Eitem Rhaglen

Materion Cyllidol - Rhagdybiaethau ac Amserlen ar gyfer Cyllideb 2014/15

Ystyried y canlynol 

 

·         Rhagdybiaethau ac Amserlen  ar gyfer Cyllideb 2014/15 (Adroddiad a   gyflwynwyd i gyfarfod 15 Gorffennaf y Pwyllgor Gwaith)

 

·         Diweddariad ar  Raglen Effeithlonrwydd 2012-13

 

·         Canlyniadau Dros Dro Cyllideb Refeniw 2012/13 (Adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod 10 Mehefin y Pwyllgor Gwaith)

 

·         Canlyniadau Gyllideb Gyfalaf 2012/13 (Adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod 10 Mehefin y Pwyllgor Gwaith)

 

·         Diweddariad ar Reoli Risg ac Yswiriant

 

 

 

 

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd i ystyriaeth y Pwyllgor adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) mewn perthynas â’r Strategaeth Gyllideb Refeniw Tymor Canol (MTRBS) a thybiaethau’r Gyllideb am 2014-15 fel y cawsant eu cyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 15 Gorffennaf.  Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y Strategaeth Gyllideb Tymor Canol am 2014/15 i 2016/17 yn ogystal â nodi’r egwyddorion fydd yn sylfaenol i Gyllideb 2014/15 a’r targed arbedion i’r Adrannau a’r strategaethau ar gyfer eu sicrhau.

 

Rhoddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) drosolwg byr i’r Aelodau o sut roedd pethau’n edrych gyda’r gyllideb.  Dywedodd bod y strategaeth cyllideb refeniw a gyflwynwyd i’r Cyngor llawn ar 5 Mawrth yn nodi bwlch cyllido tebygol o £3.1m yn 2014/15 a £4.0m yn 2015/16.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd cyllid am 2014/15 yn newid yn sylweddol o ganlyniad i lai o gyllid o lywodraeth ganolog gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn awgrymu lleihad o 4% am 2014/15 ac o bosibl y tu draw i hynny i Lywodraeth Leol yng Nghymru.  Ni fydd y gostyngiad gwirioneddol i Fôn yn cael ei gadarnhau hyd yn nes ymlaen yn y flwyddyn.  Roedd Tabl 2 yn yr adroddiad yn nodi’r MTRBS diweddaraf yn seiliedig ar y senario fwyaf tebygol o leihad 4% yn y gefnogaeth allanol.  Bydd angen sicrhau’r arbedion drwy drawsnewid gwasanaethau, effeithlonrwydd ac arbedion.  Amcangyfrifir y bydd yr arbedion sydd eu hangen £7.5m yn 2014/5 gyda’r cyfanswm ar draws y 3 blynedd i 2016/17 tua £21.6m.

 

Aeth y Swyddog ymlaen i gyfeirio’r Aelodau at y tybiaethau oedd wedi eu hadeiladu i mewn i ragamcanion MTRBS fel yr oeddynt i’w gweld yn adran 3.9 yr adroddiad.  Eglurodd hefyd bod nifer o senarios arbedion wedi eu datblygu (Atodiad 3 yr adroddiad) oedd yn nodi’r arbedion y gellid eu sicrhau o gael gostyngiad canrannol mewn cyllidebau yn amrywio o 5.4% i 10.7%.  Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu symud ymlaen yn seiliedig ar ostyngiad cyllidebol 6.3%.  Yn Adran 7 yr adroddiad, roedd amserlen ar gyfer y broses o osod y gyllideb gyda’r dyddiadau allweddol wedi eu hamlygu.

 

Pwysleisiodd y Deilydd Portffolio Cyllid yn ei sylwadau i’r Pwyllgor bod y sefyllfa yn eithaf difrifol gyda’r Cyngor yn wynebu lefel o doriadau nas gwelwyd o’r blaen a hynny’n golygu bod amheuaeth ynghylch a fedrir cynnig unrhyw fath o lefel o ddiogelwch i unrhyw wasanaeth.  Mae’r Cyngor yn mynd i mewn i gyfnod hynod o heriol ac mae’r lefel o arbedion sydd eu hangen yn golygu na fydd gwneud toriadau tameidiog yn opsiwn a bod yn rhaid wynebu’r sefyllfa trwy drawsnewid gwasanaeth.

 

Yn dilyn ystyried yr adroddiad, roedd yr aelodau’n bryderus gyda goblygiadau’r toriadau oedd ar ddod ar forâl staff gan ddweud y byddai’n anodd i staff ddarparu gwasanaeth brwdfrydig pan fo yna ragolygon o resymoli.  Cyfeiriwyd hefyd at ragdybiaeth y byddai cynnydd blwyddyn ar flwyddyn o 5% yn y Dreth Gyngor a phwysleisiwyd y byddai cynnydd ar y lefel honno i Drethdalwyr yr Ynys yn ei gwneud yn fwy hanfodol i ni ddarparu gwasanaethau o safon.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad a’i gynnwys

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

·        Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar ganlyniad dros dro cyllideb refeniw 2012/13 fel oedd wedi ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 10 Mehefin.  Roedd y diweddariad ar ganlyniad y Rhaglen Arbedion 2013 wedi ei gynnwys i’w ystyried gyda’r eitem hon).

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) wrth yr Aelodau bod ffigurau dros dro yn dangos tanwariant net o £1.1m, a hynny’n cynrychioli newid o £2.1m i gyd o gymharu â’r sefyllfa yn Chwarter 3.  Gellir priodoli’r newid mewn sefyllfa i nifer o ffactorau, y pennaf ohonynt yw’r newid sylweddol yn sefyllfa’r Adran Addysg o orwariant tybiedig o £774k i danwariant o £90k.  Y tu draw i hynny, fe gafwyd patrwm cyson o symudiad mwy cyfyngedig ar draws yr holl benawdau oedd, gyda’i gilydd, wedi bod yn gyfrifol am weddill y newid.  Rhai ffactorau eraill oedd wedi dylanwadu ar y sefyllfa fu effaith y moratoriwm ar fathau arbennig o wariant ym misoedd olaf y flwyddyn, a hefyd y gwasanaethau yn dal yn ôl yn gyffredinol mewn ymateb i’r rhagolygon cyfredol i gyllid y Cyngor ac agwedd wyliadwrus gan staff cyllid a deilyddion cyllideb wrth ragamcanu’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn o ystyried yr angen i osgoi gorwariannau nas rhagwelwyd.

Holodd y Cadeirydd a oedd rhai arbedion wedi eu sicrhau gan wasanaethau drwy iddynt roi bloc ar wario ac a fyddai’r arian hwnnw oedd heb ei ddefnyddio yn gorfod cael ei wario yn nes ymlaen gyda hynny’n golygu nad oedd cyfran o’r arbedion a wnaed yn arbedion gwirioneddol.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) mewn ymateb y gallai gael gwybodaeth ynglŷn â pha gyfran o’r arbedion £1.1m a gafwyd drwy roi stop ar wariant.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad a’i gynnwys

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) i roi dadansoddiad i’r Aelodau o’r tanwariant £1.1m dros dro ac yn benodol faint o’r swm hwnnw y gellir ei briodoli i’r moratoriwm ar rai mathau o wariant.

 

·         Adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yng nghyswllt canlyniad y gyllideb cyfalaf  2012/13 fel oedd wedi ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 10 Mehefin, i sylw’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) at y gwariant ar eitemau mawr yn y gyllideb gyfalaf fel oedd i’w weld yn Adran 1.2 yr adroddiad ynghyd â phrosiectau mawr oedd wedi dechrau yn ystod y flwyddyn; y cynlluniau oedd wedi eu cwblhau yn y flwyddyn yn ogystal â phrosiectau a chynlluniau oedd ar droed.  Roedd dadansoddiad o wariant cyfalaf i’w weld yn Adran 2 yr adroddiad.  Dywedodd y Swyddog bod y canlyniad dros dro ar sail gwariant yn £25.4 yn erbyn y cyfanswm oedd  ar gael, sef £32.3m.   Roedd yna nifer fechan o enghreifftiau o fynd dros y gyllideb yn ystod y flwyddyn a’r rheini wedi eu cyllido o gyllidebau refeniw gwasanaeth, a’r unig risgiau sylweddol fel yr adroddwyd arnynt yn ystod y flwyddyn oedd y gwaith arian ar Bier Biwmares a gyllidwyd gydag arian Cydgyfeiriant ac adleoli Ysgol y Bont.  Bydd yr arian wrth gefn sydd heb ei ddyrannu yn llithro i 2013/14 i’w ddefnyddio fel oedd i’w weld yn Adran 5 yr adroddiad. Gall y rhan fwyaf o’r arian llithriad ar y gyllideb gyfalaf gyffredinol drosglwyddo i’r flwyddyn ariannol bresennol. I gloi, dywedodd y Swyddog, wrth edrych ymlaen, bod dau gynllun sylweddol i’w nodi ar hyn o bryd, sef Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a’r rhaglen rhesymoli asedau.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, y canolbwynt oedd y stad mân-ddaliadau a’r defnydd o’r incwm o’r stadau yng nghyd-destun y rhaglen barhaol o wneud gwelliannau i’r portffolio mân-ddaliadau.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad a’i gynnwys

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

·         Adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) ar y sefyllfa ddiweddaraf ynglyn â gweithredu’r Fframwaith Rheoli Risg a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol i sylw’r Pwyllgor. Roedd datganiad sefyllfa mewn perthynas â hawliadau yswiriant hefyd gerbron.

 

Dywedodd y Swyddog Rheoli Risg ac Yswiriant wrth yr Aelodau bod y Grŵp Adolygu Perfformiad wedi adolygu’r Cofrestrau Risg Gwasanaeth a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ar 2 Gorffennaf ac roedd argymhellion y Grŵp wedi eu hadolygu ynghyd â’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ac roedd y fersiwn ddiwygiedig o’r Gofrestr ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A.  Roedd yr adolygiad wedi nodi’r pedair risg fwyaf i’r Cyngor fel yr oeddynt i’w gweld yn Adran 3.2 yr adroddiad.  Roedd cofnod o hawliadau yswiriant y Cyngor am y cyfnod o 1 Ebrill 2007 i 31 Mawrth 2003 i’w weld yn Atodiad B ac roedd yn adlewyrchu cynnydd 40% yn yr hawliadau atebolrwydd cyhoeddus a dderbyniwyd yn ystod 2012/13 a oedd i’w priodoli’n bennaf i hawliadau am ddifrod i gerbydau oherwydd cyflwr ffyrdd y Cyngor.  Gwelwyd cynnydd 100% hefyd mewn hawliadau yn ymwneud â fflyd gerbydau’r Cyngor a hynny, fe ymddengys, am nifer o ffactorau.

 

Ystyriodd yr Aelodau y wybodaeth oedd wedi ei chyflwyno a cheisiwyd cael sicrwydd ynglŷn â’r lefel uchel o risgiau a nodwyd a holwyd a oedd swyddogion yn fodlon y gellir gostwng y risgiau hynny ac/neu eu lliniaru.  Pwysleisiodd yr Aelodau hefyd fod cyfathrebu’n erfyn gwerthfawr o ran mynd i’r afael â risgiau a’u lleihau ynghyd â phwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth am risgiau’r Cyngor yn cael ei rhannu i staff drwy’r holl awdurdod.

 

Dywedodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant bod y camau gweithredu oedd i’w gweld ar y gofrestr yn gamau oedd yn cael eu cynnig i liniaru’r risgiau a phe cânt eu gweithredu, fe ddisgwylir iddynt leihau’r lefel o risg.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad a’i gynnwys

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: