7.1 20LPA962/CC – Fron Heulog, Cemaes
7.2 22C211C – Yr Orsedd, Llanddona
7.3 34C648A – Pwros, Rhosmeirch
7.4 41C8C – Garnedd Ddu, Star
7.5 42C321 – The Sidings, Pentraeth
7.6 47LPA966/CC – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant
Cofnodion:
7.1 20LPA962/CC – Cais ôl-ddyddiol mewn perthynas â’r trac oedd wedi ei adeiladu yn ddiweddar a gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Fron Heulog, Cemaes
(Datganodd y Cynghorydd W. T. Hughes ddiddordeb personol yn y cais hwn. Aeth yr Is-Gadeirydd i’r Gadair yn ystod y drafodaeth ar y cais).
(Dywedodd y Cynghorwyr Lewis Davies, K. P. Hughes ac R. O. Jones nad oeddynt yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle ac nad oeddynt o’r herwydd am bleidleisio ar y cais hwn).
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion Cynllunio wedi cysylltu gyda’r ymgeisydd (y Cyngor Sir) yn dilyn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i weld beth oedd y posibilrwydd o symud y fynedfa i leoliad arall. Roedd yr ymgeisydd wedi ymateb drwy ddweud nad oedd hynny’n bosibl ac wedi gofyn i’r Pwyllgor ddelio â’r cais fel y cafodd ei gyflwyno.
Cynigiodd y Cynghorydd A. Griffith bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd N Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
7.2 22C211C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gydag uchafswm uchder i’r hwb o 25m, diametr rotor o 19.24m ac uchafswm uchder o 34.37m ar dir yn Yr Orsedd, Llanddona
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd y penderfyniad wnaed na fydd pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt. Ymwelwyd â’r safle ar 21 Awst 2013.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi gofyn am gael gohirio’r cais er mwyn caniatáu iddo ddelio gyda materion a godwyd gan swyddogion mewn perthynas â’r effaith ar y dirwedd. Nodwyd mai argymhelliad y Swyddogion oedd gwrthod y cais hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd R. O. Jones.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn yn unol â dymuniad yr ymgeisydd.
(Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes nad oedd wedi pleidleisio ar y cais hwn gan nad oedd yn bresennol ar yr ymweliad safle).
7.3 34C648A Cais amlinellol i godi annedd a gwneud gwaith altro ar y fynedfa bresennol ar dir yn Pwros, Rhosmeirch
(Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais hwn nac yn pleidleisio oherwydd nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion)
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.
Nodwyd y gwnaed penderfyniad yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 31 Gorffennaf 2003 i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y safle o fewn ffiniau rhesymegol y pentref.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion yn parhau i fod o’r farn y dylai’r cais gael ei wrthod a nododd ymateb y Swyddogion i resymau’r Aelodau dros ganiatáu’r cais :-
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, un o’r Aelodau Lleol, y byddai’r annedd yn estyniad rhesymol i’r pentref, ni fydd yn ymwthiad annerbyniol i’r tirlun ac ni fyddai yn niweidio cymeriad yr ardal. Roedd yn ystyried bod y cais yn un teg gan y byddai’r annedd rhyw 200 llath o’r ardal chwarae yn Rhosmeirch ac yn agos i anheddau eraill.
Mae Polisi 51 y Cynllun Datblygu Lleol yn dweud y dylai datblygiadau ffitio i mewn i dir yn y cyffiniau heb gael effaith ormodol ar y dirwedd; gan fod Pwros ac anheddau eraill gerllaw, ni fyddai safle’r cais hwn yn cael effaith ar yr ardal. Roedd y safle ger prif garthffos pentref Rhosmeirch ac roedd yn rhesymegol y byddai’r cais yn ffitio i mewn i’r ardal ac nad oedd felly yn annedd yn y cefn gwlad. Roedd yr ymgeisydd yn hyderus y gallai gydymffurfio gyda pholisïau lleol Ynys Môn o ran cadwraeth a gwaith adeiladu. Fe all hefyd ymateb yn ffafriol i unrhyw bolisi h.y. Polisi 58, GP1 a GP2 y Cynllun Datblygu Unedol. Cyfeiriodd at Bolisi 50 y Cynllun sy’n dweud: ‘yn ffurfio estyniad bychan rhesymol i’r rhan ddatblygedig bresennol o’r anheddiad ac na fyddai’n cyfateb i ymwthiad annymunol i mewn i’r dirwedd nac yn niweidio cymeriad a mwynderau’r ardal’.
Roedd yr Aelod Lleol am atgoffa Aelodau’r Pwyllgor na chafwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cais hwn o fewn pentref Rhosmeirch ei hun a dim ond llythyrau o gefnogaeth oedd wedi eu derbyn. Bydd yr annedd hon ar gyfer teulu Cymraeg lleol ac y mae yn estyniad rhesymol i’r pentref.
Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod hwn y math o gais yr oedd yn fodlon iawn ei gymeradwyo. Cyfeiriodd at gynhadledd yn Aberystwyth lle'r oedd y Prif Weinidog, Mr. Carwyn Jones AC wedi dweud bod angen rhoi mwy o bwys ar yr iaith Gymraeg yn dilyn y canlyniad siomedig o ddirywiad yn yr iaith Gymraeg yn y cyfrifiad. Roedd yn ystyried y dylid rhoddi mwy o bwys ar faterion yr iaith Gymraeg pan yn delio gyda materion cynllunio. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd yn ymwybodol bod y datganiad gan y Prif Weinidog yn ddatganiad gweinidogol o Bolisi Cynllunio Cenedlaethol nac y byddai ystyriaeth gynllunio o’r fath yn cau allan bob un o’r ystyriaethau eraill rhag bod yn rhai o bwys. Cyfeiriodd ymhellach at y sylwadau gan yr Aelod Lleol ynghylch ‘ymwthiad annymunol’. Roedd yr annedd mewn cae ym mhen draw'r pentref ac nid rhwng dau dŷ. Er y byddai’r annedd yn agos i’r Ganolfan Gymuned, Pwros, a gerllaw'r brif system garthffosiaeth, nid yw’n cael ei ystyried y byddai’n dderbyniol o fewn ystyr Polisi 51 fel ag yr oedd y swyddogion wedi delio â hynny o fewn yr adroddiad i’r cyfarfod. Byddai caniatáu’r cais hwn yn gosod cynsail ar gyfer datblygu pellach yn y lleoliad ac mewn lleoliadau tebyg ar yr Ynys.
Roedd y Cynghorydd J. M. Evans yn cytuno gyda’r Aelod Lleol ac yn credu bod y safle o fewn pentref Rhosmeirch a chynigiodd y dylid ail-gadarnhau penderfyniad y Pwyllgor i ganiatáu’r cais. Eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu’r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn flaenorol, sef bod y cynnig yn estyniad bychan rhesymol i’r anheddiad.
(Ataliodd y Cynghorydd Raymond Jones ei bleidlais).
7.4 41C8C – Cais llawn i newid defnydd tir i leoli 33 o garafanau symudol, codi bloc toiledau, adeiladu mynedfa i gerbydau a thirlunio yn Garnedd Ddu, Star
(Datganodd y Cynghorydd Lewis Davies ddiddordeb personol yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd bod yr Aelod Lleol blaenorol wedi galw’r cais i mewn. Roedd y Pwyllgor, ar argymhelliad y Swyddogion, wedi ymweld â’r safle ar 19 Mehefin 2013. Roedd gwybodaeth bellach wedi ei chyflwyno i gefnogi’r cais ac er mwyn caniatáu i’r cyfnod ar gyfer hysbysu cymdogion ddod i ben ac er mwyn gallu ystyried sylwadau ac atebion i ymgynghori yn dilyn derbyn y wybodaeth ychwanegol hon, argymhellwyd gohirio’r cais yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Gorffennaf a 31 Gorffennaf 2013.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Dafydd Idriswyn, oedd yn gwrthwynebu’r cais i annerch y cyfarfod.
Dywedodd Mr. Dafydd Idriswyn ei fod yn cynrychioli cyd-Gynghorydd Cymuned, y Cynghorydd Gwyn Roberts oedd wedi gofyn iddo ddarllen datganiad ar ei ran. Roedd y datganiad yn dweud bod y Cynghorydd Cymuned yn siarad fel rhywun fyddai’n cael ei effeithio’n ddifrifol gan y safle carafannau arfaethedig a hefyd fel Cynghorydd Plwyf yn cynrychioli mwyafrif poblogaeth Star. Cyfeiriodd at y canlynol fel y prif faterion :-
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod mwy o lythyrau wedi eu derbyn ynglŷn â’r cais hwn a’u bod wedi eu cynnwys yn y dogfennau i’r Pwyllgor. Dywedodd ymhellach fod Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi ymateb gan ddweud nad oes ganddynt unrhyw faterion o ran y draenio.
Dywedodd y Swyddog ei bod yn amlwg bod y gymuned leol yn bryderus ynglŷn â’r effaith ar fwynderau lleol a niwsans traffig. Nododd bod yr Adran Priffyrdd wedi dweud ei fod yn fodlon gyda’r datblygiad ar yr amod fod y cynllun rheoli traffig yn cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd. Byddai amod ynghlwm wrth y caniatâd pe bai’r Pwyllgor yn penderfynu cymeradwyo’r cais.
Dywedodd y Cynghorwyr Jim Evans ac Alun Mummery, dau o’r Aelodau Lleol, nad oeddent yn dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r cais gan ei fod wedi cael ei alw i mewn gan yr Aelod Etholedig blaenorol. Fodd bynnag, roeddent o’r farn y dylai’r Pwyllgor roi sylw i bryderon y preswylwyr lleol wrth ystyried y cais hwn.
Dywedodd y Cynghorydd T. Victor Hughes – yn dilyn Ymweliad Safle ym mis Mehefin 2013 roedd yn amlwg y byddai’r fynedfa a’r lôn gul oedd yn arwain i’r safle yn creu problem. Roedd o’r farn y dylid creu llecynnau pasio ac arhosfan ger y safle. Dywedodd y Swyddog Priffyrdd y gallai llefydd pasio fod yn opsiwn i liniaru materion traffig yn yr ardal.
Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith bod y cais yn cael ei ganiatáu gyda gwelliant i gynnwys llecynnau pasio ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad, a chydag amod ychwanegol yng nghyswllt llefydd pasio ychwanegol ar y briffordd.
(Dywedodd y Cynghorydd R. O. Jones nad oedd wedi pleidleisio ar y cais gan nad oedd yn bresennol ar yr ymweliad safle.)
7.5 42C231 – Cais llawn i godi 13 o anneddau newydd a chreu mynedfa newydd ar dir yn The Sidings, Pentraeth
(Datganodd y Cynghorydd T. Victor Hughes ddiddordeb personol yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno).
Roedd y cais yn un oedd yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol ond yn un y gellid ei ganiatáu dan y Cynllun Datblygu Unedol. Cynhaliodd y Pwyllgor ymweliad safle ar 17 Gorffennaf 2013.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf fel y gallai swyddogion cynllunio gael tystiolaeth bellach am berchnogaeth y tir. Roedd y Swyddogion Cynllunio wedi gwneud ymholiadau gyda’r ymgeisydd ynglŷn â dymuniadau’r Pwyllgor ac roedd yr ymgeisydd wedi anfon y “Gweithredoedd Teitl y Gofrestrfa Dir” i’r Awdurdod Cynllunio ac wedi newid y ‘llinell goch’ o amgylch y safle i fynd i’r afael ag unrhyw faterion ynglŷn â pherchnogaeth. Dywedwyd ymhellach bod llythyr wedi ei dderbyn gan gyfreithwyr y sawl oedd yn gwrthwynebu’r cais sydd yn herio perchnogaeth stribyn o dir ger adeilad ym mlaen y safle. Roedd maint y stribyn o dir tua chwarter / hanner maint llecyn parcio. Felly mae’n amlwg bod yna ddadl ynglŷn â pherchenogaeth y tir hwn gan fod y ddwy ochr yn hawlio mai nhw sydd biau’r stribyn tir.
Dywedodd y Swyddog, yn ei farn broffesiynol, nad oedd yn gweld bod hwn yn fater i’r Pwyllgor Cynllunio ac mai mater ydoedd mewn gwirionedd i’r ymgeiswyr a’r gwrthwynebwr ddatrys yn gyfreithiol pe bai angen. Nid oedd yn hollol amlwg pwy sy’n iawn neu beidio yn y sefyllfa ac ni fedr y Cyngor roi barn lle mae dadl ynglŷn â thystiolaeth y ddau barti. Felly, fel Swyddog Cynllunio roedd yn rhaid iddo ddelio gyda’r cais fel ag y mae. Roedd 27 llythyr yn gwrthwynebu wedi eu derbyn ac un llythyr gyda 24 wedi ei lofnodi. Roedd y llythyrau hyn wedi eu cynnwys gyda’r dogfennau i’r Pwyllgor.
Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd cynllunio eisoes ar gyfer 8 o anheddau ar y safle hwn. Mae’r egwyddor o adeiladu tai ar y safle eisoes wedi ei sefydlu. Cafwyd trafodaeth hir yn y Pwyllgor diwethaf mewn perthynas â materion priffyrdd. Cadarnhaodd y Swyddog unwaith yn rhagor nad yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi codi unrhyw bryderon ac felly nid oes unrhyw rwystrau technegol, o ran rhesymau defnydd tir, i beidio â delio gyda’r cais. Argymhelliad y Swyddog Cynllunio oedd cymeradwyo’r cais, gyda chytundeb Adran 106 sy’n sicrhau canran o anheddau fforddiadwy ar y safle yn unol â pholisïau’r Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 5 Medi 2013 a gofynnodd i’r Pwyllgor roi grym i weithredu i’r swyddogion yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus os nad oes unrhyw sylwadau newydd wedi eu cyflwyno i’r Adran.
Mewn perthynas â democratiaeth a thryloywder, dywedodd yr Aelod Lleol, sef y Cynghorydd Vaughan Hughes, y dylid caniatáu i ymgeiswyr a gwrthwynebwyr siarad ar bob achlysur pan fo cais cynllunio’n cael ei drafod. Dywedodd bod trigolion lleol/gwrthwynebwyr yn bryderus bod y cais yn tynnu’n groes i Bolisi A6 Cynllun Datblygu Ynys Môn a Pholisi 53 Cynllun Gwynedd.
Ychwanegodd bod y datblygwr wedi cyflwyno cynllun diwygiedig a bod anghydfod yn parhau mewn perthynas â phwy sydd biau stribyn o dir o flaen y datblygiad. Mae’r Adran Gynllunio wedi cadarnhau bod y gwrthwynebwr wedi rhoi gwybod i’r Adran am y mater hwn. Roedd y Cynghorydd Hughes yn derbyn mai mater cyfreithiol oedd hwn ond holodd pa mor ddoeth fyddai gwneud penderfyniad ar y cais tra bod materion cyfreithiol yn parhau.
Mae gwrthwynebwyr yn credu y byddai’r safle’n cael ei or-ddatblygu oherwydd ei fod yn rhy fychan i 13 o anheddau. Rhagwelir y bydd teuluoedd ifanc yn byw yn yr anheddau hyn a gallai diffyg mwynderau ar gyfer plant fod yn broblem. Mae’r safle yn llawer is na’r briffordd sydd o flaen y safle datblygu. Gall yr angen i lenwi’r safle hyd at lefel priffordd brysur achosi problem gyda lorïau mawr yn cludo deunydd i’r safle.
Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn cytuno gyda’r Aelod Lleol ei fod yn anodd ystyried y cais oherwydd y materion cyfreithiol mewn perthynas â pherchenogaeth y tir a dywedodd y byddai’n ymatal ei bleidlais mewn perthynas â’r cais hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei heilio gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi i’r Swyddogion y grym i weithredu wedi i’r cyfnod statudol o ymgynghori cyhoeddus ddod i ben.
(Dywedodd y Cynghorwyr Lewis Davies, K.P. Hughes ac R.O. Jones na fyddent yn cymryd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais hwn oherwydd nad oeddent wedi ymweld â’r safle.)
7.6 47LPA966/CC – Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl, ynghyd â dymchwel yr hen ysgol ar dir Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor ar dir sydd ym mherchenogaeth rannol yr Awdurdod Lleol.
Dywedodd y Cynghorwyr K. P. Hughes a John Griffith, sef dau o’r Aelodau Lleol, fod trigolion Llanddeusant yn bryderus y byddai’r hen ysgol yn cael ei dymchwel. Roedd trigolion yn credu bod strwythur yr ysgol yn dda ac y dylid ei hymgorffori yn y cais a gyflwynir gan y Cyngor Sir. Roedd Aelodau yn ystyried y dylid gohirio’r cais i ganiatáu trafodaethau gyda’r trigolion lleol a’r Cyngor Cymuned.
Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones y dylid gohirio’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn a gofyn i’r ymgeisydd ystyried newid y cais i’w wneud yn fwy derbyniol i breswylwyr.
Dogfennau ategol: