Eitem Rhaglen

Blaen Rhaglen Waith

Derbyn Cylch Gorchwyl y Pwyllgor ac ystyried y Flaen Rhaglen Waith sydd wedi’i hawgrymu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini yn cynnwys rhaglen waith ddrafft i’r Pwyllgor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2013/14.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at gefndir a phwrpas y rhaglen waith a hefyd at ddyletswyddau a chylch gorchwyl Sgriwtini Corfforaethol.  Pwysleisiodd bod y rhaglen waith yn ddogfen esblygol sy’n adlewyrchu blaenoriaethau’r Pwyllgor o ran unrhyw faterion sy’n achosi pryder ac / neu ddiddordeb fyddai’n codi ac mewn ymateb i gerrig milltir allweddol o fewn blwyddyn galendr y Cyngor h.y. ymgynghori ar y gyllideb drafft ac ar yr Adroddiad Gwella Blynyddol.  Unwaith y bydd y rhaglen waith wedi ei chytuno, bydd yn cael ei hadrodd yn ôl i bob cyfarfod o’r Pwyllgor i bwrpas adolygu ei chynnwys, ystyried cynnwys eitemau newydd neu dynnu rhai yn ôl neu oedi gyda rhai eitemau a chynllunio ymlaen ar gyfer y cyfarfod nesaf. 

 

Bu’r Aelodau yn ystyried y rhaglen waith a thrafodwyd y materion canlynol ar y cynnwys -

 

·         Gofynnwyd am gael cynnwys yn y rhaglen waith eitem mewn perthynas ag effeithiau’r gostyngiad yn swm y budd-dal tai oedd ar gael i unigolion sydd ag ystafell wely sbâr h.y. rhai sy’n rhan o’r rhaglen diwygio lles a adwaenir yn fwy cyffredinol fel treth ystafell wely.

·         Rhesymoli cartrefi preswyl i’r henoed.  Eglurodd y Cadeirydd bod teimlad cryf yn ystod y sesiwn briffio cyn y Pwyllgor bod angen i’r Pwyllgor sgriwtineiddio’r elfen hon o waith y Cyngor a’r amserlenni cysylltiedig yn arbennig yng nghyd-destun gwelyau gwag ac a oes angen dyrannu’r rheini.  Fodd bynnag, ni fyddai’n dymuno dyblygu na amharu ar waith sydd, yn ôl yr hyn a ddeellir, yn cael ei wneud fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid.  Pwysleisiodd y Cadeirydd fodd bynnag y byddai’r Pwyllgor yn dymuno cael mewnbwn i’r mater hwn pan ystyrir bod hynny’n amserol. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned wrth y Pwyllgor y bydd y Bwrdd Rhaglen Pobl Hŷn yn adrodd ar raglen waith arfaethedig ac amserlen i’r Bwrdd Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaeth ym mis Medi pryd disgwylir y bydd y mandad a’r rhaglen waith yn cael eu cymeradwyo.  Yng ngoleuni’r ffaith bod angen gwneud gwaith i adolygu’r ddarpariaeth gymunedol a rhagamcanu maint y buddsoddiad sydd ei angen a’r rhagolygon o gael cyllid, nid oedd yn rhagweld y byddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud yn y tymor byr.  Mae gwaith yn parhau ar hyn o bryd ar gwblhau’r broses ar gyfer cyfathrebu gyda phreswylwyr.

 

Roedd y Rheolwr Sgriwtini am atgoffa’r Pwyllgor bod y Cynghorydd Peter Rogers yn gwasanaethu ar y Bwrdd Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaeth ac awgrymodd y dylid gofyn i’r Cynghorydd Rogers gael gair gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi a bod y Pwyllgor yn cael ei ddiweddaru’n ffurfiol ar y rhaglen i drawsnewid gwasanaethau gofal preswyl unwaith y byddai’r broses o ymgynghori gyda’r preswylwyr wedi ei chwblhau.

 

Penderfynwyd derbyn y rhaglen waith fel yr oedd i’w gweld yn Atodiad 1 ac i nodi ei chynnwys ond gan ychwanegu eitem ar effeithiau gweithredu’r rhan o’r rhaglen diwygio lles sy’n cael ei alw’n dreth ystafelloedd gwely.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:

 

·         Y Rheolwr Sgriwtini mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd i raglennu’r eitem ychwanegol sef y dreth “ystafell wely” i raglen waith y Pwyllgor.

·         Y Cynghorydd Peter Rogers fel y cynrychiolydd sgriwtini ar y Bwrdd Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaeth i friffio’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gynnydd gyda’r trafodaethau yng nghyfarfod mis Medi y Bwrdd ar y rhaglen i drawsnewid gwasanaethau gofal preswyl.

·         Y Cyfarwyddwr Cymuned i roddi diweddariad yn ffurfiol i’r Pwyllgor hwn ar y rhaglen ar gyfer trawsffurfio gwasanaethau gofal preswyl unwaith y bydd y broses ymgynghori gyda phreswylwyr wedi ei chwblhau.

 

Dogfennau ategol: