Eitem Rhaglen

Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio

6.1  34C553ATy’n Coed, Llangefni

6.2  46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos,  Cae Glas a                                                  Kingsland, Caergybi

Cofnodion:

6.1  34C553a – Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffyrdd a seilwaith cysylltiol yn Ty’n Coed, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen i’r cais gael ei ohirio oherwydd bod trafodaethau ar y gweill mewn perthynas â thelerau’r cytundeb Adran 106 mewn perthynas â thai fforddiadwy ac anghenion yr Awdurdod Addysg.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

 

6.2  46c427K/TR/EIA/ECON –  Cais cynllunio hybrid yn cynnig :-

 

Cais Amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ac eithrio dull mynediad ar gyfer :

 

Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys cabannau a bythynnod newydd; Adeilad canolbwynt canolog newydd gan gynnwys derbynfa, cyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr dan do, bowlio deg a neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai a siopau; adnewyddu ac ymestyn adeiladau ar y stad ar gyfer Marchnad Ffermwyr; lle chwarae dan do i blant, Sba gyda gym a chyfleusterau newid, addasu adfeilion yr hen Dy Cychod yn fwyty wrth y traeth, Darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r llwybr arfordirol gan gynnwys: Rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar i goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; Creu trywydd cerfluniau newydd trwy goetir a llwybrau pren a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; Bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun.

 

Tir yn Cae Glas - Codi llety pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 315 o gabanau i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer 2000 o weithwyr adeiladu; Adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; Cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; Gwesty newydd; Adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, siopau a bar; Cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Chanolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad ansawdd uchel i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: cabanau ac adeiladau cyfleusterau wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o gabanau i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Canolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr.

 

Tir yn Kingsland – Codi datblygiad preswyl a ddyluniwyd i’w ddefnyddio yn y lle cyntaf fel llety i weithwyr adeiladu yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi yn cynnwys : Hyd at 360 o dai newydd i’w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu. I’w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn ddatblygiad preswyl a fyddai’n cynnwys : Hyd at 360 o anheddau mewn tirwedd o safon uchel a llecynnau agored.  Bydd datblygiadau atodol ar gyfer pob cam o’r gwaith datblygu, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer parcio, ardaloedd gwasanaeth, llecynnau agored a pheiriannau/gwaith.

 

Manylion llawn ar gyfer newid defnydd yr adeiladau Stad gyfebol ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi gan gynnwys newid defnydd : Twr y Beili ac adeiladau allanol yn Fferm Penrhos o dy glwb cried i fod yn ganolfan wybodaeth i ymwelwyr, bwyty, caffi, bariau ac adwerthu; Ysgubor y Fferm ac Adeiladau Trol o fod yn adeiladau fferm i fod yn ganolfan ar gyfer hurio beiciau ac offer chwaraeon; Y Twr o ddefnydd preswyl i fod yn llety i reolwyr a swyddfa atodol; a Tŷ Beddmanarch o annedd i fod yn ganolfan i ymwelwyr.

Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi.

 

Nodwyd bod disgwyl i adroddiad llawn ar y cais hwn gael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym mis Hydref 2013.  Roedd ymgynghori’n digwydd ar y wybodaeth ychwanegol a newydd a dderbyniwyd, ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn yn unol ag argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a rhoddwyd.

Dogfennau ategol: