Cais am ganiatâd arbennig.
Cofnodion:
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Celfyn Furlong wedi ceisio caniatâd arbennig yn seiliedig ar ei ddiddordeb rhagfarnol mewn perthynas â’r busnes, sy’n gweithredu safle carafanau 44 llain.
Nodwyd fod y Cyngor Sir yn cynnal ymgynghoriad ar y cynnig i fabwysiadu ardoll ymwelwyr a’i peidio, yn unol â Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025.
Mae’r Cynghorydd Furlong wedi gwneud cais am ganiatâd arbennig i allu cymryd rhan mewn cyfarfodydd neu drafodaethau am yr ardoll yn y dyfodol, ac i ysgrifennu at swyddogion ac aelodau am y mater. Mae wedi gofyn am ganiatâd i fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar yr ardoll, ond nid yw’n dymuno pleidleisio ei hun.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Furlong i siarad o blaid ei gais.
Dywedodd y Cynghorydd Furlong fod ganddo arbenigedd a phrofiad sylweddol o weithio yn y diwydiant twristiaeth a’i fod eisiau codi ymwybyddiaeth aelodau etholedig, y cyhoedd a pherchnogion busnes o’r goblygiadau ynghlwm â mabwysiadu’r ardoll ymwelwyr. Ategodd mai ei fwriad yw cynrychioli’r sector, gofyn cwestiynau a defnyddio ei wybodaeth a’r brofiad yn y maes.
Cafodd aelodau’r Panel gyfle i gwestiynu Cynghorydd Furlong ar sawl agwedd ar ei waith, yn cynnwys sut fyddai’r ardoll yn effeithio ar ei fusnes pe byddai’n cael ei fabwysiadu.
Dywedodd y Cynghorydd Furlong ei fod yn gweithredu ac yn berchen ar safle carafanau teithio sy’n croesawu carafanau teithio, cartrefi modur, pebyll a lleiniau tymhorol. Dywedodd y byddai ffi yr ardoll ymwelwyr ar gyfer cartrefi modur a charafanau yn cael ei osod ar gyfradd uwch, gyda phebyll ar gyfradd is, a lleiniau tymhorol yn cael eu heithrio oni bai eu bod yn cael eu his-osod. Pwysleisiodd y byddai rheoli’r ardoll yn creu mwy o lwyth gwaith iddo, gan y byddai ffioedd yn weithredol pan mae ymwelwyr yn gadael y safle carafanau. Nodwyd y gallai hyn achosi problemau pe byddai ymwelwyr yn penderfynu gadael safleoedd carafanau heb dalu’r ffioedd.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Furlong y byddai rheoli ochr weinyddol yr ardoll ymwelwyr yn creu baich i berchnogion gwersyllfeydd gan nad yw bob gwersyllfa wedi mabwysiadu’r dechnoleg ddiweddaraf. Nodwyd y bydd rhaid i’r rheiny sy’n rhedeg gwersyllfeydd gydymffurfio gyda rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru a chyflwyno adroddiadau chwarterol i’r Awdurdod hwnnw.
Dywedodd y Rheolwr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol y bydd angen glynu wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf o ran yr ardoll ymwelwyr. Eglurodd fod y Cyngor Sir yn cynnal ymgynghoriad agored am 8 wythnos ar hyn o bryd sy’n darparu digon o wybodaeth i alluogi pobl i ymateb yn bwyllog iddo, sy’n cynnwys asesiad o’r economi, cydraddoldeb a’r amgylchedd. Bydd ymgynghorydd annibynnol yn cael ei benodi i gyflwyno adroddiad terfynol i’r Cyngor llawn yn dilyn dadansoddiad o adborth yr ymgynghoriad.
Ar ôl gwrando ar gefndir y cais am ganiatâd arbennig gan yr Ymgeisydd, aeth y Panel ati i gynnal sesiwn breifat i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd arbennig ai peidio, ac os rhoddir ganiatâd arbennig, rhaid ystyried (i) ar ba sail neu seiliau y rhoddir y caniatâd arbennig ac (ii) a fydd unrhyw gyfyngiadau’n cael eu cyflwyno.
PENDERFYNWYD rhoi’r caniatâd arbennig i’r Cynghorydd Furlong yn ei rinwedd fel Cynghorydd Sir mewn perthynas â’r diddordebau hynny y
cyfeiriwyd atynt yn y cais ac ar y ddwy sail sydd wedi’u hamlygu yn y cais.
Mae’r caniatâd arbennig hwn yn rhoi hawl i’r Cynghorydd: -
• ysgrifennu at swyddogion ac aelodau am y mater;
• siarad gyda swyddogion am y mater, cyn belled a bo nodyn o drafodaethau
o’r fath yn cael ei chadw;
• siarad ym mhob cyfarfod am y mater;
• aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth am y mater a thra bo’r
bleidlais yn cael ei bwrw, ond ni chaiff gymryd rhan yn y
bleidlais.
Cyfyngiadau:
• Ni chaniateir iddo bleidleisio.
• Bydd y caniatâd arbennig yn dod i ben ar ddiwedd y tymor cyfredol ar gyfer
aelodau etholedig y Cyngor Sir (ar y pedwerydd diwrnod
ar ôl yr etholiad llywodraeth leol nesaf).
Camau:
• Rhaid i’r Cynghorydd Furlong ddatgan diddordeb rhagfarnol wrth fynychu
cyfarfodydd y Cyngor, a’r holl gyfarfodydd perthnasol eraill.
• Cytunodd y Swyddog Monitro a’r Cadeirydd ar eiriad priodol ar gyfer yr
Hysbysiad o Benderfyniad, a
• Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Cynghorydd Furlong yn cadarnhau fod
y Panel Caniatâd Arbennig wedi rhoi’r caniatâd.
• Bydd copi o’r Hysbysiad o Benderfyniad yn cael ei rannu gyda’r
Cynghorydd Furlong, Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaethau
Democrataidd.
Dogfennau ategol: