Ystyried y canlynol –
· Sgorfwrdd Corfforaethol Chwarter 1 2013-14
· Diweddariad interim ar Adroddiad Perfformiad 2012-13
· Gwneud Gwahaniaeth – Prosiect Cynllunio Busnes ac Ymgysylltu ynglyn
â’r Gyllideb – Cynllun Marchnata a Chyfathrebu
Cofnodion:
· Cafwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) yn ymgorffori Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2013/14.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) wrth yr Aelodau bod y cerdyn sgorio wedi ei ddatblygu er mwyn nodi a rhoi gwybodaeth i’w ddefnyddwyr am gynnydd yn erbyn dangosyddion sy’n dangos yn glir weithrediad llwyddiannus gweithgaredd dydd i ddydd y Cyngor mewn 4 maes - Rheoli Pobl; Rheoli Arian; Rheoli Perfformiad a Gwasanaeth i’r Cwsmer. Dim ond un rhan o’r naratif am y perfformiad a ddangosir gan y DPA a rhaid cymryd ffactorau eraill sy’n dylanwadu i ystyriaeth megis y cyfnod amser a’r cyd-destun lleol.
Rhoddodd y Dadansoddydd Perfformiad eglurhad byr i’r Pwyllgor o’r broses o ddewis y DPA ar y cerdyn sgorio.
Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn croesawu’r cerdyn sgorio fel dull rhwydd o adrodd yn ôl ac fel model defnyddiol i fonitro perfformiad ac yn y drafodaeth ar y wybodaeth yn y cerdyn sgorio, nodwyd y pwyntiau canlynol –
· Gan gyfeirio at reolaeth ariannol er enghraifft, gofynnwyd beth fyddai pwynt sbarduno i statws CAG er mwyn i unrhyw ddangosydd newid o ambr i goch a nodwyd y byddai darparu’r math hwn o wybodaeth o gymorth i’r Aelodau wrth iddynt sgriwtineiddio’r cerdyn sgorio.
· Yr angen i gael mwy o wybodaeth gyd-destunol mewn perthynas â’r DPA oedd yn goch fel bod yr Aelodau’n cael gwybod am unrhyw wybodaeth berthnasol y tu ôl i’r ystadegyn a thrwy hynny wneud y ffigwr DP yn fwy ystyrlon iddynt. Nodwyd hefyd nad yw bodloni targedau rhifyddol ond yn dweud ychydig iawn wrthym am ansawdd y gwasanaeth a roddir a’r profiadau y tu ôl i hynny.
· Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn hawliadau atebolrwydd yn erbyn y Cyngor o ganlyniad i gyflwr gwael y ffyrdd a holwyd sut y gellir cysoni’r ffeithiau hynny gyda’r DP ar y cerdyn sgorio sydd â statws gwyrdd sy’n golygu bod y perfformiad o fewn targed.
· P’un a oedd angen i DPA yn ymwneud ag absenoldeb salwch wahaniaethu rhwng adrannau ac/neu wasanaethau unigol er mwyn gallu rhoi hwb i berfformiad yn y cyswllt hwn.
Ymatebodd y Swyddogion i’r materion a godwyd a nodwyd hefyd gyda chyfeiriad arbennig at yr anghysondeb ymddangosiadol rhwng y perfformiad mewn perthynas â chynnal a chadw ffyrdd a’r adroddiad blaenorol ynghylch cynnydd mewn hawliadau yn erbyn yr Awdurdod oherwydd cyflwr gwael y ffyrdd, bod y cerdyn sgorio’n adlewyrchu targed lleol yn hyn o beth ac nad oedd y perfformiad yn y maes hwn ar lefel genedlaethol gystal. Nid yw’r rhaglen sy’n cefnogi’r cerdyn sgorio ar hyn o bryd yn gallu cynnwys gwybodaeth feincnodi am berfformiad yn erbyn rhai awdurdodau eraill.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cymuned eglurhad i’r Pwyllgor am absenoldeb salwch yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â pherfformiad yn y Gwasanaethau Plant gan gyfeirio at ymweliadau statudol i blant y gofelir amdanynt a lle'r oedd y perfformiad wedi ei ddynodi’n goch. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Oedolion) ymhellach bod fframwaith rheoli perfformiad y Gwasanaeth ei hun yn mapio DPA yn fisol drwy gerdyn sgorio gwasanaeth sy’n ei alluogi i osod targedau lleol yn erbyn DPA cenedlaethol sydd o reidrwydd, yn cael eu gosod ar lefel uwch na ddangosyddion perfformiad cenedlaethol er mwyn gallu gwthio’r perfformiad yn lleol i lefelau arfer orau. Mae hwn yn ffactor mewn perthynas â pherfformiad yng nghyswllt y ganran o ofalwyr a aseswyd yn ystod y flwyddyn. Aeth y swyddog ymlaen wedyn i gyfeirio at absenoldeb salwch yn y Gwasanaethau Oedolion a’r effaith y bydd ailfodelu gwasanaethau gofal i oedolion yn debygol o’i gael yn y tymor byr ar berfformiad yn erbyn dangosyddion. Yng nghyswllt y ffigyrau a ddefnyddiwyd fel sail ar gyfer perfformiad yng nghyswllt rheolaeth ariannol yn y Gwasanaeth Oedolion, eglurodd nad oedd y ffigyrau hynny wedi eu cadarnhau hyd yn hyn a bod y gwaith manwl o amgylch y ffigyrau hynny eto i’w wneud. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Anableddau Corfforol) wybodaeth bellach i’r Aelodau am y sefyllfa, mewn perthynas ag asesu anghenion gofalwyr ar gyfer oedolion a chafwyd trafodaeth ar hynny wedyn yn y Pwyllgor.
Awgrymodd y Cyfarwyddwr Cymuned y byddai o ddefnydd i’r Pwyllgor weld cerdyn sgorio’r Gwasanaeth ar yr un pryd â’r cerdyn sgorio corfforaethol oherwydd ei fod yn rhoi mwy o gefndir i’r ffigyrau DPA.
Penderfynwyd nodi’r cerdyn sgorio corfforaethol a’r wybodaeth ynddo.
CAMAU GWEITHREDU’N CODI:
· Y Cyfarwyddwr Cymuned i adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â meysydd gwasanaeth lle mae statws CAG yn goch.
· Y Cyfarwyddwr Cymuned i ddarparu cerdyn sgorio gwasanaeth ochr yn ochr â’r cerdyn sgorio corfforaethol i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.
· Y Dadansoddydd Perfformiad (AW) i gysylltu gyda’r Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes ynglyn ag ymarferoldeb y gwasanaethau yn darparu mwy o wybodaeth gefndirol yn yr adran Nodiadau ar y sgôr gerdyn corfforaethol.
· Cafwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) ar y sefyllfa yng nghyswllt Adroddiad Perfformiad 2012/13 i sylw’r Pwyllgor.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) wrth yr Aelodau am yr anghenion yng nghyswllt cyhoeddi Adolygiad Perfformiad Blynyddol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn gyda hynny’n darparu asesiad ôl-ddyddiol o berfformiad y flwyddyn gynt o ran cyflawni blaenoriaethau’r Cyngor yn 2012/13; mynd i’r afael ag adroddiadau gorchwylio ac archwilio; perfformiad yn erbyn mesurau a DPA cenedlaethol, a chytundebau canlyniad. Gwaith ar y gweill yw’r Adroddiad Adolygu Perfformiad ar hyn o bryd ac roedd yr adroddiad uchod yn rhoi diweddariad dros dro ar ei gynnwys a hefyd amserlen ar gyfer cynhyrchu, herio a chymeradwyo’r adroddiad adolygu.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.
DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI
· Cafwyd adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr yn amlinellu’r trefniadau o amgylch cynllunio busnes Gwneud Gwahaniaeth a Phrosiect Ymgysylltu ynglŷn â’r Gyllideb yn ogystal â’r cynllun marchnata a chyfathrebu i gefnogi’r prosiect, i sylw’r Pwyllgor.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) grynodeb i’r Aelodau o amcanion y prosiect a’i gynulleidfa darged. Dywedodd mai bwriad y teitl “Gwneud Gwahaniaeth” oedd cyfleu neges y prosiect ymgysylltu ac ymgynghori hwn sef gwneud gwahaniaeth yn y ffordd y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn darparu ei wasanaethau a hefyd gwneud yr arbedion angenrheidiol yn y tymor byr. Gosodwyd amserlen ar gyfer hyn a lluniwyd holiadur a bydd y broses ymgysylltu ac ymgynghori ei hun yn cael ei chynnal gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau er mwyn apelio i’r gynulleidfa ehangaf bosibl.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.
DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI
Dogfennau ategol: