12.1 – FPL/2026/7 – Tyn Llan, Ffordd Penmynydd, Penmynydd
12.2 – FPL/2026/34 – Ty Llwyd, Llanfaelog
12.3 – FPL/2026/59 – Enochs, Ffordd Caergybi, Y Fali
12.4 – FPL/2026/66 – Ysgol Gyfun, Llangefni
12.5 - RM/2026/1 – Peboc, Llangefni
12.6 – VAR/2026/14 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes
12.7 – HHP/2026/72 – Ardraeth, Lon Traeth Llydan, Rhosneigr
Cofnodion:
12.1 FPL/2026/7 – Cais llawn ar gyfer creu lagŵn slyri ar dir yn Tyn Llan, Ffordd Penmynydd, Penmynydd.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y safle ym mherchnogaeth y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen y lagŵn slyri arfaethedig i wella’r system rheoli slyri bresennol ar y fferm er mwyn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Yn ogystal â hynny, mae gwaharddiad ar wasgaru slyri yn ystod y gaeaf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu fod rhaid i bob fferm fod â chapasiti i storio slyri am o leiaf pum mis er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau. Mae’r cais, fel yn achos sawl fferm arall ar Ynys Môn, yn cael ei gyflwyno i gydymffurfio â’r rheoliadau hyn. Mae adran 5.6.8 o Bolisi Cynllunio Cymru yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio fabwysiadu ymagwedd adeiladol at gynigion datblygu amaethyddol, yn enwedig y rhai a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion mewn perthynas â newid arferion ffermio neu sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol, hylendid neu les newydd. Mae’r safle’n ddaliad amaethyddol o thua 170 acer sy’n cadw tua 75 o fuchod sugno a 200 o ddefaid magu. Ar hyn o bryd mae’r ddwy storfa slyri concrit presennol wedi’u lleoli ar ran mwyaf deheuol y fferm. Adeiladwyd y strwythurau hyn cyn 1991 ac mae’r capasiti defnyddiadwy tua 244.7 metr ciwbig. Mae cyfrifiadau slyri a gynhwyswyd yn yr adroddiadau isadeiledd fferm yn nodi bod angen storio 1900 metr ciwbig. Mae hyn yn amlygu diffyg sylweddol yn y capasiti storio slyri ar y daliad, gan olygu bod gofyn uwchraddio er mwyn bodloni gofynion capasiti storio cyffredinol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu’r datblygiad a fydd yn gwella’r trefniadau rheoli slyri presennol ar y fferm. Nododd bod 2 lythyr o wrthwynebiad wedi cael ei dderbyn yn sgil pryderon ynglyn ag arogleuon, effaith weledol ac effaith ar eiddo cyfagos. Bydd y lagŵn arfaethedig tua 120m oddi wrth y terfyn â 4 Glanffrwd i’r de orllewin, a dyma’r eiddo agosaf mewn teras o bedwar tŷ ar hyd y B5420. Bydd y lagŵn bellter tebyg hefyd oddi wrth Tyn Pistyll a Derw Newydd i’r de, a Tyn Refail i’r de orllewin, ar y naill ochr a’r llall i’r briffordd gyhoeddus. Mae nifer o eiddo preswyl eraill i’r gorllewin rhwng 200m a 350m oddi wrth y lagŵn arfaethedig. Cydnabyddir y bydd rhai arogleuon achlysurol yn gysylltiedig â’r lagŵn slyri a gwaith y fferm, ond ystyrir bod hyn yn nodwedd gyfarwydd sy’n gysylltiedig â byw mewn cymuned wledig. Wrth ystyried y lleoliad gwledig a phresenoldeb storfeydd slyri presennol nad ydynt ond 30m ymhellach i ffwrdd na’r lagŵn arfaethedig, ystyrir na fyddai’r datblygiad yn cael dim mwy o effaith ar fwynderau preswyl yn yr ardal. O’r herwydd bernir bod y cynnig yn dderbyniol gan ei fod yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru, ac argymhellwyd cymeradwyo’r cais
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones bod lagynau slyri yn gallu achosi problemau i gymdogion oherwydd arogleuon. Roedd yn dymuno cael gwybod a fyddai modd mynnu bod gorchudd yn cael ei osod dros y lagŵn. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y gramen a fydd yn ffurfio dros y lagŵn slyri yr un mor effeithiol ag unrhyw orchudd. Nododd y bydd arogleuon pan fydd y slyri’n cael ei wasgaru dros y tir ac y byddai amod bod gorchudd yn cael ei osod dros y lagŵn yn achosi baich ariannol ychwanegol i’r ymgeisydd. Aeth ymlaen i ddweud bod amod o’r fath wedi cael ei gosod ar rai ffermydd, ond roedd y ffermydd hynny’n nes o lawer at dai cyfagos nag yn achos y cais hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, aelod o’r pwyllgor ac Aelod Lleol, nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylai’r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts nad yw’r ymgeisydd yn bwriadu cynyddu stoc y fferm, ac eiliodd y cynnig i gymeradwyo’r cais.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2026/34 – Cais ôl-weithredol i gadw'r adeilad presennol fel llety gwyliau yn Ty Llwyd, Llanfaelog.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Douglas M Fowlie, aelod or pwyllgor ac Aelod Lleol, y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor ymweld â’r safle.
Cynigodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid cynnal ymweliad safle. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle un unol â chais yr Aelod Lleol.
12.3 FPL/2026/59 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw cynhwysydd storio yn Enochs, Ffordd Caergybi, Y Fali.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones, Aelod Lleol ei fod dan yr argraff y byddai perchennog eiddo gerllaw, a oedd yn gwrthwynebu’r cais, yn bresennol gan ei bod wedi gofyn i siarad ar y cais. Gofynnodd pe byddai modd darllen ei datganiad ar ei rhan. Dywedodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y byddai’n amhriodol gofyn i’r Cadeirydd neu ef ei hun ddarllen datganiad y gwrthwynebydd. Dywedodd y byddai’n fwy addas pe byddai’r Aelod Etholedig neu gynrychiolydd yn adrodd i’r Pwyllgor ynglyn â’r gwrthwynebiad.
Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones bod y gwrthwynebydd yn gwrthwynebu’r ddau gynhwysydd sydd wedi cael eu gosod y tu allan i siop Enochs yn y Fali a’i bod yn byw y tu ôl i’r siop yn Lôn yr Eglwys, y Fali. Mynegodd ei werthfawrogiad i’r Swyddog Cynllunio am geisio dod i gyfaddawd rhwng y naill barti a dywedodd bod gwelliannau wedi cael eu gwneud ers i’r cais gael ei gyflwyno gyntaf. Bydd y cynhwysydd yn cael ei baentio mewn lliw niwtral fel ei fod yn llai amlwg ac yn cael llai o effaith ar eiddo cyfagos. Bydd blychau adar hefyd yn cael eu gosod ar y cynhwysydd ynghyd â ffens rhwng Lôn yr Eglwys a’r safle.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at adroddiad y Swyddog a nododd bod Amod (03) yn mynnu bod ffens yn cael ei chodi cyn pen 3 mis pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo. Roedd y Cynghorydd Jones yn dymuno cael gwybod a fydd y Swyddog Cynllunio’n ymweld â’r safle i sicrhau bod yr Amod hon wedi cael ei chyflawni. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’n bosib ymweld â phob safle i sicrhau bod ymgeiswyr yn cydymffurfio ag amodau oherwydd bod yr adran yn derbyn cymaint o geisiadau, ond roedd yn siŵr y byddai’r gwrthwynebydd yn rhoi gwybod i’r Adran Gynllunio os na fydd y ffens wedi cael ei chodi cyn pen tri mis.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais ôl-weithredol yw hwn ar gyfer lleoli cynhwysydd storio yng nghornel gogledd-orllewin yr iard gefn Siop Enochs yn y Fali. Mae angen y cynhwysydd er mwyn darparu storfa ychwanegol, gan nad oes fawr o le storio ar y safle. Bydd y cynhwysydd yn darparu ardal benodol i staff ei defnyddio yn ystod cyfnodau egwyl, gan nad oes ardal addas ar hyn o bryd oherwydd maint bychan a natur weithredol yr adeilad presennol. Mae yna un cynhwysydd yn yr iard gefn yn barod, a bu yno ers i’r safle gael ei ailddatblygu 10 mlynedd yn ôl. Bydd y cais yn caniatáu gosod cynhwysydd ychwanegol, cyfanswm o ddau. Derbyniodd yr adran bedwar llythyr yn gwrthwynebu’r cais gan berchennog eiddo cyfagos. Ar hyn o bryd mae lliw y cynhwysydd o ansawdd isel, sef cymysgedd o las a choch, ac mae hyn yn cael effaith weledol andwyol ac nid yw’n parchu cyd-destun y safle. Fel rhan o’r cynnig, bydd y cynhwysydd yn cael ei baentio gyda phaent lliw llwydfelyn. Bydd y lliw yma’n debyg i liw'r cynhwysydd arall sydd ar y safle a bydd yn darparu cynllun lliw mwy syml a thawel fydd yn parchu cyd-destun yr amgylchedd adeiledig. Bydd Amod (02) yn sicrhau fod y cynhwysydd yn cael ei baentio cyn pen tri mis. Nododd bod ffens ar y terfyn dwyreiniol gyda’r maes parcio, wal isel ar y terfyn gogleddol gydag 1 Lôn yr Eglwys a ffens ac adeilad ar y terfyn gorllewinol gyda 3A Ffordd Caergybi. Fel rhan o’r cynnig hwn bydd ffens yn cael ei chodi ar ben y terfyn gogleddol presennol, hyd at 2m o uchder, fydd yn cau’r cynhwysydd yn yr iard gefn ac yn cynorthwyo i’w integreiddio yn well. Bydd Amod (03) yn sicrhau fod y ffens yn cael ei chodi ar y terfyn gogleddol cyn pen tri mis. Er gwaetha gwrthwynebiad y cymydog, ystyrir bod y cynhwysydd arfaethedig, ynghyd â’r mesurau lliniaru, yn dderbyniol. Pe byddai’r safle’n safle preswyl byddai’r cynhwysydd yn dod o dan hawliau datblygu a ganiateir, felly mae hyn yn dangos ei fod yn dderbyniol yng nghyd-destun yr ardal breswyl gerllaw. Mae’r ymgeisydd wedi ymateb i’r pryderon hyn ac mae wedi cytuno i gyflwyno mesurau lliniaru megis paentio’r cynhwysydd a chodi ffens a gosod blwch adar. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylai’r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo'r cais gan y Cynghorydd Euryn Morris.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.4 FPL/2026/66 – Cais Llawn ar gyfer gosod ffenestri newydd, ynghyd â chladin newydd yn Ysgol Gyfun, Llangefni, Ffordd Cildwrn, Llangefni.
(Fe wnaeth y Cynghorydd Geraint Bebb ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig â’r cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais. Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is-gadeirydd).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn ar gyfer gosod ffenestri newydd ynghyd â chladin newydd yn Ysgol Gyfun Llangefni. Bydd y cladin newydd ar wyneb yr adeilad yn cynnwys pum lliw yn seiliedig ar gynllun lliwiau gwyn, llwyd a glas. Ffenestri ffrâm alwminiwm mewn lliw llwyd twyll fydd y ffenestri newydd. Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys gosod plinth o frics wedi’u saernïo o dan lefel y ffenestri llawr daear ar rai rhannau o ddrychiad blaen, cefn ac ochr yr adeilad. Mae’r datblygiad wedi’i ddylunio i safon uchel, bydd yn moderneiddio edrychiad a chymeriad yr adeilad ac mae’n cynnig gwelliannau bioamrywiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Douglas M Fowlie nad yw cynnal hen adeiladau fel hyn yn gynaliadwy. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r gost yn fater cynllunio.
Cynigiodd y Cynghorydd Euryn Morris bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.5 RM/2026/1 – Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer creu lôn mynedfa yn Peboc, Llangefni.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y safle. Dangoswyd llun o’r safle ar y sgrîn i’r Pwyllgor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais hwn yn gais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer creu ffordd fynediad ar safle Peboc, Llangefni. Mae egwyddor y datblygiad wedi cael ei gadarnhau yn dilyn derbyn caniatâd amlinellol a chytundebau Adran 73. Dyma gais i adeiladu ffordd fynediad drwy barc Diwydiannol Tregarnedd sydd yn rhan o Ystâd Ddiwydiannol Bryn Cefni. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon â’r bwriad, ac argymhellwyd cymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylai’r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo'r cais gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.6 VAR/2026/14 – Cais Adran 73 i amrywio amod (01) (Terfyn Amser) o gais VAR/2023/41 (Gwella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli cilfan ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ar hyd yr) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am dair blynedd arall ar hyd yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bŵer yng Nghemaes.
(Fe wnaeth y Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â’r cais a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir sydd ym mherchnogaeth y Cyngor.
Siaradwr Cyhoeddus
Dywedodd Mr Neil Burke, a oedd yn siarad o blaid y cais, bod Great British Energy Nuclear (GBE-N) wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth y DU i yrru prosiectau niwclear newydd yn eu blaen yn y DU, gan ddechrau gyda fflyd o Adweithyddion Modiwlar Bach (SMRau). Ym mis Gorffennaf 2024 prynodd GBE-N safleoedd niwclear newydd Wylfa ac Oldbury gan Horizon Nuclear Power. Y llynedd cynhaliodd gystadleuaeth dechnoleg ar gyfer y prosiectau SMR cyntaf, ac SMR Rolls-Royce oedd yn fuddugol. Ym mis Tachwedd y llynedd cyhoeddodd y Llywodraeth bod safle Wylfa wedi cael ei dewis ar gyfer prosiect SMR cyntaf y DU. Pan roedd y safle ym mherchnogaeth Horizon Nuclear Power, rhoddodd y Cyngor Sir ganiatâd cynllunio i gwblhau rhywfaint o’r gwaith yn gynnar yn y broses er mwyn hwyluso’r gwaith o adeiladu’r orsaf niwclear newydd a rheoli effaith y gwaith adeiladu. Yn gryno, roedd y gwaith yma’n cynnwys gwelliannau ar-lein i’r A5025, sef y gwaith y mae’r cais hwn yn ymwneud ag o. Mae’r cais Adran 73 hwn yn ceisio ymestyn y cyfnod ar gyfer cwblhau’r gwelliannau ar-lein i’r A5025 am dair blynedd, tan 13 Gorffennaf 2029. Bydd hyn yn galluogi’r cwmni i gwblhau’r gwaith pwysig yma a gweithio’n agos â’r Adran Briffyrdd. Mae cwmpas y gwaith wedi’i nodi yn Adroddiad y Pwyllgor. Fel rhan o’r cais, mae ymgynghorwyr arbenigol wedi ystyried ac asesu unrhyw newidiadau o ran y cyd-destun amgylcheddol, technegol neu bolisi ers i’r cais Adran 73 blaenorol gael ei gymeradwyo yn 2023 ac maent wedi cadarnhau nad oes unrhyw newidiadau sylweddol. Mae ymgyngoreion, yn cynnwys Swyddogion y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru hefyd yn fodlon bod y datblygiad yn dderbyniol o hyd. Mae’r gwelliannau yn rhan ganolog o gyflawni’r prosiect i adeiladu gorsaf niwclear newydd. Bydd yn mynd i’r afael â’r rhwystrau corfforol a gweithredol presennol ar hyd yr A5025 er mwyn lliniaru effaith traffig yn gysylltiedig â chamau cynnar y prosiect niwclear newydd. Ac eithrio’r prosiect ehangach, bydd y gwaith yn mynd i’r afael â phryderon ynglyn â diogelwch ac arwyneb yr A5025, er mwyn gwella’r ffordd yn barhaol yn yr ardal. Roedd y gwaith gwreiddiol wedi’i ddylunio gydag Adran Priffyrdd y Cyngor a bydd y cwmni’n parhau i weithio â’r adran drwy gydol y camau cyflawni. Mae’n bwysig nodi bod y gwaith hwn ar wahân i’r prosiect niwclear newydd, ac nad yw penderfyniad y Cyngor yn rhagfynegi barn y Cyngor ar y prosiect niwclear newydd. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo yn gysylltiedig â’r cynigion ar gyfer yr orsaf bŵer, yn cynnwys y prif ddatblygiadau ar y safle a datblygiadau ehangach ar draws yr Ynys.
Er bod y Cynghorydd Kenneth P Hughes yn cefnogi’r cais, roedd yn dymuno cael gwybod a fydd y gwaith yn cynnwys ffordd osgoi yn Llanfachraeth gan y bydd traffig trwm yn teithio drwy’r pentref ac mae’r ffordd yn gul. Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod ffordd osgoi Llanfachraeth yn rhan o’r gwaith all-lein arfaethedig o’r ffordd ac nid yw’n rhan o’r cais hwn.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi yn 2017 ar gyfer gwelliannau ar-lein i tua 16km o’r A5025, yn ymestyn o Gyffordd y Fali i gyffordd arfaethedig yr Orsaf Bŵer Niwclear newydd yn Wylfa. Mae’r gwaith a gymeradwywyd yn cynnwys ailadeiladu a lledu rhannau o’r ffordd gerbydau bresennol, rhoi wyneb newydd arni, gosod seilwaith draenio, gwaith ar y ffiniau, tirlunio, a darparu arwyddion a marciau ar y ffordd. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys compownd adeiladu dros dro sy’n cynnwys cyfleuster ailgylchu palmant ynghyd â gwaith cysylltiedig. Roedd Amod (01) yn mynnu bod y datblygiad yn cael ei weithredu cyn pen tair blynedd o ddyddiad y caniatâd (erbyn 13 Gorffennaf 2020). Mae dau ganiatâd Adran 73 dilynol (cyf. VAR/2020/2 a VAR/2023/41) wedi cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio i ymestyn y dyddiad hwn, y dyddiad diweddaraf yw 13 Gorffennaf 2026. Mae’r cais presennol yn ceisio amrywio Amod (01) o gais cynllunio cyf. VAR/2023/41 i ymestyn y cyfnod gweithredu am dair blynedd arall hyd at fis Gorffennaf 2029. Fel mae’r Siaradwr Cyhoeddus wedi’i amlinellu, mae’r gwaith hwn yn hanfodol oherwydd bod Great British Nuclear wedi prynu’r safle gan Horizon Nuclear Power ym mis Tachwedd y llynedd, ac mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd SMR yn cael ei ddatblygu gan Rolls Royce ar y safle. Nid yw’r cynnig yn cynnwys unrhyw newidiadau pellach i’r caniatâd gwreiddiol. Mae egwyddor y datblygiad, ynghyd â’r manteision cysylltiedig a’i effaith, wedi cael ei gadarnhau yn dilyn derbyn caniatâd amlinellol a chytundebau Adran 73. Nid yw’r cais wedi newid ac nid oes unrhyw newidiadau i bolisïau lleol a chenedlaethol a fyddai’n golygu bod angen cyflwyno cais llawn o’r newydd. Nid yw’r effeithiau wedi newid ers yr asesiad blaenorol, a bydd mesurau lliniaru’n cael eu sicrhau drwy amodau. Mae’r ymgynghorwyr perthnasol, yn cynnwys CNC ac ymgynghorwyr mewnol y Cyngor, yn fodlon bod y datblygiad yn dal i fod yn dderbyniol, yn amodol ar y mesurau rheoli a gytunwyd drwy amodau.
Aeth ymlaen i ddweud bod y gwelliannau i’r briffordd yn hanfodol i unrhyw gais dilynol yn Wylfa ac mae’n caniatáu i unrhyw ddatblygwr fynd i’r afael â chyfyngiadau ffisegol a gweithredol er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau traffig yn gynnar yn y prosiect. Mae’n bwysig nodi bod y Cyngor yn ystyried bod ymestyn y cyfnod gweithredu yn gam cymesur a phragmatig o ystyried bod egwyddor y datblygiad eisoes wedi’i dderbyn ac nad oes unrhyw newidiadau arwyddocaol wedi codi. Yn y cyd-destun hwn, mae’r manteision yn gysylltiedig â chadw’r caniatâd hwn yn gwrthbwyso’r angen i ailasesu’r cynnig yn llawn. At ei gilydd, bernir bod y cynnig i ymestyn y cyfnod gweithredu yn dderbyniol, mae’n cydymffurfio â’r cynllun datblygu a pholisïau cenedlaethol, ac yn cynrychioli math cynaliadwy o ddatblygiad. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Llio Angharad Owen, Aelod Lleol, bod trigolion lleol yn derbyn bod angen gwella’r A5025 ond mae’r diffyg eglurder ynglyn â phryd y bydd y datblygiadau hyn yn digwydd yn peri pryder. Cyfeiriodd at y gwaith arfaethedig i’r gogledd o’r Fali ond mae ansicrwydd ynglyn â’r gwelliannau fydd yn cael eu gwneud gan fod tai ar ochr y ffordd. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais hwn yn gymhleth ac y bydd 25 o Amodau ynghlwm ag unrhyw ganiatâd. Rhaid i’r datblygwr gyflwyno gwybodaeth fanwl ynglyn â thirlunio, yr effaith ar ecoleg, draenio ayb, a bydd mwy o eglurder pan fydd y datblygiad wedi cychwyn. Gofynnodd Llio Angharad Owen pam nad oes yn rhaid i ddatblygwyr gyflwyno gwybodaeth o’r fath cyn derbyn caniatâd. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd yn rhaid penodi Contractwr i wneud y gwaith angenrheidiol ac na fydd yn bosib i’r datblygwr gyflwyno’r wybodaeth fanwl nes bo hynny wedi digwydd. Bydd rhaid cwblhau asesiad ecolegol ychwanegol yn ogystal.
Roedd y Cynghorydd Jackie Lewis, aelod o’r pwyllgor ac Aelod Lleol, yn dymuno cael gwybod ai cais yw hwn i ymestyn y cyfnod gweithredu am 3 blynedd arall a p’un a fydd angen asesiadau pellach ar ôl penodi Contractwr ynghyd â newidiadau i’r modd y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau. Gofynnodd pe byddai unrhyw newidiadau i’r cais yn dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y yr amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith yn cael ei ymestyn am gyfnod o 3 blynedd ac ers i GBE-N gymryd meddiant o’r safle, mae ymrwymiad gan San Steffan i adeiladu SMR ar y safle. Nododd y byddai’n rhaid i unrhyw newidiadau i’r cais gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan y byddai’n gais Adran 73 gan fod rhan o’r tir ym meddiant yr Awdurdod Lleol. Fodd bynnag, nid yw newidiadau i amodau bod amser yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor.
Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts pe byddai modd galw unrhyw Amodau cynhennus i mewn yn gysylltiedig â’r cais hwn. Dywedodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol bod y Cyfansoddiad yn nodi bod y dasg o ryddhau amodau wedi cael ei dirprwyo i’r Swyddogion. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod yn ymwybodol bod ceisiadau i ryddhau Amodau yn gysylltiedig â Safle Penrhos, Caergybi ac Ysgol y Graig, Llangefni wedi dod gerbron y Pwyllgor. Nododd bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal gydag ymgynghorwyr oherwydd natur gymhleth Amodau o’r fath.
Roedd y Cynghorydd Jackie Lewis hefyd yn dymuno cael gwybod a fyddai’r cyhoedd yn cael cyfle i roi eu barn yn ystod pob cam o’r gwaith. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod yn rhagweld y bydd GBE-N a’r Awdurdod Lleol yn ymgynghori gyda’r gymuned leol yn ystod pob cam o’r gwaith.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.7 HHP/2026/72 – Cais llawn ar gyfer addasu ag ehangu yn Ardraeth, Lôn Traeth Llydan, Rhosneigr.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Douglas M Fowlie, aelod or pwyllgor ac Aelod Lleol, y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor ymweld â’r safle.
Cynigodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid cynnal ymweliad safle. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle un unol â chais yr Aelod Lleol.
Dogfennau ategol: