Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  19C5Q – Ffordd y Traeth, Caergybi

12.2  19C760D – 7 Plas Road, Caergybi

12.3  19LPA985/CC – 19 Stryd Stanley, Caergybi

12.4  30LPA986/CC – Eglwys St. Pedr, Llanbedrgoch

12.5  34LPA850G/CC – Ysgol y Graig, Llangefni

12.6  35LPA929A/CC – Haulfre, Llangoed

12.7  38C219C – Cae Mawr, Llanfechell

12.8  34LPA984/CC – Stad Ddiwydiannol Penyrorsedd, Llangefni

Cofnodion:

12.1  19C5Q – Cais llawn i adeiladu cofeb ar dir i’r gorllewin o’r golofn i gofio’r ymweliad brenhinol yn 1958 yn Ffordd y Traeth, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Cyngor oherwydd ei fod yn ymwneud â thir y mae’r Cyngor yn berchen arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 5 Medi 2013 a gofynnodd i’r Pwyllgor roi grym i’r swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben os nad oedd yr Adran wedi cael unrhyw sylwadau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi grym i weithredu i’r Swyddogion ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben.

 

12.2  19C760D – Cais ôl-weithredol  i gadw wal derfyn ac adeiladu balwstrad gwydr yn 7 Ffordd Plas, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor ar gais un o’r Aelodau Lleol (y Cynghorydd T.Ll. Hughes).

 

Cynigiodd y Cynghorydd  T. Victor Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

12.3  19LPA985/CC – Cais llawn i godi plac yn 19 Stryd Stanley, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai’r Awdurdod Lleol oedd yn ei wneud.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Cyngor Tref Caergybi bellach wedi ymateb yn ffafriol i’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

12.4  30LPA986/CC – Newid defnydd tir i ffurfio estyniad i’r fynwent bresennol yn Eglwys Sant Pedr, Llanbedrgoch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai’r Awdurdod Lleol oedd yn ei wneud.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

12.5  34LPA850G/CC – Cais llawn i godi uned feithrin a lle parcio ceir ar dir yn Ysgol y Graig, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan mai’r Cyngor Sir sy’n ei wneud ar dir y mae’n berchen arno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

          12.6  35LPA929A/CC – Newid defnydd cyn-fflat yn fwyty/caffi yn Haulfre, Llangoed

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan mai’r Cyngor Sir yw perchen y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

          12.7  38C219C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt 10kW gydag uchafswm uchder hwb o 15m, diametr rotor o 9.7m ac uchafswm uchder o 19.5m ar dir yn Cae Mawr, Llanfechell

 

(Gwnaeth y Cynghorydd W.T. Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â’r cais hwn.)

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd y penderfyniad a wnaed na fyddai pwerau dirprwyol yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad gyda datblygiadau tyrbinau gwynt.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu fod preswylydd lleol, sef Mr. David Heathcote wedi bwriadu siarad mewn perthynas â’r cais hwn ond nid oedd wedi medru dod i’r cyfarfod ac felly roedd wedi gofyn i’r Swyddog ddarllen ei ddatganiad o wrthwynebiad i’r Pwyllgor ei glywed.

 

Fel un o’r Aelodau Lleol, dywedodd y Cynghorydd K.P. Hughes y byddai’r tyrbin gwynt yn cael ei ddefnyddio’n unig ar gyfer defnydd y fferm ac mai bychan oedd ei dryfesur.  Roedd yn ystyried y dylid cymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd T. Victor Hughes y byddai’n well ganddo ef pe bai’r Aelodau yn cael ymweld â’r safle dan sylw oherwydd bod hynny wedi ei yn y gorffennol gyda chynigion tebyg.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes y dylid ymweld â’r safle ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle am y rhesymau a roddwyd.

 

          12.8  34LPA984/CC – Cais llawn i godi 7 o unedau diwydiannol ynghyd â pharcio ceir cysylltiol ar Stad Ddiwydiannol Penyrorsedd, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan mai’r Cyngor Sir yw perchennog y tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith y dylid cymeradwyo’r cais gyda’r Cynghorydd John Griffith yn eilio.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: