cynyddol a nifer y lleoliadau plant y tu allan i'r sir. Mae'r Cyngor wedi ceisio lliniaru'r pwysau yma drwy ddatblygu darpariaeth fewnol, fel Cartrefi Clyd.
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â'r risg o apeliadau gan berchnogion eiddo hunanarlwyo sydd wedi symud o ardrethi busnes i'r Dreth Gyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y risg wedi'i gydnabod ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2024/25, a bod £900k wedi'i roi mewn cronfa wrth gefn a glustnodwyd i dalu ad-daliadau posibl sy'n deillio o benderfyniadau apelio, gellid ôl-ddyddio rhai ohonynt i Ebrill 2023.
Mynegodd aelodau’r pwyllgor gwaith bryder hefyd am y ddibyniaeth ar gyllid grant a'r ffordd y mae'r system ariannu grant bresennol yn gweithredu. Tynnwyd sylw at yr heriau oedd yn codi yn sgil ansicrwydd ynghylch a fydd grantiau'n cael eu derbyn, amseriad y dyfarniadau, a'r ffaith bod llawer o grantiau yn gysylltiedig â phrosiectau penodol nad ydynt efallai yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Nododd yr Aelodau fod yr ansicrwydd hwn yn golygu ei bod yn anos cynllunio’n ariannol ac y byddai'n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn ymgorffori mwy o grantiau yn y setliad cyllido craidd fel bod cynghorau yn gwybod ble maen nhw'n sefyll yn ariannol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cyngor yn derbyn oddeutu £30m mewn grantiau yn ychwanegol at y setliad ariannu. Mae rhai yn grantiau cylchol, mae amodau gwariant ynghlwm wrth rai a phwrpas eraill yw cefnogi pwysau cyllidebol. Nid yw cyllid grant bob amser yn cyd-fynd â'r setliad a gellir ei dorri, ei rewi neu ei gynyddu ar lefelau gwahanol. Nid yw hyn yn hysbys nes bod llythyrau dyfarnu grant yn cael eu derbyn, sy’n golygu ei bod anodd cynllunio’r gyllideb. Mae hefyd yn dod yn anodd gwahaniaethu pa elfennau o wasanaeth sy'n cael eu hariannu gan grant a pha rai sy'n cael eu hariannu o gyllidebau craidd. Pan fydd grantiau'n cael eu lleihau neu'n dod i ben, rhaid i'r Cyngor naill ai leihau'r gwasanaeth cysylltiedig neu nodi cyllid craidd parhaol i'w gynnal.
Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2025/26 y manylir arnynt yn Atodiad CH.
· Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2025/26 yn Atodiadau D a DD.
· Nodi’r crynodeb o sefyllfa a gwariant y Gronfa Cost Newid ar gyfer 2025/26 yn Atodiad E.
· Nodi bod amcangyfrif o falansau cyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2026 yn £18.949m.
Dogfennau ategol: